Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

JIL:-Y diweddar Mr. ROBERT…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

hwnw i'w cyfarwyJJo i ddyfod yn feddianwyr ar y dosbartb goreu o lyfrau o fawn ei gyr- haedd. Y canlyniad ydoedd i d6 o fechgyn ieuainc nodedig o ddarllengar a gwybodas, ac ystyried eu hamgylchiadau, gyfodi yn yr ardal; ac y mae oryn nifer o honynt heddyw ynadnabyddus fel gweinidogion yr efengyl yn mhlith y gwahanol enwadau. Tua'r flwyddyn 1849 y dechreuwyd cynal y gyfres hynod o gyfarfodydd Adroddiadol yn Dolgellau, dylanwad y rhai a ymdaenodd yn fuan iawn dros boll Gymru, ac i'r. rhai y priodolat Mr. Rees bob amser ddechreuad Cyfarfodydd Uenyddol ein gwlad. Y prif ddarnau cystadleuol yn ycyfarfodydd cyntaf oeddynt 'Cywydd y Daran/ Dafydd a Goliath,' 'Joseph a'i Frodyr,' o waith yr hen fardd Dafydd Ionawr. Tynodd hyny sylw Mr. Rees at waith y bardd; a'r adeg h6no y penderfyuodd efe gyhoeddi argraffiad cyflawn o'i gyfansoddiadau. Nid oes ond ychydig yn gwybod y llafur a aymerodd efe i wneuthar y gyfrol hono mor gvflawn a chywir ag ydyw. Yr oedd y Parch. John Jones, M.A., o'r Borth, brawd Thomas Jones, Ysw, Bryntir- ion, yn nhy yr hwn y bu yr hen fardd farw, yn cofio gweled copi o Gywydd y Drindod wedi ei adolygu a'i ail ysgrifenu i raddau helaeth gan y bardd yn ei flynyddau olaf; ond erbyn myned i chwilio am dano, nid oedd llinell ar gael, na neb yn gwybod pa beth a ddaetho hooo. Teimlai Mr. Rees na buasai y gwaith byth yn gyflawn heb gael gafael yn hwnw. Bu fwy nag unwaith yn Llundain yn chwilio y British Museum a llyfrgelloedd eraill, ond yn ofer. Wrth ddychwelyd yn ddigalon y waith olaf, trodd i dy y diweddar Mr. Edward Parry yn Nghaer. Ni bu yno bum' munyd cyn cael allanfodyrhenlengarwr hwnw yn gwybod mwy nag a gymerai arno o hanes y copi colledig. Ond pa fodd i gael gafael arno oedd y gamp. Bu y pwyll a'r arafwch a hynodai gymeriad Mr. Rees o fantais ddirfawr iddo y tro hwnw. Pe gwybuasai Mr. Parry nad oedd yr un copi cyflawn yn bod, ond copi dilun a didrefn, wedi ei ysgrifenu ar ei hyd ac ar ei draws, yn frahob dull a modd, oedd yn el feddiant et-buasai ei werth yn treblu yn ngolwg yr hen lenor yn y fan, ac y mae yn amheus a fuasai llogell Mr. Rees yn ddigon o bwysau i'w brynu. Ond deallodd Mr. Rees yn fuan mai syniad Edward Parry ydoedd mai draft copy-braslnn-oedd gan- ddo ef, ac fod yr hen fardd wedi gadael ar ei ol gopi cyflawnach. Cynygiodd ei werthu i Mr. Rees am bris anarferol o resymol, fel y gallai ei gymharu a'r copi cyflawn oedd ar gael Daeth Mr. Rees a'r copi hwnw adref fel un wedi cael ysglyfaeth lawer. Collodd ei gysgu am wythnosau a misoedd, nes llwyr feistroli pob llinell a nodiad o eiddo y bardd, ac yna ysgrifenodd bob llinell o'r llyfr ddwy waith drosodd cyn ei argraffu. Ni arbedwyd Da thraul na thrafferth