Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
7 erthygl ar y dudalen hon
"".''''-P MR GWILYM EVANS,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
P MR GWILYM EVANS, LLANELLI, WEDI DYCHWELYD O'l DAITH. Ychydig wythnosau yn ol cyhoeddwyd mewn hai newyddiaduron fod y bonedd- wr tra adnabyddus uchod wedi cychwyn ar daith hirfaith o amgylch y byd, gan ymweled ag amryw wledydd. Modd bynag ni chwblhawyd y bwriad, canys dychwelodd yn sydyn o Algiers yn Ngogleddbarth Affrica, lie yr aeth am dymhor wedi bod yn aros yehydig amser yn Neheubarth Ffrainc. Achoswyd y dychweliad sydyn hwn gan y newyddion a'i oyrhaeddodd yn Algiers fod masnach y wlad hon yn adfywio yn gyflym ac yn enwedig fod cynydd dirfawr yn yr archeb- ion am y Quinine Bitters. Gan hyny penderfynodd ohirio ei daith i wledydd eraill, a dychwelyd adref i arolygu ei fasnach yn bersonol. lCyrhaeddodd Lanelli mewn pryd i dreulio ei Nadolig gartref yn He mewn gwlad estronol.
YR ANHAWSDER PORTUGIAIDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR ANHAWSDER PORTU- GIAIDD. ARAETH GAN Y BRENIN CARLOS. Ddydd j au agorwyd y Cortes yn Lisbon gan y Brenin Carlos, yr hwn a ddechreu- odd ei araetb drwy amlygu ei ddiolehgar- wch am yr arddangosiad o gydymdeimlad a wnaed gan y bobl ar farwolaeth ei dad a'i gyhoeddiad ei hun yn frenin. Dywed- odd ei Fawrhydi fod Llywodraeth Portugal wedi derbyn y gwahoddiad i gynadledd wrthgaethwasiol yn Brussels, yr hynfel y gobeithid a ganlynai yn dda. Yna dywed- ai y Brenin: Yn ddiweddar yr' oedd gorawydd gwladgarol y genedl Brydeinig a Llywodraeth y Frenhines Victoria i helaethu eu meddianau enfawr yn Affrica wedi ei gyfarfod mewn amrywiol bwyntiau yn y cyfandir hwnw-wedi ei gyfarfod gan gynllumau penodedig Portugal i gad w o dan ei rheolaeth ranau o diriogaeth Affrica. Hi oedd y flaenaf i ddarganfod, tramwyo, ac agor y wlad i fyny i'r cenad- aethau Cristionogol, ac i weithrediad trafnldiaeth; gweithredoedd ag sydd yn ddigonol i ddangos meddiant annadleuad- wy. Y mae y gwahaniaeth rhwng fy Llywodraeth i ac eiddo ei Mawrhydi Bryd- einig gyda golwg ar yr amodau y dylai penaduriaid Ewropaidd fod yn foddlawn arnynt, a'u hawliau i diriogaeth ag y dylent eu dangos, mewn trefn i gael eu cydnabod gan v galluoedd, wedi dilyn mewn goheb- iaeth ddiplomyddol. Nad ydoedd yr oheb- iaeth wedi bod yn alluog i'w gwastadhau oil, ac y mae ganddi, heblaw hyny, i ymwneud a gwahaniaeth arall ar y dull o edrych ar ysgarmes a ddygwyddodd ar lanau yr afon Shire,cydrhwng y boblogaeth frodorol ac ymgyrch Portugiaidd. Y mae fy Llywodraeth i, drwy gael ei chalonogi gan y farn genedlaethol, ac yn gweithredu mewn cydffurfiad a dymuaiad y ddwy chamber wedi ceisio argyhoeddi Llywodr- w aeth ei Mawrhydi o'r hawl diwy yr hon yr oedd Portugal yn rheoli y tiriogaethau i'r gogledd a'r de o'r Zambesi. Y mae fy Llywodraeth wedi cyfyngu ei hun yn ei holl drafodaethau i sicrhau hawl Portugal i diriogaethau ag y mae hi bob amser wedi eu hawlio, ac i ail ddweyd y dadganiadau y mae hi bob amser wedi eu gwneud. Y mae iaith dyner,ddoeth a gofalus ei Fawrhydi yn peri i ni obeithio fod digon o Gristionogaeth yn perthyn i'r ddwy Lyw- odraeth,fel ag i atal iddynt ruthro i derfynu yr anghydwelediad sydd rhyngdddynt drwy'r cleddyf
BRWYDR iN FORMOSA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BRWYDR iN FORMOSA. PUM CANT 0 OHINEAID WEDI EU LLADP Dywed pellebyr o Shanghai fod Llywod' raethwyr China, beth amser yn ol, mewn canlyniad i fynych ymosodiad o du y cynfrod- orion yn Formosa, ar ol gwneud darpariaetb helaeth,wedi anfon gallu cyntefig nerthol i'< canolbarth. Ymladdwyd y frwydr gyntat yn y mynyddoedd gerllaw Tokow. Lladd" wyd cant o'r Chineaid,ac oddeutu pedwar cant o'rbrodorion.
