Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
LLOSGI LLADRON WRTK Y STANC.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLOSGI LLADRON WRTK Y STANC. Derbyniwyd hysbysrwydd yn Omaha, Nebraska, ar y 12fed o Rhagfyr, i'r pwrpas z' fod dau ddyn o'r enwau Ketchum a Mitchell, yn swydd Custer, y rhai a ddrwgdybid o ladrata stoc o wartheg, wedi gwrthwynebu ymgeisixdau pedwar gyrwr i'w dal hwynt, ac i ymkddfa ffyrnig ganlyn, yn mha un y lIaddwyd un o'r gyrwyr. Daliwyd Ketchum a Mitchell ar ol hyny gan y Sirydd a'i wyr. Y neson hono, ymosododd pump ar hugain o ddynion wedi tlugio eu hwynebau ar y Sirydd a'i ginlynwyr, y rhai oeddynt yn dwyn y carcharorion i'r brif dref i'w profit, ac a'u gorthrechasant; cymerasant y ddau grtrcharor ymaith o idiwrthynt, rhwymasant hwy wrth goeden, a llosgasant hwy i farwol- aeth.
HANES DIAM.WNT.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HANES DIAM.WNT. Ychydig, medd y Gape Argus, o'r rhai gawsant y fraint o weled HG edmygu y gareg • ganol yn nghoron driphiyg y Countess Dudley, ydynt yn gwybod am yr hanes hynod eydd yn gysylltiedig a'r gem ysblenydd hwnw. Tua deng mlynedd yn ol dygodd bachgen da o fugail o'r enw Swartzboy, ddarn o gareg loew a dysglaer, tebyg i ddiamwnt, i'w fest- un Nie Kirk. Yr } oedd Nie Kirk-yr hwn, fel rhan fwyaf o'r setydlwyr yn Neheudir Affrica, oedd yn haner ffermwr ac yn haner gwerthwr-^yn wa-tidol ar y look-out am ddiamwnt; ac nid iieth i ddechreu taeru a Swartzboy yn ngbylch y pris, ond cytuuodd A-, et i roddi iddo 400p am dano, yr haner i gael i i d' lu. mewn brethyn. Yiodd Swartzboy ei hun i farwolaeth &'r arian. Gwertbodd Nie Kirk y diamwnt i Meistri Lilienfield, Hope Town, am 12,0U0p. Wrth ei thori, collodd y gareg beth o'i phwysau; ac o fod yn pwyso 831 carats, torwyd hi ar lun calon i 44k carats o 2 bwysau.
AR Y DAITH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
'rwy'n canfod ar y daith bob dydd fed llawer iawn o wir ynddi, fel y mae gwaetha'r modd! Yr ydym yn barod iawn i roddi pob dyiedus barch i 'Loegr goch' a'i mawrion goludog a haelionus, ac i bawb o'i mewn yn mhob congl, aID eu haelioni a'u tosturiaethau ar 'fyd caled,' fel yr un prpsenol, taag at blant adfyd ac angen, gwendid a thlodi, &c., yn mhob cfrr. Un o'r pethau anhawddaf eu dyoddef yn y fuchedd hon ydyw anniolchgarwch mewn pobl a cbreaduriaid, o bob rhywogaeth, am y trugareddau a'r help a dderbyniasant o ddwylaw eu Creawdwr a'u oyd-ddynion. 'Rwy'n credu hefyd nad oes odid i deyrnas adnabyddus i ni lie y cyfrenir cymaint o elusenau a Phrydain Fawr. Y mae casgliadau a chyfranau ein pobl arianog, ac eraill, yn y trefydd mawrion a'r wlad yn gyffredinol at drychinebau a thlodi eu cydwladwyr a dynol- iaeth druenus yn mbob gwlad, o'r bron yn gofgolofnau anfarwol i'r dyngarwyr yn mbob cwr. Y mae pob rhodd, o'r mil punau i lawr i'r cant glo a'r wrthban a gyfrenir i liniaru trueni dynolryw, yn cael eu cofnodi yn ffyddlawn ar restr y Duwdod ac ar lyfiao'r ddaear hefyd. 'Ni chyll efe ei wobr' ydyw hi o hyd, os cyfrenir o egwyddor onest a. chalon hael- 'Na chynilwch, anwylyd, TAl Duw gost y tlawd i gyd.' A diolch eto i'r Ardalydd enwog o Bias Machynlleth am ei sylwadau teilwng i uchelwyr y llys yna y dydd o'r blaen, pan yr anogai hwynt i gyfyn ,u, os ocdd raid, ar eu moethau a'a llawnder eu hunain, er cyfranu at anghenion y tlawd a'r anghenus yn y dyddiau adfydus hyn. Ond i gyfeiriad arall, yn benaf, yr oeddwn am arwain fy ysgrifell heddyw, sef yr hyn a dybia y llinell a gofnodais ar y dechreo, 'Lloegr goch yn ll'wgu'r gwan.' Amser a ballai i un, go gyfarwydd hefyd, grynhoi cynwys y llinell i ysgrif o fath hon. Nodir rhai pethau allan o lawer. Er fod gwlad a ofalo am ei thrigolion mewn tlodi a henaint, &c., trwy ddarpara elusenau a gweithdai, neu dylotdai, &c., ar eu cyfer, i'w hedmygu a'i chanmol; ete, nid yw tylotdai llawnion ac ami yn dwyn nemawr o anrhydedd a dyrchafiad teilwng i un deyrnas na gwein- yddiaeth o Seneddwyr. 