Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
I''.YCYNWYSI AD If
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
YCYNWYSI AD f YrWythnos 1 Dadgysylltiad 2 Cyfarfod Rhyddfrydol yn y Bala 3 Yr Eisteddfod Genedlaethol 4 Dolgellau 5 Genedigaethau, Priodasau, Marwolaethau 5 o Ben y Twr 6 Gohebiaethati 6 Afchrofa Artnibynol y Bala 7 Mr. Fawedtfc, A.S., ar y Sefvllfa Wleidyddol 8 Adgof uwch Anghof, gan Gutyn Pbrill 9 Sabbath o Orphwys 10 Richard Owen yn Le'.rpwi 11 Barddoniaeth 11 Hysbysiadau .12,16
YR ALPHT YN FETHDALWK.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR ALPHT YN FETHDALWK. NID peth newydd yw hyn, ond yr oedd yn berffaith ddealledig pan oed ) y Gyn- adledd yn eistedd, ac y mae y penderfyn- iad yr ydys yn awr wedi dyfod iddo i gy- mhwyso unrhyw gyllid fydd yn wcddill o ffynonellau tybiedig at ofynion union- gyrchol y wlad, yn hytrach nag at lehiau y 1"3 y ddyled, yn ffordd mor esmwyth i ddwyn y mater yn rymus o dan sylw y bondhold- ers ag yr oedd yn hawdd ei dyfeisio, A fydd y ffordd hon o atal y til yn ddigon- oligyfarfod anhawsderau arianol y sef- yllfa, sydd amheus. Fe sibrydir fod ben- thyciad y swm o j68,000,000 yn cael ei drefnu gan y Llywodraeth Brydeinig, ond nid yw yn hawdd credu hyny. Y mae hyn yn debycach i ragdremiadau ar gan- lyniad posibl ymweliad ArgLwydd North- brook, na chofnodion o benderfyniadau ag sydd wedi en pasio. Gwneir adroddiad Arglwydd Nortlibrook yn gyntaf yn swyddogol,ac nid ywyr adroddiadau a wneir yn bresenol yn ddini ond lled-dyb yn unig.
MU. STANLEY A UYFFRYN Y CONGO.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MU. STANLEY A UYFFRYN Y CONGO. Y mae Mr. Stanley y teithydd yn tybied nad oe's ua- rh an o Affrica yn meddJi dyfodol mor ddysglaer o'i blaen a Dyffryn y Congo, naoun rhan o'r Dyffryn hwnw yn yrnddangos mor addawol aY I gyfran y mae y Gymdeithas Gydgehedl- aethol yn dal rheolaeth drosti. Ond, yn ol pellebyr o Berlin, nid yw Proffeswr Schweinfurtli. yn gwbl o'r un farn Y mae ef yn rhoddi y Raenoriaeth i'r Niger, ac yn datgan fod y diriogaetli auigylch- ogylch ei Delta y fwyaf pwysig ac addaw- ol ar holl dueddau gorllewinol Affrica. Ac y mae efe yn gotidio, oblegid y rheswm hwn, tod Lloegr wedi blaenori Germany yn nghyfodiad ei baner genedlaethoi. yno; ond awgryma, gan nad yw Lloegr ond wedi meddianu: un draethell ar yr afon, naddylai Germany golli dim, amsercyn meddianu y Hall,
-TALU'R .PVVYTH I FEISTR GREULAWN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TALU'R PVVYTH I FEISTR GREULAWN. Y mae llu mawrohonynt yn y byd, a'u cydwybodau yn ddigon ystwyth i drin eu prentisiaid fel caethion, cyhyd ag y gallont gadw yn glir ag arolygydd y Llywodraeth. Oddiwrth ddatguddiadau hynod a wnaed ddydd Gwener yn Llys yr Heddgeidwaid yn Warrington, ym- ddengys fod arolygiaeth y ffactris yn y dref hono yn llai effeithiol nag y dylai fod. Yr oedd yr achos yn cael ei ddwyn yn mlaen gan un Edwin Mills, torwr ffustian, yn erbyn ei brentis, Selina Woods, pym- theg oed, oblegid i'r ferch absenoli ei hun o'r gwaith, a mynai y meistr ddeg swllt o iawn am y trosedd tybiedig. Dangoswyd fod y ferch wedi ei chadw gyda'i gwaith o naw o'r gloch boreu Gwener hyd yr un awr bore Sadwrn; ac i'w meistr, pan elai yrenethadrefun noson arall rhwng deg ac unarddeg o'r gloch, ei throi yn ol i'r weithfa, ac anfon geneth arall allan i gyrchu ymborth i fewn. Yr oedd ei ym- ddygiad, a'i ymddyddan hefyd, o'r fath nodwedd ag a barodd i'r ynadon ddirymu rhwym-ysgrif yr eneth, ac i fynegu, ei addysg i'r rhieni yn Warrington vn gyff- redinol, os anfonent eu merched i weithfa Mills, y byddentyn eu hanfon i le perygl- us. Y mae yn anhawdd dyfalu pa foddy gallasai y fath gyfiwr ceryddadwy fodoli o dan y Factory Acts.
