Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Y GYNWYSIA D I
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Y GYNWYSIA D I Yr Wythnos 1 Nodion Cymreig 2 Adgof uwch Anghof, gan Gutyn Ebrill 3 Nodion Cymreig 2 Adgof uwch Anghof, gan Gutyn Ebrill 3 Hwnt ac yma drwy'r Deheudir 4 Llawenydd Piiodasol yn Nolgellaa 5 Sibrvdion o'r De 6 Y Wasg 7 Ty'r Arglwyddi a'r Etholfraint 8 Dolgellau 9 Ein Diwrnod Gwaith 10 Barddoniaeth 1J I Genedigaethau, Priodaaau, Marwolaethau 12 Hysbysiadau 12,16
Y DIFFYG AR Y LLEUAD
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y DIFFYG AR Y LLEUAD GWELWYD diffyg cyflawn ar y Lleuad nos Sadwrn diweddaf, at yr hwn y buwyd yn edrych yn mlaen gyda dyddordeb mawr gan seryddwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol -gwel wyd ef gydag effaith ryfeddol dros yr holl Deyrnas Gyfunol. Yr oedd y noson yn nodedig o dawel. a phan esgyn- ai y Lloer i'r nefoedd, nid oedd cwmwl i'w ganfod yn y ffurfafen, a pharhaodd y sefyllfa hon ar bethau drwy ystod holl amser y diffyg, yr hwn o ganlyniad a welwyd i'r fantais oreu yn ei holl ym- ddangosiadau. Y cyffyrddiad cyntaf ag ymyl (fringe) cysgod y ddaear a gymerai le chwarter wedi saith, oddeutu dwy awr ar ol cyfodiad y lleuad; ond nid oedd hwn yn ymddangosiad y gallesid ei ganfod ond gydag ysbienddrych nerthol. Y cyffyrdd- iad cyntaf a'r cysgod ei hun a gymerai le chwarter wedi wyth, ac yn uniongyrchol ar ol hyn yr oedd cynydd y diffyg yn eg- lur weledig i'r llygad noeth. Dechreuodd y diffyg yn nghongl aswy isaf y lleuad, I ac yr oedd ei gynydd dros ei holl arwyneb yn gyflym iawn, ac am ddeg o'r gloch .1 -pan oedd y lleuad yn llawn-yr oedd y tywylliad yn gyflawn. Yr oedd y I tywyllwch pryd hwn yn dangos gwrthgyf- erbyniad aiulwg ag ymddangosiad dys- glaer y ffurfafen cyn i'r diffyg ddechreu. Pasiodd y tywyllwch ymaith mor gyflym tag y cymerodd Ie, ac am 1048 yr oedd yr ymddangosiad cyflawn ar ben. Yr oedd y cyftyrddiad olaf yn cymeryd lie 11-48, pryd yr oedd y diffyg yn ymarferol wedi terfynu, can belled ag yr oedd a fyno a sylw y llygad noeth; ac am :2'47 cy- merai y cyffyrddiad olaf a'r gogysgod (pen- umbra) Ie, pryd yr oedd y ffurfafen mor ddysglaer a digymylau a phan y dechreu- odd y diffyg bedair awr a haner yn flaen- orol. Ymddengys fod y dygwyddiad wedi achosi y dyddordeb mwyaf bywiog yn mhob man; a thrwy ystod yr amser y parhaodd y diffyg, yr oedd heolydd dinas- oedd a threfi y deyrnas yn llawn o bobl yn awyddus wylio ei gynydd am oriau- y rhan fwyaf gyda'r, llygad noeth, ond llawer gydag ysbienddrychau a field glass- es. Y farn gyffredinol ydoedd, nas gall- esid gael gwell noson i syllu ar y fath ddygwyddiad anarferol a diffyg cyflawn ar leuad y cynhauaf.
