Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

TLLOFRUDDIAETH YN CYDWELI.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TLLOFRUDDIAETH YN CYDWELI. .• -1 •- ——— I' TYSTIOLAETHAU PWYSIG GAN YR HEDDGEIDWAD A MAM Y TRANCEDIG. Dydd Gwener, cynaliwyd cyfarfod ganyr ynadon yn Cydweli i dderbyn tystiolaethau mewn cysylltiad â't llofruddiaeth uohod Dygwyd y carcbarorion i garcbar Caer- fyrddin mewn cerbyd cauedig, a chyrhaeddas- ant Cydweli oddeutu haner awr wedi wyth yn y bote, Be agorwyd y llys am haner awr wedi unarddeg. Ymddangosai y carcharorioa mewn safyllfa suddedig iawn, a chaniatawyd iddynt ..eistedd yn ystod yr ymchwiliad. Erlynid gan Mr. Snead, Llanelli, a gwylid yr achos ar ran y earcharorion gan Mr. W. Howell o'r un lie. Letitia Thomas, mam y trancedig, a ail adroddodd y dystiolaeth a roddasai o flaen y crwner y dydd Sadwrn blaenorol, sef ddarfod iddi fyned i dy Mrs. Mazey dydd Mercber i chwilio am ei phlentyn, ac ddarfod i Mrs. xMazey ddwcyd nad ydoedd wedi ei weled. Dyfid Ian, daeth Mrs. Mazey i'w thy, a dywedodd ei bod wedi gweled y trancedig ar gareg yr aplwyd yn ei thy hi, a hansr peuadar ganddo yn ei law mewn papyr llwyd. Dywedodd befyd ddarfod iddo fyned allan, a newid yr haner penadur, a rhoddi haner coron i'w mab Benjamin, ac iddo ar y pryd ddweyd ei fod yn mynei adref at ei tam. Yr oeddRhoda Evans yn y ty yn ystod yr ym. ddyddan hwn. Dywedodd Mrs. Mazey wrthi hefyd am iddi beidio hidio, y buasai Sadw ^aner Pena(^ur yn ddydd i WediiRhoda Evans gadarnttau y dyst. iolaeth uchod, galwyd ar David Thomas, llafurwr, yr hwn a hysbysodd am y modd y argan y wyd^y corff o dan wrych yn i, Bf?ar szay bore dydd Gwener, y 4ydd « cyfisol. Yr oedd yn sefyll ar uchaf y g wrycb, ac yn gweled rhywbetb yU y pridd odditano .J tynodd ycbydig o hcmoymaitb, a cbanfydd' •: 6dd j corff. «alwodd ar yr heddgeid«ad J w hysbysu. Clywodd Mrs, Masey ef, a llefodd allan amryw weithiau, <0, fy Benjy, 4ruan: Mary Morgau a dyetiodd ddarfod i Mrs. Mazey ddyfod i'w thy ddydd Iau i fenthyca twb golcbi, ae ddarfod iddi bithau fyned idy Mrs. Mazey pan glywodd fod y trancedig ar goll, a gofyn iddi a wyddai rywheth am dano, pr. d yr atebodd na wyddai. Tra yn y ty, gwelodd y mab hynaf, David, ar ei lioiau yn golchi yr aelwy 1. Tystiodd William Jonei i Benjamin Mazey fod yn ei fasnachdy yn gofyn am newid haner penadur y 3ydd cyfisol, ond iddo wrthod, am nad oedd ganddo arian ar y pryd. Yr heddgeidwad John Jones a ddywedodd iddo fyned i dy y carcbarorion y prydnawu y collwyd y traucedig, gydag Evan Thomas, tad y bacbgen. Dywedodd wrth Jane Mazey fod arnoeisieu gweled y plant, ae aeth hithau ag ef i fyny i'r llotft. Gotynodd i'r plant am John Thomas. Dywedodd David Mazey iddo fod yno y prydnawn blaenorol, a'i fod yn yr ardd yn cbwareu gyda y swing, ac ddarfod iddo ddangos iddynt (y plant) baner penadur, wedi ei lapio mewn papyr llwyd, ac iddoei rboddi eilwaithyn ei logell, ac wedi hyny iddo fyned adrefdrwy Stock well-road. Wylai y brawd Benjamin yn dost tra yr oedd David yn rhoddi y dystiolaeth bon. Wedi hyny, boloddhwynt yo nghylch yr arian oeddynt wedi wario) ac ar y cyntaf gwadodd y ddau y cyhuddiad. Wedi hyny, dywedodd David iddynt fentbyca swllt oddiar un Mrs. Sims yn enw eu mam. Gwrthddywedwyd hyn gan Benjamin, a dywedodd mai haner coron ydoedd. Ni bu dim ychwaneg ary pryd, ac yn fuan, daetb y tad adref oddiwrth ei waith, a gwnaed ymchwiliad ar y ty a'r ardd, ondni chafwyd dim. Yo ystod yr amser hwn, aeth Mrs. Mazey allan, a dywedodd ei bod yn myned i wneud ymboliad am Mrs Sims; a phan yn heol Lady, ar ol gadael y ty, cyfar- fyddwyd a Mrs. Mazey, a dywedsdd na chafodd y plant arian gan Mrs. Sims, a'i bod yn dychwelyd adref, ac y boasai yn gwneud i'r plant ddweyd yn who le y cawsant yr arian. Yn mben deugain munyd, daeth i dfyr heddgeidwad, a dywedodd fod y plant wedi cyfaddef ddarfod iddynt gael haner corongany