ganddo i wneuthur 'Grwaitb Dafydd Ionawr' yn gofgolofn deilwng o r bardd Cristionogol; ac y mae yn dra amheua genyf a ddygwyd un gyfrol Gymreig o'i maint drwy y wasg yn y deng mlynedd ar hugain diweddaf mor ddiwallau ag ydyw y gyfrol hbno. Rhoddodd y derbyniad a gafodd ar y pryd galondid i Mr. Rees fyned rhagddo i gyhoeddi <0ysoadeb y Pedair Efengyl.' Bu hyny o adnabyddiaeth oedd ganddo o'r iaith Roeg o fantais ddirfawr iddo y pryd hwnw. Dar- llenodd ugeiniau o lyfraa ar lenyddiaeth, daearyddiaeth, ieithyddiaeth, a deongliaeth y Beibl trs? yn cyfansoddi y Jlyfr hwn. Er dilyn Robinaon, fel, yn ostyngedig, y dywed efe ar wynebddalen y llyfr-—y gwir yw, y mae y Gysondeb yn llyfr mor wreiddiol i Mr Rees ag unrhyw lyff a ysgrifenwyd o'r oywelyb natur, ac y mae yn ftrwyth llafur a gofal dirfawr. Gresyn dirfawr na chawsai ei ymdrech i gyfodi cofgolofn deilwng o leuan Gwynedd ei gwerthfawrogi yn well gan ei gydgenedl. Yr oedd ganddo feddwl mawr o Ieuan, ac yr oedd gan Ieuan feddwl mawr iawn o hono yntam. Ba Mr. Rees am flynyddau yn casglu ei weithiau yn nghyd. Bu am flyn- yddau yn dysgwyl wrth un o gyfeillion mwyaf mynweaol leuan i ysgrifenu conant teilwng iddo. Wedi aros am tuag ugain mlynedd, aeth at y gorchwyl ei hunan, a dygodd gyfrol goffadwriaethol allan. Cnd erbyn hyny, ysywaeth, yr oedd cenedl wedi cyfodi nad adwaenai mo Ieuan Gwynedd, ac ni dder- byniodd ei waith y gefnogaeth a deilyngai. Pa Gymro a aeth i'w fedd yn ddeuddeg ar hugain oed a adawodd gynifer o ysgrifau rhagorol ar ei ol, a'r rhai hyny wedi eu hys- grifenu yn ystod rhyw ddeng mlynedd o nychdod ac afiechyd poenus? Oyhoeddodd amrywiol fan bethau yn ystod ei oes heblaw y rhai a grybwyllwyd, ond 'Marl Jones' a gafodd fwyaf o sylw, a mwyaf o gylchrediad. Nid oes nemawr iaith ar gyfandir Ewrop nad yw hwn wedi ei gyfieithu iddo, so y mae wedi ac yn cael ei argraffu yn amryw o gangen-ieithoedd yr India. Ar gals Mr. Reescyfieithiwyd ef iiaith y Cassiaidgan y Parch. Hugh Roberts. Argraffwyd ef ar draul Mr. Rees, ac efe anrhegodd y Gym- deithas Genadol a mil o gopiau yn rhad. Y mae y llyfr yn rhedeg fel 'tan gwyllt' drwy y Bryniau, yn ol y newyddion diweddaraf, a hanes'Mari Jones a Lewis Williamaar dafod pob bachgen a geneth drwy y wlad. Ond i mi, yr adgofion mwyaf dymunol am Mr. Rees ydyw adgoflon am dano mewn cysylltiadau crefyddol. Y mae adgofion am ei lafur ef a'r diweddar W. Williams, Ysw., Ivy House, gyda'r plant o 1842 i 1846, yn mhlith adgofion hapusaf fy oes. Y cyfarfod- ydd a gynelid ganddynt hwy y blynyddau hyny o dan y gallery yn yr hen Gapel Mawr, rhwng un a dau o'r gloch prydnawn Sabbath, oedd y cyfarfodydd mwyaf dyddorol y bum ynddynt erioed. Yr oedd gan Mr. Williams, y pryd hwnw, dalent neillduol i holi ac i wobrwyo plant, a Mr. Rees dalent i adrodd 'stori iddynt, oedd yn anghymharol