Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
------DIRPRWYAETH PARNELL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DIRPRWYAETH PARNELL. PIGOTT WEDI DIANC. CYFFESU DDARFOD IDDO FFUGIO. GWARANTATJ ALLAN I'W DDAL. Yr oedd y llys yn orlawn drachefn bore Mawrch yn mhell cyn yr amser i ddecbreu y gweitbrediadau. Yr oedd nifer yr aelodau Gwydd<i]ig cynwysedig yn y cyhuddiadau wedi cynyddu yn y llys beddyw. Gwnaeth Mr Parnell hefyd ei y noddangosiad yu gyoar. Cymerodd y Dirprwywyr eu seddau ya anion ar ol haner awr wedi 10, ac ar ol aros am beth amser, gofynodd y Cadeirydd-Pa le mae y tyst ? Cyfododd y Twrnai Cyffrpdinol ar unwaith ar ei draed a dywedodd—Mor bell ag y gwn i, Did oes genyf wyboiaeth pa bynag o'r tyst yn beraouol, ond fe'm hysbyswyd gan glerc Mr Soames, yr hwn a anfonwyd i'w hotel, na fu efe vno er 11 o'r gloch neithiwr. (Gytfro yn y llys.) Syr Charles Russell.—Os bydd unrhyw oediad ya ei ymddangosiad, yr wyf yn gofyn i'ch arglwyddiaethau roddi gwarant allan i'w ddal yn uniongyichol. Y Twrnai Oytfredinol.- Y mae clerc Mr Soames yma, a-gall ruddi i'ch arglwyddiaeth- au unrhyw hysbysrwydd allwch ddymuno. Yea aeth y hnneddwr i'r box, a thyngwyd ef. Dywedai-Fy ehw yw George Weir. Drwy gyfarwyddyd Mr Soames aethurn i westy Anderton, a gwelais y gweinyddwr, yr hwn a aeth drost yr boll ie. Y Cadeirydd. -Pa bryd yr aethoch 1 Tyst.-Heddyw'r bore, am ddeng munyd wedi 10, a dywedai y gweinyddwr na welodd efe Pigott er neithiwr. Ni ofynais iddo yr amser. Syr Charles Russell.—Yr wyf yn apelio at eich arglwyddiaethau am roddi gwarant allan. Y Cadeirydd.—Rhaid i ni ganiatau amser rhesymol. Yr wyf yn barod wedi cyfarwvddo am i warant gael ei gwiaeud. CaniatawDu oddeutu awr neu lai. Mr. Twrnai, a oeaL genych unrhyw dyst arali? Y Twrnai Oyiiredinol.- Y mae alsenoldeb annysgwyliadwy y tyst hwn, a'r dystiolaeth a roddodd yn yr achos presenol, yu ei gwneud yn angenrheidiol, ac yr wyf yn meddwl y bydd i ch argl wyddiaethau weled yn lawn, i'm cyfeillion dysgedig a minau i ystyried pa gwrs a gymerwn gyda golwg ar y rhan yma o'r achos. Tybiwyf y byddai yn annoeth i ni fyned dracbefn at unrhyw ran arall o'r achos hyd nes y byddwn yo alluog i fynegu yn y llys y penderfyniad y daethom iddo. Y Cadetrydd.-Pa gwrs ydych yn gynyg I fabwysiadu? Yr wyf yn meddwl mai y cwrs goreu ydyw i'r llY8 ohirio. Syr Charles Russell (yn siarad gydag ystyriaeth ddifrifol ).-PIi gwrs bynag a dybia y Twrnai Cyffredinol yn iawn ei fabwysiadu, bydd i ni ddilyn yr an cwr^, a gwasgu am gael myned drwy yr holl fater, oblegid yr ydym ni yn bwyllog yn cyhuddo fod tc ol i Mr. Pigott a thu ol i Mr. Houlston gydfwriad brwnt. Yr oedd y llys ar ohirio, pan Gyfododd Syr Charles Russell dracbefn, ac y dywedodd—Y mae y ffaith wadi ailchry- bwvll i mi fod sypyn o ysgri^au wedi cyrhaedd gwesty Anterton, cvfeiriedig i'r Pigott hwn. Yr wvf yn gofyn Pch aralwyddiaethaa am i swyddog y llys gael ei anfon i lawr i gymeryd meddiant o'r sypyn vsgrifau, y rhai, with gwrs, na fyddys i ddelio a hwy hyd yrfa bellach, ac yn unig fel y gwel eich arglwydd- iaethau yn iawn. Y Cadeirydd.—Nyni aohiriwn, 0:1 bydd i'r tyst yrnddar-gos, yna byddwn yn barod i ailddecbreu y gweithrediadau. Os na wni, nyni a ohiriwn am haner awr.
