Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

AT Y CYMRY YN GYFFREDINOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AT Y CYMRY YN GYFFREDINOL. GYDWLADWYR HOFF A MYGEDAWG, Wele SEREN CYMRU" yn awr yn eich dwylaw, ac y mae yn gorphwys arnoch chwi i roddi eich barn ami, pa un a yw yn teilyngu eich cefnogaeth ai nid yw. Diau y syrthia i ddwylaw y beirniaid mwyaf manylgraff, y llenorion mwyaf dysgeJig, a'r ysgrifenwyr mwyaf medrus yn Nghymru, a dichon y bydd llawer o bonynt yn ahaniaethu yn eu barn afn deilyngdod ei chyn- ^rt^ysiad,—rhai yn barnu ei bod yn dda, ereill ei bod yn ganolig, a Rawer, fe allai, yn barnu nad yw yn werth dim ond os felly y bydd, erfyniwn ar ein cydwladwyr i beidio dyfod i un penderfyniad yn nghylch ei theilyngdod, byd oni ddarllenont hi trwyddi oil, ac y cymharont hi a'r Cyhoedd- iadau Cymreig ereill, ac a'r addewidion a wnaeth- om yn ein Golygleni. Mae yn rhaid i ni gyfaddef, pan anfonasodi ein cynnyg am NEWYDDIADUR ANYMDDIBYNOL CYMRETG allan i'r byd, Dad oedd genym ond gobeithion gweinion iawn y buasem fyth yn cael yr anrhydedd a'r hyfrydwch o'ch cyfarch mewn Anerchiad rhag-arweiniol yn y Rhifyn cyntaf o hono; ac er nad oeddym yn amrnau eich ffydd- londeb chwi, canys yr oeddym wedi cael prawf o hwnw gannoedd o weithiau o'r blaen, a thrwy hyny y cawsom ein galluogi i gadw Seren Gomer yn fyw lawer gwaith, fel y cyfaddefa hi ei hun etto, yr oeddym yn ammau ein poblogrwydd a'n teilyngdod ein hunain, ac ni feddyliasom erioed y buasai ein cydwladwyr caredig yn ateb ein cais, nac yn gwerthfawrogi ein cynnyg, i hanner y graddau ag y maent eisoes wedi gwneuthur. Ar un llaw, yr oedd y gwrthwynebiad yn fawr, ac ar y llaw arall yr oedd o rwystrau i'w gorch- I fygu, a'r rhwystrau hyny yn eyfodi oddiwrth rai ^'ersonau ac o rai Ueoedd na ddysgwyliem. Yr 'Oaddym vn cael fin digaloni trwy feddwl nad otitkjy^ ri ond un, tin* yi aw* ^nrtiiwjrseb-l • yr yn lleng,—ein bod ni yn mhrydnawn ein hywyd, wedi treulio blodau ein dyddiau i waspn- aethu ereill, tra yr oedd ein gwrthwyoebwyr. yn ieuainc ac yn heinyf, ac yn meddwl eu bod yn alluog i gyflawni pob peth ond gwyrthiau. Caw- som hefyd ddrwg-ewyllys rhai a ddylasent wybod yn well, a thaflwyd ni i(beth traul ychwanegol trwy hyny. Gwrthododd Seren Gomer gyhoeddi ein cynnyg heb dalu yn mlaen, fel pe buasem yn rhy wael a dystadl i osod un ymddiried ynom eithr nid ydym yn achwyn dim am hyny, canys motto Seren Gomer yn bresennol yw, "Everyman lias a right to do what he likes with his own." Bu yr Amserau, er ei glod tragywyddol, yn llawer mwy diragrith ac agored tuag atom, canys y Golygydd a anfonodd yn ateb i'n cynnyg i gy- hoeddi ein Hysbysiad, i ofyn i ni, yn garedig iawn, "a fuasem ni mor ffol, pe buasem yn ei le ef, a chyhoeddi peth i niweidio ein hunain Dyna haelfrydigrwydd sydd yn glod tragyfyth hyd yn nod i'r Amserau! Hefyd, cawsom beth syndod, ond nid siomed- igaeth fawr, wrth weled dynion ag oeddem wedi bod yn y cyssylltiad agoeaf a hwynt, ac wedi eu gwasanaethu yn ffyddlawn am lawer o flynydd- oedd, a hyny yn agos am ddim, fel yr ydym yn awryn cael dannod gan rai, yn rhoddi benthyg