Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
RUSSELL'S "NEW TYPE." "ROYAL" ENGLISH LEVER, WITH PERFECT KEYLESS ACTION, IN MASSIVE SILVER CASES. £5 5s. Is the Cheapest and Best English Lever Watch made Description,-THRER.QU ARTER PLATE ENG- LISH LEVER WATCH. Jewelled in Four Holes, with Chronometer Balance. Dust and Damp Proof; A:I the Material and Work rnunship are entirely English The Same Movement in Solid Gold 18-carat cases, £15. (Club and Other Agents Wanted.) Illustrated Watch Pamphlet aent free, UIR. T. R. RUSSELL, MAKER TO THE QVEEL CATHEDRAL WORKS, 18, CBURCH-ST, LIVERPOOL TITAN TED bA the lsVof April for a small VV family in\Kenfcf England; a Plain Cook & General Servant. Housemaid kept. Wages Good.—Apwju'Mrs Evans, Maesy/. helma Farm, Nr. D^g^ley. AT EIN GOHEBWYR. Cymriad Gwall:-Dywedir witbym mai Mr P. H. Lewis, Dolgellau, oedd yn gvdradd a Mr E. R. Evans am gyfan- soddi Alaw yn nghwrdd Llenyddol y Brithdir, ac nid Mr D. Lewis, fel yr hysbyswyd yn yr adroddiad yr wythnos ddiweddaf. Allan o Ddiffyg He:—Llanfachreth, Llith o'r Deheudir, Manceinion,Garddwriaeth, &c., &c. Cant ymddangos yn ein n esaf.
AGO EI AD Y SENEDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AGO EI AD Y SENEDD. DYDD lau, yr wythnos ddiweddaf, ym- gyfarfu y ddau Dy 0 Senedd, pryd y darllenwyd yr araeth frenhinol gan ddir- prwyaeth gyda'r seremoni arferol.. Y gwaith cyntaf a wnaed yn Nhy y Cyffred- in ydoedd, darllen llythyrau wedi eu hysgrifenu gan Mr Cecil Hoche yn hysbysu fod Mr E. Harrington a Mr W. O'Brien wedi eu dal a'u traddodi i garchar, yr hyn a barodd i waedd ddigofus ddyrchafu o'r cwr hwnw o'r ystafell lie yr eistedda yr aelodau Gwyddelig. Ni ddywedodd neb air ar y mater. Y peth nesaf oedd i Arglwydd George Hamilton roddi rhybudd y byddai iddo ef ddwyn i mewn fesur i ddarpar ar gyfer adeiladullongau i lynges ei Mawrhydi a'r Arglwydd ddadleuydd a roddodd rybudd yr ail ddygid yn mlaen Fesur Prifysgolion Ysgctland. Ni rodd- wyd un rhybudd arall ar ran y Llywodr- aeth. Yn mhlith rhybuddion eraill a roddwydd yr oedd Mr Charming yn ym- gymerjpd a dwyn i mewn fesur i gael seneddau tairblwyddol, a Mr Dillwyn i I ddadsefydlu yr Ejlwys yn Nghymru. Pan y cyfododd Mr Jesse Collings i rodui ei rybudd y byddai iddo ddwyn i mewn fesur er rhwyddhau pryniad man ddarnau o diroedd, derbyniwyd yr hysbysiad gyda ehwerthiniad gwawdus. Tra yr oedd y rhybuddion hyn ac eraill yn cael eu hysbysu daeth Mr Balfour i mewn a der- byniwyd ef gyda chymeradwyaeth gan bleidwyr y Llywodraeth, a chyda bloedd- iadau o 'Pigott!' 