Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
9 erthygl ar y dudalen hon
1'. w v Y CYNWYSIAD.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
1'. w v Y CYNWYSIAD. YrWythnos 1 Mab yr Arlunydd 2 Marwolaeth Cymro yn Llundain 3 Brawdlys Meirion 4 o Ben y Ga er 5 Newyddion Cymreig 6,7 Pum' mlynedd ar hugain afur caled 8 Dolgellau 9 Gohebiaethau .10, IT Genedigaefchau, Priodas, Marwolaethau 12 Hysbysiadau ,1316
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Mae cam pwysig arall wedi ei gymeryd tuag at gadw heddwch yn y Dwyrain, a barna rhai y bydd iddo gadarnhau yr ymer- odraeth Dyrcaidd yn fawr. Ar ol hir chwedl- eua, mae'r Czar a'r Sultan o'r diwedd, wedi d'od i delerau, ac y mae y ffordd yn awr yo rhvdd i gyflawni yr hyn sydd yn ddyledus o Gytundeb Berlin. Nid oes mwyach gwest- iynan hirwyntog, ac, i raddau helaetb, anmherthynasol, yn sefyll i gael eu tivfod rhwng y ddwy Lywodraeth oeddynt mor ddiweddar mewn rhyfel &'u gilydd, a gallant, fcellach, ddechreu ar y gwaith o gario allan eu hymrwymiadau i'w gilydd. Mor belled ag-y gellir canfod, dygwyd hyn oddiamgylch drwy oddefiadau o du Rwesia, ond y mae y goddefiadau byny o bwys diamheuol, oblegid, mewn gwirionedd, nidoedd gan T wrci, druan, ddim goddefiad l'w wnend. Y r hyn sydd yn gwneud y cydwetediad hwn yn bwysig ydyw, y ffaith fod Rwssia wedi mynu cael ei dyled anferth wedi ei thalugan Twrci arol i'r wiad olaf glirio ymaith ei dyledion cyhoeddus. Ar hyn o bryd, hwyracb, nid yw hyny o bwys mawr. Ond gwr beiddgar fyddai y gwr hwnw a roddai fèntbyg haner coron i'r Sultan yn sefyllfa bresenol yr ymerodraeth hono, gan ddysgwyl ei gael yn ol.. Os llwydda Twrci i dalu ei dyledion cyboeddus yn annibynol ar help oddiallan, fe fydd ei dyled i Rwssia yn parhau i fod ar ol hyny fel maen melin o gylch ei gwddf, a mil gwell ar gyfrif rhai ystyron, fyddai ei thafla hi a'i dyledion i eigion m6r ebargofiant a diddymdra ar un- waith.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Damweiniau, a son am ddamweiniau. Cy- merodd dygwyddad dycbrynllyd Ie. ar reil- ffordd Adrianople, un o ddinasoddd Twrc', ddydd Sadwrn wythnos i'r diweddaf. Dymch- welwyd tren a'i gynwysiad i'r afon Arda, drwy i'r bont a'i croesai toddi ffordd. Boddwyd un cadfridog milwrol, amryw o swyddogion y fyddin, a thua dau cant o ddynion cyffredin. Llwyddodd y gyriedydd a thri o deithwyr y trydydd dosbarth i ddianc yn ddianaf. Mae y llinell ohebol rhwng yno a Ohaercystenyn wedi ei thori am rai dyddiau mewn canlyn- iad. Daw adroddiad arn ddamwain arall ar reilffordd Warsaw, mewn man heb fod yn mhell oddiwrth St. Petersburgb, Prifddinas Rwssia, yr hon a achoswyd drwy i f^dresn teithwyr, ac on arall oedd yn cludo coed, ddyfod i wrthdarawiad a'u gilydd. Lladdwyd 20 o bersonau, a niweidiwyd 32, un ar hugajn o ba rai yn beryglua felly. Mae y gorsaf- feistr wedi cael eb osod mewn dalfa ar y cy- huddiad esgenlusdra yn nglyn a'r ddamwain. y
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Gwaeth-waeth y mae pethau yn myned yn barhaus yn Cabul, Prifddinas Affghanistan. Mae ymgais newydd gael et wneud i losgi y ddinns a lladd ei phreswylwyr, ac i ymdrech- ion Yakoob Khan yn unig y mae priodoli methiant yr ymgais. Yn mh% le y cafodd efe ei, filwyr sydd yn anhawdd gwybod, oblegid y mae pob ff oadur Affghanaidd sydd yn d'od i'r gwereyll Prydeinig, yn dweyd fod yr anhrefn mwyaf yn bodoli yn y fyddin. Gallai un feddwl trwy hyn fod y naill Affghan yn barod iawn i ymladd åg Affghan arall, ond yn hynod o anmharod neu anewyllysgar i ymladd a'u gwir gelynion. Mae ganddynt ryw obaith am fuddugoliaeth ar eu gilydd, ond heb y cysgod lleiaf o hono am fuddugol- iaeth ar. aiirheithwyr eu tir. Yn y cyfamser, rhaid fod y telerau a estynir i Yakoob oddi- wrth y cad-lywyddion Prydeinig yn galed i'r eitbaf, cyn y buasai yn mentro eu dodi o'r neiIldnyn annerbyniol. Mae ei gyfeillion ei bunan yn ei annog i beidio a thori ei wddf drwy ruthro ar ei ben yn erbyn craig. Oni buasai am y llw a dyngodd efe i'w dad, yr hwn, tra y mae yn ddiogel, sydd yn hollol ddiiater o fywyd ac amg dehiadau ei fab, buasai Yakoob wedi dyfod yn ffryndiau i'r wlad hon er ys talm.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Yn Sheffield, ddydd Sadwrn diweddaf, dechreuwyd ar brawf Charles Peace, y ty- dorwr beiddgar, am lofruddiaeth Mr. Dyson, yn Banner Cioss, ger Sheffield, yn y flwydd- yn 1876. Mrs. Dyson oedd y prif dyst dros yr erlyniad, yr hon a ddygpwyd o'r America o bwrpas i roi y rhaff am wddf dyn sydd wedi ei gondemnio i benyd-wasanaeth am ei oes. Wele engrai (ft o un o gyfreithiau tyner (1) Ymddengys i Peace ysgrifenu at deolu y Dysons, er mwyn cael gweled Mrs. Dyson, i Mr. Dyson ei roi ar ei rybudd i beidio a d'od yn agos at y ty, ac iddynt symud i gymydog- aeth arall. Noson y gyflafan gwelodd Mrs. Dyson Peace yn yr ardd, a llawddryll yn ei Jaw; gwaeddod am help, daeth Mr. Dyson all^n, pryd y saethwyd ef yn farw gan y catcharor. Taflwyd y prawf hyd heddyw (Mercher).