eu henwau i ymdrechu ein niweidio, a'n hattal i fod mwyach o un gwasanaeth i'n cydwladwyr hoff a charedig. Mae yn wir na cheisiasom erioed gefnogaeth y cyfryw at SEREN CYMRU," canys gwyddem na fuasai eu henwau o un lies i ni, ar yr ammodau ag oeddym yn ei chynnyg i'n cyd- wladwyr Cymreig, ac y mae yn dda genym feddwl ei fod allan o'u gallu yn awr.i wneyd niwed mawr 1 n Cyhoeddiad ond, ar yr un amser, y mae yn rhaid i ni hysbysu nad oeddym yn dysgwyl gvveJed eu henwau yn rhes ein gwrthwynebwyr, yr hon sydd wedi ei clytio ynghyd fel siaced fraith Joseph gynt, yn gymmysg o Annibynwyr, Bed- yddwyr, Trefnyddion, ac Undodiaid, &c., yn arddangosiad cywir o gynnwysiad yr hyn a gyn- nygir i sylw y wlad. Dyweda yr hen ddiareb Gymreig, Adar o'r un lliw. a ehedant i'r un 111 t' ond nid yw yn cael ei gwirio yn yr amgylch- iad hwn,-y mae yr adar hyn o bob Iliv dan yr Saul, ac ni chytunant fyth a'u gilvdd, er eu bod wedi ehedeg i'r un lie i'n gwrthwynebu ni a SEREN CYMRU." Yr ydym yn hyderu y maddeua ein cydwlad- wyr i ni am egluro fel hyn y gwrthwynebiadau a cawsom yn ein hymdrech i'w gwasanaethu ac sid ydym ni ychwaith yn eu cyfrif ond bychain awn mewn cymhariaeth i'r gefnogaeth fawr ag rdym wedi gael eisoes o holl Gymru benbaladr, rn gystal ag o Lynlleifiad, Llundain, Mancenion. i llawer o leoedd ereill yn Lloegr ac y mae yn rydwch geny m i weled fod y gefnogaeth hon sylfaenedig, i raddau mawrion, ar yr egwydd- n Jnag ydym wedi gyhoeddi yn ein Golygleni v bydd i ni ddwyn "SEREN CYMRU" yn y }laco. Ni fydd yu anmliriodol, yn yr anerchiad iwri, i adgoffa yr hyn a ddvwedasom yn v Gol- ygleni ar y pen yma, sef,—" Caiff ei dwyn yn mlaen ar yr un egwyddorion rhydd ac haelfrydig ag a nodweddasant Seren Gomer tra y bu dan ein golygiaeth ni; bydd iddi bleidio rhyddid gwladol a chrefyddol bob amser, yn yr ystyr helaethaf, ac ymladd yn egniol a dewr yn erbyn pob gormes a thrais mewn gwlad ac eglwys ac mewn cyfeiriad at y Gohebiaethau a dderbynir, bydd iddi fod yn hollol rydd ac anmhleidiol, cyhyd ag na fyddo y cyfryw yn troseddu ar reolau moesgarwch a chymmydogaeth dda, nac ychwaith ar gyfreithiau y tir. Mewn gair, ymdrechir ei gwneyd, mewn gwirionedd, ac nid mewn enw yn unig, yn Gyhoeddiad gwasanaethgar i Genedl y Cymry, ac hollol deilwng o dderbyniad cyffred- inol." At yr egwyddorion hyn yr ydym etto yn sefyll, ac yn penderfynu dwyn ein Cyhoeddiad allan yn unol a hwynt, heb ei gadael i lithro i wasanaethu dyn, na phlaid, na sect; ac y mae yn dda genym weled, yn ol y cannoedd o lythyrau ag ydym wedi dderbyn ar y pwnc, fod ein cyd- wladwyr yn hoffi yr egwyddorion, ac yn hysbysu eu penderfyniad i'n cefnogi hyd eithaf eu gallu, os bydd i ni eu dilyn yn 11 drwyadl. Nid oes gan sect na phlaid, nac un dyn pa bynag, ran na Haw yn syliaeniad na dygiad yn mlaen SEREN CYMRU," ond ni ein ,hunain a chan y byddwn felly yn hollol rydd rh.