Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
10 erthygl ar y dudalen hon
Y CYNWYSIAD.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Y CYNWYSIAD. Yr "Wythnog n. n. 1 Yr Infuensa. 2 Dr Parry a'r Tonic Solflft 2 Abertawe ar Eisteddfod Genedlaethol 2 Ben y Garnedd.n n. 3 Marwolaethau n. 4: Yr ben'S-K.'a'r Llythyrdoll Ceiniog 5 H. M Stanley g Dolgellau 6 Marwokethau 5 Manceinion < Llanfachreth ••• ••• b O oror y Werydd 7 Gohebiaechau T Brif Erthygl p Barddoniaeth 11 Hysbysiadau 12-16
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y MAE nifer o aelodau Seneddol Cymreig wedi bed yn cael eu cwestiyno yn ddiweddar yn nghylch eu golygiadau ar Lvwodraeth Gartrefol. Tybiai Mr A. J. Williams fod C) mru yn arbenig mewn angen am gynghor lleol i'w chynrychioli, ei bod yn meddu anghenion neillduot a phriodol nas gellir eu trafod yn effeithiol ond o fewn ei therfynau ei hun, a chan ei phobl ei hun. Yr oedd Mr T. Lewis yn meddwl fod Cymru mewn angen am fesur eynwysfawr o hunan-lywodraeth, ac nas gellir diogelu y diwygiadau sydd mor angenrheidiol hyd nes i bobl Cymru gael llais mwy effeithiol yn nygiad hyny oddi- amgylcb. Yr hyn a dvbia Mr E. Swetenham sydd yn angenrheidiol ydyw gwella Deddf Llywodraeth Leol, ac y byddai trafod Cymru fel cenedl wahanol, yn meddu deddfau gwahanoJ, yn angeuol i'w buddianau.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYNALIWYD cyfarfod yn Llundain ddydd Sadwrn gan Ddirprwyaeth Cau ar y Sabbath yn Nghymru. Arglwyld Balfour o Burleigh yn y gadair. Er fod y cyfarfod yn hollol gyfrinachol, deallir fod draft Arglwydd Balfour o'r Adroddiad wedi ei ddadleu, i rai cyfnewidiadau gael eu gwneud ynddo, cyn ei gyflwyno i'r Llyw- odraeth. Dysgwylir y bydd yn barod i'w roddi yn nwylaw yr aelodan ar gyfarfydd- iad y Seiiedd, ac hyd hyny ni ddatguddir dim o'r hyn sydd yn cael ei gymeradwyo ;rudd9. gnd bydd sya Uymi q m cheisia y Ddirprwyaeth roddi brechdan siwgr i'r tafarnwyr, yn ol arfer y Llyw- odraeth Doriaidd.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YSGUBODD ystorm erchyll dros ranau o'r wlad hon nos Sadwrn a'r Sul diweddaf. Gwnaed difrod mawr ar benau tai, ac y mae adroddiadau o wahanolleoeid drwy'r deyrnas yn profi fod niweidiau dirfawr wedi eu gwneud drwy ffyrnigrwydd y dymhestl. Teflid simneiau, didoid tai, a hyrddid llestri i ddiuystr ar ein glanau. Parha yn ystormus iawn heddyw (Mawrth), tynerweh tywydd y dyddiau blaenorol wedi troi yn erwinder, a'r eira wedi disgyn yu lied isel ar fynyddoedd Cader Idris. Ond rhaid cydnabod fod gwynt ystormus ac oerfel yn fwy cydwedd- 01 a'r amser hwn ar y flwyddyn, ac efallai yn fwy iachus hefyd a'i gymeryd yn gyffredinol.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y MAE dyfarniad pwysig gyda golwg ar sefyllfa cymdeithasau cyfeillgar ag sydd hefyd yn trades unions, wedi ei roddi yn y Divisional Court, ddvdd Sadwrn, gan Barwn Pollock a Mr Justice Wills. Rhoddodd aelod o Gymdeithas Gymysg- edig y Seiri a'r Asiedyddion, gwyn yn erbyn y Gymdeithas ar y tir nad oedd gan yr ynadon frawdwriaeth (jurisdiction), ac nas gallai aelod wasgu am ei hawliau oddieithr dan Ddeddf y Cymdeithasau Cyfeiligar. Dirymodd eu harglwydd- iaethau ddyfarniad yr ynadon, a chan- iatasant yr apel gyda'r costau.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
