Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
DON'T TRAP THE MOLES. WHEN you can clear them off at a triflint W cost by poison, been used the past 7 years in preference to traps. Recipe, &c., sen post free on receipt of address and P. O. 0. or Stamps 2s. 6c. J. T. SMITH, Potatoe Merchant, Wisbech. ALMANAC CYMRU, iteu GYDYMAITH Y CYMRO. REFYD 'THE WELSH HISTORICAL ALMANACK. rtc cael heb dffl gan bob fferyllydd cyfrifol yn mhob tref. Gofynwch am danynt. Cyhoedd- wyd gan Mr. GWILYM EVANS, Llanelli. HYSBYSIAD. YMAE y Parch. 0. Thomas, o herwydd henaint, wedi rhoddi ei ofal gwain- idogaethol yn Brynmair a Beulah i fyny. Y cyhoeddiadau i'w hanfon i Mr. E. Davies, Glandwr, Beulah, Newcastle Emlyn, a Mr. D. Owen, Brynmair, Aberporth, Cardigan. AT EIN GOHEBWYR. Uno'r Aelodau.—"Wedi tipyn o ystyriaeth uwchben eich ysgrif, daethom i'r penderfyniad mai gwell yw peldio wi chyhoeddi. Bydd yn llawer haws i ch-rithau gael eglurhad ar yr hyn a geisiwch drwy ymofyn yn bersonol & swyddogion yr eglwya yn y lie, na thrwy godi y mater i ddalenau newyddiadur. Conor Gonestrwydd.—Pan yn gwneud cyfeiria.d at lyfr o eiddo y Parch. A. S., dywedwch ei fod wedi ei gy- hoeddi yn y fl. 1662. Os mai y diweddar Azariah Shadraeh a olygwoh, rhaid eich bod wedi tyfeiliorni yn fawr, oblegid nid oedd yr hen wron hwnw wedi gwneud ei ymddangosiad yn 1762, can' mlynedd ar ar ol hyny. MEWN LLA.W-—FfeBtin, R. T. Williams, &0., &c.
DIWYGIAD Y DEDDFAU TIROL YN…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DIWYGIAD Y DEDDFAU TIROL YN BWNC Y DYDD. MAE yn ddiau y gellid yn hawdd gyflwyno llawer o'r amser a dreuliwyd i ddadleu ar y Mesurau Gorfodol sydd yn awr o flaen y Senedd, i ystyried Cwestiwn y Tir. Mae amryw o'r Rhyddfrydwyr hyny a bleidleis- iasant dros Fesur Amddiffynol y Llywodr- aeth yn ei ddarlunio fel 'angenrhaid anffodus.' Bydd yn dda gan lawer os bydd i'r Mesar, ar ol ei basio, fod yn foddion i gyrhaedd yr amcan. Os bydd iddo weithredu fel rbybudd nad yw y gyfraith i gael ei herio yn ddigosb, ac na oddefir trais a therfysgoedd, bydd pawb yn foddion. D/l'd cofio mai nid amean y Rhyddfrydwyr a'r Ceidwadwyr yw gosod eu sawdl ar wddf yr Iwerddon; na, gwna Mr. Gladstone a Mr. Forster. mae'n ddiddadl, aberthu llawer er cael gwared o'r angenrheid- rwydd sydd, yn ol eu barn Lwy, yn galw am wladlywiaeth o'r fath. Fodd bynag, y mae y Mesur angbymeradwyol hwn ar ei ffordd i ddyfod yn Ddeddf SeneddoJ; ac er fod llawer o welliantau wedi eu gosod i Jawr er cael eu dadleu yn y pwyllgor, gellir yn hawdd iawn drefau y rhai hyny. Gan hyny, nid oes genym ddim i'w wneud ond gwynebu prif gwestiwn y dydd, sef 'Diwygiad Deddf y Tir.' Mae arnom ofn fod y wlad o'r braidd heb fod yn ddigon addfed i ymdrin a'r cwestiwn pwysig hwn. Nid yw corff y bobl yn deall yn ddigonol ddeddfau y tir, a thrwy hyny, er nad o un bwriad maleisus, ond yn syml, o eisieu gwytodaeth ddyledus, y mae llawer o ddrychteddyliau gwyllt wedi ac yn cael eu creu. Mae'n wir too. llawer o lyfrau, pamphledau, &c., yn cael eu harllwys o'r wlad ar y pwnc, ond yr hyn sydd eisieu yw cyfres o bamphledau rhad y gellir ymddibynu arnynt—pamphledau ceiniog—pa rai a garia ddylanwad gyda hwynt, ac y bydd enwau aelodau y pwyllgor neu'r gyfryw gymdeithas yn ddigonol brawf am eu cywirdeb. Os na bydd i athrawon gwirioneddol ymddaagos, gorchuddir y tir gan au-athrawou, a hauant hadau drygiotius yn mhob eyfeiriad y cerdd- ant. Y mae yn. anmhosibl i undyn wynebu Mesur Tirol Diwygiadol yr Iwerddon heb gydymdeimlo a'r tirfeddianwyr presenol. Mae y Gwyddel yn edrych ar y tirfeddianwr yn rhy fynych fel anghenfil gwancus, pa un sydd am anrheithio y tlawd, newynu yr amddifad, a sychu y tenant i fyny. Mae y