Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cafwyd gwleid Gymreig yn Llundain nos Fercher diweddaf, gan yr Henadur D. Evans. Eistedda yr henadur Evans ar Gynghor Dinas Llundain dros Castle Baynard Ward, yr hon a enillodd gyda mwyafrif gorthreehol. Brodor o Lantri- sant ydyw. Mae yn codi i safle mor bwysig yn mysg ei gydgynghorwyr, fel y mae gan ei gyfeillion bob lie i hyderu y éaiff vn mhen ychydig flvnyddau ei ddyrchafu i swydd uchaf y ddinas, sef yn Arglwvdd Faer. Y mae bellach 170 o flynyddoedd er pan fu Cymro yn y swydd urddasol hono, yn mherson Syr William Humphrey, yr hwn hefyd yw yr unig un erioed a freintiwyd a'r anrhydedd. Yr oedd lluaws o brif gofnogwyr yr Henadur Evans yn bresenol, ac amryw aelodau Seneddol Cymreig, yn mhlith y rhai y caed anercbiadau gwresog a byrion ar faterion gwleidyddol gan Syr Edward Reed, A.S., a Mr. Henry Bichard, A.S.

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

Advertising