Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu

Y GWYLIEDYDD: NEWYDDIADUR AC ADOLYGYDD WYTHNOSOL. EIN RHAGLEN. MAE y Wasg Gymreig wedi gwneyd gwasanaeth werthfawr i'r Dywysogaeth yn y blynyddau a aethant heibio, nid yn unig trwy ddwyn allan Lyfrau a Chyfnedolion, ond trwy ddarparu Newyddiaduron, y rhai mae eu rhagorolder ar y cyfan yn deilwng iawn o gydnabyddiaeth. Ond mae eto le ar y maes. Mae yn agos iawn i ugain mil o'r boblogaeth Gymreig yn aelodau Eg- lwysig gyda'r Trefnyddion Wesleyaidd, a gellir yn ddyogel gyfrif fod deugain mil arall yn perthynu iddynt fel gwrandawyr rheolaidd. Mae felly, o leiaf, drigain mil o Gymry yn y wlad hon yn Wes- leyaid. Yn Ysgolion Sabbothol y Wesleyaid y dysgasant ddarllen Cymraeg, yn eu Capeli hwynt y maent yn addoli, ac iddynt hwy, yn benaf, y maent yn ymddiried eu rhoddion ewyllysgar tuag at achos Crefydd. Dengys hyn yn amlwg, fod angen am gyfrwng i wneyd y Cymro yn adnabyddus â symud- iadau y Cyfundeb Wesleyaidd, nid yn unig yn ei wlad ei hun, ond trwy y deyrnas a'r byd yn gyff- redinol. Ar y cyfrif hwn, gan hyny, mae Y GWYLIEDYDD yn dyfod yn mlaen i gymeryd ei le yn mhlith y Newydd- iaduron Cymreig, gan- deimlo yn hyderus nad traws- ymwthiwr di-alw am dano ydyw, eithr fod ganddo ei le a'i waith priodol ei hun. Ac y mae, gan hyny, yn gyntaf oil yn addef ei fod yn Wesleyad selog, ao y mae yn addaw bod yn ffydd- Ion yn ngwasanaeth Wesleyaeth yn wastadol. Bydd iddo wylio gyda dyfalweh ar ei sefyllfa, ei hymdrech- • ion, ei llwyddiant, ei llenyddiaeth, ei Thrysorfeydd, ei Chenadaethau, a phob peth arall a berthyn yn briodol iddi, gan roddi pob cynorthwy yn ei allu i sicrhau. ei llwyddiant. Cydweithia yn egniol gyda'i Phulpud, ei Chaniadaeth Gysegredig, ei Hysgolion Sabbothol, a'i Llyfrfa, i wneyd rhan y Wesleyaid i iawn-gyfeirio y Cymry yn ffyrdd dyogel Crefydd a Moes. Ac ar yr un pryd, y mae yn dadgan yn ben- dant nad oes ganddo unrhyw awdurdod swydd,ogol yn y Cyfundeb, ac o ganlyniad bydd holl gyfrifoldeb ei ddysgeidiaeth yn hollol a chwbl arno ef ei hun yn mhob ystyr a chysylltiad. Ao yn mhellach hefyd, ni bydd ei wasanaeth yn hollol gyfyngedig i'w blaid ei hun. Gwylia yn ddi- ragfarn ar weithrediadau pob plaid; a chyda llawen- ydd y cofnoda lwyddiant pob enwad crefyddol yn eu hymdrechion i achub a Uesau dyn, a gogoneddu Duw. Mae Y GWYLIEDYDD yn bwriadu dal sylw gofalus ar weifchrediadau Llywodraeth a Senedd y Wlad, ac ar bob symudiad Gwladol o bwys trwy y byd.1 Noda allan y ffieithiau yn y modd mwyaf syml, eglur, a chryno ag y gall; a dywed ei farn yn rhydd ao agored, ac annibynol, pan welo hyny yn briodol, ar bob peth a gymer le. Bydd yn gefnogydd cyson a gwresog i bob mesur a farno yn dueddol i ddyogelu Rhyddid Gwladol a Chydraddoldeb Crefyddol; ao yn wrthwynebydd hyf a gonest i bob mesur a farno yn tueddu i roddi gwyneb i ormes a thrais. Creda mewn cyfnewidiadau er diwygiad. Bydd iddo gadw golwg ar angenion y wlad, a chyhoedda ei farn ei hun, yn hollol