trancedig(John Thomas). Aeth yr beddgeidwad i dy Mazey dydd Gwener, a holodd am Benjamin, yr hwn oedd yn ei wely, heb ddim am dano ond gwasgod fechan. Holodd ef yn nghylcb. yr haner penadur, pryd y dywedodd mai nid efe a ddarfu ei Hadrata, ond David, ei frawd; fodry trancedig wedi ei gadael mewn papyr yneu ty hwy, ac ddarfod i David ei chymeryd a'i rhoddi iddo ef (Benjamin) i'w newid, ac iddynt ranu yr arian yn gyfartal cydrhyngddynt. Dywed- odd Benjamin yn mhellach fod y gweddill o'i ran ef yn guddiedig o dan bost y llidiart sydd yn arwaio i'r ty, ac eiddo ei frawd hefyd yn ymyl. Aeth yr beddgeidwad yno, a chafodd 3s. 9 Jc. mewn un man, a 2s. 7c. mewn man arall, a blwch byehan gyda hwynt. Yr adeg hon, galwyd y swyddog allan gan David Thomas, yr hwn a hysby 80dd fod y corff wedi ei gael. Wylodd Mrs. Mazey a'r plant, a dywedodd y fam, 10, Benjamin anwyl; ddwy waith neu dair. Yna cywerwyd y plant yn garcharorion. Dargantyddwyd wedi byn yr ymenydd yn ngardd un Francis Gower, yr hon sydd am y ffordd a gardd y Mazeys. Cafwyd gwaed befyd. Ar y 4ydd cyfisol, cymerwyd Mrs. Mazey i fyny ar y cyhaddiad o fod yn gyfranog yn y llofruddiaeth. Ni ddywedoid ddim, ond wylodd yn chwerw. Mr. W. Morgan, Abertawe, dadansoddydd dros sir Gaerfyrddin, a ddywedodd iddo dder- byn bore Sadwrn, uncrysgwlanen, newydd ei olchi, un siaced a liodrau, perthyrol i Benja- min Mazey; ac un siaced a llodrau, ac esgid cbwitb, perthynol i David Mazey. Pryd- nawn Sadwrn, derbyniodd unllodrau corduroy, gwn gwlanen, ac ftrffedog. Yr oeddynt yn llaitb, ac ymddangosent fel po buasent wedi bod mewn dwfr. Nis gallai ganfod prawfion digonol fod ystaeniau gwaed ar v g*n a'r arffedog; a'r un modd gyda llodraa y ddau fachgen. Nis gallar gantod swaed ychwaith ar lawes chwith nade siaced Benjamin Mazey. Yr oedd gwaed ar lawes dde siaced David Mazey, ac ar lawes un crys gwlanen. Tu isaf i benlin y llodrau corduroy llaitb, yroedd ystaeniau gwaed, yn ol pob ymddangosiad. Yr oedd gwaed hefyd ar aodlau a hoelion yr esgid. Nld oedd gwaed ar y capiau. Yr heddgeidwad William Thorwas, Pembre, a ddvwedodd i'r garcharores ddwevd pan ydoedd yn ei chymeryd i'r carcbar, 'Yr wyf yn berffaith ddiniwed oddiwrtb yr achos hwti, nid wyf yn gwybod dim "m dano, Duw a wyr.' Gobeitbiai y byddai i'r plant hefyd ddweyd y gwir, a chan droi atvnt, dywedodd, 'Dywedwch wrth Mr. Jones,' gan olygu yr heddgeidwad, (yr boll wirionedd.' Yna dy- wedodd David Mazey, 'Aeth John Thomas gyda ni i'r ty, a buom yn cbwareo gyda y swing yn yr ardd. Aeth John Thomas a Benjamin i ben y wàl, a chwympodd John Thomas i lawr ar y flags, a dywedodd, 'David anwyl, dyro dy law i mi.' Cymerais ei law, a bu farw yn uniongyrchol.' Dywedodd y carcharor Benjamin, 'Torodd darn o bren o dan John Thomas, a bu i minau syrthio hefyd.' Dywedodd David yn mhellach, 'Cymerais efael yn ei ddwylaw, a Benjamin yn ei draed, a cbariasosj ef i ben uchaf yr ardd, a rhoddasom ychydig o dyweirch arno.' Ycbwanegodd Benjamin, 'Ni ddarfu i mi roddi ond un dywarchen arno, ac ni fuaswn yn gwneud hyoy oni buasai i David ddweyd wrtbyf.' Dywedodd David eto, 'Cariais ddwfr o dwb oedd yn ymyl, atbeflais ef ar y gwaed, a daeth rhywbeth gwyn allan o'r pen. Codais ef i fyny, a theflais ef dros y ffordd i ardd Mrs. Gower.' Yr heddgeidwaid W. James a dystiodd i gywirdeb y dyetiolaeth uchod, a dywedodd ddarfodi David Mazey ddweyd, 'Ar ol i ni gario y corff i ben achaf yr ardd, cymerodd yr haner penadur o'i lodrau, a rhanasom hi rhyngom.' Cafwyd tystiolaeth gyffelyb gan Thomas Gower, ceidwad y lock-up yn Cydweli. Terfynai hynyna yr eriyniad, a gwnaed am- ddiffyniad galluog i'r carcharorion gan Mr. Sow ells. Ond ar., ol chwarter awr o ystyr- iaeth, traddododd yr ynadon hwy i sefyll eu prawf yn y frawdlys ar y cyhuddiad o 'lof- ruddiaeth wirfoddol.' Plediodd y carcbar- orion 'dieuog.'

Y RHYFEL YN Y TRANSVAAL.

TORI piOD PRIODAS, NEU Y DINIWED…