Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
8 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Drwg genym ddeall fod strike fawr wedi cymeryd lie yn Llandudno. i
TRAWSFYNYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TRAWSFYNYDD. WYTHNOS Y NADOLIG. Cyjarfod Pregethu Bly nyddol y Methodist- iaid Calfinaidd. Nos Fawrth a thrwy dydd Mercher, Rhagfyr 24ain a'r 25ain, cynaliodd y Methodistiaid Calfinaidd eu cyfarfod pregethu blynyddol, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch n Abraham Roberts, Le'rpwl; David Charles Evans, Porthaethwy; a T. C. Edwards, D.D., Coleg y Brifysgol, Aberystwyth. Cafwyd cynulleidfaoedd lluosog a phregethu grymus a nerthol. Bydded i'r had da a hauwyd gael tir priodol fel ag i ddwyn flrwyth toreithiog yn y dyfodol. Tea Party a Chywgerdd Blynyddol yr ysgol Frytanaidd.-Cynaliwyd yr wyl ucbod ddydd Sadwrn, yr 28ain cynfisol. Gwasanaeth- wyd a chyfranwyd at y te gan nifer auarferol o luosog o foneddigesau yr ardal, fel y tiodd yr wyl de, yr hon oedd 21ain oed, allan yn llwyddiant perffaith. Am chwech y nos,cynaliwyd y21aincyngherdd yn nglyn a'r Ysgol Frytanaidd. Llywydd- wyd gan Mr Richard Roberts, Tygwyn, ac arweiniwyd gan Garneddwen, yr Orsaf. Gwasanaethwyd gan Misses Mary Jane Davies, Mary Owen, Annie Phillips, Mary Ellen Roberts, Catherine Williams, Nfr. W. Price, PeterWilliams, David Morris,W Parry, Robert Edmunds, Blaenau Festiniog, J. B. Jones,a B. Jonas, Talsarnau. Uafwyd adroddiad rhagorol gao Mr Richard Lewis. Datganodd y cor dan arweiniad Eos Prysor,' Arglwydd, chwiliaist ac adnabu- ost fi' yn gampus. Cyffciliwyd yn fedrus gan Mri. Robert Roberts, Glassed, a J. E. Jones, Maentwrog Yn ystod y cyfarfod cafwyd anerchiad a chan gan y Parch. — Phillips, Harlech. Canodd" Y r Ysgol yn y W lad," nes codi hwyl neillduol yn y plant. Arwisgwyd yr ystafell yn hynod o ddestlus gan Misses Jarrett, Werngroo, J. Jones, Ysgoldy, a Mr. Richard Roberts, Maesygraian. Cafwyd cyfarfod rhagorol am fod pawb wedi gwneud eu rhan yn dda, a'r gynulleidfa wedi ymddwyn yn weddus a boneddigaidd. GOHEBYDD.
Y TYWYSOG ALBERT VICTOR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y TYWYSOG ALBERT VICTOR. Dywedir o Calcutta, ddydd Gwener, fod y Tywysog Albert Victor wedi cyrhaedd yno y prydnawn hwnw ar ei ddychweliad i'r India o Burmah, a'i fod wedi cael y derbyniad mwyaf brwdfrydig. Croesawyd ef gan Ardalydd Lansdowne, y Rhagdeyrn, ar làn yr afon, a gyrodd gydag ef i Dy y Llywodraeth. Yr oedd yr heolydd ar y flordd yn orlawn o frodcrion, y rhai a rifent, o leiaf, gan' mil. Cyflwynodd bwrdais Calcutta anerch i'r Tywysog ar ei fynediai i'r ddinas, a gwnaeth ei Uchelder Brenhinol atebiad effeithiol. Cadwyd y diwrnod yn wyl gyffredinol, ac yr oedd y llongau yn y porthladd wedi eu haddurno a'u goleuo.
AT YSGOLION SUL YR ANNIBYNWYR,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT YSGOLION SUL YR ANNIBYN- WYR, UNDEB DOLGELLAU. Y mae llyfrau y tonau at y Gymanfa Ysgolion nesaf yn barod, yn Swyddfa y DYDD, Dolgellau. Dymunir ar i bob ysgol anfon yn ddioed am y nifer gofynol, er mwyn parotoi gogyfer a'r Gymanfa. Dys- 0 gwylir i bob ysgol gymeryd yr un nifer o honynt ac sydd o aelodau yn yr Ysgol Sul. Brithdir. J. B. DAVIES. Ysg.
ADDYSG GANOLRADDOL YN MEIR-IONYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ADDYSG GANOLRADDOL YN MEIR- IONYDD. Y mae Arglwydd Cranbrook wedi pen- odi Mr Owen Slaney Wyrne, Ruabon, a Cadben Taylor, Tynllwyn, Corwen, i fod yn aelodau o Bwyllgor Addysg yn Sir Feirionydd. Gwyr ein holl ddarllenwyr beth yw daliadau gwleidyddol y ddau hyn.