annibynol, ar bob mesur a gynnygir i ddiwallu y cyfryw angnenion. Bydd yn bleidiwr ffyddlon a di-ildio i bob peth cyfaddasol i ddyrchafu dyn—pob peth cyfaddasol i ddyogelu i ddyn ei iawn. derau, a'i gymwyso i'w mwynhau a'u harfer. Mae Y GWYLIEDYDD hefyd yn Gymro ac yn Gymro. garwr gwresog, ac felly bydd yn cadw gwyliadwr- iaeth ar Gymru ae ar y Cymry yn mhob gwlad. Deil sylw manwl ar arferion, a moesau; ar ddysg a llenyddiaeth; ar gelfyddyd, a masnach y Cymry, a noda allan yr hyn a farno yn annheilwng i'w gon- demnio; a'r hyn a farno yn iawn i'w gymeradwyo a'i gymell. Bydd gwir ddyrchafiad y Cymro, a gwir anrhycledd a llwyddiant ei wlad, a chadwraeth barhaol ei iaith bob amser yn agos at ei galon. Fel hyn, bydd Y GWYLIEDYDD yn Newyddiadur "yflawn i'r holl bobl. CaifE yr Amaethwr a'r Mas. ;iachwr wybod y prisiau yn mhrif Farchnadoedd Dymru a Lloegr. Bydd ynddo grynodeb o Newydd- i' in yr Wythnos, yn Gartrefol a Thramor, yn Wladol | Chrefyddol. Bydd iddo ganiatau i Ohebwyr ( -raethu eu lien ar wahanol bethau fyddant yn tueddu i ddysgu a llesau. Gwylia am gyfleusderau i lesan » sirioli y Teulu. Gwna gymdeithion o'r Plant a'r I<obl Teuainc; bydd yn gyfaill ffyddlon i Achos Sobr- "'Ydd, a gwna yr hyn oil ag a allo tuag at gynorthwyo i roddi iawn-gyfeiriad i'r genedl sydd yn codi. Yn ct y pris a'r maintioli caiff pawb yr hyn sydd briodol i'w ddysgwyl mewn Newyddiadur Wythnosol. Ar y telerau hyn, mae Y GWYLIEDYDD yn cynyg 8 vRsanaethu ei oes, ac yn gofyn am gefnogaeth. Coal & Corn Exchange, ■ FACING LLOYD STREET, L L A N D U 1) N 0. -'1.;1'. R. D. N, General Merchant. Constant Supply of Coal, Corn, Hay, &c. PATENTED AUGUST, 1876. Gwlaneni Cymreig Cartref (Double twisted Welsh Flannels). gj_RIFFITH JgVANS AND g0N' J)INAS j^AWDDWY, ENNILLWYR y Gwobrau yn Eisteddfod Pwllheli, 18J 5, ao yn Eisteddfod Wrexham, 1876, am y Wlanen Gymreig oreu. v ■. Golchcmt heb fyned yn dew a dialed, a gwisgant gyhyd ddwywaith a gwlanen Cymreig cyffredin. ~—' X% (iWEKTIItft ■ EBENEZER JONES AND CO4 Regent House, Stryd Fawr, Caernarfon. GRIFFITH DAVIES, High Stt-eet, Bangor. I VALUABLE FAMILY MEDICINE. 4 ESTA! I835?^| I TRADE MARK, F J/ I V 1 m r. PI and other fluids ot trie human body. By the use of which, during more than 40 years, MANY THOU- SANDS. OF CURES have been effected; numbers of which cases had been pronounced INCURABLE! The numerous well- authenticated Testimonials in disorders of the HEAD, CHEST, BOWELS, LIVER, and KIDNEYS; also in RHEUMATISM, ULCERS, SORES, and all SKIN DISEASES, are sufficient to prove the great value of this most useful Family Medicine, it being A DIRECT PURIFIER OF THE BLOOD Many persons have found them of great service both in preventing and relieving SEA SICKNESS and in warm climates they are very beneficial in all Bilious complaints. Sold in Boxes, price nd., Is., lid., and 2s. 9d., by G. WHELPTON & Sow, 3, Crane-court, Fleet-street, London, and by all Chemists and Medicine Vendors at home and abroad. Sent