Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
9 erthygl ar y dudalen hon
Y OYNWYSIAD.I
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Y OYNWYSIAD. I Yr Wythnos iim 1 Tori amed Priodas 2 Trychineb Ddychrynllyd ar y Mdr 3 Y Senedd Ymerodrol 4 Dolgellau .„ 5 Marwolaethau 5 Newyddion Cyffredinol 6 Barddoniaeth 7 YTywedi ei ail Ffurfio 8 Marchnadoedd 9 Gohebiaethsm 10 Cyfarfod Chwarterol sir Benfro 11 Hysbysiadau 12,16
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cymerodd dyg wj ddiad hynod o anghyffred- in le y dydd o'r blaen. Ymddengys ddarfod i wraig yn Buckley farw heb un meddyggael ei alw i'w golwg, a chladdwyd hi heb gynal treagholiad ar ei chorff. Pan oeddid yn dwyn y corff tua'r gkddfa, credodd rhai o'i chyfeillion nad ydoedd, ar ol y cyfan, wedi marw. Agorwyd yr arch, a gwnaed ym- chwiliad ar y corff gan feddyg, yr hwn a ddywedodd yn y fan fod y fywiol fflam wedi ehedeg ymaith; yna, claddwyd hi yn y dull arferol. Y mae yn rhyfedd meddwl fod y fath both ag amheuaeth am farwolaeth y wraig yn bodoli ar ol dwyn y corff i'r fynwent, Pe buasai y meddyg wedi cael ei alw mewn amser priodol, ni buasai angen am y fath olygfa anghyffredin ag agoryd arch yn y fynwent. Mae golygfa o fath hon yn briwio teitpladau ycatetat o ddynion, ac yu enwedig pobl o deimladau tyner* fc
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Dydd Sadwrn, bu farw yr enwog Carlyle, yr hyn a gymerodd le yn ei breswylfod yn Cheyne-row, Chelsea, Llundain. Yr oedd afiecbyd Mr. Carlyle yn tynu sylw y wlad er's dyddiau; a dydd Gwener, collodd bob ymwybvddiaetb, a pharhaodd felly hyd nes yr anadlodd ei anadl ddiweddaf. Ganwyd ef ar y 4ydd o Ragfyr, 1795, yn Ecclefechan, swydd Dumfries, ac felly yr oedd newydd adael ei chweched flwydd a phedwar ugain. Yr oedd ei ysgrifell wedi enill iddo enw ag 8Wnai yn anwyl gan bob llengarwr, a bydd ei gynyrchion yn dysgleirio yn mhen blynyddau fel ser. Anaml y cyfarfyddid a yn wedi enill mwy o ymddiriedaeth gwlad na|, aP yehydig yw nifer y rhai hyny syaa a gwlad yn galaru ar eu holt Un o'r dynion hyn ydoedd Mr. Carlyle. Yn ei S, sySiodd olw? SWlad; a° y° farW01"
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Ymae wedi oa derbyn yn Cork am golliant yr ag6rl Bohemian, nos Su], yn angorfa Dunlongh, g6r CrookhUen. Yr oedd y long y n rWym o Boston i Le rpwl, gyda llwyth yn gynwysedig o gotwm, Pore, &c., ac ar ei bwrdd yr oedcl amiryw o aaa byw. Yr oedd ami ÕO o ddwylaw oil 1 yn forwyr profedig, yn nghyda phedwar o ddynion eraill yn gofalu am yr anifeiliaid. Achubwyd un ar hugain o honynt, yn cynwys yr ail swyddog, ac ofnir fod y deuddeg ar hugain eraill wedi boddl. Dydd Llun, can- fyddwyd dyn ar graig, ychydig bellder o'r lAn, ac anfonwyd dau gwch tuag ato i'w waredu, ond trodd y ddau. Yn ffodus, ni chollwyd bywydau. Yr oedd y tywydd yn nodedig o annymunol, ac ar droion, goleuid y ffurfafen gan fflacbiadau y mellt, a chodai y mdr mewn cynddeiriogrwydd gorwyllt.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Da genym weled fod dirwest yn parhau i enill sylw yn ein gwlad, nid yn unig yn mhlith Ymneillduwyr, ond Eglwyswyr befyd. Dydd Gwener, cynaliwyd lluaws o gyfarfod- ydd dylanwadol yn Nghaeldyddmewn cysyllt- iad 4 Chymdeitbas Ddirwestol Eglwys Loegr; a chan eu bod wedi dilyn yn unionaryrchol ar ol symudiadau y 'Blue Ribbon,' gobeithiwn y bydd i ffrwyth helaeth gael ei fedi. Mewn cyfarfod prydnawnol, o dan lywyddiaeth Eegob Llandaff, penderfynwyd sefydlu Cym- deithas Ddirwestol Ddiaconaidd. Dewiswyd yr Esgob yn llywydd iddi, "a'r Parch. Yalpy French yn ysgrifenydd, yr hwn sydd wedi bod yn cymeryd rhan flaenllaw yn y mudiad dirwestol a fu yn ddiweddar yn sir Fynwy. Deallwn fod dirprwywyr i gael ei ethol, gyda chyflog o X200 y flwyddyn. Yn yr hwyr, cyn- aliwydcyfarfodydd beIldigedig yn yr Assembly a Room a neuadd Staart. tVl ae'n aralwg ddigon fod Eglwys Loegr am ddeffro o'i chysgad- wyr gyda'r achos hwn, ac am wneud ei rhan i sobreiddio y wlad. Trwy gymddithasau o'r fath hyn, a chael y Mesur sydd o flaen y Senedd yn ddeddf, mae gobaith y gellir sychu cryn dipyn o'r gwenwyn hwn ymaith.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