cyngreirwyr Gwyddelig yn ceisio argraffu yr un egwyddor ar feddyliau pobl y wlad hon. Ond nid yw yn annhebyg nad yw y tirfeddianwyr yn yr Iwerddon yn gwahaniaethu rhyw gymaint oddiwrth yr un dosbartb. yn ein gwlad ni. Buasai pob dyn, pe gallai, yn byw heb dalu ardreth, yn hytrach na rhoddi swm penodol o'i enillion yn flynyddol i dala i'r tirfedd- ianwr. Edrychir yn gyfiredin ar ddydd yr ardreth fel rhy" fwgan yn dyfod o bell; ac ar ddydd o'r fatb, mae'n bur debyg nad yw y meistr tir yn ddyn wrth fodd calon pawb. Ond nid bai y tirfeddianwr yn unig yw hyn. Nis gall ddim wrtho. Rhaid idde yntau fyw, a'i ardreth yw ei gynaliaeth. Mae genym le i gredu, tra y mae yn yr Iwerddon lawer o dir-ddalwyr syddJyn gwneud eu goreu i dalu eu hardrethoedd, fod yno lawer o rai diog ac anoneat-neu anonest os nad yn ddiog-dynion sydd yn ymdrechu cymeryd mantais ar y dyddiau drwg a therfysglyd hyn i geisio gwneud i ffwrdd a'u cyfrifoldeb cyf- reithlon a tbymhorol ar draul eu meistr tir. Mae yn anmhosibl cydymdeimlo fodd yn y byd a dynion o'r fath hyn; maent yn Hadron cymdeithasol, pa rai sydd yn haeddu nid yn unig ddifeddianiad, ond carchariad. Gan hyny, y mae'n anmhosibl derbyn esbonied y Pwyll- gor Tirol Gwyddelig, fod yr anghydfod pres- enol yn yr Iwerddon 'yn symudiad yn erbyn pa un y mae yr oil o'r genedl yn sefyll.' Dyna eu darnodiad hwy o'r achos fel y goiodir ef allan mewn pampbledyn sydd newydd ei gyhoeddi. Yr ydym yn cyfaddef y cywreinrwydd gyda pha un y darfu iddynt hwy, fel tirfeddianwyr, draethu eu Ilen oddi- ar eu safle eu hunain, a buasai yn erbyn eu bychanu er mwyn ceisio eu cadw o'r Ilys, Y mae ganddynt achos, ac achos cryf i'w roddi iddynt uu hunain. Gallant ddyfynu awdur- dodau hybarch.befyd i gynorthwyo eu golyg- iadau eu hunain. Mae ganddynt, yn wir, agos bob enw mawr yn eu hochr eu hunain. Dylid cydnabod fod ganddynt reswm dros ofni y bydd panic yn rhwym o gymeryd mwy oddi- wrthynt nag a all cyfiawnder roddi iddynt. Felly y maent ynfwy agored igydymdeiaalad ac ystyriaetb. Ar y Haw arall, ni ddylid anghofio eu bod wedi dadlu y cwestiwn a gwneud yn hysbys eu golygiadau ea hunain mewn pamphledau a dderbynir gan bersonau meddvlgar, ac na bydd i'w hachos gael edrych heibio iddo. Y mae y buddiant tirol yn y Senedd yn rhy gryf i gael ei orchfygu. Ty yr Arglwyddi sydd Dy o arglwyddi tirol, ac 1 fally gan mwyaf Ty y Cyffrediri hefyd. Y diffyg mawr sydd wedi bod hyd yn hyn yw yr anhawsder mawr i gael diwygiad mewn deddfau tir. Pa beth a groesa y sianel mewn dull o Ddeddfau Tirol er gweinyddu cyfiawn- der, neu fel cenadvm o heddweh i'r Iwerdd- on, gall y meistr tir fod yn sicr na bydd i'w fuddianau ef gael eu hesgeuluso. Diau y bydd i'r hyn a eilw y Sais yn 'Three F's/ fod yn asgwrn y gynen yn yr ymdrechfa agothaol. Mae yn cael ei ddweyd fod y ddwy blaid wleidyddol yno yn barod i setlo y cwestiwn ar y tri term hyn. Yr unig beth sydd genym yw gallu cael allan a all, neu ai ni all, y 'Three F's ein cynorthwyo i ddyfod allan o'r dyryswch, a sefydlu, ar seiliau cedyrn, ddeddfau tir y dyfodol. Gwyddem ddarfod i'n hynafiaid ddeddfu, ond ein gorchwyl ni yw dileu llawer o'r deddfau a basiwyd ganddynt hwy. Ni fu- asai y Tori mwyaf yn dyiiiuno cael ei lyru yn ol i oes William y CynLif, neu oes y Tudoriaid. Yr ydym wedi tyfu allan o hen ddeddfau ac arferion, yn debyg fel y mae y plentyn yn tyfu. Mae llawer o waith diwygio. Ni wna pair y plentyn y tro i'r dyn, ac felly ni wna hen ddeddfau yr oesoedd o'r blaen y tro i syniadau rhyddfrydig y dyddiau hyn. Rhyddid heb eriodaeth sydd eisiau. Nidrhyddid yw gorfod- aeth, a thra y byddo y wlad yn cael ei gorfodi i unrhyw beth, nis gall heddwch fodoli. Mae y ddwy egwyddor yn groes i'w gilydd.
