Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
9 erthygl ar y dudalen hon
i Y CYNWYSIAD. r
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
i Y CYNWYSIAD. r Yr "Wythnos 1 Tori amod Priodas 2 Y Llofruddiaeth yn Cydweli. 3 Y Senedd Ymerodrol. 4 Dolgellau 6 Genedigaethau,Priodasau; Marwolaethau. 5 Newyddion Cyffredinol 6 Barddoniaeth 7 Diwygiad y Deddfan Tirol yn bwno y dydd 1 Y diweddar B« ()• Bees 8,9 Gohebiaethau 10 Dinas Le'rpwl 11 Hysbysiadau 1216
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Dyw.edir fod yr adroddiad a daenid dydd Sadwrn yn ngbylch fod ymgais i gael ei gwneud i chwythu Gastell Windsor, yn gwbl heb un sylfaen iddo. Ymddengys i ddau ddyn alw yn nhy gweitbiwr mewn gwaith brag nos Iau, a gofyn i'r wrafg a allai gad w secrets, ac a fyddai iddi gadw baril fechan oedd ganddynt gyda hwynt. Gan nad oedd y gwr i mewn, ac i'w hofnau gael eu deffroi gan y ffaith fod son ar led y gallai ymosodiad gael ei wneud ar y Oastell, aeth at brifgwn- stabl y fwrdeisdref, a hysbysodd y ffaith, ac ar yr un pryd, dywedodd fod y ddau ddyn yn hollol ddyeithr yn y dref. Rhoddwyd yr heddgeidwaid ar waith, ond buont yn aflwydd- ianus i gael allan ddim o hanes y dynion, na dim ychwaith i godi nnrhyw amheuaeth yn eu meddwl fod dim allan o le yn bodoli. Ored yi heddgeidwad yw, mai amcan y dynion oedd ceisio gosod magi ar flordd gwr y ty, neu yaidrech i ysbeiiio y lie. Gellir casglu yn hawdd mai rhywheoh o'r natur hyn sydd wrth wraidd y rhan fwyaf o'r son a'r siarad sydd ar hyd y wlad am ymosodiadau neu ymgais at byny a briodolir i'r Gwyddelod. Deallwn hefyd fod gwyliadwriaeth fanwl yn cael ei chadw ar bont Menai a'r Tubular, rhag y gallai fod gan y Gwyddelod ymgais i 11 fyned a nwyddau drwy Bangor i lawr i Gaergybi, a rhag y gall fod nwyddau perygl- ua yn cael eu cludo mewn mordwyaetb yn y Fenai. Rhoddir gorchymynion allan hefyd ar fod i ddryiliau y gwirfoddolwyr gael eu L, y cadw mewn diogelwch. Ern cred yw, y gallai fod gormod o byn yn ein gwlad ar hyn o bryd, oblegid peth peryglus iawn yw drwg- dybiaeth. Mae dyn yn rhoddi lie i'r dyn hwnw weithredu.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cynaliwyd eyfarfod mawr yn Hyde Park, Tiundain, dydd Sul, yn cynwys aelodau Radicalaidd, Gwyddelig, Ysgotaidd, a Seison- ig, i brotestioyn erbyn Mesur Gorfodaeth Gwyddelig. Oddeutu haner awr wedi dau, cyrhaeddodd cynrychiolwyr o wahanol bartb- au y ddinas yn Trafalgar-square, ac yna gorymdeithiasant i Hyde Park. Anerchai y siaradwyr y gy r ulleidfao wageni. Rhoddwyd tri o gynygion ) flaen y gwirfoddolion, sef, 'Ein bod yn condemnio gofodaeth i'r Iwerdd- on/ 'Ein bod yn ystyried carchariad Davitt yn greulawn, anfoneddigaidd, ae anghyfiawl't,' ac 'Ein bod yn ystyried yn ddyledswydd arnom i geryddu y Llefarydd a'r Llywodraeth am gyfyngu ar ryddid dadleuol.' Yr oedd pedwar o'r aelodau Gwyddelig yn bresenol, y Paroh. Isaac Nelson, Mr. Justin M'Carthy, Mr. T. P. O'Connor, a Mr. Redmond. Pas- iwjd y penderfyniad ynunfrydol. Rhoddwyd araeth danllyd gan Mr. Justin M'Carthy, yn yr hon y condemniai y Lly wodraeth, ac y dadleuai achos ei frodyr. Credai ef mai am y rheswm fod Iwerddon yn owyno ei bod yn cael cam ae yn dyoddef, yr atefewyd bi gyda'r Mesur Gorfodol, ac am i'r aelodau Gwyddelig ddangos gwrthwynebiad i'r cyf- ryw, a cheisio ei wrthwynebu, ameanwyd eu dystewi trwy ddeddf safngloawl. Gan hyny ystyriai ei bod yn bryd apelio oddiwrth y Senedd Brydeinig at y boblogaeth Brydeinig. Cyn terfynu ei araeth, galwodd am brotestiad yn erbyn y dull treislyd y carcharwyd Mich- ael Davitt. Terfynodd y gweithrediadau yn ddystaw.