Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu

I Y DYSGEDYDD AM 1890. DAN OLYGIAETH Y PARCH. E. HERBER EVANS, D.D., CAERNARFON Y MAE y gefnogaeth ddidor a roddwyd iddo, er pan dan ei olygiaeth bresenol, yn galondid mawr i barotoi ar gyfer y dyfodol. Bydd ei Olyg- ydd yn sicr o ymddeol pan y derbynia yr awgrym lleiaf fod ei wasanaeth yn annerbyniol. An# y pymtheng mlynedd diweddaf, y mae wedi clust- ¡ feinio am yr awgrym, ond heb ei gael. Y mae yr hen gyhoeddiad yn abl er's blynyddoedd bellach, i roddi help i bob pregethwr a gweinidog oed- ranus a ddaw ar ei ofyn. Dydd o lawenydd mawr ydyw dydd rhanu yr elw oddiwrtho. Ond dydd o lawenydd mwy ydyw hwnw pandderbynir y rhodd fiynyddol mewn llawer teulu. Nid ydym wedi arfer y ddadihon dros i neb ei dderbyn, am ein bod yn credu ei fod fel misolyn yn Ilawn gwerth yr hyn a ofynir am dano yn annibynol ar hyn. Ond byddai yn bnrion i weinidogion a lleygwyr da arnynt, gofio fod ei elw blynyddol yn sirioli llawer cartref a llawer calon. Y mae rhesymau digon eglur dros beidio cyhoeddi enwau y rhai a dderbyniant help oddiwrtho. Ond pe y gwnai pob darllenydd ymdrech i sicrhau un newydd i'w dderbyn am 1890, gellid dyblu y rhodd i bob un o honynt. Rhoddwn yma ran o'n Rhaglen am 1890. Ein J)a,rlunia,u. Tn hytrach na rhoddi un darlun yn Ionawr, fel arferol, ein bwriad ydyw, rhoddi amryw ddarluniau yn ystod y flwyddyn. Gyda rhifyn Ionawr rhoddir Darlun o G-oleg Mansfield, nhydyohain. Gydag ysgrif eglurhaol gan un o'r myfyrwyr. 1. Yn ystod y flwyddyn ymddengys ysgrifau gan athrawon ein colegau- yr Athrawon John Morris, D.D., Aberhonddu; M. D. Jones, Bala; Thos. Lewis, B.A., Bangor; David Rowlands, B.A., Aberhonddu; D. E. Jones, M.A., Caerfyrddin; a T. Rees, B.A., Bala. 2. Ysgrif fisol ar Hen Letydai Cymru, gan Dr. Thomas, Lerpwl. S. Ysgrifau ar Ymweliad a Denmark a'i Hysgolion, gan D. M. Lewis, Ysw., M.A., Prifgoleg Bangor. 4. Y sgrifau ar Cydberthynas Athroniaeth a Duwinyddiaeth, gan y Parch. D.Adams, B.A., Bethesda. 5. Dynion Ieuainc i'r oes "-cyfres o ysgrifau gan y Parch. M. 0. Evans (Eraut), Bangor. 6. Trem ar Hen Wirioneddau mewn goleuni newydd-tair ysgrif gan y Parch. J. Charles, Croesoswallt.—(1.) Creadigaeth dyn a'i dynged. (2.) Bwriad (Design) mewn natur. (3.) Y goruwchnaturiol a'r gwyrthiol. 7. Addysg Ganolraddol, gan y Parch. Cynffig Davies, B.A. 8. "Diwylliant y Werin yn Nghymru," gan Proffeswr Lloyd, M.A., Prif- ysgol Aberystwyth. Yr Ysgol Sabbathol. 9. Y mae brawd ieuanc medrus wedi addaw ymgymerydagofalu am rywbeth gwerth ei ddarllen ar y testyn hwn yn fisol. 10. Addawa y Parch. Machreth Rees i barhau "Y Darganfyddiadau diweddar," y ceir ysgrif ar y mater yn rbifyn Rhagfyr. 11. Gofala hefyd am farddoniaeth y DYSGEDYDD, a rhydd ambell ysgrif ar destynau cysylltieaig—y gyntaf ar lyfr y Parch. Elfet Lewis— Sweet Singers of Wales. 12. "■ Waeth beth," gan Waeth Pwy." 13. Parheir yr ysgrifau ar Scorpion gan Mr. W. R. Owen. Hanes ei Daith i Awstralia, gan y Parch. Alun Roberts, B.D.; ac ar Dr. Bushnell, gan y Parch. T. Johns. 