Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

NERTH YR EGWYDDOR WIRFODDOL…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NERTH YR EGWYDDOR WIR- FODDOL MEWN CREFYDD YN DDADL DROS DDADGYSYLLT- IAD. YSGRIF II. Er ategu ein gosodiad parthed nerth yr egwyddor wirfoddol ni raid i ni ond cyf- eirio meddyliau ein darllenwyr at hanes yr eglwys gyntefig, h.y, Apostolaidd, na chanfyddant ar unwaith fod cynaliad qrefydd yn ffrwyth uniongyrchol yr eg- wyddor odidog hon; gan hyny mae ymgais presenol agorphenol Ymneillduwyr Cymiu am ddadgysylltiad yn hollol gyson adysg- eidiaeth y gwirionedd dwyfol. Teflir i wyneb gweinidogibn Ymneillduol nad yw eu hymgaisyn euhysgrifau a'u hareith- iau yn ddim amgen na ffrwyth eiddigedd a chenfigen at safle uwcbraddol offeiriaid yr Eglwys Sefydledig, canataer fod hyny yn wirionadd, onid naturiol yw iddynt deimlo yn eiddigus. Tra yn cofio fod safle uwchraddol (os uwchraddol hefyd)! yr offeiriaid yn cael ei sicrhau ar draut gorfodi dynion nad ydynt yn credu mewn urdd o'r fath i'w cynal—ond atolwg ai gwir hyn ? Na, yr ydym yn dra sicr nad oes yr un gweinidog Ymneillduol yn teimlo y gradd lleiaf o genfigen nac eidd- igedd tuag at un offeiriad fel person, ond teimlant yn eiddigeddus o herwydd y gormes a'r trahausder drwy ba un yr honant eu huwchafiaeth, a'r moddion an- ysgrythyrol a ddefnyddiant i'w sicrhau, eiddigedd ydyw yn codi dan ddylanwad y y yr ystyriaeth fod egwyddorion pur yr efengyl yn cael eu hanwybyddu a'u rhoddi o'r neilldu, a thrwy hyny yn llyffetheirio hawliau. personol dyniou ârhaffau deddfau dynol, tra y mae yr efengyl, safon ymddyg- iad Cristionogol,yn cydnabod yr egwyddor honosydd yn gosod gwerth ar gyflawn- iadau dynion, *»c yn penderfynu eu teil- yngdod ger bron Duw. Ni raid i ni ond olrhain hanes yr egwyddor wirfoddol yn ngly"n ag anghydffurfiaeth ac Ymneilldu- aeth Cymru a Lloegr na cheir prawf diam- heuol o'r nertha'r gallu yn, pygiad yn mlaen waith crefydd yn y byd. Ychydig amser yn ol, ymddangosodd taflen gyda'r Non- conformist, yn cynwys ystadegaethau deg o'r prif enwadau Ymneillduol yn Lloegr a Chymru, yr hon a rydd olwg i ni ar nerth yr egwyddor wirfoddol, a gallu yr eglwysi rhydd, na raid i'r un Ymneillduwr gy- ■wilyddio o'i blegid. Y mae gan y deg enwad yma naw mil o weinidogion, un fil ar bymtheg o addoldai, a mwy na miliwn a haner o aelodau, a chesglir fod ganddynt oddeutu tair miliwn o wrandawyr, yn cy- meryd i fyny y nifer luosog o bedair miliwn a haner- yn perthyn yn union- gyrchol i ddeg o brif enwadau Ymneillduol Lloegr a Chymru. Cynelir crefydd gan yr enwadau yma yn hollol wirfoddol. Ni roddir cyfrif faint a gesglir tuag at ddyled eu Capeli, at y weinidogaeth, ac achosion Cartrefol, ond, a gadael y pethau yna ar wahan, cesglir ganddynt tuag at y cenad- aethau tramor, cymdeithasau dyngarol, a'r colegau, dros naw can' mil o bunau; ac heblaw hyn, gofalant am yr achos gartref yn ei wahanol gysylltiadau. Cofier fod y swm anrhydeddus yna yn cael ei roddi gan dclynion sydd yn cael eu gorfodi i dalu tuag at gynal sefydliad nad