Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

CAERNARFON.

PORTHMADOG.

ABERMAW.

^ATDDONTAETFI.

Y TODDAID BUDDUGOL

[No title]

Advertising

LERPWL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

a chododd Mr Rathbone yn gyntaf i ateb cwestiyn- au un o aelodau y gymdeithas, yr hwn oedd wedi teimlo o herwydd rhywbeth oedd Mr Rathbone wedi ei ddweyd yn Hydref diweddaf yn y Ty mewn cys- ylltiad A'r tlodioa Gwyddelig yn Le'rpwl. Ychydig yn ol, postiwyd placards bygythiol, ac anfonwyd rhai o honynt i Mr Rathbone gan rai o'r Gwyddelod oedd wedi tei-nlo o herwydd yr hyn a ystyrienthwy yn insult. Mae yn arferiad gyffredia, y blynyddoedd diweddaf, gan ftrcha i yr Ynys Werdd, pan fydd ganddynt obaith ma-u, ddyfod i Le'rpwl, a thaflu eu huoaiu ar y plwyf; a phan fydd hyny yn gyfleus iddynt, ånt ymaith, a gi lawant y Gwyddelod bach ar eu holau, i'w magu ar gost trethdalwyr Le'rpwi. Ac o herwydd fod Johc B oil yn grwgnach, mae Pady yn sori, ac yn trin ei dafod. Ac yn ddiweddar, galwyd sylw y Ty at y mater, a chyhuddwyd Mr Rathbone e siarad braidd yn rhy gryf ar y pwnc. Cafwyd esboniad gan Mr Rathbone ar yr hyn a ddywedodd, a chauwyd ceg Pady. Wedi terfynu efo Pat, cafwyd araeth gynwysfawr ar sefyllfa pethau yn ein gwlad, a'n cysylltiadau tramorawl, &c. Llongyfarchai y gymdeithas, sc anogai hwy i fod yn barod erbyn dydd y frwydr-fod hyny gerllaw. Dywedai fod y wlad yn dechreu dyfod i deimlo fod cyfiwr ein gwlad yn galw am ein sylw difrifolaf. Felly, anogai hwy i gadw eu harfau yn leywon-fod arwyddion yr amserau yn eglur ddang- os fod y wlad am wnead un struggle fawr i ymrydd- hau o dan iau y Weiayddiaeth bresenol, ac i ddewis arweinwyr mwy gonest a galluog i lywio dyled- awyddau y Llywodraeth.—Sion Puw.