Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

.',. CYFARFODYDD GWLEIDYDDOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFARFODYDD GWLEIDYDDOL. HEBLAW y cyfarfod rhyfedd a gynaliwyd yn Birmingham ddydd Llun, at yr hwn y cyfeirir mewn colofn arall, cynaliwyd lluaws o gyfarfodydd gwleidyddol yn ystod yr wythnos ddiweddaf. Y cyntaf o ran trefn feallai, ydoedd Ceidwadwyr Carlisle. Eu prif areithydd ydoedd Arglwydd Randolph Churchill, a chynwrf yr Ethol- fraint gafodd ei sylw penaf. Er fod cyfar- fodydd y Rhyddfrydwyr yn lluosocach y Sadwrn blaenorol, maentuniai ef tod eiddo y Ceidwadwyr yn bwysicach o lawer, gan eu bod yn d'od a mwy o gwestiynau ger- bron sylw y bobl. Ond dylai yntau gofio mai cwestiwn sydd i fod dan sylw, sef yr Arglwyddi a'r Etholfraint, a phwy sydd i gario y maen i'r wal.-Dydd Mercher dra- chefn, cawn Syr William Harcourt, yr Ysgrifenydd Cartrefol, yn Derby yn anerch cynulliad mawr o'i etholwyr. Yr oedd Syr William yn llym a miniog ei feirniad- aeth ar Ardalydd Salisbury. Cyhuddodd ef o wrthod Mesur yr Etholfraint, nid o. herwydd fod arno eisieu Mesur Ad-drefn- iad gydag ef, ond am ei fod yn ddiymddir- ied yn y bobl, ac yn gwybod yn dda mai po fwyaf oil o honynt hwy a ganiateid i gael ,pleidlais, mwyaf oil y diwygiadau elwir am danynt. Gwadai hawl y Ty Uchaf i benderfynu adeg Dadgorfforiad. Ofnai y blaid Doriaidd ddiwygiadau, ond datganodd Syr William benderfyniad y Llywodraeth i gario yn mlaen y Mesur, ac na byddai newid eu cynllun. Yr oedd y cyfarfodydd ddydd Sadwrn yn lluosog, ac yn wir gellir dweyd fod cyfarfodydd y naill Sadwrn ar ol y Hall yn dyfod yn bwysicach. Adroddir i 17 o gyfarfodydd Rhyddfrydig gyfarfod tra nad oedd gan y Toriaid ond 3. Aiff hyn yn bell iawn i brofi o ba du y mae y wlad gyda'r helynt presenol, onide ymgynullai yn dyrfaoedd ar dyrfaoedd i bleidio yr hyn a wnaeth yr Arglwyddi, ond rywfodd ychydig sydd yn meddu ar y gwroldeb hwn. Prif gyfarfod dydd Sadwrn oedd yr un yn Chatsworth, lie y caed cyfarfod yn yr awyr agored, gydag Ardalydd Hartington, Syr William Harcourt, a Mr. Mundella, yn areithwyr. Yr oedd y blaenaf yn nerthol iawn, a rhoddodd eglurhad rhagorol ar y cynllun o Ad-ddosbarthiad ymddangosodd yn y Standard,gan ddweyd nad oedd arno gywil- ydd ei fod wedi bod dan sylw, na chywil- ydd ychwaith i'r holl fyd wybod hyny. Yn nghwrs ei araeth, dywedodd Syr Wm. Haicourt na feiddiai Ardalydd Salisbury ymddiried yr Etholfraint i'r etholwyr newyddion, am y rheswm da y gwyddai nad ymddiriedent ynddo ef. Siaradodd Mr. Mundella hefyd yn bwrpasol, a throdd y cyfarfod allan yn llwyddiant godidog. Bu Mr. Forster hefyd yn Bradford yr un dydd, Mr. Herbert Gladstone yn Hudders- field, a chynaliwyd llu eraill o arddangos- iadau, oil yn llwyddianus. Arddangosiad gwael oedd eiddo y Ceidwadwyr. Yn Wigan a Tiverton, bu Mr. Gibson a Syr R. A. Cross, ac yn Kelso, bu Ardalydd Salisbury. Ni chaed dim newydd o'u geneuau, ond datganai yr olaf yn ddigon clir mai yn ol ei ewyllys ei hun yr elai, ac mai siawns wan sydd y plygai i ewyllys y bobl hyd nes y gorfodir ef i wneud hyny. Ond dylai y cyfarfod yn Birmingham ddydd ILlun gael rhyw ddylanwad arno i'r cyfeiriad hwnw, fel y caffo ei wared rhag yr hyn a fo gwaeth iddo na phlygu i ewyllys cenedl cyfan yn dawel.

[No title]

YR ARDDANGOSIAD RHYDDFRYDIG…

COLEG BANGOR.

CYMRU A'R AD-DDOSBARTHIAD.