free by post in the United Kingdom for 8, 14, or 33 stamps. NEW WESLEYAN CHAPEL, FLINT. I A BAZAAR Will be held in aid of the Liquidation of the remain- ing Debt on the above Chapel, on TUESDAY, WEDNESDAY & THURSDAY, APRIL 24TH, 25TH, & 26TH, 1877. The Friends are desirous of realising the sum of £150, and very earnestly solicit contributions either in money] or articles for Sale. Offerings may be forwarded to, and will be thankfully received by MRS. CHIIISTOPHERSON, Crown Inn, Flint. MRS. E. REDFEEN, Flint. MRS. JONES, Chemical Inn, Flint. MRS. HUMPHREYS, Wesley Mount, Bagillt. REV. T. J. HUMPHREYS, Bagillt,") n. REV. L. JONES, 11, Hamilton [ M rC, Street, Chester, J Mlmstcra- MR. THOS. JONES, Feather-st., Flint, Treasurer. MR. D. A. RICHARDS, Chester-rd., Flinty MR. W. JONES, Dee View, Flint. ( 0 MR. C. EDWARDS, Commercial-road, Fbecretaries" Flint, J Flint, CAPEL Y WESLEYAID, COEDPOETH. CYNNELIR BAZAAR Yn YSGOLDY PENYGELLI, COEDPOETH, ar y DYDDIAU MAWRTH, MERCHER, IAU, A GWENER, y laf, 2il, 3ydd, a'r 4ydd o FAI, 1877, o dan nawdd y bonedd- igion a'r boneddigesau canlynol :— THE LORD LIEUTENANT OF DENBIGHSHIRE. His Grace the Duke of I Lady Cunliffe, Westminster. George Osborne Morgan, g Her Grace, the Duchess Q.C., M.P. of Westminster. Mrs. Osborne Morgan. Sir R. A. Cunliffe, Bart., Mrs. Cornwallis West. Mae yn hyfrydwch genym hysbysu fod SYR R. A. CUNLIFFE A G. O. MORGAN, Ysw., wedi addaw yn gar- edig fod yn bresennol y laf o Fai, ar agoriad y Bazaar. Bydd i'r holl elw oddiwrth y Bazaar fyned tuag at dynu y ddyled o SAITH GANT o BUNAU sydd yn aros ar y Capel uchod, a thaer erfynir cydymdeimlad a chynorthwy pwy by-nag a allo; ac a deimlo mor gar- edig ag anfon unrhyw rodd tuag at y symudiad. Derbynir a chydnabyddir yn ddiolchgar gan y per- sonau isod unrhyw swm o arian ac unrhyw beth a phobpeth gwerthadwy, Ni bydd unrhyw rodd yn rhy fechan nac yn rhy fawr. D. Jones Wesleyan Minister, "| Griffith Evans. Stationer, High-st. 1 Joseph Jones, High-street, I Coedpoeth, J. F. Rogers, Grocer, &c., J- near Moses Carrington, Grocer, &c. Wrexham. Mrs. D. Jones, Tabor House, J Mrs. N. Price,Tabor Hall J QYLCHWYL JpLYNYDDOL Y TREFNYDDION WESLEYAIDD, PEN'DREF, TREFFYNNON. CynneHj"y Gylchwyl uchod ar y dyddiau SUL A LLUN Y PASG, EBRILL lAF A'R 2AIL, 1877. Y Gweinidogion a ddysgwylir i wasanaethu ydynt:— PARCH. JOHN EVANS (Egkoys Bach), LIVERPOOL. JOHN JONES (F) PWLLHELI. JOHN HUGHES (c), MACHYNLLETH. Bydd yr oedfaon am 10, 2, 6. Bwriedir gwneyd ymdrech neillduol yn y gylchwyl hon i gyfarfod a threulion cysylltiedig a'r Trust Property yn y lie. I WESLEYAN AND GENERAL ASSURANCE SOCIETY. HEAD OFFICE MOOR STREET, BIRMINGHAM. ESTABLISHED 1841. Empowered by Special Act of Parliament. CHAIRMAN: B. SMITH, Esq., Handsworth, Bir. mingham. VICE-CHAIRMAN: JOHN FIELD, Esq., Hill Top, West Bromwich. ACCUMULATED AND INVESTED FUND EXCEEDS £ 130,000. LIFE ASSURANCES ACCEPTED. SICKNESS ASSURANCES, WITH MEDICAL ATTENDANCE. ANNUITIES