ydynt yn credu ynddo; heblaw byny, ac oni bai fod yr egwyddor wirfoddol yn gref buasai ei llethu a gorfodaeth hefyd wedi ei digaloni; ond na, mae nerth yr egwyddor hon yn gweithio ei hun i'r golwg er gwaethaf yr oll,-mor gryf nes cynal naw mil o weini- dogion Ymneillduol heb orfodi yr un geiniog oddiar neb, er yn gorfod talutreth grefyddol hefyd, gan hyny y casgliad ydyw, os yw yr egwyddor wirfoddol yn gweithio mor ragorol tra y gorfodir ei phleidwyr i gario beichiau trymion y degwm, sicr ydyw y gweithia pan y* ceir rhyddid a chydraddoldeb crefyddol. Yn nerth yr I. egwyddor hon y canfyddwn ni wroldeb a phenderfyniad y saint yn ngwyneb yr eriedigaetbauafuargrefydd Yn nerth hon y dyoddefodd ein tadau Ymneillduol y camdriniaethau chwerwaf, eu cau mewn carcharau, eu hysbeilio o'u meddianau, a mwydo y ddaear a'u gwaed. Yr oeddynt yn ewyllysgar yn dewis addoli Duw yn ol argyhoeddiad eu cydwybod, ac yn ddigon penderfynol i wneud hyny er gwybod y canlyniadau, ac felly y bu hyd nes y daeth Deddf y Goddefiad, yr hon syddiyn stigma ar ddeddf lyfrau ein gwlad hyd y dydd hwn. Nis gall yr un Ymneillduwr eg- wyddorol feddwl am dani heb deimlo ei bod yn sarhad ar ei hawliau personol fel bod cyfrifol i Dduw. Ond yr oedd yn dda cael hyny yn nghanol ystormydd erledig- aeth, pan oedd pleidwyr yr egwyddor or- fodol fel gwaed-gwn yn hela y praidd Ymneillduol diniwaid oeddynt yn ceisio addoli eu Duw mewn symlrwydd calon dan ddylanwad, yr egwyddor wirfoddol. Mae yr egwyddor hon wedi cynyddu yn ei dylanwad wedi ychwanegu yn rhif ei phleidwyr,a daeth mor gryf nes argyhoeddi yr awdurdodau mai ei goddef oedd y goreu. Erbyn hyn mae hi wedi lefeinio Cymru yn gyffredinol, fel nad oes dim yn fwy atgas i deimlad y Cymro na'r syniad o gael ei orfodi i dalu at gynal crefydd. Mae'r allorau Ymneillduol i Arglwydd Dduw y lluoedd sydd yn llanw ein gwlad ni, yn brawfion eglur a digamsyniol fod yr egwyddor hon yn gwiieud ei gwaith yn effeithiol a llwyddianus. Naturiol gan hyny ydyw fod trigolion Cymru mor aidd- gar dros ddadgysylltu yr Eglwys oddiwrth y wladwriaeth, o herwydd mae y ffaith fod crefydd yn ei chynaliad yn ddibynol ar ewyllysgarwch ei charedigion, yn nghyda phrawfion eglur o lwyddiant yr egwyddor hon yn ein gwlad, yn dweyd yn gryf, I lawr a'r ffinan ysgrythyrol ac anghyfreith- Z3 lon sydd yn ein gwahanu, a gosoderlpawb ar yr un tir. Mae crefydd wedi ei chynal, ac yn cael ei chynal yn anrhyd- eddus trwy roddion gwirfoddol, ac y mae ymyraeth a rhyddid dyn yn y peth hwn yn myned yn i gysegr santeiddiolaf ei deimladau da at grefydd, fel peth o osod- iad dwyfol. Pe buasai y miloedd sydd yn cynal crefydd oddiar egwyddor wirfoddol yn gallu yn gydwybodol gymeradwyo yr egwyddor orfodol a pherthynas crefydd a'r gallu gwladol ni fuasai gan Loegr a Chymru heddyw vooo o weinidogion yn cael eu cynal yn anrhydeddus ar sawd caredigrwydd caredigion achos y G-wared- wr. Pe buasai achos crefydd i ddibynu am ei gynaliaeth ar orfodaeth trwy rym Cyfraith Wladol, buasaijawdwr Cristion- ogaeth wedi gofalu am nawdd felly iddi, cyn geni