yn fy nhyb i. Nid oedd digon o demtasiwn mewn ciniaw, na phwdin ychwaith, i gadw neb o honcm y pryd hwnw ar ol. Yn ystod y tymor hwnw y sefydlwyd Cymdeithas Gen- adol y Plant yn Nghapel Salem, ac y dech- reuwyd y cydymgais mewn cyfranu yn fisol rhwng y bechgyn ar genethod-eynllun sydd yn parhan hyd heddyw. Yr oedd eraill o'r brodyr, y mae yn wir, yn meddu talentau anarferol i gadw cyfarfodydd i'r plant, megys y diweddar Mr. David Jones, ac eraill-ond gweinidogaeth Mr. Williams a Mr. Rees a fwynheais i; ac am eu llafur hwy y mae yn weddua i mi ddiolch. Yr oedd Mr. Rees yn selog gyda pha beth bynag yr ymgymerai ag ef. Er ei fod yn fab tafarndy, ni bu yr un dirwestwr mwy selog nag ef yn y dref. Gyda'r Band of Hope, gyda Dirwest, gyda Themlyddiaeth Dda, llafuriodd yn ddyfal a diball hyd y diwedd. Ni laesodd ei ddwylaw ef unwaith yn ystod y deugain mlynedd diweddaf. Ac y mae y llafur dirfawr a gymerodd efe y blynyddau diweddaf gyda'r symudiad o blaid cau y tafarnau ar y Sabbath yn fyw yn nghof pawb. Gyda'r achoa cenadol yr oedd efe yr un mor selog. Bu yn drysorydd cymdeithas genadol y plant yn Salem o'i sefydliad, hyd nes iddo symud i Bethel, ar adeg ffurfiad yr eglwysieuanc yno. Ond ni laesodd ei sel genadol ef yn y symudiad. A chan mai adgofion yw y llinellau hyn, maddeuer i. mi am grybwyll yma ffaith an- hysbys i lawer. Yn ystod ei lafur cenadol yn I yr India, fe gyfansoddwyd Geiriadur Cassiaeg a Saesonaeg gan y Parch. Hugh Roberts-brodor o Ddolgellau, ac wrth gwrs, un o noddedig- ion Mr. Rees. Wedi dychweliad Mr. Roberts i Gymru, fe argraffwyd y Geiriadur; a chan fod cymaint o alwad am Mr. Roberts yma a thraw, yr oedd yn anmhosibl iddo dalu sylw priodol i gywiro y prawfleni. Ymgymerwyd A'r gorchwyl hwnw gan Mr. Rees, a meistrolodd ddigon o ramadeg iaith y Cassiaid, fel ag i allu adolygu a chywiro y prawfleni, a dwyn allan argraffiad sydd, medd rhai cymhwys i farnu hyny, yn nodedig o gywir, yn enwedig pan gofir mai dyna yr ymgais gyntaf i gyhoeddi Geiriadur o iaith oedd ddeugain mlynedd yn ol heb un lythyren o honi wedi bod erioed yn ysgrifenedig. Yn y flwyddyn 1853, dewiswyd Mr. Rees yn 'flaenor.' Yr oodd ei frawd, y diweddar Mr. William Rees o Dowyn, yn flaenor er ys blyn- yddau cyn hyny. Dynion tra anghyffredin oedd y ddau. Yr oedd Mr. William Rees yn fwy sydyn a phoethlyd ei dymher grefyddol, os priodol yr ymadrodd—elai ei deimladau ef ar- d&n yn y fan. Ni phetrusodd neb erioed a'i clywodd ef yn dywedyd 'Iesu Anwyl!' nad oedd ef a/r Ieau yn hen gydnabyddion. Ni allasai* neb ond cyfaill calon ddweyd y geiriau fel efe. Yr oedd Mr. R. O. Rees o'r tu arall yn fwy arafaidd—byddai y tan santaidd yn hwy yn cyneu, efallai, ond ni byddai yr oddaith nem- awr llai. Yr oedd teimladau crefyddol dyfnion iawn gan y ddau. Yr oedd y ddau yn hyddysg yn yr Yagrythyrau. Ond gellid