Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
10 erthygl ar y dudalen hon
Y C Y N W YS I A D.| I-
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Y C Y N W YS I A D. Yr Wythnos 1 I Itr Iniuenaa. 2 Marwolaeth Ddisyiyd 2 3 Cyfco Degymol yn Mon 4 j YWasg 4 Yr Anhawader Seisonig a Phortugiaidd 4 Y modd y teithiai ein Teidiau 5 j Dolgellau K I Bisteddfod Gadeiriol Meirion 6 Trumau Everton 6 Llanfachroth 7 Manceinion 7 T Brit Erthygl 9 Marwolaetkau 9 Barddoniaeth 11 Hysbysiadau 12-16
_--0-_-..'---
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
_0- Y mae Rhyddfrydwyr sir Faesyfed wedi bod mewn ymchwil y misoedd diweddaf am Ryddfrydwr i ddyfod allan fel ymgeis- ydd yn erbyn yr Anrhydeddus A. Walsh Mae gohebiaeth wedi ei chario yn mlaen &g amryw foneddigion, yn cynwys Mr Frederick Davis, Ferndale, a dywedir mai efe yw yr ymgeisydd tebycaf. Sibrydid unwaith mai Mr Evans-Williams, y cyn A.S. dros fwrdeisdrefi Maesyfed, a ddeuai yn mlaen, ond uid oes sail i hyi. Crellir dweyd cymaint a hyn, fod bywyd gwleid- yddol y sir wedi ei adnewyddu yn fawr er dychweliad Mr Williams j'r Dywysogaeth. Diamhen, gydag ymgeisydd Rhyddfrydol. poblogaidd, y tcimla Mr Walsh anhawsder dirfawr i gadw ei sedd.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TALAI tenantiaid Hawarden eu bar- dretboedd yr wythnos ddiweddaf; ac mewn atebiad i lwncdestun iechyd Mr. a Mrs. Gladstone, dywedai Mr Gladstone ei fod yn foddhad mawr iddo ef fod Mrs. Glad- stone, fel efe ei hurian, yii cael ei bendithio i raddau rhyfeddol â rhyddhad oddiwrth ranau Ilym baich hen ddyddiau. Wrth siarad ar sefyllfa amaethyddiaeth, amlygai I Mr Gladstone ei fod dros ffermydd mawr- ion a bychain wedi eu cymysg-wasgar yma a tbraw; a myiaai fod yn rhaid i'r ffermwr yn awr edrych ar fedrusrvydd ac yni, am nas gallai ddyfod yn mlaen drwy lynu wrth hen ddulliau pendrwm. Yr oedd ef yn hyderus eu bod mewn amaethyddiaeth yn symud yn mlaen at sefyllfa ddiwygiadol ar bethau.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y MAE afiechyd y Brenin ieuanc Alfonso yn peri cyffro mawr yn Ysbaen, ac y mae pryder mawr yn ftynu mewn cylchoedd swyddogol, a dywedir fod llawer o bellebr- au yn cael eu hatal mewn trefn i gadw yn guddiedig wir sefyllfa pethau yn y taleithiau ac ar led. Ni chaniateir ond yn unig i adroddiadau swyddogol byrion ac anghyflawn basio, yr hyn bar i'r pryder yn y taleithiau fwyhau, lie y dysgwylir am adroddiadau llawnach. Cwyna banc- wyr a masnachwyr fod eu pellebrau yn cael eu hatal gan yr -awdurdodau. Y mae anhawsderau y sefyllfa bolitbaidd a achlysurwyd drwy ymddiswyddiad y Cyfringynghor wedi ei lwyr anghofio, a phenderfynodd y Gweinidogion barhau eu swyddogaethau oblegid anallu y Frerhines Christiana i roddi sylw i wleidyddiaeth. Yr oedd y newyddion diweddaraf am y brenin yn fwy ffafriol.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y MAE yr anhwyldeb heintiol, yr influenza, yn gwasgar ei ddylanwad drwy holl wlbdydd Ewrop. Cipiodd ymaith yr wythnos ddiweddat yr Ymerodres Waddol og Augusta o Berlin, priod y diweddar Ymerawdwr William y Cyntaf. Gwyddid yn gynar ddydd Mawrth fod sefyllfa ei Mawrhydi yn enbyd, a chyn haner dydd, yr oedd torf fawr wedi ymgynull i amlygu eu cydymdeimlad, ac nis gellid eu gwas- garu hyd nes clywed o honynt y datganiad am y diwedd, yr hyn a gymerodd le chwarter wedi pedwar yr un dydd.