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Bu adeg unwaitb pan yr arferid dy wedyd yn amlach nag y dywedir yn bresenol fod 'un gyfraith i'r tlawd ac un i'r cyfoethog.' Yr oedd hyny yn yr amser pan yJoedd arian a dylanwad yn myned yn whell i wasanaethu er gosod y person a droseddai y gyfraith mewn safle neillduol. Ond berir hyn yn awr; yn wir, y mae y dull diweddar yn gosod y personau a fyddo mewn sefyllfa hapus o ran eu hamgylch- iadau, ae wedi cael addysg, yn fwy agored i gosb. I brofi hyn nodwn engraifft. Yn Mrawdlys Chwarterol Manchester, cyhudd- wyd un o'r enw Evans, meddyg, o assault ar dwrnai. Yr oedd y cyntaf wedi gwthio yr olaf oddiwrth ddrws ei dy, ac wedi achosi iddo gwympo. Yn y cwymp, aeth braich yr erlynydd o'i lie, ond dangosid nad oedd y diffynydd wedi amcanu gwneuthur un niwaid iddo. Dywedodd y Cofiadur nas gallai wneuthur un eithriad yn ffafr y diffynydd, am y rheswm ei fod yn dal safle gymdeithas- ol uwch na'r cyffredin o'r dosbarth oedd yn cyflawni assaults, a dedfrydwyd ef i dri mis o garcbariad gyda llafur caled. Mae hon yn gosbedigaeth drom, a chyfyd i fyny y gred, os bydd i Smith, gwerthwr afalau, wneud ym- osodiad cyffelyb ar berson Brown, yr hawker, yl byddai^rhywbeth fel haner coron o ddirwy am y weithred,
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Nid oes derfyn ar feiddgarwch rhai dynion. Cofia ein darlIen wyr i ni yr wythnos ddiwedd- af alw sylw at amgylchiad rhyfedd a gymer- odd le yn mynwent Buckley, ondyr wythnos hon y mae genym i gyfeirio at amgylchiad rbyfeddach, a llawer mwy beiddgar. Yn Alexandria, Virginia, nos Fercher wythnos i'r diweddaf, canfyddwyd corff o ysbeilwyr yn cymeryd ymaith gyrff dwy ddynes oeddynt newydd eu claddu. Rhedodd y clocbydd ar eu hoi er ceisio eu Oal, a gorfa ijdynt roddi y cyrff i lawr er mwyn bod yn alluog i ffoi. Y mae dau Negro wedi eu cymeryd i'r ddalfa ar y dybiaeth o fod yn gyfranog yn yr erchyllwaith.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Pwy na syna at fasnach Chicago? Yn ystod y flwyddvn 1880, derbyniwyd 7,057,092 o foch, 1,307,148 o wartheg, 338,566 o ddefaid, a 10,388 o wartheg, yn gwneud cyfanrif o 8,779,194 o anifeiliaid pedwar carnol byw. Yr oedd yn angenrheidiol cael 6,960 o gerbyd- resi, a 193,993 o geir i gludo y rhai hyn i'r ddinas. Yr ydym yn synu fod masnach y ddinas hon wedi cynyddu mor rhagorol mewn mor ychydig o amser, oblegid nid oes nemawr o flynyddau er pan gafodd yr boll drefeiliosgi o gwr bwy gilydd bron.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Oddiwrth yr hyn sydd newydd ei gyhoeddl, ymddengys fod cant a deg ar hugain o filiyn- au o ddarnau aur mewn cylchrediad ynyr Ynysoedd Prydeinig; 2,320,047 o goronau; 41,516,343 o haner coronau; 16,426,220 o ddau-sylltau; 125,540,160 o sylltaa; 82,125,- 578 o chwe'cheiniogau; gall fod 12,000,000 o ddarnau pedair ceiniog; a 17,572,357 oddarn- all tair; neu, mewn ffigyrau crynion, tri chan" miliwn o ddarnau arian o bob math mewn cylchrediad. Er sefydliad y Bathdy Brenhin- ol, dywedir fod mwy na chwe' mil o dunelli o bres bathedig wedi eu hanfon allan. Mewn dimeiau a cheiniogau y mae y rhan fwyaf o'r rhai hyn, er fod rhai canoedd o ffyrlingod hefyd mewn cylchrediad. A chymeryd ar gyfartaledd nifer y gwahanol ddarnau, geUir yn ddiojel ddywedyd nad oes dim llai nag wyth gant o filiynau o ddarnau arian yn mhocedau a choffrau deilia-id ei Mawrhydi ar hyn o bryd. Geliir casglu oddiwrth yr ystadegau hyn-a gellir ymddibynu fod y casgliad yn gywir-y gwahanol ddarnau arian cyfreithlon sydd mewn cylchrediad drwy yr oil o'r Deyrnas Gyfnnol yn ddim llai na deuddeg cant a deg ar hugain o filiynau.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y mae y pellebyr canlynol wedi ei dderbyn yn y Swyddfa Dramor oddiwrth Syr Hercules Robinson:—'Chwefror 12fed—Pondoland yn dawel; wedi derbyn atebiad boddhaol oddi- wrth Umquikela i fy nodyn. Bu meirchfil- wyr Baker drwy holl diriogaeth Umhionhlo, ond ni chanfyddwyd na phoblogaeth nag anifeiliaid. Y mae y rhanbarth wedi ei lwyr adael. Yn ngwlad Basuto, dywed. Bayley ef fod wedi cael ysgarmes fuddugoliaethus cydrhwng ei adran ef a'r terfysgwyr yn agos i Masern. Gwaegwyd y gelyn; ac nid yw y colledion trefedigol ond ysgafn. Llosgwyd pump o bentrefi. Mae Lerothodi wedi erfyn am ychydig ddyddiau o heddwch i gynal cynghor er ystyried fy atebiad i'w ddeiseb. Rhoddais wythnos iddo.'
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Yn ol adroddiadau 0 Victoria, Columbia Brydeinig, hysbysir fod mynydd Baker, o'r Cascade Range, yn nhiriogaoth Washington wedi ymagor, ac yn taflu allan gymylau o wg a lludw.