GRANTED. The 35th Annual Report for the year ending De. cember 31,1875, with copies of Valuation Report, re- cently made by F. G. P. Nelson, Esq., F.S.S., Actuary, and Prospectuses may be obtained upon application the Head Office, or of any of the Agents. RESPECTABLE AGENTS WANTED where the Society is not represented. JAMES W. LEWIS, Manager. R. ALDINGTON HUNT, Secretary. LLYFRAU AR WERTH YN SWYDDFA YR EURGRAWN, 81, VICTORIA PLACE, BANGOR: s. C. SAMUEL DAVIES A'I AMSERAU, gan y Parch. Samuel Davies, Cadeirydd y Dalaeth Ogleddol 2 6 PIGION O'R BEIBL AMLIEITHAWG, gyda Rhagymadrodd, gan y Parch.W. Davies,D.D. 1 6 DWFR Y BYWYD sef deg o Bregethaugan Weinidogion Weslevaidd. Cyhoeddwyd am 2s. 6c 1 6 YR EGWYDDORYDD YSGRYTHYROL 1 6 PRIF PHISYGWRIAETH, gan Mr. Wesley, neu o gylch mil o gynghorion at wella Tri Chant o ddoluriau, &c., heb gymhorth medd- ygon. Argraffiad newydd, wedi ei rwymo yn hardd, cloth, gilt lettered 1 4 ETO MEWN AMLEN 1 0 DIFFYNIAD WESLEYAETH, gan y Parch. Rowland Hughes J. 0 9 TREFNYDDIAETH WESLEYAIDD, gan y Parch. T. Jackson 0 4 RHEOLAU YSGOLION SABBOTHOL Y WESLEYAID 0 2 Yn awr yn barod, Pris 6c., Y DDARLITH DALAETHOL (Y gyntaf o'r gyfres), A DRADDODWYD YN NGHYFARFOD TALAETHOL CARNARVON, 1873. Yn oynwys Golwg Hanesyddol, Feirniadol, ac Ysgrythyrol, ar Natur a Dyben Marwolaeth Crist. GAN Y PARCH. W. DAVIES, D.D. Yn awr yn barod, pris Is., Y DDARLITH DALAETHOL (Yr ail o'r gyfres), A DRADDODWYD YN NGHYFARFOD TALAETHOL BANGOR, 1874. TESTUN CRISTIONOGAETH A DEDDFAU DERBYNIAD CREFYDD. GAN Y PARCH. JOHN HUGH EVANS. Yn awr yn barod, Rhan I., II., a III., pris Swllt y rhan, GWEITHIAU Y PARCH. THOMAS AUBREY, Yn oynwys Pregethau, Darlithoedd, Traethodau, &c,, gyda Chofiant GAN Y PARCH. SAMUEL DAVIES. Yn awr yn barod, LLYFR TONAU Y WESLEYAID CYMREIG YN Ylt HEN NODI ANT. Pris wedi ei rwymo mewn Llian, gydag ymylau oochion 2s. 6c. Pris wedi ei rwymo mewn Lledr, wedi ei oreuro, gyda phapur wedi ei linellu at ysgrifenu Tonall ohwanegol 3s.6c. Eto yn y TONIC SOL-FFA, wedi ei rwymo mewn llian 2s. 6c. ESBONIAD WESLEY AR Y TESTAMENT NEWYDD. Wedi ei gyfieithu gan y diweddar BARCH. ROWLAND HUGHES. Yn rhanau 7s. Oc. Wedi ei rwymo mewn llian 7s. 6e. HOLWYDDORYDD DUWINYDDOL, Yn cynwys YMCHWILIAD AC EGLURHAD YSGRYTH YROL, MEWN FFORDD 0 HOLIADAU AC ATEBION, Ar brif Athrawiaethau a Dyledswyddau y Grefydd Gristionogol. At wasanaeth yr Ysgolion SoMothoh GAN Y PARCH. R. PRICHARD. PRIS 2s. NEWYDD DA I BLANT AC AELODAU EIN HYSGOLION SABBOTHOL. Yn awr yn barod, ODLAU MOLIANT, SEF CASGLIAD 0 HYMNAU AT WASANAETH YR YSGOL SABBOTHOL, Y TEULU, RHESTRAU PLANT, &c. WEDI EU DETHOL GAN Y PARCH. JOHN EVANS (A.) Pris mewn amlen, 6c; mewn llian, 8c. Mae y llyfr yn cynwys agos i bedwar cant o hymnau hen a diweddar. Credwn nad oes eisieu ond gwybod eu bod yn barod na bydd galw am danynt wrth y canoedd. Dylent fod yn nwylaw ein hysgolor- ion yn ddieithriad a dioedi. Anfoner yr holl archebion i'r Parch. SAMUEL DAVIES, Wesleyan Bookroom, Bangor.