Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

----------..----"Xcioijuasjioit…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

"Xcioijuasjioit djjffreJitttoi. i Yr oedd Due Buckingham yn cyrhaeddyd y wlad hon o India ar y lOfed cyfisol. Y mae Llywodraeth Groeg wedi prynu yr agerlong Walrus gan Mr. John Burns, Glasgow. Boreu dydd Llun, canfyddwyd masnachdy y fferyllydd Moffatt, ger Dumfields, ar dan. Llwyr losgwyd yr adeilad, a chyrhaedda y colledion i £ 8,000. Am daflu eira at swyddog yn Myddin lachawdwriaeth, dygwyd dau ddyn ieuanc i fyny o flaen ynadon Hammersmith. Anfonwyd un o horiynt i garchar am bedwar diwrnod ar ddeg, a dirwywyd y Hall i zC2. Am dwyllo ei feistradoedd i Rl,200, anfonodd y Central Criminal Court, Llundain, un o'r enw George Peak i ddeunaw mis o garchariad. Yr oedd wedi bod am bedair blynedd ar ddeg yn glerc yn ngwasanaeth Mri. Rosher a'i gwmni, Llundain. Y mae gan Mrs. Ann Devine, yr hon a fu farw yn ddiweddar yn Kennington yn 104, wyth o feibion, 42 o wyrion, ac 88 o or-wyrion. Dywedir mai y Proffeswr Huxley sydd wedi ei apwyntio i lanw swydd y diweddar Frank Buckland fel arolygydd y Pysgodfeydd Eogaidd. Parhau yn uchel y mae nifer y marwolaethau yn Glasgow. Yr wythnos ddiweddaf, yr oedd nifer y marwolaethau yn 34 y fil, yn erbyn 39 y fil yr wythnos flaenorol. Am yr wythnosau cyferbyniol yn y blynyddau 1878, 1879, ac 1880 yr oedd y ffigyrau yn 20, 27, a 25. Teimlwyd ysgydwadau ysgafn o ddaeargryn, dydd Sadwrn yn Reggio, Calabria. Am roddi tan i'w thy ei hun, anfonodd ynadon Bristol un o'r enw Mary Ann Mason i bymtheg mis o garchar. Bore dydd Ma wrth, Uosgwyd neuadd gerddor- ol, yr hon oedd newydd fyned dan adgyweiriadau helaeth, i'r llawr yn Worcester. Dinystriwyd organ ardderchog. Yr oedd Mtdame Sarah Bermhardt yn myned bum' noswaith o chwareuaeth yn Cincinnati yr wythnos ddiweddaf. Y mae ei henillion yn America am 81 o nosweithiau o chwareuaeth yn cyrhaeddiJE59,189. Torodd coelcerth o dan allan yn nociau Victoria, Llundain, nos Fawrth, drwy yr hyn y llosgwyd amryw sheds, gwageni reilffordd, ac y 0 niweidiwyd dwy long yn dost. Dywedir fod William Hayhurst, neu fel yr adwaenir ef oreu, fyr hen Balslaw,' Capster Green, ger Blackburn, wedi marw yn 106 oed. Y mse Mesur ar cael gwell diogelweh rhag ffrwydriadau berwedyddion, wedi ei osodo flaen y Ty. Bydd Ymerodres Awstria yn gadael Vienna. ar y 14eg o'r mis hwn am Fynachlog Compermere, ger Caer. Y mae ystadegau y Fyddin am y flwyddyn arianol ddyfodol, yr hon a roddwyd dydd Llun, yn cyrhaedd i £15,545,500, yr hyn sydd gynydd o jE122,000 o'i gydmaru a'r flwyddyn flaenorol, Nifer y pleidleisiau a roddwyd o blaid yr aelodau seneddol hyny ydynt yn gweithredu yn 01 cyfarwyddiadau Mr. Parnell yn yr etholiad diweddaf ydoedd 29,063. Holl nifer pleidleis- iau rhestredig yr Iwerddon yw 231,536. Dychwelodd Mr. Richard Ely, Ipswich, 50 y cant yn ol i'w denantiaid o'r ardrethoedd oedd yn ddyledus yn Hydref diweddaf. Dywedir fod gan dri o'r aelodau Gwyddelig a drowyd allan o'r Senedd yr wythnos ddiwedd- af fyr-ddrylliau llwythog. Fel yr oedd dyn o'r enw Lamb yn croesi y llinell yn Dudley, y dydd o'r blaen, tarawyd ef gan gerbydres, a lladdwyd ef yn y fan. Yn llys heddgeidwadol Bow-street, Llundain, anfonwyd James Belcher i chwe' mis o gar- char am ladrata arian yr offrwm yn Eglwys Babyddol Apostolaidd Gordon-square. Dywedir fod clefyd newydd a elwir 'clefyd du' wedi tori allan ar yr Ynys Hir, ger New York, a bod pob mochyn a darawyd ganddo wedi marw. Mr. G. Milnes Gaskel Thomas, ger Wakefield sydd wedi ei ddewis yn ymgeisydd Rhyddfrydol am y sedd wag yn Knaresborough. Nid yw y Torïaid eto wedi penderfynu ar eu dyn; ond enwir Mr. Thomas Collins, diweddar gynrych- iolydd y fwrdeisdref, a sibrydir ei fodwrthi yn pleidgeisio. Yn Mrawdlys Le'rpwl, dedfrydwyd John Kelly, 69 oed, i bymtheg mlynedd o benyd- wasanaeth am ladd ei wraig, drwy ei churo yn ei phen ag efail. Y raaa Arglwydd Aberdar, Mr. Talbot, A.S., Mr. Vivian, A.8., a Mr. E. J. Reed, A.S., wedi addaw noddi Eisteddfod Pontypridd, yr hon a gynelir yr haf nesaf. Dywedir mai y 'Chwyldroad Ffrengig' yw yr unig waith o eiddo y diweddar Carlyle a gyf- ieithwyd i'r iaith hono. Taenir y gair am farwolaeth Mr. Derwen Moultrie Coleridge, yn 52 oed. Yr oedd yn *yr -1 i Samuel Taylor Coleridge, y bardd. Llwyddodd Mr. Critchett i symud y belen oedd wedi tyfu yn llygad de Syr Julius y Benedict, a dywedir y bydd yn mhen ychydig wythnosau yn gweled cystal ag y bu erioed. Profodd yr archwiliad a wnaed ar y bont sydd yn croesi yr afon Galway, fod 300 o pillars wedi tori drwy i rew fyned i wrthdarawiad a hwynt. Dywedir fod cynllun ar droed yn Montreal i wneud twnel o dan Raiadr y Niagra, er mwyn ceisio helaethu dylanwadrheilffordd neilldnol sydd yn ymgeisio am fasnach y Gorllewin. Mae archddeoniaeth Gloucester wedi dyfod yn wag drwy ymneillduad yr hybarch Syr George Prevost o'i swydd. Dydd Mercher, bu farw y Parch. Lord John Thyne, deon cynorthwyol Westminster, yn ei breawylfod yn Cloisters. Drwggenym ddeall fod Dr. Punshon wedi ei gymery yn glaf, ac y mae ei feddygon wedl ei gynghori i ymatal oddiwrth ei swydd weinidog- aethol am yr wythnos hon, o leiaf.

IGROEG A THWRCI.

CCLLIAD LLESTR A'R OLL O'R…

| BWLCH KHYBER.

CANADA.

Y GOLOFN WYDDONOL.