CYFADDEFIAD PIGOTT.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYFADDEFIAD PIGOTT. Wedi i'r Cadeirydd roddi ei ganiatad; Dywedai Syr Ohftllf's Russell, ddarfod i Mri Lewis a Lewts ysgrifenu llythyr ar y 25 o Chwefsor, a'i anfon mewn Haw i Mr Pigott ddydd Llun. Yr oedd y llythyr i'r amcan fod Mr Labouchera wedi eu hysbysu hwy ddarfod i Pigott, ddydd Sadwrn diweddaf, alw yn ei dy, ac amlygu dymoniad aaa wneud mynegiart mewn ysgriien. Fod Mr Labou- chere wedi tronglwyddo iddynt y mynegiad h.tnw, yr hwn a gynwysai gyfaddeiiad mai P gott ydoedd ftugiwr yr holl lythyiau y dywedid iddynt gael eu hysgrifenu gan Egan, Parnell, Davitt, a Kelly. Cyfaddef- odd hefyd ddnrtod iddo gyfkwni anudoniaeth. Pa fodd bynag, cyfnrwyddodd Mr Parnell Mri Lewis i'w hysbysu (Pigott) ei fod ef yn. gwrthod dal uurhyw onebiaeth ag ef. Apeliodd Syr Charles Russell at eu har- glwyddiaethau am alw yr heddgeidwaid, a chisel ganddyot hwy egluro pa fodd y bu i Pigott ddianc ymaith. Y Cadeirydd.—Bydd i ni ddelio air mater a aeth o'r blaen yn gyntaf.
ATALFAELU PAPYRAU PIGOTT.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ATALFAELU PAPYRAU PIGOTT. Cyfarwyddodd y Dirprwywyr ar i wys- lythyr gael ei roddi i reolwr Gwesty Anderton, ac hefyd am iddo ddwyn gydag ef i'r llys unrhyw ysgritau cyfeiriedig i Pigott. Syr Cbatles Russell.—Yr wyf yn credu ei fod yma. Dywedai Syr Charles Russell yn mhellach, fod camgymeriad wedi ei wneud gyda golwg ar yr ysgrif y cyfeiriodd efe ati. Yroedd wedi cyfeirio i Pigott, care of Houston, 3 Coik-street, ac nid i'r gwesty. Yoa galwyd Mr. Evans, rheolwr Gwesty Anderton, a bolwyd ef gan y Cadeirydd. Dywedai-Bu Richard Pigott yn aros yn fy ngwesty is a chyfeirid y ilythyrau iddo yno. Dygais ychydig a ddaeth er ddoe. Nid wyf yn ailuog i ddweyd dim wrtbych yn ngbylch pa le y mae. Ni welwyd ef er pedwar neu haner awr wedi pedwar prydnawn ddoe. Y Cadeirydd.—Y mae 'un amoylchiad ar- beuig yn parthyn i'r achos hwn. Yr ydym ni yn meddwl y gall unrhyw lythyrau cyfeir- iedig at Richard Pigott yn y cyfwng hwn fod Z5 o bwys'grwydd yn yr aches, ac felly yr ydym yn cyfarw yddo eu hagoryo, ond rhaid i ni arfer ein barn ein hunain am y detnydd a wneir o bonynt. Y Twrnai CyfFredinol.—Derbyniwyd un yn ngbyfeiriad Mr. Houston, a throsglwydd- wyd hwnw ar unwaith gau Mr Soams i Mr Cunningham. Syr Charles Russell.—Yr wyf yn gofyn i Mr Houston gael ei ddwyn yn mlaen. A wnewch chwi otyn i'r tyst a gymerodd Pigott ei glydgelfi ymaith. Tyst.—Naddo. Gofynodd Syr Charles Russell am i'r luggage gael eu chwilio, ond dywedodd y Cadeirydd nad oedd ganddo awdurdod i orchymyn hyny.