'Prevention is better than cure.' Pe gwnelai ein llywodraethwyr yr oil a ddylent ac a allent yn hawdd ei wneuthur tuag at leddfu trueni deiliaid y deyrnas hon mewn 'ffordd deg,' byddai ein byd yn well o lawer. Nid trwy gorlanu y tlodion, yr hen a'r methedig, rhwng muriau 'moelion' tylotdai'r Undeb, y dengys y deyrnas na'i llywodraethwyr y gofalpenafam Iwyddiant a dedwyddwch Prydeiniaid gonest a diwyd. Na, na, priodol iawn ydyw geiriau yr anfarwol brif fardd Caledfryn am 'y ty' hwn eto- Ty i lwydo tylodion,-a'u dysgu Y dasg o fyw'n gulion; Garw hel i'r fangre hon Rai haeddai fod yn rhyddion! Pe 'caffai y deiliaid y 'chwareu tag' priodol gaa y llyodraethwyr, y medolianwyr tiroedd, a'u holl lu hwynt—i lawr o Arglwydd Beaconsfield hyd at Dick Ellis-y na byddai gwell gelwg o lawer ar ein gwlad, a'o helusendai yn wacach. Gwyddys fod yn y deyrnas hon filoedd lawer o erwau o 'dir waste,' o dan r enw 'comins,' neu 'dir y goron;' yr hwn, fel y mae yn bresenol, nid yw yn dda i ddim end i ycbydig ddefaid a merlod i flewyna am eu hoedl ar hyd-ddo, ac i ychydig o'r grug-ieir barotei eu hunain i fyn'd yn sport i'r rhan anifelaidd e '/bneddwyr' y wlad, trwy gael eu saethu o'r trydydd ar ddeg o Awst yn mlaen hyd ddiwedd y season i Gwyddis fod gan y tivfeddianwyr rightyn ol y ddarpariaeth ar gyfer eu ffermydd, &c., i bori yn unig ar dir y goron; ond ni cheir cau hwnw i fewn a'i ddiwyllio, fe! y dygoffrwytb i roddi gwaith a lluniaeth i ddegau yn rhagor o bobl y tir; na, rhaid ei adfiel 'rnegys yr oedd yn y dechreu' i'r 'Lord of the manor' i saethu'r adar, &c, ac i ddal y pysgod byd bytb! Os y dygwydda/r tlawd a'r anghenus estyn ei law at un o'r pryfaid ar y tir gwaharddedig hwn, dyna geidwad helwriaeth my lord yn ei goler a: unwaith, ac o flaen ei well (1) ag ef i gael ei ddirwyo i 'ddwy bunt ac uchod,' neu fyned i'r carchar am fisoedd o herwydd ei draba! Dyna i chwi Loegr goch i l'wgu'r gwan! Darostyngir teulu cyfan a lluosog i angen a thrallod dirfawr, yn ngwaith y gyfraith Bryd- einig yn gwthio ei deiliaid anghenus i garchar am godi ei ffon i geisio cael un o bryfaid 5 gwylltion y mynydd-dir annhrigianol i'w | grochan gwag er tori angen ei deulu truenus! Gesyd yr un Ilywodraeth hawl, am bris uchel I cofier, i anturiaethwyr i chwilio am fwnau ar y î tir a nodwyd; ond myn hi, eto fyth, wyneb y ] 'menyn i'r frechdaul Rhaid i hyd yn oed y gweithiwr caled dalu rhyw ddeg punt yn y flwyddyn, neu oddeutu hyny, i swyddfa yr 'Woods & Forest' am hawl i chwilio bol y ddaear am fwnau defnyddiol i lesoli'r wlad. Wna fo un gwahaniaeth pa un a lwydda'r I anturiaethwr ai ni wnaiff, rhaid talu am y 'tak'not' yn ei amser yn flyuyddol; ac os metha un} serch ei fod wedi gwario ei 'dda lawer,' gosodir ei 'dwll' i'r cyntaf i'r awyddfa o flaen ei lygaid— Lloegr goch yn llwgu'r gwan! Ac nid ydyw clercod ein swyddfeydd llywodr- aethol, fel rheol, yn rhai hynod am eu hwylnsdod gyda'u hysgrifau, &c., nid gormod ganddynt adael i'r cymerwr, &c., ddysgwyl y It, mewn pryder wrth eu cyflousdra hwy am iisuedd lawer, a gwario llawer o arian ac amser da yn ofer. Fy nghydwladwyr! fuoch chwi 'rioed yn synu gymaint o 'fother,' o gost a thrafferth, o bryder a phoen, sydd