meddwl mai yn y rhanau mwyaf profig,dol o'r Beibl yr ym- hyfrydai Mr. William Pees-ya y Testament Newydd, ac yn enwedig yr efengylau, yr ymhy- frydai Mr. R. 0. Rees. Yr oedd hanes a geiriau yr Iesu wedi bod yn destun neillduol ei efryd- iaeth ef. Byddai yn hawdd deall hyny yn fuan wrth ei glywed yn siarad. Ac yr oedd hyny yn peri ei fod yn athraw cymhwys iawn i ddosbarth o wyr ieuainc, a chyda dosbarthiadau felly y treuliodd efe y rhan fwyaf o'i oes yn yr Yagol Sabbathol. Bu am flynyddau yn nodedig o hapus fel holwyddorwr yn yr Ysgol; a' cholled fawr yn ddiau oedd i'r anmhariaeth ar ei glyw i orfodi i roddi y rhan hono o'r gwaith o'r neilldu, ac i ymatal i raddau helaeth rhag dilyn y Cyfarfodydd Yagolion. Bydd colled fawr ar ei ol yn yr ysgol ac yn yr eglwys. Bydd yn golled i lawer llanc ieuane am gyngor amserol a gonest, ao yr oedd cymer- iad y cynghorwr yn peri iddo yn fynych fod yn rasol i'r gwrandawydd. Pa faint o golledion a fydd ar ei ol i dlodion y dref, y mae yn debyg nad.oea ond y Idydd hwnw' a'i dengys. Rhodd- odd lawer o gynghorion meddygol gwerthfawr yn rhad. Rhoddodd lawer o feddyginiaeth hefyd yn rhad i laweroedd. Yr oedd yn rhan o'i natur ef i wneud daioni yn ddystaw. Nid oedd 'udganu' yn gyson ä'i natur mwy nac a'i grefydd ef. Ond fe wneir-ei dynerwch a'i garedigrwydd ef yn hysbys yn y man. Ni roddodd efe gwpanaid oddwfroer i ddysgybl ynenw dysgybl na dderbyn efe ei wobr. Ond nid yw ein colled ni ar ei ol ef, a chymeriadau eyffelyb, er hyny yn ddim llai. Yr oedd llawer o deb^grwydd yn ei farwolaeth ef i'w fywyd. Bu fyw bywyd dystaw a lied ddidwrf-bu farw yn hynod o ddigynwrf ac esmwyth. Llithrodd i lawr i rydau yr afon yn araf a thawel—prin y teimlodd ei fod yn el chroesi cyn cael ei hunan, ni a dybiem, ar y Um arall. Gwyn ei fyd-cael marw yn yr Arglwydd yn 62 mlwydd oed. Y Claddedigaeth. Prydnawn dydd Mercher, hebryngwyd yr hyn oedd farwol o hono i fynwent y plwyf. Yr oedd; Iluaws o weinidogion o wahanol barthau Meirion yn bresenol, yn nghyda gwahanol weinidogion y dref. Ymgynullodd torf enfawr yn nghyd. Gweinyddwyd wrth y ty cyn cychwyn gan y Parchn. R. Roberts, Dolgellau, a D. Davies, Abermaw. Yna symudodd y dorf yn miaen yn araf i'r eglwys, ac oddiyno i'r gladdfa, lie y gwasanaethwyd gan Canon Lewis, M.A. Gor- phwysed Y11 dawel hyd foreu caniad yr udgorn, "Pan bydd dorau beddau y byd, Ar un gair yn agoryd. Gweithiodd yn galed yn el ddydd a'i dymor, a boed iddo bellach esmwyth hûn. Na sanged un droed anystyriol ar ei fedd, ac na aflonydder ar ei lweh. Bu yn Ymneillduwr trwyadl, pleid- iodd Gymdeithas Rhyddhad Crefydd, dadleuai am "cemetery" i r dref, cymeradwyai Fesur Mr. Osborne Morgan, ond paham, atolwg, y cladd- wyd ef fel Eglwyswr? Yr oedd yr Eglwys yn [ orlawn. ,Cauwyd holl fasnachdai y dref. [ orlawn. ,Cauwyd holl fasnachdai y dref.