'Pigott!' Wedi balotio, cyfododd Mr John Morley, a dywedodd er mWYll cyfleusdra y Ty ei fod yn rhoddi rhybudd y byddai iddo ar ddygiad yr anerchiad yn mlaen yn atebiad i araeth y Frenhines, gynyg gwelliant ar y paragraph yn mherthynas i Lywodr- aetbiad yr Iwerddon. Dyma gynwys y gwelliant:—'I osod allan i'w Mawrhydi fod y drefn 0 weinyddu y gyfraith yn yr Iwerddon yn llym, yn ortbrymus, ac yn anghyfiawn, ei bod yn yrnyryd a hawliau ac yn pellhau serchiadau deiliaid Gwydd- elig ei Eawrhydi, ac yn cael edrych arni gydag anghymeradwyaeth ac adgasrwydd gan bobl Prydain Fawr. Ac hefyd i osod gerbron eich mawrhydi y dylai y fath fesurau 0 ymheddychiad gael eu mabwys- iadu ag a roddant foddlonrwydd i'r Gwyddelod, ac a seiydlai undeb gwirion- eddol rhwng Prydain Eawr a'r Iwerddon. Gwelir fod y penderfyniad hwn mewn modd pendant, ac mewn ymadroddion cryfion yn dwyn holl gwestiwn yr Iwerddon gerbron; ac nis gall neb wadu nad dyna yn awr ydyw pwnc mawr gwleidyddol mwyaf dyddorol y dydd. A thra yr ydym yn ysgrifenu y mae y ddadl bwysig hon yn cael ei dwyn yn mlaen, a thalentau dysgleiriaf Ty y Cyffredin yn sicr o gael eu gosod ar waith i gymeryd rhan ynddi. Y mae y penderfyniad uchod o eiddo Mr Morley yn gyru adref dri phwynt mawr-y llymder gorthrymus a pha un y gweinyddir y gyfraith yn yr Iwerddon; yr effaitb 0 hyny yn yr ym- yriad a hawliau ac yn oeri serch deiliaid ei Mawrhydi yn y wlad hono; ac hefyd yn amlygu awydd a dymuniad pobl Prvd- ain Fawr i fabwysiaiu gwladlywiaeth 0 ymheddychiad a chyfiawiider tuag at eu cyd-ddeiliaid Gwyddelig. Wedi i Mr Shaw Steward gynyg, ac i Syr John Colomb eilio yr anerchiad mewn atebiad i'r araeth o'r orsedd, cyfododd Mr Gladstone, a theinilwyd ar unwaith ei fod yn gryf a bywiog; yr oedd ei lais yn gryf a soniarus, ac ymddangosai yn llawn yni a bywiogrwydd, yn argoeli yn dda y bydd yn alluog i fyned trwy waith caled y senedd-dymhor presenol. Y mae yn amlwg fod ei wyliau yn Italy wedi bod yn adgyfnerthiad mawr iddo. Ymgadwai rhag cyffwrdd a'r ewestiwn Gwyddelig, 0' gan olygu y caffai hamdden i ymdrin ag ef pan y deuai gwelliant Mr Morley yn mlaen. Beirniadodd Mr Gladstone, eithr r nid mewn ysbryd cul a rhagfariillyd, wladlywiaeth gyffredinol y Llywodraeth, fel ei gosodir allan yn yr araeth o'r orsedd. » Cwynai am na cheid mwy o hysbysrwvdd yn nghylch Zanzibar, ac nid oedd yn hoffi y paragraph yn yr araeth yn nghylch 'y treuliau diddarfod yr elid iddynt ar gyfer darparialau rhyfelgar gan genhedloedd Ewropaidd,' yr hyn 'a wnelai yn angen- rheidiol fod rhagocheliadau chwanegol yn cael eu cymeryd er diogelwch ein gororau a'n masnach.' Gofynai Mr Gladstone ai nid peth posibl fod rhai cenadon eraill yn ciedu ei fod yn angenrheidiol iddynt i chwanegu eu darpariadau er diogelwch eu gororau a'u masuach? Paham y rhaid i ni gymeryd yn ganiataol fod chwaneg- iad