-g ymyraeth neb, yr hyn na fuom erioed o'r blaen, arnom ni yn unig y bydd y bai os gadewir SEREN CYMKU" i ym- adael a'i hegwyddorion cyntefis; ond os bydd i ryw glod neu ganinoliaeih byth ddeilliaw oddi- wrthi, yr ydym yn eithaf boddlawn i'r cyfeiliion ffyddlawn ag ydynt wedi addaxy ein gwasanaethu a'u Gohebiaetbau, mewn Ue /'ddiaeth ac Hanes- yddiaeth, i gael y gyfraa Iseiav thaf o honynt. Pan gyhoeddasom ein cycuyg i ddwyn allan "SEREN CYMRU'5 at wasaoaeth ein cydwladwyr, j nid oedd ond dau Newyddiatlur Cymreig yn y deyrnas, a chan fod un o honynt yn enau i'r Eg- J Jwys Sefydledig, a'r Hail yn e^i. •>Annibyn- iaid, yr oeddym yn fod y diftyg o Gy- hoeddiad rhydd ac a?amhleidiol, heb fod dim a j-.ac en wad wladol ychwaith, yn hanfodi; felly, gan fod y llwybr va rhydd o'i blaen heb fod yn dramgwydd i neb, 3 'ddy jien:, ni a gyhoeddasom ein Golygleni yn cyn iyg llanw i fyny y diftyg hwnw, a rhoddi i'n cydwladwyr Gyhoeddiad rhJdd ac annibynol, heb fod dim a fynai un blaid nac enwad, mewn gwlad nac eglwys, ag ef. Atebwyd ein cais yn ddioed, gan gannoedd o Gymry aiddgar, y rhai a'n hysbysant, "yn unllais unllaw," eu bod yn awyddus am yfath Gyhoedd- iad, ac a addawant ein cefnogi etto yn llawer pellach, ond cael prawf fod y Cyhoeddiad yn ateb eu dys- gwyliadau. Nid yw hyn ond peth rhesymol, ac fel y dywed rhai o honynt, nis gallwn ddysgwyl iddynt brynu cath mewn cwd pa fodd bynag- am hyny, yr ydym yn dra diolchgar i'r cyfeillion a afonasant eu henwau, yn gystal ag i'r rhai a addawant wneuthur hyny etto wedi cael ei weled; ac hyderwn y byddtvn yn alluog, trwy gynnorthwy ¡ ein Gohebwyr, i roddi rhyw radd o foddhad i'r cyfeillion caredig ag ydynt wedi gosod ymddiried ynom, ac wedi dyfod yn mlaen mor barod ac ewyllysgar i'n cefnogi yn ein banturiaeth bwys- fawr. Nid ydym mor rhyfygus a thybied fod "SEHEN CYMRU" wedi cyrhaedd perffeithrwydd yn neb o'r cangenau a drinir ynddi; nid oes un gwaith dynol wedi gwneuthur hyny, gan nad beth oedd galluoedd y gweithiwr ac heblaw hyny, yr oedd yr anfanteision a'r rhwystrau oedd genym i'w gorchfygu, mor fawr, fel nas gellir cymmcryd y Rhifyn hwn hefyd yn gynllun teg,o'r hyn a fydd y Cyhoeddiad yn ol llaw, wedi i ni gael pob peth i weithio yn hwylus. Nid oes genym yn awr ond cyflwyno "SEREN CYMRU" i gefnogaeth a cha- dwraetb Ceneill y Cymry, yn enwedig y dosparth ieuanc o honynt; er eu lies hwynt y mae wedi cael ei sefydlu, a'u haddysg hwynt sydd yn benaf mewn golwg genym yn ei dygiad yn mlaen, ac hyderwn y bydd iddi ateb dyben ei sefydliad i ryw raddau, os nid yn gwbl oil. Yn nygiad SEREN CYMRU yn y blaen, ni fydd i ni ymyraeth a phersonau, ac ni chaiff dadl- euon chwerw ac anfuddiol lychwino ei thudalenau; ag egwyddorion yn unig y byddwn yn ymdrin, a diwyllio ein cydgenedl fydd yr amcan mewn golwg yn wastadol. Hyderwn y bydd ein darllenyddion yn foddlawn i ni lafaru ein barn yn ddiduedd ar bynciau gwladol a llenyddol, mewn ysbryd gonest, teg, ac addfwvn ac os byddwn yn camsynied ar unrhyw hanes, byddwn yn agored i argy- hoeddiad bob amser. Hefyd, os bydd rhai o'n Derbynwyr yn canfod rhyw ffordd i ni ddiwyyio y Cyhoeddiad, a gwneyd ei gynnwysiad yn fwy buddiol i'r darllenyddion yn gyffredinol, byddwn yn ddiolchgar os hysbysant hyny i ni ac ymdrechwn, hyd eithaf ein gallu, i gyd- synio a'u dymuniadau. Gobeithiwn hefyd na siomir neb trwy ganfod nad yw pob peth a add- awsom