Y SKFYLLFA YN GOLEUOAR GORDON.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y SKFYLLFA YN GOLEUOAR GORDON. Y mae tystiolaeth ychwanegol newydd gyrhaedd y wlad hon am feistrolaeth g yr Gordon yn y Soudan. Gorphenat" 24, darfu i'w filwyr gigyddio byddin y gwrth- ryfelwyr oedd yn ymdaith o Kordofan i Khartoum; ac ar y 30ain o Awst, gorch- fygwyd yr Arabiaid oedd yn gwarchae y ddinas olaf, pryd y lladdwyd y Sheikh Sidi, ei fab, a'i ddilynwyr. Yr oedd Gordon o un tu, a'r Mudir o Dongola o'r tu arall, ac felly yn meddu rheolaeth gyf- lawn ar ddiffaethwch Bayudah, rhwng Ambukol a Shendy, y mae y gwron wedi darostwng y Nile o Khartoum i Berber. Y mae newyddiori yr un mor foddhaol yn cael eu hanfon hefyd o Suakim. Yr oedd y llwythau cyfeillgar yno wedi curo ymaith filwyr Osman Digna, ac ailfedd- ianu y ffordd i Berber. Mewn canlyniad 1 hyn geilir yn bresenol naill ai ymdaith yn mlaen i Khartoum, neu encilio o'r pwynt liwnw ar hyd y Nile, neu drwy Suakim a Berber. Y mae y newyddion hyn am Iwyddiant Gordon yn cael eu creiu yn gyffredin yn bresenol;ac y mae y Mudir o Dongola,er yn cael ei ddrwgdybio mewn rhai ileoedd, wedi profi yn ddigyfnewid a chywir yn î yr hysbysiadau, a anfonai etc Cairo. Heblaw hyny, y mae y canlyniadau a adroddir yn bresenol yn dilynyn naturiol yrhyn a ddygwyddodd o'r blaen. Fis- oedd yn ol anfonodd Gordon genadwri o Khartoum yn dweyd, Pan gyfyd y Nile byddaf yn alluog i roddi cytrif da o'r gwrthryfelwyr-" Bu cystal a'l air. Tra y bu yr afon yn ddigon uchel i nofio ager- long,|bu yntau 5yntalluog i ysbeilio a din- y strio y wlad oddiamgylch—cad w Berber mewn cyflwr o ddychryn beunyddiol, ac yn awr i ddryllio y rhwymau oedd yn ei gadw yn Khartoum. Y gofyniad yn bresenol yw, Pa mor bell y bydd i'r hynt filwraidd er ei ryddhad fyned rhagddi ? Y mae Gordon erbyn hyn wedi rhyddhau ei hun, ac y mae cenadaeth Arglwydd Wolseley drosodd cyn iddo fyned yn ei flaen yn mhell. Gwesgir gyda Iia-wer o ddadwrdd ar y Llywodraeth am anfon y fyddin yn ei blaen i Khartoum, a digon c5 tebyg y bydd hithau yn awyddus i fyned; ond y mae Mr. Gladstone wedi datgan amryw weithiau nad oes gan Loegr un- rhyw orchwyl yn y Soudan heblaw rhydd- hau Gordon; a gobeithiwn y bydd iddo sefyll wrth ei ddatganiad,
Y TORIAID YN CWBRYLA A'R GWIRIONEDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y TORIAID YN CWBRYLA A'R GWIRIONEDD. Yr ydym yn clywed yn feunyddiol, na ddarfu yr Arglwyddi wrthod Mesur yr Etholfraint; ond os na ddarfu. iddynt ei wrthod, pa beth a wnaethant? Y mae atebiad SY" Stafford Northcote, a champ- wyr eraill mewn hocedwaith, yn deilwni; o Jesuitiaethyn eidyddiau gwaethaf. Cawii ganddynt ddau adroddiad mewn amddiffyniad i'r haeriad hynod na ddarfu yr Arglwyddi wrthod y mesur. Yn un, dywedir na ddarfu iddynt ond yn unig dodi yrailddarlleniad heibio dros amser, ac mai Mr. Gladstone mewn gwirionedd a'i gwrthododd, neu, o leiaf, a'i hysbeiliodd o'r charm o gael ei ddarllen, drwy dori i fyny y Senedd. Yn awr, nid ydym yn amheu nad yw hyn yn eli rhagorol i'r gydwybod Dofiaidd; ond y mae yn ym- ddangos yn debyg iawn i ddadl y dyn oedd ynrhesymu nad oedd wedi newynu ei blentyn i farwolaeth, ond mai y plentyn oedd yn gomedd dal allan hyd nes byddai ei giniaw yn barod. A oedd y pendafig- ion yn meddwl y gwnelai, neu y gallai Ty y Cyffredin ddysgwyl hyd y gwelent hwy yn dda am dymhor anmhenodol? A oeddynt yn gwybod yn berffaith dda y bydd-ii yr eisteddiad yn terfynu oddeutu neu ar ddyddiad neillduol ? Oeddynt wrth gwrs; ac eto ni wnaethant un brys i ddarllen y mesur, Ac yn awr ceisiant berswadio y bobl na wrthodasant y 1 mesur.