Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

; :Y RHYFEL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y RHYFEL. Yrheswm na buasem yn rhoddi orynodeb o hanes y rhyfel Affghanaidd yn ein rhifynau diwedaaf ydoedd, nad oedd ei ddygwyddiad- au yn gyfryw ag a fuasent yn cynyrcbu dydd. Ordeb a chwilfrydedd yn; y darllenydd, gan fcad oedd dim o hwys yn cymeryd lie yn ei Sysylltiad ag ef y, naill wythnos ar ol y llall. Wedi i'r newydd gyrhaedd fod Shere Ali wedi I dianc i'r gwersyll Rwssiaidd, a Yakeob Khan Wedi esgyn i'r orsedd yn ei Ie, daelh fel rhyw &rweidd-dra dros y cyfan, yn gymhwys fel pe buasdi clefyd masnachol y wlad hon wedi gweithio ei ffordd draw i gilfachau a mynydd- au tiriogaeth Affghan-dim gwaith i'r milwyr, [ gan nad oedd yr un gelyn i ymladd yn ei erbyn. Ond erbyn hyn, y mae pethau yn dechreu gwisgo agwedd fwy bywiog; mae'r gelyn wedi dyfod i'r golwg, mae wedi dyfod i wrthdarawiad a dur-filwyr Prydain, ac, mewn canlyniad, mae gwaed wedi cael ei dywallt. Ar y 7fed cynfisol, wrth ganfod y gelyn wedi ymgasglu yn lluosocach na'r cyffredin, ym- osododd y Cadfridog Roberts arno gyda thair adran, a dybenodd y frwydr mewn buddug- oliaeth ardderchog iddo. Gwnael hafog dychiynllyd ar rengau y gelyn, a gorchfyg- wyd ef yn llwyr. Gwnaeth y meirch-filwvr Prydeinig orchestion mawr. Lladdwyd dros 300 o'r Affghaniaid, a chymerwyd dros 100 vn garcharorion. Pellebyr diweddarach a ddywed fod byddin y Cadfridog Stewart wedi cymeryd meddiant o Candahar, un o brif ddinasoedd Aflfghanistan, yn ddiwrthwyneb- iad. Meitbrinir gobaith mewn rhai -cylch- oedd swyddogol, y llwyddir i ddwyn y rhyfel gwastraffus hwn i derfyniad buan. Gwawried y dydd yn fuan.

FFRWYDRIAD ARALL MEWN GWAITH…

DOLGELLAU.

[No title]

Y GWYLIEDIDD, BETH AM Y NOS?