Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
9 erthygl ar y dudalen hon
Y CYNWYSIAD.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Y CYNWYSIAD. Yr Wythnos 1 Y Cyffro degymol yn Llangeler 2 Mr W. O'Brien, A-S- 2 Damwnin yn Pontlottyn 2 O ben y Garnedd 4 Lloegr a Portugal. 4 Igisteddfod Gadc-iriol Meirion 4 Dolgellau 5 Samson' Cymreig 6 Trefnyddiaeth Wesleyaidd 6 Llanelltyd 7 Abermaw 7 Trumau Everton 7 Modasau 6 Marwolaethau 5 YBrtfErthygl 9 Barddoniaeth 11 Hysbysiadau 12-16
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DYMA'K hen flwyddyn wedi ein gadael a gwawr Calan blwyddyn newydd wedi tori arnom, ac Eisteddfcd Meirion yn ymddangos mor hoyw a siriol ag y gwel- wyd hi erioed. Y mae yn amlwg i bawb fod yr hen sefydliad yn enill nerth a chyhoeddusrwydd a dylanwad y naill flwyddyn ar ol y Hall. "Gwelid lluoedd yn gwibio fel y wenoliaid gyda'r cerbydresi boreuol, ac yn llawn awydd am fwynhau Eisteddfod o'r iawn ryw. Amlwg yw fod ei rhestynau yn denu sylw llenorion drwy y Dywysogaeth, ac nid ami y gwelwyd cynifer a 16 yn ymgeisio am y gadair mewn Eisteddfod Daleithiol, ond dyma y nifer a gynygiodd yn Nolgellau eleni, a dywedir nad oes un o honynt yn gyfan- soddiad anmrwd a gwagsaw. Ymddengys fod y rhan amlaf o'r cyfansoddiadau eraill yn odidog ac uwchraddol. Yr oedd yr olwg ar yr heol heddyw'r bore yn profi yn amlwg fod Eisteddfod Meirion wedi dyfod yn boblogaidd iawn, a'i bod yn cynyddu bob blwyddyn. Un draw back lied ddifrifol yw cyfyngder yr yst&Jell lie y cynelir hi Waeth heb redeg excursions J or pellderoedd pan nad oes lie yn yr ystafell i gynwys haner y dyfodiaid. ybiwn yn sicr fod yr adeg wedi gwawrio Pryd y dylai y pwyllgor gymeryd y mater 0 ^an eu sylw difrifol, aphenderfynu Iwydd U 6U os yn meddvvl am
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
diw^rj0^^ Gritstone ddydd Sul dvriH ^haedd ei bedwar ugeinfed cwir ^e^e^Saetti. Yr oedd y boueddwr 6 aarhydeddus mewn xechyd rhagorol a derbydiodd nifer mawr o longroesawiad- au cynirysedig mewn pellebrau a llythyi- au, oddiwrfcli gyfeillion ac edmygwyr drwy'r Deyrnas Gyfunol, yn gystal ag o'r cyfandir, y trefedigaethau, ac America. Yr oedd yn llawen genym weled Tywysog a Thywysoges Cymru yn mhlith y rhai cyntaf. Fel v sylwai un newyddialur, gall y Frenhines gymeryd ei hamser. Bydd ei llongyfarchiad hi yr un mor werthfawr pa un bynag a roddir ef heddyw, ai ynte yn mhen ugain mlynedd. Pa faint by nag o wahaniaethsydd yn syniadau pobl am ei wladlywiaeth, fe gyduabyddir yn dra chyffredinol ei fod y person hynotaf yn yr oes hon. Efe yw gogoniant a balchder ei blaid, a bydd ei enw yn ddi- ddadl byth mewn coffadwriaeth.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
SYR William Harcourt oedd y prif siar- adwr nos Lun mewn ciniaw yn Derby ag yr oedd dros 700 o Ryddfrydwyr yn cyf- ranogi o hono, er anrhydedd i bedwar ugain dydd genedigaeth Mr Gladstone. Dywedai Syr William, wrth gynygiechyd Mr Gladstone, eu bod yn dathlu pedwar ugeinfed dvdd genedigaeth dyn y byddai i'w enw a'i enwogrwydd barhau pa le bynaga pha mor hired bynag y bydd i'r iaith Seisonig gael eisiarad. Bu chwarter cyntaf o fywyd Mr Gladstone, efallai y mwyaf gofidus fu yn hysbys i'r genedl Seisonig, ond y cyfaod diweddaf, hwyrach, y mwyaf llwyddianus i'r genedl hono, efe fu prif awlwr y llwyddiaut hwnw. Y rheswm fod y blaid Ryddfrydig yn barod i ddilyn Mr Glodstone yw, am eu bod wedi eu gwir berswadio ei fod yn ddyn ag yr oedd eu buddianau yn agos at ei galon, megys yr oedd y Gwyddelod yn eu per- thynas ag O'Connell, a3 ni fyddai 1 un Lly Vi odraeth effeithiol wneud unrhyw gynydd hyd nes y byddai i'r bobl wneud meddwl i gredu mewn arweinydd. Gan hyny, fod y blaid Ryddfrydig, gan eu bod yn credu yn Mr Gladstone, yn barod i'w ddilyn hyd y diwedd.