Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
9 erthygl ar y dudalen hon
Q—n>i*m»-T WYDDGRUG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Q—n >i*m » WYDDGRUG. MARWOLAETH DDISYFYD. Boreu ddydd Iau,y 9fed cyfisol, taflwyd trigolion prif heol y dref hon i ddifrifwch mawr trwy y newydd fod un o'r masnach- wyr wedi ei gael y boreu hwnw yn ei wely yn hollol farw. Enw y gwr ydoedd M.1 John Price, a gadwai siop esgidiau. Anfon- wyd at y meddyg, yr hwn a ddywedai ei fod wedi marw yn gynar y nos, ac mai yr afiechyd ydoedd y parlys mud. Yr- oedd yn fasnachydd parchus, ac o ymar weddiad dichlynaidd, ac yn aelod gyda y Methodjstiaid C lfinaidd, a dywedir fod y Beibl a Llyfr Emynau ar fwrdd yn ei ystafell wely, a lie i gasglu ei fod wedi treulio ychydig amser cyn myned i orwedd am ychydig 'cyn i'r fywiol fflam' ehedeg i 'wlad y goleuni', lie nid yn unig nad oes marw, ond hefyd ni "ddywed un o'r pres- 0 wylwyr dedwydd byth, 'claf ydwyf.' Dyn dibriod ydoedd Mr Price,tua thriugain oed, mewn amgylchiadau oysurus.
YR WYTHNOS WEDDI.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR WYTHNOS WEDDI. Agorwyd y gyfryw nos Lun, gyda phregeth briodol yn 8ddoldy. y Wesleyaid gan y Parch Thomas Roberts, gweinidog Bethel,a'r nosweithiau eraill oddigerth nos Fercher, cynaliwyd cyfarfodydd gweddiau y rhai oedd dra gwlithog a mwynhaol, gan yr amlygid dwysder, a thaerineb diffuant. Cynaliwyd cyfeillach grefyddol yn addoldy y Methodistiaid Calfinaidd nos Fercher i ymddyddan ar 'Ddyledswydd yr eglwys yn ngwyneb llygreiigaethau yr oes' y testun gosodedig, ac agorwyd y pwnc gan y Parch W. Eyans, (Monwyson), gydag anerchiad 'a" cry no, eglur, a chadarn, a dilynwyd ef gyda sylwadaupriodol a diamwys gan y Parchn Robert Owen a Thomas Roberts, a Meistri Lewis Everett, Robert Williams, Thomas Owen, Ishmael Jones, ac eraill; a nos Wener cafwyd anerchiad effeithiol yn nghapel y Wesleyaid gan y Parch Gwen- ffrwd Thomas, ar y testun. Diau naa a y gweddiau yn ofer,a cheir gweled atebiad mewn gwahanol agweddau bendith- fawr. TERTIUS.
CENINEN GWYL DEWI.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CENINEN GWYL DEWI. Gyda rhifyn Ionawr o'n hunig gylch- grawn cenedlaethol, Y Geninen-yr hwn, gyda Haw, sydd yn llifo hyd yr ymylon o hufen llenoriaeth Gymreig-ceir hysbys- rwydd am argraffiad arbenig o'r Genincn Wyl Dewi nesaf eto. Dywenydd genym hysbysu fod llawer o brif lenorion a beirdd ein cenedl wedi cydsynio i gyfoethogi y rhifyn arbenig hwn eto a flrwyth eu myfyrdod mewn ysgrifau bywgraffyddol abeirniaJol, ac hefyd ddarn- au barddonol coffadwriaethol, o amryw ENWOGION CYMREIG YMADAWEDIG, megis- Dewi Sant, y Parchn Canon Evans, D.D., Owen Jones, Llandudno; Gweirydd Ap Rhys; Yulca I; Emrys; J. P. Davies,Tredeg- ar: Mathetes; D. Hughes, B.A., (Awdwr y Geiriadur); Kilsby; John Owen J?y nllwyn, I Cynfaeu; Joka PriUhard Amlwch; Ed- J mund Prys, (Awdl Gadeiriol); Cynddelw; t Y Thesbiad; Ap Vychan; John Phillips, Bangor; Golyddan; Dewi Arfon; Lewis Jones; Fferyllfardd; Idris Vychan; loan Ddu; Bardd Treflys, Caeronwy, &c. Yn mhlith yr ysgrifenwyr ar yr enwogion hyn ceir y fath lenyddion a'r Parchn. J. Evans, (Eglwysbach); J. Hughes, D.D.; D. Williams, Llandyrnog, Waldo; Myfyr Emlyn; D. Griffith, Dolgell- au; D. Adams, B.A.; Ellis Wyn o Wyrfai; Ishmael Evans; Elfed; LIew Llwyfo;Cadfan; Gwalchmai; W. Roberts, Llanrwst; Proff. J. E. Lloyd, M.A.; Hywel Cernyw; 0. M. Edwards, M.A.; Eva/a Thomas, Casnewydd; Gaerwenydd; Tecwyn; Meiriadog; W. Pritchard,Pentraeth; J. Williams, Dwyran; R. Williams, F.R.H.S.; D. C. Evani, F.G.S. Watcyn Wyn; Gwilym Eryri; Gwyddion- ydd; Fedr Hir; Myrddin Fardd; Brynfab; Glan Llyfnwy; Glan Menai, &c. Diau yr addefir na chafodd Cymru erioed y fath swm o lenyddiaeth mor ddyrchafed- ig ac uchelryw, gan gynifer o awduron penaf ein cenedl, am can lleied o bris ag Un Swllt.