Family Notices
Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu
PRIOD is. Ion. 4, 1890, yn addoldy y Tabernacl yn y dref hon, gan y Parch. D. Griffich, Mr. Aneurin Llewelyn Joaes, o'r N &S. Walew Bank, a Miss Jennie Anne Hughes, ail ferch Mr W. Hughes, Cyhoeddwr ac Ar- graffydd, Dolgellau. [Methasom roddi rhestr o'r rhoddion lluosog ar yr achlysur hwn yr wythnos hon, gwnawn hyny y tro nesaf.] Byth na ddel croes awelon-i ohwerwi Eich araul obeithion; Ond heulog ddydd rydd yr Ion, A moethus flwyddi meithion. TAWNLOft. Dwy galon gyda'u gilydd-wnaed yn un Dan wenau'r Creawdydd; Ddau anwyl, 'rwy'n eiddunydd Byd gwyn hyd derfyn eich dydd. Ap HEFIBT.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
$HLSAM op. L ^40 s' M p, POWELL'S Balsam of Aniseed CURES A COUGH. This old and invaluable Medicine possesses the ex- traordinary property of immediately relieving Coughs, Colds, Hoarseness, Difficulty of Breathing,and HuBkinesS in the Throat, and by dissolving the congealed phlegm, promotes free expectoration. The unpleasant sensation of tickling in the throat, ■which deprives so many of rest during the night by the incessant coughing it causes, is quickly removed by it dose of Powell's Balsam of Aniseed. Those who have not already given ita trial should do so at once. In palace and cottage alike, Powell's Balsam ef Aniseed is the old and unexcelled COUGH REMEDY. Its large sale throughout the whole civilized worlA proclaims its great worth. 20,000 CHEMISTS SELL IT. lEE TRADE MARK AS ABOVE ON EACH "WRAPPER aetuse Imitations. Established :1.83.. IT IS "WORTH i'J"EW'S EYE" FOR A COUGH. Price 1/11, 2/3, and Family Bottles. 10 Prepared by THOMAS POWELL, 1,1, PLACS BLACKWAM BOAD, Lontar,
Y DEGWM.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
defnvdd. Yn mha ffurf bynag y tal efe y degwm hwn, y mae yn wrthwyuebus iddo ei dalu ogwbl. Ychydig o ffermwyr sydd yn ddigon flol, fel a, i fethu canfod, yn mha ffurf bynag y talant y degwm, pet uu bynag ai yn uniongyrchol i'w berchenog, neu yn anuniongyrchol drwy y tirfeistr fel ardreth, eu bod yn ei lwyr golli os yn myned i logell y clerigwr. Gwel y deiliad hefyd yn mhellach, os bydd i'r degwm gael ei gymhwyso i leibau trethoedd, neu i gynal ysgolion, y gall yn ddiogel ei dalu fel ardreth Dea doll, am y daw yn ol iddo drachefn. Y mae Arglwydd Wolmer yn gwrthwynebu y ffordd gyffredin o osod yr achos allan, hyny yw, fod y deiliad tirol sydd yn talu cah' punt y flwyddyn i'w dir- feistr, a deg punt i'l parson, yn talu can' punt o ardreth, a deg punt o ddegwm. Myn ei Arglwyddiaeth uad ydyw y deiliad yn gwneud dim o'r fath, ond ei fod yn talu cant a deg o bunoedd o ardreth i'w feistr, yr hwn, yn ei dro, sydd yn estyn drosodd ddeg punt i'r parson. Y mae peth dyrys- wch yn bod yma, oblegid os yw yr ardreth yn gant a deg o bunau, rhaid i'r degwm fod yn ychwaneg na deg; ond, pa fodd bynag y gosodir yr achos allan, y mae y deiliad yn wrthwynebol i dalu y deg punt, am ei fod yn myned i'r parson, pryd y dylai fyned i'r drysorfa genedlaethol, i'w ddefn- yddio er lleihau trethiant yn gyffredinol. Dywed ei Arglwyddiaeth mewn lie arall, gan na bu y degwm erioed yn eiddo y tirfeistr na'r deiliad, nas gellir dweyd yn briodol fod un o honynt yn rhoddi' y degwm pan yn ei estyn drosodd i'r parson, ond yma drachefn y mae efe yn edrych heibio i'r ffaith fod y ffermwr yn gwadu fod y degwm yn eiddo y clerigwr, ac ar y tir hwn y mae yn gwrthwynebu ei estyn drosodd i ddyn nad oes ganddo hawl iddo. Os gwrthoda ei Arglwyddiaeth a'i g feill- ion Undebol edrych ar y pwnc yn y goleu- ni hwn, nid ydyw o un dyben ceisio ym- resymu a hwy. Ateb gwrthwynebiadau o'u gwneuthuriad eu hunain y maent. Gofyna i'w ddarllenwyr sylwi ar amddifad- rwydd nerth ysbrydol y cyrff anghydffurf- iol sydd yn gosod eu gwleidyddiaeth ar yr un lefel a'u crefydd. Buasem yn caru gwybod pa le y bu ei Arglwyddiaeth yn dyst o beth felly. Pa biyd y sangodd efe mewn lie addoliad Anghydffurfiol? Sefydl- iad gwleidyddol ydyw yr Eglwys, a bu- asai yn well iddo ef arfer ei ddoniau i ddarlithio i weinidogion ei Eglwys ei hun, yn hytrach nag antuno i roddi gwers i weinidogion nad ydyw yn ymddangos e fod yn gwybod dim am danynt oddieithr yn ngoleuni athrod y Toriaid a'r Undeb- wyr. Rhaid i'w synwyr cyffredin ei ddysgu mai drwy weithrediad gwleidyddol y gellir cael y degwm at amcanion cenedl- aethol, mai drwy weithrediad gwladol yn unig y gellir datod y rhwymyn gwladol sydd yn uno yr eglwys dra-arglwyddaidd wrth y wladwriaeth; gan hyny, pan ymae efe yn achwyn ar Anghydffurfwyr am gymeryd i fyny gwestiynau politicaidd, y mae yn dangos ei fod yn bryderus am eu hamddifadu o'u hawliau, a'u gorfodi i ymostwng fr hyn sydd gamweddus.