at dreuliau u'r fath o angenrheid* rwydd mewngwledydd eraill yn arwyddo eu bod yn rhyfelgar, tra nad yw yr un peth ond rhagochelia.dau cyfreithlawn gyda ni? Ni ddywedodd Mr Gladstone ddira yn erbyn cryfhau y llynges jn briodol ond traethai ei feddwl yn ddiamwys y dylid gofalu pa fodd y bydd yr arian yn cael eu gwario, a gofidiai am nad oedd i'r gair 'cynildeb' Ie yn yr anerchiad. Wedi i Mr Smith siarad gair mewn atebiad i Mr Gladstone, ac i amryw eraill anerch y Ty, gohiriwyd y ddadl ar gynygiad Mr Bradlaugh. Yn Nhy yr Arglwyddi gwnaeth Ar- glwydd Granville, arweinydd yr wrthblaid araeth alluog ar gyflwyniad yr Anerchiad' Y mae ei Arglwyddiaeth yn un o'r siar- adwyr mwyaf dymunol a fedd Ty yr Arglwyddi, poh peth a gyffyrdda ag ef, y mae yn arwyddo meistrolaeth arno; ond y mae ganddo i yrnladd yn y man lie y mae yn erbyn anhawsderau lawer. Megys yn ddamweiniol crybwyllodd ei Arglwydd- iaeth enw Arglwydd Selbourne mewn cys- ylltiad a'i sane yn cysylltiedig a'r cwestiwn Gwyddelig. Wedi i larll Granville eistedd i lawr, cyfodai Aiglwydd Selbourne ar unwaith i anerch y Ty, a dy- wedai gan fod cyfeiriad personol wedi ei wneuthur ato ef, ei fod yn meiddio am foment sefyll rhwng y Ty ag Ardalydd Salisbury. I bob golwg yr oedd ei Ar- glwyddiaeth wedi ei gythruddo yn ddwtn, a'i ymosodiad ar ei hen gyfeillion gynb yn chwerw i'r eithaf, ac yn enwedig ar Mr Gladstone, yr hwn a'i gwnaeth ef ddwy waith yn Arglwydd Ganghellydd, ac am yr hwn wasanaeth y derbynia efe yn awr flwydd-dal ardderchog. Dyna y di- olchgarwch y gall rhyw fath o ddynion ei amlygu tuag at eu prif gymwynaswyr. Gallasai y pendefig hwn amlygu ei wrth- wynebiad i wladlywiaeth ei gymdeithion gynt heb ddangos cymnintogythrudd a digofaint, ac heb ddefnyddio ivith mor galed. Ond oddiwrth wrthgilwyr yn n gyffredin y ceir yr ymosodiadau gwaethaf. Dyma y gwr a ddigiodd gymaint with Mr Gladstone am ddweyd Cofiwch Mitchels- town. Ymddengys hefyd fod Arglwydd Selbourne yn dra digofus wrth Arglwydd Herschell, y Prif Farwn Palles, a'r Barwn Dause am ddywedyd fod Deddf orfodol Mr Balfour yn creu troseddau newyddion yr hyn a dywedir ganddo ef. Dyma un a fu yn proffesu ei hun yn Rhyddfrydwr am bum' mlynedd ar liugain yn methu canfod gwahaniaeth rhwng gorchymynion yr yr Arglwydd Raglaw a chyfraith y wlad, Y peth mwyaf nodedig yn atebiad Ardal- ydd Salisbury ydoedd, ei waith yn haeru nad oedd yr etholiadau achlysurol a gy merasant le yn profi beth yw syniadau Y wlad! Credai fod barn y wlad 0 blaid cadw yr undeb fely mae, ac y ceid gweled hyny pa bryd bynag y gwneid apeliad ati; ond yr oedd yn ei feddwl 0 hyd y gwnelid pob ymdrech i gedw draw yr adeg hono cyhyd ag y gellid, er ei fwyn ei hun a'i blaid.