Offa brenin Mercia a'i ddilynwyr, Ond ei dystiolaeth ef oedd, "Fy mrenhin- iaeth i nid yw o'r byd hwn." Mae dadleu o blaid perthynas crefydd ay llywodraeth yn cynwys myned yn uniongyrchol yn erbyn yr hyn sydd odidog ac ardderchog yn mberthynas dyn a chrefydd; a mwy na hyny, niilwria yn erbyn dysgeidiaeth yr lesu ei hnn. Gadawodd ef ei achos yn y byd i ofal caredigrwydd ei ganlynwyr, ac yn unol a/r egwyddor hon y gwobrwyir pawb yn y diwedd. "Fy mrenhiniaeth i nid yw o*r byd bwn." Nid yw o'r byd hwn yn ei chychwyniad gwreiddiol- drychfeddwl dwyfol yw hiyn ei tharddiad. Nid yw o'r byd hwn yn ei gweithrediadau a'i dygiad oddiamgylch. Cynhyrfir ei deiliaid gan egwyddorion byd arall—denir hwy, ni orfodir hwy, "O'i wir ewyllys yr enillodd efe nyni, trwy air y gwirionedd. Nid oes yn neddflyfr y brenhin hwn yr un ddeddf orfodol o'i ddechreu i'wddiwedd. Cymhellion yw yr oil a geir ynddo. I Mae pleidwyr yr Eglwys Sefydledig yn ceisio llusgo yr Hen Destament er ategu eu syniadau yn nglyn a pherthynas crefydd a'r Llywodraeth, drwy alw yr Eglwys Iuddewig yn Eglwys Wladol luddewig. Ond nid yw yr ymadrodd yna end twyll i gyd. "Nid oedd yreglwysneuytrefniant luddewig yn seiydliad gwladol o gwbl, yn yr ystyr y ceisia yr Eglwyswyrei ddarnodi, oblegid dwyflywiaeth oedd hono—Duw yn oruchaf ac yn ben iddi. Yr oe Id ei cliyfansoddiad, ei chyfreithiau, a'i llyw- odraeth yn hollol ddwyfol, ac ni oddefwyd ynddiyr un arlywiad. dynol." EtQ ciliant i'r Hen Destament am nawdd i'r degwm. Ond gwahaniaetha eu degwm bwy oddi- wrth ddegwm yr Hen Destament, drwy fod eu degwm hwy yn orfodol, trwy I ddeddfau dynol, a degwm yr Hen Dest- ament i amcan wir benodol 0 osodiad dwyfol o dan yr amgyljohiadau yr oedd y ddwy urdd ynddynt, sef Aaron a Lefi, ond nid oes genym un engraifft o'u casgliad trwy orfodaeth. Eithr y jnae yr Hen y Destament yn frith gan etigrfifftiau o'r ''U egwyddot wirfoddol yn ngl^n ig achos crefydd. Er engraifft, adeiladwyd y Tab- ernacl yn yr anialwch trwy roddion .gwir- foddol. "Cymerwch o'ch. plith Offrwm yr Arglwydd, pob un ewyllysgar ei galon dyged hyn yn onrwrn. i'r Arglwydd., yr wyf yn casau trais yn boeth-ofifrwm- Roll blant Israel a ddygasant offrwm ewyllysgar, yn wýr JiG yn wragedd, y rhai a glywent ar eu calon offrymu tuag at yr holl waith." Adeiladwyd y deml yn Jeru- salem drwy nerth yr egwyddor wirfoddol. "Pwy hefyd a ymrydd heddyw yn ewyll- ysgar i ymgysegru i'r Arglwydd, onid yw yr engreifftiauar uuwaithyn dangos fod lie amlwg yn cael ei roddi i'r egwydd' or wirfoddol hyd yn nod yn yr ,Hett Destament, lie y cilia yr Eglwys wyr aiU nawdd i'w trais. Ond, a chaniatau: fod y yr Hen Destament dan yr hen oruchwyL-" iaeth orfodaeth yn nglyn a. chrefydd, nid yr hen oruchwyliaeth yw ein mater ni 1 fyoed wrthi, eithr yr oruchwyliaeth newydd, goruchwyliaeth cyflawnder yf amser. Ac yn ol y Testament N ewydd mae crefydd i gael ei chynal yn wirfodd,ol gan ei phleidwyr. Ni chawn yn hanes y1 eglwysi cyntefig fod uu ddpddf wedi & phasio gan unrhyw awdurdod i orfodi ne^11 o'r Cristionogion i dalu at gynal crefydd