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Dydd Lhin diweddaf, deohreuwyd ar brawf arolygwr a chyfarwyddwyr Ariandy Glasgow, yn y Prif-lys Barnol yn Edinburgh, o flaen yr Arglwydd Farnwr Clerk, Afglwydd Craig- hill, ac Arglwydd Mme. Dygid yn mlaen yr erlyniad gan yr Arglwydd Ddadleuvdd a'r ran y Llywodraeth, ac yr oedd pedwar ar ddeg o wyr y gyfraith yn biesenpl i amddi r yn y carcharorion. 'Mae uwchlaw cant a haner o dystion i gael eu holt, a dygwyd mwy na Ilonaid gwagen o lyfrau a phapyrau i'r llys yn ystod y diwrnod. Cynwysa yr achwyneb ddau ar bymtheg o gyhuddiadau? y prif rhai ydynt-am ddwyn allan balance sfoeftywvll odrus, tynu ymaith a gwneud defnydd o gyfrifon preifat, a darnguddio arian y cyfran- ddalwyr. Cymerwyd yr oil o'r eisteddiad ddydd Llun i ddadleu ymresymiad cyfreithiol a godwyd gan Mr. Mackintosh, yr hwn sydd yn cynyrchioli y carchaior Taylor, yn erbyn rhai o'r syhuddiadau a ddygir yn eu herbya.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Yr wythnos o'r blaen, yr oedd dyn ieuanc o'r enw Evan Jones, brodor o ardal Dinas Mawddwy, yn dychwelyd adref o'r America. Cyrhaeddodd Le'rpwl yn ddiogel boreu ddydd Gwener, yr 16eg cyfisol; ac yr oedd yn cych- wyn tua bro ei enedigaeth o orlsf Lime St. Pan oedd y tr6n ar gychwyn, daeth pedwar o ddynipn i mewn ato; a phan gyrhaeddodd y trên i'r twnel gerllaw, rhuthrodd. un o'r dyn- ion i'w wddf, a'r lleill i'w freichiau, tra yr oedd y pedwerydd yn chwilio ei legellau. Ysbeiliwyd ef o'i bwrs, a IIawer o arian; ond yn ffortunus, yr oedd y rhan fwyaf o'i arian mewn llogell yn ei fynwes. Diangodd hono sylw y lladron. Pan ddaeth y tren o'r tynel, neidiodd yr ysbeilwyr beiddgar i lawr; ond taflasant y pwrs yn ol iddo, a gadawsant y dyn ieuanc yn haner marw yn y cerbyd.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Mae penderfyaiad y cwmniau nwy i gy- farfod i phleidwyr y goleuni trydanol ar eu tir en hunain, wedi cael ei gario i weithrediad yn gyhoeddus yn Llundain. Mae canghen o'r Waterloo-road, yn cael ei oleuo Sl threul- iad ychwanegol o gas, a dygwyd hyny oddi- amgylch yn benat drwy lanhau a gwella y pyst-lampau a'r burners. Y canlyniad o hyn yw, y gellir, gyda thraul o H. 5c. yr awr, am bob pum cant o latheni, oleuo y Britddinas drwyddi draw â. nwy yn y fath fodd, fel na bydd gan neb le i gwyno. Y mae hyny gy aaint bedair gwaitb a'r swm y delir gan y plwyfolion yn bresenol, ond y mae yn llai o un rhan o ddeg na'r byn fuasai yn gostio pe cymerasid y trydan-oleuni. Dyma'r prif bwynt, ao y mae y llwyddiant yma wedi rhei yr ergyd hymaf i drydaniseth eto, er pan y oymer ydefiwasanaethu fel eyfrwng i oleuo yr heolydd. M<e y rhai sydd yn dal shares yn y gas ar uchelfanau'r maes, a deallwn y bydd i'r cynllun effeithiol hwn gael ei gario allan mewn amrywiol fanau o'r Brifddmes. Nid ar unwaith y daw dynion i allu byw heb 'gas' wedi'r cwbl.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Dygir tri oh\Vyn yn erbyn y nwy yn Dolgellan-l. Y chydig o hono; 2. yr hyn a geir yn sdw; 3. ei dd-udaniaeth—chweugain y fil.