OLIVER JOHNSON.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
OLIVER JOHNSON. Dydd Mawrth yr wythnos fyaedol, yn ei gartref yn Brooklyn, N.Y., bu farw, Oliver Johnson, yn 80 mlwydd oed. Yr oedd ef bron yr olaf o'r Abolitionists a ddaethant gyda W. Lloyd Garrison Wendell Phillips, ac eraill, yn enwog am eu hymdrechion yn erbyn caethwasiaeth. Fel golygydd ac areithydd y gwnaeth efe ei waith da yn erbyn y mawrddrwg hwnw. Ganwyd ef ar ffarm yn Peacham, Vt., o rieni Puritanaidd. Cafodd dipyn o addysg elfenol yn yr ysgol wledig gerllaw ei gar- tref nes oedd yn 16 mlwydd oed, pan ddechreuodd ddysgu bod yn gysodydd. Yn 1829 aeth i Bostonlle y daeth'i gyffyrdd- iad ar Parch Lyman Beecher yn nglyn a chyhoeddiad o'r enw Christian Soldier, amcan penaf yr hwn oedd gwrthwynebu Universaliaeth. Yn 1833 ymunodd Mr Johnson a W. Lloyd Garrison ac eraill, i gorffori cymdeithasau gwrthgaethiwol, ac i areithio dros ryddhad y caethion,yn Lloegr Newydd, New York a Pennsylvania. Yn 1840, aeth i ddinas New York i olygu y National Anti-Slavery Standard, nes yn 1844 y derbyniodd Horace Greeley ef i fod yn un o olygyddion y New York Tribune. Torodd ei iechyd i lawr yno yn mhen pedair blynedd, a phan wellhaodd cychwynodd gyhoeddiad llawer llai yn lilackstone, Mass. Ffaelodd hwnw, a symudodd oddiyno i Philadelphia i olygu y Republic. Ond nid oedd iddo yno ddinas barhaus. Cafwyd ef wedi hyny yn golygu y Practical Christian yn Milford, Mass.; yr Anti-Slavery Bugle yn Salem, 0.; a'r Pennsylvania Freeman yn Philadelphia. Ar doriad allan y Rhyfel yr oedd ef y n un o gyhoeddwyr papyr Abolitionist yn New York. Yn 1865 aeth i fod yn olygydd trefniadol y New York Independent, a daliodd y swydd hono am bum' mlynedd. Yn 1871 rhoddwyd gofal y Weekly Tri- bune iddo, nes y bu farw Mr Greeley,pan ymunodd a Henry Ward Beecher i olygu j Christian Union. Yn 1880 cyhoeddwyd «.i 'Wm, Lloyd Garrison and his Times. Bu yn briod ddwywaith; ond nid oes i'w oroesi o'i deulu ond un ferch o'i ail wraig. Claddwyd ef ddydd Gwener diweddaf o gapel yr Undodwyr yn New York, y Parch. Robert Collyer yn gweinyddu. Felly y terfynodd oes lafurus, gywir ei hamcan, a mawi ei heffeitliiau. Gwelodd ddilead y drwg ag yr enynwyd sel ei ieuenctyd yn ei erbyn, a theimlai ar ol 1865 fel un wedi gorpben gorchwyl mawr bywyd. Casglwyd ef at ei gydlafurwyr yn llawn o ddyddiau,dan goron anrhydedd, a'i goffadwriaeth yn fendigedig ar ei ol.
CYNGHAWS O'SHEA AM YSGARIAETH-;
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYNGHAWS O'SHEA AM YSGARIAETH- DATGUDDIADAU HYNOD I'W DYSGWYL. Yr oedd gohebydd y Freemin yn Llundain, ddydd Sadwrn, yn dweyd:—Yr wyf mewn sefyllfa i fynegu nad oes y y bwriad lleiaf yn Mr Farnell i oedi am un awr ei ymosodiad ar gydfwriad y Times pan ddechreuo y tymhor, meg7s y mae rhai 0 organau Pigott wedi haeru. Fod Mr Parnell yn benderfynol 0 fyned rhag- ddo gyda'i gyhuddgwyn yn erbyn y Llywodraeth ar y cyfleusdra cyntaf a gan-! iateir gan orchwylion y Ty. Cymer y prawf yn erbyn y Times le yn yr eistedd- iad sydd i agor ddydd Gwener nesaf. Y mae achos Parnell yn erbyn y Times ac eraill yn 43 ar y rhestr, ac wedi ei nodi i gael ei brofi drwy reithwyr neillduol. Dysgwylir i'r achos ddytol yn mlaen y0 gynar yn yr eisteddiad; ac yn gymaint a bod y ddwy ochr yn proffesu awydd am fyned drwy y prawf mor frysiog ag y gellir, diamheu y cymer le gyda mor Ileied 0 ohiriad ag y byddo yn bosibl. Tybir mai Mr Sexton fydd arweinydd y blaid Wyddelig hyd nes y bydd profedig- aethau Mr Parnell drosodd. s
GWEDDILL MR GOSCHEN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GWEDDILL MR GOSCHEN. Y mae yn amlwg, meddai yr Economist fod Canghellydd y Trysorlys yn myned i gael gweddill mawr i'w ranu rhwng rhyvT bethau neu gilydd, a blinir ef yn barod gofynion i arfer, 0 leiaf, ran 0 hono i'j} dwyn yn agosach at 'foreufwyd rhad.' OSII megys yr addawodd Arglwydd Salisbury ei fod yn myned i roddi addysg rad iltt dosbarthiadau gweithiol, nid ydym yn credu y bydd efe i'w gyfiawnhau drwf gydsynio r gofynion hyn. Dysgwylia eraill am ostyngiad y tollau ar de, coffi &c., yn nghyd a phethau angenrheidio' bywyd. t .'( f
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
V- THE UNEMPLOYED IN EASTLONDON.—Ati time when much thought is being given to tbl. matter, a practical suggestion may be of service. last year more than £300,000 wort! of foreign matches were purchased by incof siderate coaaucaers in the cuunfcty, to the if jury of our own working peopie, so tsue 1 it that "evil i- wrought by want of thought as well as want of heart." It all cousucuetf would purchase Bryaut and May's matciiei that firm would be eaabled to pay £ 10,00* a week more in wageB.