i ni yn y deyrnas hoa gyda'n huwchation cyfreithiol? Dyna hi, fel y nodais yn barod, ddeg punt yn cael eu codi cyn y catl'o gweithiwr gonest hawl i blanu pig ei gaib yn y mynydd-dir sil i chwilio am lech neu lo, neu ryw fftn arall. Ac O! fel y'n blingir ni gan iwyr y crils' am ychydig o eiriau fel 'cytundeb,' «&c., am ryw fymryn o fusnes fel nyth dryw. Lloegr goch yn ll'wgu'r gwan! A phan fo marw an, a thipyn o eiddo ganddo ar ei ol, O! fel yr ymgasgl y fwlturod cyfreithiol ac esgobol o bob cyfeiriad i godi'r doll yn gyntaf, cyn i neb arall yn unman archwaethu bias y dygwyddiad. Trwy yr oil o'r tellau, &c., afresymol hyn, gyda'r marw a'r byw, y tir, a'r eiddo, a'r arian, hyd yn nÐd yn nghyflog blynyddol y clerc ffodus, ond hynod -lafurus a blin, myn y Ilywodraeth a'i chyfreithwyr ran y llew o'r ysbail, dros i bawb arall droi i'w pebyll i gnoi eu cil ar gruglys y diffaethwch a bara haidd lefeinllyd! Paham na werthid 'tir y goron' i'r deiliaid teyrngar am bris teg, ac ar delerau esmwyth, heb i un gael ei flingo gan gyllell y cyfreithiwr? Y mae hi'n dostofnadwy i Frythoniaid gonest yn y 'bedwaredd ganrif ar bymtheg' orfod talu llawer o bunoedd am fymryn o 'weithred' ar glwt o dir na chynwysai le beddrod prin i gath go gref! Os dywedir wrthym fod costau mawrion i ddwyn dynion i fYRY yn y fine arts o gyfreithwyr a meddygcn a phethau felly, ac nas gellir pasio llidiart y llywodraeth (eto fyth!) yn dwrnai neu yn feddyg, &c., heb draul a tholl dychrynllyd ('y money down neu myn ydyw hi fyth a hefyd!) dywedwn ninau na ddylai pethau fod felly yn dragywydd. Os mai oes y diwygiadau ydyw hon (yr hyn sydd yn bur amheus yn ami), dylid cael diwygiad yn mhob dim a ddygo ei effeithiau ar y dosbarth gweithiol a'r canol o'r deiliaid. teg. Rhoddai hyny, fe gredaf, fywyd ac yni adnewyddol yn nghyrff ac eneidiau mil- oedd o ddeiliaid Prydeinig, pe y gwelent fodd i feddianu tir ac eiddo, swyddi a gwaith, ar delerau rhesymol Pe gwerthid, am bris teg, y canoedd erwau o'r tir waste sydd o'n hamgylch ar 'y byd gwan' yma, a hyny i'r dosbarth gweithiol, fe geid wed'yn waith a moddion cynaliaeth i ganoedd o weithwyr ewyllysgar ag ydynt ar hyn o bryd ar gyffiniau newyn neu y tylotdy. Ceid man ffermydd dedwydd i fritho llawer bro wedi hyny, er dwyn eymhorth i filoedd o feibion llafur i 'gadw'r blaidd oddiwrth y drws.' Dyna wedi hyny yn y mis hwa, onide, y gofynir i bob perchen ci bychan neu fawr (a fo heb ddefaid a gwartheg i gyfarth arnynt) i dalu saith a chwech o doll dros hwnw, neu oddef y ddirwy neu y carchar. A phymtheg swllt drps fymryn o gerbyd dwy olwyn wedi hyny, a gludai ei berchenog i blith bodau gwareiddiol i rywle, a raid eu talu cyn y cyntaf o Chwefror at your perill A dyna sydd yn rhyfedd, yr ymddengys na ddysgodd bechgyn swyddfeydd tollau ein Ilywodraeth erioed yr un rule ond additionl Nid yw y division, feddyliem, yn eu tutor hwy o gwbl! I brofi hyny, sylwa ar a ganlyn ddarllenydd-pe byddai genyt gi neu gar yn dy feddiant, onid am un mis o'r 'hen' flwyddyn, gofynir i ti dalu yn llawn Ts. 6c. (bellach), a 15s. i'r excise drostynt. Yn mhob masnach arall fe renir y t41 fel bo'r eiddo, &c., neu'rgwaith, haner tal am ddiwrnod o waith, &c. ond myn ein llywodraethwyr dal eyflawn am ran fechan, cystal a'r oil o'r flwyddyn, er arbed y drafferth o subtractio a dividio i'w swyddogion gorlafurus! Dyna ran fechan o'r hyn a ellid nodi o'r pa. fodd y mae Lloegr goch yn ll'wgu'r gwan. Hwyrach y cawn, os byw, &c., ddychwelyd at hyn eto. 0 dan yr amgylchiad.au, anwyl ddar- llenydd, bydd mor wych ag y gallot. TOMOS OWAN.