CYFARFODYDD GWLEIDYDDOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYFARFODYDD GWLEIDYDDOL. Parha y rhai hyn i gael eu cynal bob wythnos, ond rhywfodd nid llawer o fyw- iogrwydd adnewyddol sydd yn cael ei dafluiddynt yn mherthynas a phwnc mawr y cyfwng. Ymwelodd Ardalydd Salis- bury a Glasgow yr wythnos ddiweddaf, gyda'r amcan o ddadwneud yr hyn a wnaed yno gan Mr. Gladstone, mae'n debyg, ond trodd y cyfan yn fethiant truenus. Daeth Arglwydd Randolph Churchill hefyd allan ddydd Gwener yn Leeds, ond nid oedd ganddo ond ail ad- roddiad o'r hyn sydd eisoes wedi ei daflu i'r ddadl ar yr Etholfraint. Eu prif ym- gais yw dangos fod y Cyfansoddiad mewn perygl, pryd, mewn gwirionedd, nad oes eto ddim wedi ymyryd aj ef. Dengys fod eu hachos wedi myned i'r pen. Os aiff y Cyfansoddiad mewn perygl gyda'r helynt presenol, hwy fydd wedi ei yru, oblegid anghyfansoddiadol hollol yw i'r pendefigion fyned i reoli y Senedd drwy ei dysgu pryd y dylai ddadgorffori, a di- ystyru llais y bobl. Ni ychwanegwyd dim at ddtdl yr Etholfraint gan y ddau bendefig Toriaidd a enwyd. Bu Ardalydd Salisbury yn Glasgow ddydd lau a dydd y 0 Gwener drachefn, a gwnaeth amryw ym- osodiadau bryntion ar Mr. Gladstone. -Yr oedd dydd Sadwrn yn ddiwrnod prysur gyda'r arddangosiadau. Ardalydd Hartington draddododd yr araeth bwysic- af yn Rawtenstall, pryd yr oedd tua 15,000 o'i etholwyr yn gwrandaw arno. y ZD Credai fod ad-ddosbarthiad wedi ei ddar- par ar linellau teg, ac os oedd unrhyw un y gellid ymddiried gorchwyl mor an- hawdd i'w ddwylaw, Mr Gladstone oedd hwnw. Yr oedd Rhyddfrydwyr Leeds a dwyrain West Riding wedi ymgasglu yn allu cryf yn Woodhouse Moor Cyfrifid fod tua 50,000 yn bresenol. Anerchwyd hwy o dri llwyfan gan Mr. Forster, Mr. John Morley, Mr. Herbert Gladstone, ac eraill. Bu Mr. J. K. Cross hefyd yn Bolton, Syr Farrer Herscliellfyn Sunder- land, Syr R. Cunliffe a Mr. John Roberts yn Bwcle, Fflint, heblaw llu anferthol eraill o gyfarfodydd Rhyddfrydig. Cyf- anrif y cyfarfodydd gynaliwyd ddydd Sadwrn ydoedd 16-3 gan y Torïaid, a 13 gan y Rhyddfrydwyr. Wyth mil oedd y rhif mwyaf gaa y Toriaid, tra yr oedd gan yn Leeds o lei- af 50,000! Ddydd Llun, yr oedd Mr. Chamberlain yn y Potteries mewn ar- ddangosiad mawreddog, a chaed ganddo y prydnawn hwnw a dydd Mawrth ar- eithiau cryfion a galluog yn mhlaid achos y bobl.
HELYNTION YR AIPEIT A'R SOUDAN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HELYNTION YR AIPEIT A'R SOUDAN. Lied ddyrus y mae y rhai hyn yn par- hau o hyd, a. newyddion lied ddifrifol a'n cyrhaeddant yn fynych, nes peri i ni an- obeithio am wir derfyniad yr helyntion. Ond gyda'r dwylaw medrus sydd yno yn awr, gellir bod yn dawel y ceir terfyniad boddhaol yn fuan.-Cyrhaeddodd Arg- lwydd Wolseley a'i staffi Assouan ddydd Mercher, ac wedi byr arosiad, cych wyn- wyd am Wady Haifa. Y mae yr ymgyrch medd un gohebydd, yn myned yn mlaen yn esmwyth, a'r milwyr mewn iechyd rhagorol. Ceisiwyd lledaenu y newydd fod Arglwydd Wolseley wedi ei alw, ond rhoddodd y gwadiad swyddogol derfyn uniongyrchol arno. Buasai dychweliad y swyddog hwnw cyn terfyniad yr ymgyrch yn drychineb arswydus.—Ddydd Gwener derbyniwyd y newydd fod Berber wedi ei hadfeddianu gan y .Cadfridog Gordon. Wedi iddo gyrhaedd yno, gosododd ddwy agerlong ar ganol y Nile, a thanbelenwyd y dref, yr hyn barhaodd am gryn amser. Diangodd yr holl bobl ibob cyfeiriad, a llwyddasant i gymeryd eu trysorau gyda hwynt.—Dydd Llun, o Cairo, daeth pell- ebyr i'r perwyl fod cyflafan ^erchyll wedi ei chyflawni, yn mha un y llofruddiwyd y Milwriad Stewart, un o arwyr y Soudan Ymddengys oddiwrth yr adroddiadau i'w agerlong wrth fyned i fyny y Nile fvned yn ddrylliau drwy daraw yn erbyn S yn agos i'r pumed rhaiadr (cataract). Gan y bwriadai wneud y ffordd yn glir hyd Dongola, aeth i gytundeb a Sheikh i'w arwain ef a'i barti ar draws yr anialwch ond llofruddiwyd ef gan yr Arabiaid! Hysbysir fod y parti oil oddigerthpedwar llofruddio yn yr un modd erchyll. Rhydd hyn wedd pur ofidus ar yr helynt- ion, ac y mae yn golled fawr i Loegr ar ol swyddog mor fedrus a'r Milwriad Stewart Er hyny, nid oes yma, medd y gohebwyr newyddiadurol, ddim i'w ofni am d lioErel- wch y milwyr sydd yn dilyn ar y Nile, gan eu bod yn ddigon cryf ac arfogedig i gyfarfod a gwrthwynebiadau a ddichon gaei eu gwneud gan y gwrthryfelwyr. Newyddion diweddarach a hysbvLnt l^ oedd adroddiadswyddogol wediei dderbvn y? 7ddfa ,^fel caoarnC r Stewt am lofruddiaeth J MUwriad