ERLYNIAD GAN MR. PARNELL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ERLYNIAD GAN MR. PARNELL. Awgrymodd Syr Charles Russell, fod Mr Parnell, pa mor groes bynag ydoedd i'w deimladau, yn bwriadu codi warant yn erbyn Pigott am anudoniaeth a ffugiaeth. Dywedai y Twrnai Oyflredinol, mewn atebiad i gwesti wn oddiwrth y fainc, ei fod yn dymuno cael cyfleusdra i ymgynghori &'i gydswyddwyr. Y Cadeirydd.—A fydd gohiriad hyd yfory yn ddigonol ? Y Twrnai Cyflredinol. — Bydd, fy ar- glwydd. Y Cadeirydd.—O'r goreu. Syr Charles Russell. — Pa gasgliad bynag y daw fy nghyfaill dysgedig iddo, bydd i ni gymeryd camrau uniongyrchol i apelio am warant yn Bow Street am anudoniaeth. Y Twrnai Cyffredinol. — A yw eich arglwyddiaethau yn meddwl y byddai yn ddymunol i unrhyw gyfran newydd o'r achos gael ei gymeryd hyd nes y cawn wybod pa un a yw Pigott yn hawdd nesu ato neu beidio. Y Cadeirydd.-—Yn gyntaf deliwch eich ysgyfarnog (chwerthin). Gohiriodd y llys liyd bore heddyw yn nghanol cyffro mawr.
NEWYDDION AM STANLEY.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NEWYDDION AM STANLEY. Y mae yr Isgadben Baert newydd gyrhaedd i Brussels o Stanley Falls, lie y treuiiodd efe y flwyddyn gyda Tippoo Tib, i'r hwn yr oedd efe yn ysgrifenydd. Mynega yr Is- gadben Baert ddarfod iddo holi y cenadon a ddygasant oddiwrth Stanley y llythyr clod- fawr i Tippoo Tib, a chadarnhaent yr oil adywedoddStanlej gyda golwgar yrymdaith. Ofeda ef ddarfod i'r ymgyrch gyrhaedd Wdaelai ya unig drwy yr ymdrechion mwyaf egniol, a bu gorfod iddynt gael help yn y dramwyfa olaf gan Emin Pasha, yr hwn a gynorthwyodd yn hytrach na chael ei gynorthwyo. Y chydig cyn i'r Isgadben Baert ymadael, cyrhaeddodd cod ffres o lythyrau oddiwrth Stanley am Loegr, a ysgrifenwyd cyn ymadawiad yr olaf am Murenia, i effeithio ymuniad unwaith yn rhagor ag Emin. Gellir dysgwyl i'r Ilyth- 0 yrau gyrhaedd Ewrop yn mis Mawrth.
MANION.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MANION. Y mae gwrit wedi ei hanfon ar ran Mr Sexton, maer Dublin, yn erbyn yLeedsDaily News, oblegid ei waith yn mynegu fod Mr Sexton wedi cynorthwyo dynion i ddianc rhag y carchar ac i golledu y pren dy- oddef. Cafodd Mr Gladstone ymgom garedig a Sigior Crispi,prifweinidog Italy, wrth bas- io drwy RufaiL i Cannes. Adroddir fod Sergeant Cassey, yr hwn a analwyd ynyr helynt yn Gweedore, a derfyn- odd yn marwolaeth yr arolygwr Martin, mewn sefyllfa betyglus. Heblaw tanysgrifiad Arglwydd Kenyon o £1,000 tuag at ailadeiladu Eglwys Hanmer, y mae yr Anthydeddus George Kenyon, A.S. wedi addaw £600, Mrs Kenyon £100, a Mrs Owen, Tedsmore £ 500. Dychwelodd Mr Caine adref o'r India ddechreu yr wythnos. Mae ei lythyrau ar waith y cymdeithasau cenadol yn y wlad hono a China wedi achosi cryn gynhwrf yn mhliths wyddogion y cymdeithasau hyny.