SYLWODD Syr William Harcourt, y dydd arall, wrth ateb gohebydd ar gwest iwn y degwm, fod y degwm yn gystal a gwaddoliadau eglwysig eraill, yn eiddo cenediaethol, ac nid yn eiddo personol, nac i'r Eglwys pac i'r Penadur. Ychwan- ega Syr William, os ydyw Mesur y Degwm i fod yn rhan o brogram y senedd- dymhor nesaf, ei fod yn un y bydd yn rhaid ei ddadleu yn drwyadl o'i seiliau, ac i'r holl gyfundrefn gael ei liadolygu ai diwygio, yn gydffurfiol ag amgylchiadau yr amseroedd.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y MAE dosbarth neiliduol o drigolion Lisbon, prifddinas Portugal, yn eithafol yn eu digofaint yn erbyn Lloegr a'r Saeson ar hyn o bryd, ac yr oedd pellebyr oddi- yno ddiwedd yr wythnos yn mynegu fod 10,000 o bersonau wedi ymgasglu i wneud twrw yn yy heolydd, Mhewyddjd y VJClUliVU, criau yn erbyn Lloegr, tra y canmolid Ysbaen a Ffrainc. Y mae amrywiol o sefydliadau masnachol y ddinas wedi gwasanaethu eu clercod Seisonig yno a rhybudd i ymadael, ac y mae rhai o'r preswylwyr Seisonig yn teinilo fod eu sefyllfa mor anfoddhaol, fel y cynygir anfon dirprwyaeth i Lundain gyda deiseb yn erfyn ar i Arglwydd Salisbury i ddadrys sefyllfa anfoddhaol bresenol pethau mewn ysbryd cymodlawn.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Bu Mr Talbot, yr aelod dros ganolbarth Morganwg, a 'Thad Ty y Cyffredin,' fel y gelwid ef, am mai efe oedd yr aelod hynaf, farw yr wythnos ddiweddaf. Y mae Mr Villiers, un o arwyr rhyddfasnash, ac i ran yr hwn y disgyn y teitl o fod yn dad yTy yn bresenol, yn llawec mwy adnabyddns. Y mae pleidlais Mr Villiers yn cael ei chyfrif yn ddiogel a sicr i'r Gweinidogion y blynvddau diweddaf, ac yn erbyn ei hen gymdeithion a'i blaid gyntefig. Can- lyniad ymarferol marwolaeth Mr Talbot fydd ychwanegiad pleidlais fywiog i'r blaid liydclfryd-ol; oblegid yn ystod llanw mawr y 'gwrthweithiad Ceidwadol,' ni freuddwydiai y blaid am enill Canolbarth Morganwg.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TERFYNWYD prawf Mr Parke, golygydd y North London Press, am athrod ar larll Euston, yn Old Bailey, ddydd Iau, o flaen Mr Justice Hawkins. Nododd ei Ar- glwyddiaeth, wrth symio i fyny, mai un peth hyno 1 yn y dystiolaeth o hunaniaeth y person, er fod larll Euston yn ddwy lath a phedair modfedd o daldra, na ddarfu un o'r tystion sylwi fod dim yn hynod ynddo,—i un sylwi ar lydanedd ei lodrau, ac un arall ar ei rodiad. Dedfryd- wyd Mr Parke i ddeuddeng mis o garchar.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYFKIFA Stanley ei fod wedi teithio o ddeutu pum mil a phedwar cant o filldiroedd yn Nghanolbarth Affrica; a'r rhai hyny, ond rhyw fil, ar ei draed. Ni bydd holl draul yr ymgyrch dros ddeng mil ar hugairt o bunau. Barna mai trosedd politicaidd ydoedd gwaith Prydain yn penderfynu gadael y Soudan. Nid ydyw y cwestiwn yn ugtyn a'r Soudan yn un i'w benderfynu trwy ryfel-âg arian y gellir ei benderfynu, yn ol barn yr anturiaethwr enwog. Y cwbl sydd yn angenrheidiol ei benderfynu, meddai yn mhellach, ydyw gosod i lawr reilffordd o Suakim i Berber,