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR oedd y newyddion diweddaf am Ardalydd Hartington yn fwy gobeithiol, ac nid oedd yr hyn a gyhoeddid yn y papyrau fod y parti oedd wedi ymgasglu i breswylfod Baron de Hirsch wedi ei dori i fyny oblegid anhwyldeb arweinydd yr Undebwyr, yn gywir. Gwir fod Tywysog Cymru wedi bod yn saethu ar etifeddiaeth Arglwydd Walsingham, yr hon oedd wedi ei chymeryd ar ardreth g&.a Baron de Hirsch am y tymhor, a hyny am y swm uchaf y flwyddyn iddo gael ei dalu erioed am ddiogelu helwriaeth; oad yr oedd dvchweliad ei Uchelder Brenhinol i Lundain yn unol â hen ymrwymiadau. Y ffaith yw, fod Arglwydd Hartington, fel lluaws eraill, yn anmharod i gydnabod fod oerfel, oni ofelid am dano, yn beth difrifol, a derbyniodd mewn canlyniad ymosodiad o'r bronchitis.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GELLIB ystyried yn bresenol fod yr anhawsder oedd wedi cyfodi rhwng Lloegr a Portugal wedi ei setlo, a'r hyn a n ofynid gaa Arglwydd Salisbury wedi ei ganiatau gan y Gallu olaf, sef tynu ymaith filwyr Portugal o gymydogaeth v Shire a Mashonaland. Dywedir fod y Weinydd- iaeth yn Lisbon wedi ymddiswyddo; ond fod newyddiaduron y Gweinidogion yn cymeralwyo gwaith y Llywodraeth gyda golwg ar ultimatum, Arglwydd Salisbury ond ymosodid yn ffyrnig arnynt gan y blaid Weriuol, ac aeth newyddiaduron y blaid olaf mor bell a sarhau y Brenin Charles.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR oedd Arglwydd Ripon yn siarad yn Bury nos Lun, a dywedai fod sefyllfa ganolog mewn gwleidyddiaeth yn nesaf i anmhosiblrwydd. Ffolineb mewn dynion sydd mewn safleoedd arweiniol ydyw ymwahanu oddiwrth eu plaid, gan dybied eu bod yn meddu rhyw bolici canolog oedd yn eu cyfiawuhau am ymneillduo. Yr oedd ef yn deall mai eu rheswm ydoedd, fod y Senedd yn alluog ac yn ewyllysgar i wneud cyfiawnder a'r Werddoo, i roddi i'r Gwvddelod yr oil sydd yn eisieu i'w cymodi, ac i'w galluogi i lywodraethu eu hunain yn unol a deddf- au cyffredin. Ni feddent y fath bolici, a hwy oblegid hyny ydyw awdwyr gwirion- eddol Cynllun y Rhyfelgyrch, a'r Mesur Gorfodol gwaethaf y gwybuwyd am dano erioed.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ANERCHID cyfarfod Undebol yr un noson yn Alton, gan Arglwydd Selborne, a chynygiodd bleidlais o ymddiried yn y Llywodraeth bresenol, a dywedai fod llywodraethiad y Werddon wedi bod yn ddianwadal, cyfreithlawn, ac, yn ei farn ef, yn berffaith gyfiawn ar y cyfan. Nas gall un dyn syn»vyrol ddysgwyl by to lwyr berffeithrwydd yn ngweithiad unrhyw beiriant dynol. Yr oedd helyut- ion tramor wedi eu trih mewn pvvyil, dianwadalwch, a doethineb, ac yn newyddion y dydd hwnw eu bod yu cael yr esiampl ddiweddaf o'r ffaith. Terfyn- odd drwy amddiffyn safle y blaid Undebol.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DA genym hysbysu ein darllenwyr, fod ein cydwladwr, Mr T. E. Ellis, yn parhau i wella o'r afiechyd y bu mor uuffodus a'i gyfarfod ar ei hynt yn yr Aifft. Derbyniwyd llythyr oddiwrtho y Sadwrn diweddaf, yn yr hwn y dysgwyliai y gallai adael ei wely yn mben tridiau, y fan bellaf. Cafodd y meddyg a anfonwyd ato o'r wlad hon bellebyr nad oedd augen iddo fyued yn mhellach, ac y gallai ddychwelyd adref, gan fod Mr Ellis allan o berygl.