JIL:-Y diweddar Mr. ROBERT…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
JIL: Y diweddar Mr. ROBERT OLIVER REES, Dolgellau. adgofion; Ie, y diweddar! Dyna a raid ysgrifenu mwyach mewn cysylltiad A'i enw yntau, ac y mae yn chwith iawn gorfod gwneud hyny. Er fod yr afiechyd a fu yn angeu iddo er's blynyddoedd wedi cyffwrdd yn ysgafn ag ef, nid oedd neb yn meddwl fod ei ddiwedd mor agos, am ei fod yn parhau hyd o fewn ychydig ddyddiau i fyned i mewn ac allan megys cynt yn mhlith ei frodyr. Efe ydoedd mab ieuangaf y diweddar Mr. Ellis Rees, gynt o'r Star, ond yn ddiweddar o'r Blue Lion, yn y dref hon. Ddeugain mlynedd yn ol, yr oedd ei dad yn hynod yn mhlith el gyfoedion o herwydd glanweithdra a phryd- ferthwch personol-bob amser yn drwsiadus ei wisg, ac heb frycheuyn i'w weled arni. Am flynyddau, bu yn ysgrifenydd yr Hen Fane Cynilo yn y dref. Yr oedd ei fam hefyd yn un o dair chwaer nodedig yn mhlith eu cydnabod. Yr oedd Mrs. Rees, Mrs. Pugh, priod y diwedd- ar Mr. John Pugh fleuan Awst), y cyfreith- iwr, yr argraffydd, a'r bardd, a Mrs. Griffiths, Penbryn, yn hynod oblegid plaender di- addurn eu gwisgiad, ac mor bynod o herwydd y eyflawnder anarferol o synwyr eyffredin a feddianent. Ni fu tair chwaer erioed o fewn cylch ein hadnabyddiaeth ag yr edrychid arnynt gyda mwy o barch ac edmygedd nag ar y chwiorydd hyn. Merched beddynt hwy i'r hen Robert Oliver o'r Angel gynt, a bydd enw yr hen ioneddwr hwnw yn hir mewn coffadwriaetb, oblegid mai yn ei barlwr ef y sefydlwyd Beibl Gymdeithas Gynorthwyol Dolgellau gan Mr. Charles yn 1813, ac yno hefyd y cynelid y eyfarfodydd blynyddol am am amrai flynyddau. Derbyniodd Mr. Reeaaddysg dda yn morea el oes. Ni bu tymor mwy dysglaer ar yr Ysgol Rad yn Nolgellau o fewn ein cof ni nag yn y tymor pan oedd yr hen Owens o'r Brynbella yn brifathraw ynddi. CafoddMr. Rees fantala o rai biynyddau o dan yr hen athraw, a daeth yn Lladinwr lied dda, a meddai adnabyddiaeth nid cyfyng o'r iaith Roeg. Bu am dymtyr wedi gadael yr ysgol gyda'r hen Ddoctor Evans yn astudio meddyginiaeth, a symudodd oddiyma am ysbaid i Aberystwyth at Mr. H. Humphrey, Chemist, (wedi hyny o Bortmadoc). Dychwelodd i Ddolgellau, ac ymsefydlodd fel Chemist a Druggist tua'r flwyddyn 1841, Yn fuan wedi hyny, dechreuodd werthu llyfrau, ac am flynyddau, efe oedd yrunig lyfrwerthydd yn y gymydogaeth. Gwnaeth ddaioni annhraethol yn y cyfeiriad hwn, yn enwedig yn y blynyddau cyntaf; oblegid yr ''oedd ganddo ddylanwad anarferol ar yr ieu- enctyd, a defnyddiodd yntau y dylanwad