0 ogledd swydd Stafford, y mae cwynfan a galar yn ein cyrhaedd. Dydd Llun diwedJ- af, cymerodd tanchwa le mewn gwaith glo yn Whitfield, oddeutu pum' milldir o Stoke-on- Trent, drwy yr hon y collwyd tua dau ar bymtheg o fywydau. Oddeutu haner nos yr oedd y nifer uchod yn y pwll, pryd y darfu i un o'r bechgyn danio waste cotwm, yr hwn a roddodd dan i'r llwch glo. Anfonwyd at y goruchwyliwr, Edward Thompson, a daeth ef a'i ddau fib yno, yn nghyda'r goruchwyl- iwr cynorthwyol, Mr. Atherton. Yn y cyfamser, llwyddwyd igael tri ceffyl allan, a gwnaed pob ymdrech i roddi y tan allan, ond yn fuan wedi tri o'r gloch, torodd ffrwydriad ofnadwy ofire damp allan, yr hwn a glywid oddeutu dwy neu dair milldir o ffordd. Yr adeg hon yr oedd un o'r Thompsons yn y cage yn disgyn i'r pwll, ond chwythodd nerth y ffrwydriad y cage i'r head-gear, a chododd y rhai oedd yn sefyll wrth enau y pwll i iyny, yn nghyda darnau anterth oheiyrn, ganell taflu i bellder. Niweidiwyd yn dost y dynion hyn, ond rywfodd diangodd y goruch- wyliwr cynorthwyol ya ddianaf. Cododd y fflamau yn uchel i'r awyr, dinystriwyd yr head-gears, rhoddodd dan i luaws o wageni y reilffQrdd a gafajl yphydig ^e|lder o enauj y pwll, ac hefyd llosgwyd yn lludw y ty peifS fant sydd wrth y eiafft uchaf. Oddeuta chwech, daeth oddeutu 400 o'r gweithwyr yn nghyd, gan feddwl decbreu ar eu gorch- wylion, ond erbyn dyfod, yr oedd yr holl bwll yn un ffwrnes fflamllyd. Am hir amser, nis gellid myned yn agos i enau y pwll gan y fflamau. Chwytbwyd nn dyn a safai ar y lan latheni i'r awyr, a disgynodd yn bendramwgl ar ei ben i'r pwll, a lladdwyd ef. Drwy yatod y dydd yr oedd y fflamau yn ymddyrchafu o 30 i 40 o droodfeddi tu uchaf i enau y pwll. Pe buasal y danchwa wedi dygwydd yn ystod y dydd, buasai oddeuta 400 o bobl yn cyfarfod &'u diwedd.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Nis gaU neb lai nag edrych yn drist wrth 9 feddwl am y Uongddrylliadau echryjus sydd wedi cymeryd lie yn vstod yr wythnos. Nis gellir dirnad ychwaith am y peryglon ag y maeein morwyr yn agored iddynt. Er fod llawer o welliantau wedi eu gwneud mewn morwriaetb; eto, yn ystod yr wythnos collwyd cynifer a 32 o longau, yr hyn svdd yn gwneud y nifer am y flwyddyn yn 295, neu gynydd o 142 ar yr un nifer am y tymor cyferbyniol y flwyddyn ddiweddaf. Diau y gellir priodoli y cynydd enfawr hwn i erwin- der y tywydd y flwyddyn hon, yn erbyn pa ystormydd nis gallai un ddyfais ddynol sefyll. Ar yr un pryd, nid oes amheuaeth nad oes Ilawer o'r cyfrifoldeb am golliant bywydau ac eiddo yn sefyll wrth ddrws y llong-berch- enogion, am nad ydynt yn gofalu fod eu llongau yn ddigon cymbwys i wynebu y tymhestloedd, ac i farchogaeth t6nau yr eigion.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y mae y cwestiwn Dwyreiniol yn dechreu dyfod i sylw y wlad eto. Meddylid unwaith y buasid yn llwyddo i lapio yr anghydweled- iad; ond yn ol yr adroddiadau diweddaf o Groeg, ymddengys eu bod bwy wedi anfon archeb am driugain o torpedoes o Fiume, pa rai a gostiant £3,600, ac y maent wedi gorch- ymyn am iddynt fod yn barod allan o law. Parheir hefyd i anfon meirchyno o Trieste. Yn Pesth, prynwyd 1,600 o geffylau at wasanaeth Llywodraeth Groeg. Tanysgrif- iwyd cymaint a 600,000 o florins yn Trieste i Drysorfa Fenthyciol Groeg mewn pum' diwrnod. Oddiwrth hyn, gellir casglu fod ystorm ar dori, canlyniadau yr hon a esbonir gan amser.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Aflonydd yw sefyllfa Affghanistan o hyd. Newyddion o Giriskh a ddywed, yn ngwyneb yr anghydwelediad sydd yn bodoli yn mhlith y Duraniaid yn Farak, eu bod wedi rhoddi i fyny eu parotoadau i ymosod ar y Beloochiaid. Dywedir hefyd ddarfod i 2,000 o Sowariaid adael Herat, gyda phedair o gyflegrau, i ym. osod ar Cbakansur, ond ataliwydhwy yn Talezwar. Dywedir yn mhellach fod Ibrahim Khan, yr hwn sydd yn Chakansur, ar delerau anghyfeillgar kg Ameer Ghayn, am fod mab y cyntaf wedi gwneud rhuthgyrch i diriog- aethau Persiaidd, Y maey Beloocbiaid hefyd yn gwrthod ymostwng i awdurdod Hashim Khan.