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Bu farw cyn-Ymerodres Brazil, yr hon oedd yn wanllyd ei hiechyd er ei dyfodiad i Ewrop, yn ddisymwth prydnawn Sadwrn diweddaf, yn Oporto. Yr oedd yn ferch i Francis I., diweddar frenin Naples. Priododd a Dom Pedro ar y 4ydd o Fedi, 1843.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYNALIWYD cyfarfod cyhoeddus yn Crewe prydnawn Sadwrn, i ffarwelio a Mr Joseph Jones,cadeirydd diweddarCym- deithas Ryddfrydol Crewe, yr hwn sydd yn gadael Crewe Railway Works, ar ol gwasanaeth o dair blynedd ar ddeg ar hugain, ar gyfrif erledigaeth wleidyddol. Cadeiriwyd gan Dr Hogson, C.C. Anfon. odd Mr M'Laren, A.S., lythyr yn amlygu cydymdeimlad a Mr Jones, a dadganai, oni cheid yr ymchwiliad cyhoeddus anmhleidgar y gofynid am dano oddiwrth y cyfarwyddwyr, y byddai iddo ef ac eraill wasgu am ddadl lawn a thrwyadl ar yr lioll fater yn nghyfarfod nesaf y rhan- eiwyr (shareholders), dim pwys pa mor anhyfryd y gall fod iddynt en hunain, i'r swyddogion, ac i'r cyfarwyddwyr. Yn yr I- hwyr anrhegwyd Mr Jones ag anerchiad ac ugain gini.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y MAE y dadganiad a wnaed yn hysbys yr wythnos hon fod Cadben O'Shea wedi filio deiseb am ysgariad oddiwrth ei wraig, gyda Mr Parnell fel cyd-wrthebydd (co-respondent) wedi cyuyrchu syndod mewn rhai cylchoedd, er na pharai unrhyw ryfeddod mewn cylchoedd eraill oedd yn fwy hysbys o'r amgylchiadau. Sylwyd fod Mr O'Shea, mewn ymgom ag un o wtr y wasg y dydd arall, wedi amlygu syndod fod y peth wedi dyfod yn wybydd- us, er fod sibcwd yn y cyfeiriad hwn yn myned oddiamgylch er's tro. Dyma ydoedd prif destun y siarad mewn cylch- oedd gwleidyddol y dydd arall, ydoedd, achos O'Shea a Parnell. Yn ol pob tebyg, daw yr ach03 yn mlaen i gael ei wrando er nas gellir mynegu pa bryd, am fod y llys wedi ei hauer dagu eisoes,
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y MAE cylchlythyr wedi ei gyboedd gan Fwrdd Llywodraeth Leol at y Cy- nghorau Sirol drwy Loegr a Chymru, yn mynegu, gan y bydd yn rhaid ystyried a phenderfynu y cwestiwn o arwynebedd mewn cysylltiad & chynghorau cymydog aetliol, mai annymunol fyddai aflonyddu yn bresenol ar yr arwynebedd sydd yn bodoli.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Tynwyd sylw Arglwydd Salisbury at adroddiad a wnaed mewn cyfarfod diwedd- ar, ddarfod iddo, ar ystad Hatfield, droi allan denantiaid oedd yn analluog i dalu eu hardrethoedd—ddarfod symud y gwellt oedd yn toi eu bythynod, a gadael iddynt rynu yn yr oerfel. Cyfarwyddodd ei Arglwyddiaeth fod i'r sylw hwn gael ei ateb, gan fynegu nad oedd ganddo ef un meddylddrych at ba achosion y cyfeirid yn vr adroddiadauoeddyncaeleudyf\nu. Nad oedd tai to gwellt yn y rhan hono o'r wlad. Gadawer i hyd yn nod y Prif- weinidog Toriaidd gael y gwirionedd.