yn ein Golyglen wedi cael ei gyfleu yn y Rhifyn hwn; na, byddai hyny yn analluadwy mewn un Rhifyn, eithr canfydda pob dyn synwyr- graff, mai hysbysu a wnaetbom gynnwysiad cyff- redinol SEREN CYMRU" fel y byddai y Rhif- ynau yn dyfoC^allan yn olynol, ac trad oeddym yn bwriadu i'r cwbl gael ei gynnwys mewn un Rhifyn. Hefyd, yr ydym yn bresennol yn galw sylw ein cydwladwyr, yn Fasgnachwyr, Siopwyr, Fferm- wyr, &c., at y cyfleusderau a'r manteision a gant trwy hysbysu gwertbiad nwyddau a phethau ereill, ag sydd yn gofyn cyhoeddusrwydd cyffred- inol, ar dudalenau "SEREN CYMRU." Gallwn anturio dywedyd heb un petrusder, fod ei chylch- rediad eisoes yn fwy helaeth a chyffredinol nagun Cyhoeddiad o'r fath yn Nghymru, ac nid oes braidd un gongl o'r Dywysogaeth lie nad yw "SEREN CYMRU wedi treiddio iddi; ac nid oes ammheuaeth genym, yn ol yr addewidion caredig ag ydym wedi gael o wahanol fanau, na fydd ei chylchrediad etto yn llawer mwy helaeth yn mhen ychydig amser. Bydd i'r Hysbysiadau gael eu cyhoeddi yn Gymraeg neu yn Saesnaeg, neu yn Gymraeg a Saesnaeg, yn ol fel y byddir yn ewyll- ysio, a hyny ar yr ammodau mwyaf rhesymol. Ar bob ystyriaeth, canfydda ein cydwladwyr nas gallant gael un cyfrwng gwell na SEREN CYMRU," trwy yr hwn y gallant hysbysu eu nwyddau; gap hyny, yr ydym yn galonog yn eu gwahodd i wneyd defnydd helaeth o hono, er eu lies eu hunain, yn gystal ag er sefydlogrwydd a llwyddiant y Cyhoeddiad. Yr ydym etto unwaith, yn dychwelyd ein di- olchgarwch gwresocaf i'r cyfeillion ffyddlawn a fu yn ein anrhegu a'u Gohebiaethau, pan oedd Seren Gomer dan ein gofal; a theimlwn ein hun- ain dan rwymau adnewyddol iddynt os parhant yn eucaredigrwydd at "SERENCYMpu." Bydd hanesion o bob math yn dra derbyniol, yn gystal a Chyfansoddiadau Barddonol, a Thraethodau byrion ar bynciau dyddorawl. Yr ydym yn awr yn terfynu ein hanerchiad, -yn iigeiriau yr anfarwol JOSEPH HARRIS gynt, ar gyohwyniad Seren Gomer Llwydded gwir- ionedd, dj|j»~ inwybodaeth a gormes, inbel- aethed cariad, blagured. y cyfiawn, diwreiddier eynddaredd a di-wg-ewyllys, ymehanged preswyl- ieydd Uiz"z\ teyrnased Tywysog lied dwell dros y byd, preswyiied puruc\» a Vddlonrwydd vn holl bebyll Cymru, cad wed y Iaith gynnwjo-' iawr Gymraeg ei thir; a dyweded pob Cymro cywir, Hawddamtnor i SBREN CYMRU' redeg yn ei chylchdaith o Gaerdyf i Gaergybi, ac o'r dydd hwn byd y dydd na byddo eisieu y fath J drosglwydd gwybodaeth ar Genedl y Cymry; ardderchoged y Beirdd ddosparthiadau ein dalen- au a'u cyfanscddiadau, per-arogled gweinidogion yr efengyl ei hymddangosiad a'u hanesion cym- manfaol a chenadol, eled y beirniad heibio i'w manau tywyll, a chofied pawb y dicbon hi fod yn seren siriol fyth, er bod weithiau yn seren dan gwmwl." Wrth derfynu, yr ydym etto yn hysbysu nas gallwn fyth anghofio caredigrwydd y cyfeillion ag ydynt wedi anfon atom i'n cefnogi, mor hael- frydig ag y maent wedi gwneuthur a bydd eu hymddygiad canmoladwy yn argraffedig ar ein calon hyd oni falurir hi yn llwch y dyffryn. Ydym, gydwladwyr serchoglawn; Eich gostyngeiddiaf wasanaethydd, Y GOLYGYDD. Caerfyrddin, Awst 12, 1851.

Advertising