14. Cyfres o ysgrifau ar y Tadau Pererinol, gan y Parch. Ivor Jones. Ceir ysgrifau hefyd yn ystod y flwyddyn gan y Parchn. Dr. Owen Evans, Llundain, R. Williams (Hwfa Mon), Elfet Lewis, Justin Evans, Lewis Probert, Pari Huws, B.D., ac eraill. Bydd H. D. wrthi ar hyd y flwyddyn, fel y wenynen yn casglu Cry- bwyllion Enwadol;" Bryniog" yn gofalu am y Genadaeth, a "Herber" am ei Nodiadau Misol, a llawer heblaw hyny. Yr ydym oil yn barod i'n gwaith, gwnaed ein Dosbarthwyr, ein brodyr yn y weinidogaeth, ac Arolygwyr yr Ysgol Sul eu goreu i'n cynorthwyo, trwy agor drws i ni ddyfod i mewn i bob teulu, a sicrhau un derbynydd yn mhob cartref. Nis gallant wneuthur gwell gwasanaeth i'w henwad. Da chwi, frodyr, cynorthwywch ni. Pris Pedair Ceiniog y Mis. Anfonir un rhifyn neu ychwaneg i unrhyw ardal. Anfoner yr Arch- ebion at y Cyhoeddwr- WILLIAM HUGHES, DYSGEDYDD OUTICS, DOLGBLLKY. PUBLIC ROOMS DOLGELLAU. CYNELI& CYLCHWYL LKSYIIllfiL (0 dan nawdd yr Annibynwyr,) YN Y LLE UCHOD, NOS WENER X GROG LITH, EBRILL 4, 1890. RHBSTR O'R TESTYNAU. TRAETHODAU. 1 Enwogion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gwobr, £1. Is. 2 Doethineb. (Cyfyngedig i ferched.) Gwobr, 10s. 6c. 8 Amser. (Cyfyngedig i rai dan 25ain oed.) Gwobr, 10s. 6c. BARDDONIAETH. 4 Pryddest, (heb fod dros 200 llinell,) 'Joseph yn amlygu ei hun i'w frodyr.' Gwobr, £1 Is. 5 Can, if mweliad y Frenhines a Meirion- ydd.' Gwobr, 5s. 6 Englyn, 'Yr Anwadal.' Gwobr, 2s. 7 Englyn, 'Gwallt.' Gwobr, 2s. CERDDORIAKTH. 8 I'r C6r heb fod dan 30 mewn nifer a gano oreu, 'Yr Arglwydd yw fy Mugail' (Dr. Parry.) Gwobr, L3 3s. 9 I'r C6r o blant heb fod dan 25 mewn nifer a gano oreu, 'Teilwng yw'r Oen (Dr. Parry.) Gwobr laf, il 10s.; ail eto 15s. 10 Pedwarawd, 11 Deuawd, 'Y ddati wladgarwr.' (Dr.Parry.) Gwobr, 5s. 12 Unawd Bass, 'Y Morwr a'i Fachgen (Wm. Davies.) Gwobr, 4s. 13 Unawd Tenor, 'Bedd Llewelyn' (Emlyn Evans.) Gwobr, 4s. 14 Unawd Soprano, 'Y Gwcw ar y fedwen* (Mrs. Watts Hughes.) Gwobr, 4s. AMRYWIAETHOL. 15 Adroddiad, 'Y llong yn y dymhesfcl, gan Caledfryn. Gwobr, laf, 2s.; ail, Is. (Gwelery demyn yn y DVDD am Ionawr 3ydd, 1890). 16 Cyfieithu o'r Gymraeg i'r Suesoneg, 'Beirdd a Barddoniaeth Ynys Prydam,' allan o 'Weitbjau Barddonol a Rhyddiaethol leuan Gwynedd,* tuda!. 370, yn dechrieu, 'Wedi ymsefydlu o'r Cymry yn Ynys Prydain,' ac yn diweddu, 'yn waranUdig ar I gof a chadw.' Gwobr, 4s. 17 Cyfieithu o'r Saesoneg i'r Gymraeg, 'True and false Humour,' allan o Tales and Essays, Joseph Addison. (Cassell's Nation- al Library, pris 3c.) Gwobr, 4s. 18 Llythyr Cymraeg, 'Cais am le mewn gwasanaeth' (i rai dan 18.) Gwobr, 2s. 19 Gtamadegu'r penill, 'Bydd myrdd o ryfeddodau,'&c. Gwobr laf, 2s., ail, is. 20 Dictation Cymraeg. Gwobr, Is. 21 Dictation Liawfer (yn ol system Pitman.) Gwobr, is. 22 Pencil Sketch, 'Y Bont Fawr o'r Marian.' Gwobr, 2s. 6c. 23 Araeth am bum' muoyd, ar /Awyr,' Gwobr, 2s, 6c.