YR INFLUENZA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR INFLUENZA. 3,000 0 ACHOSION YN Y WERSYLL- FA YN ALDERSHOT. Y mae yr anhwyldeb hwn ar gynydd yn y lie uctiod. Yn yr ysbyty ddydd Gwener, ] amlygai yn agos i gant o filwyr eu bod yn wael. Mor ami ydoedd nifer y cleifion fel yr oedd yn rhaid troi ystafelloedd o'u gwasanaeth cyffredin er mwyn gwneud lie iddynt. Y mae llawer o salwch yn y gwersyll deheuol, a thri o tythynod a ddefnyddid gan Gatruwd Le'rpwl yn llawn o ddyoddefwyr, yn ychwanegol at y rhai j a dderbynid i'r ysbyty. O'r 12,000 dynion J yn Aldershot, y mae llawn un rhan o bed- air ar restr y cleifion.
iMOSODlAD ARFORWYR LE'RPWL-
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
iMOSODlAD ARFORWYR LE'RPWL- Y mae nifer o forwyr a arosant yn bres- enol yn Le'rpwl, wedi cael ymosodiad y llifiant (influenza) yr wythnos ddiweddaf feliy bu raid iddynt roddi i fyny eu gwaith. Poenau disymwth, cur yn y pen, a phen- ysgafnder ydynt yr arwyddion sydd yn dynodi natur eu hafiechyd.
:% INFLUENZA AC ALCOHOL-
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
INFLUENZA AC ALCOHOL- Dywedir fod dim llai na 1,500 o bobl wedi eu cymeryd i fyny am feddwdod yn heolydd Paris o fewn tri diwrnod, a dywed- ai 1,200 o honynt eu bod yn dilyn y cy- nghor meddygol arodded rhag yr influenza Ond er y dywed y Lincett fod y canlyniad- au yn Lloegr yn cymharu yn ffafriol a'r achosion yn Paris, eto nad yw effeithiol- rwydd ataliadol gwlybyroedd alcoholaidd twym yn un rhan o gredo y physygwyr Seisonig. Y pwyntiau mawr i sylwi ar- nynt, yn gystal ei atal yr anhwyldeb ac er myned drwyddo yn ffafriol, ydyw byw ya naturiol, yn sobr, a synwyrol, anadlu awyr bur, cymeryd ymborth iachus, a digon o gysgu.
MR BROWNING YN NGHYMRU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MR BROWNING YN NGHYMRU. Mynegir yn rhai o'r adgofion am Mr Browing mai yr unig araeth iddo erioed ei gwneud yn gyhoeddus ydoedd yn Mhrif- ysgol Edinburgh yn ngwanwyn 1884. Y mae hyn fodd bynag, yn anghywir, am fod Cymru yn rhanog a Scotland am yr an- rhydedd o dynu allan rai o barabliadau cyhoeddus prin y bardd enwog. Yu Medi 1886, talodd Mr Browning a'i chwaer ym- weliad a Llangollen, ac yn ystod rhan o'u harosiad yno,yr oeddynt yn westeiwyr Syr Theodore a Lady Martin yn Bryntysilio. Gafynwyd i Mr Browning yn nghwrs yt. ymwcliad i gadeirio mewn cyfarfod a gyn- elid i bleidio Llyfrgeli Gyhoeddus Llangoll- en. Gwrthododd wneud hyn ar y tir o'i wrthwynebiad eithafol i siarad yn gyhoedd- us, tra yr amlygai ar yr un pryd ei gydymdeimlad gwresog a'r symudiad, a'i ewyllysgarwch i wneud unrhyw beth arall a fedrai i byrwyddo yr achos. Rhoddodd ei bresenoldeb mewn Eisteddfod a gynelid yn Llaogollen ynystod ei ymweliad a'r lie, ac ar y diwedd dywedodd ei fod yn teimlo dyddordeb a boddhad mawr yn y gweith- rediadau, ac yn enwedig yn y cystadleu- asthau cerddorol. Aeth Mr Browning a'i chwaer ar ol hyny i gyngherdd yn Giyn- dyfrdwy, yr hwn a sait yn y dyftryn dymunol rbwng Llangollen a Chorwen, yn nghwmni Syr Theodore Martin. Ar derfyn y cyngherdd, yn yr hwn y cadeiriai Syr Theodore, mewn canly niad i alwadau parhaus a brwdfrydig oddiwrth y gynull- eidfa, cyfododd Mr Browning, ac mewn ychydig o eiriau prydferth amlygodd y dywenydd a'r plesei oedd efe wedi dderbyn wrth fod yn bresenol. Dywedai mai prin y dysgwyliai glywed mewn congl mor bel yn y wlad y tath gerddoriaeth ardderchog. Siaradai yn ganmoladwy am gerddoriaeth Gymreig yn gyffredinol. Ar ei ddychweliad i Lundain, anfonoddd Mr Browning yn geredig iawn i'r llyfrgeli gyboeddus oedd yn cael ei ffurfio ar y pryd yn Llangollen holl waithiau Thackeray, Miss Thackeray, a chwe cyfrol o'i weithiau ei hun.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y mae masnach mor dda, a'r amseroedd mor lwyddianus, fel y bydd gan Ganghell- ydd y Drysorfa bum miliwn o weddill.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
THE UNEMPLOYED IN EAST LONDON:—At time when much thought is being given to the matter, a practical suggestion may be of service. Last year more than £300,000 worth of foreign matches were purchased by incon siderate consumers in the country, to the ia jury of our own woiking people, so tsue i it that "evil is wrought by want of thought as well as want of heart." It all consumer would purchase Bryant and May's matches that firm would be enabled to a week more in wages.