Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
LLITH O'R BRYN. 1
LLITH O'R BRYN. 1 SYR:— 1 Dichon y goddefwch am dro i ohebydd anghynefin wneud rhai nodiadau ar ddecbreu y tymhor hwn, pa un sydd dan wenau rhag- luniaeth yn adda w ol am angenrheidiau i ddyn ac anifai). Y mae'n debygol na welodd y genhedlaeth bresenol fisoedd mor sychion a'r tri mis di- weddaf. Dywedir fod amaethwyr wedi cael colledig^n am ddefaid mewn rhai manau, a hyny yp ddifrifol; ac yr oedd yn syndod i mi pa iodd yr oedd praidd yn gallu byw, I an nadoedd odid flewyn av y ddaear i'w gael; ac yr oedd llawn eymaint prinder dwfr a phorthiant. Nis gallwn gredu fod yr un wlad sych yn un iach ei hinsawdd; heblaw diffyg cynyrch; y mae lleithder cymedrol yn I puro'r awyrgylch. Bobl anwyl! pa le ymae y gog eleni? Yehydig o ddyddiau y canodd y tymhor hwn, a hyny mewn lleoedd cynar fel godre y bryn yma, pan y clywodd y clustiau hyn bi y llynedd ar ael y bryn yma yn pyncio ei dau nodyn dros wyth cant o weithiau ar yr un adeg; yr oedd hyny dros un cant ar bymtheg o nodau! Ond eleni fellid dweyd fel Rhys Goch o'r Obeli (y >la6nau), Llanfachreth— 'Ni ddeilia'r pren canghenog, Och yn y cwm m chan cog.' A ydyw yn debyg y ceir y dadgorftoriad ar fyrder? Ceir fod y gwahanol bleidiau yn cynal cyrddau i barotoi i'r frwydr. Gobeith- iwn y bydd pawb yn ffyddlon dan faner yr hen wron o Benarlag, ac y bydd y Meirion- wyr yn bur i'r byw i'w haelod Seneddol, nad oes ei well yn y Senedd. Mewn eyfirfod yn Nghaerfyrddin gwnaeth un siaradwr sylwad- au ysgubol ar y teitlau: wedi rhoddi 'Syr'i un John Jones Jenkins, ebe fe, I yr enw goreu y gallai mab i Adda gael oedd dyn. Dyna synwyr mewn tlysineb, a gwyn fyd na ddi- osgid o fodolaeth y Mr., a'r Parch, a'r Ysw. Ymfalchia pob corphilyn yn y Parch rab- aidd; dylid eu tafl u dros-odd oil (y teitlau) i A.bred, a rhoddi i bawb ei enw bedydd. Gwnaeth yr un s'aradwr sylwadati i bwrpas, y dylid cynllunio math o flwydddal (pens- ion) I bob dyn a dynes a fu yn llafurio yn galed trwy eu hoes, yn lie hyny, anfonir hwy i starfio i'r tloty. Onid oedd yn rhyfedd dro yn ol clywed ffermwr a gwarcheidwad yn codi ei lais fod arno eisieu cael bwyd, a hyny yn y tloty! Os nad all ftarmwr, ac un yn gofalu am fuddianau y tlodion, alw am fwyd pan y daw i'r dref, fel deiliad gonesl arall o'r gonest arall o'r boblogaetb, y I) mae yn rhyfedd yn Dgolwg pob dyn sydd o blaid cyfiawnder, yn hytrach na bwyta cyn- 1 yrch trethdaliad yn y lIe a fytholwyd gan I yr englyn— 'Ty i Iwydo tylodioD.' I Nid YV.'I amser yn tuhpll, yn ol pob golwg, pan y diddymir y gyfundrefn bre- senol o ddelio at henaint a thlodi-dyna farn gwladweinwyr craft, ac yn eu plitb, GODRE'A BRYN.
Advertising
Medical. JA CARD rl"%o all who are suffering from the errors and i indiscretions of youth, nervous weakness, physical exhaustion, and early decay, I will send a prescription free of charge that will cure you. This great tropical remedy was discovered by a missionary in the hot table lands of Old Mexico. Send a self-addressed stamped envelope to REV. JOSEPH HOLMES, Bloomsbury Man- sions, Bloomsbury Square, London. Name this paper.
; MARWOLAETH Y LLYNGESYDD…
MARWOLAETH Y LLYNGESYDD MAYNE. Yn uniongyrcbol ar ol traddodi araeth yn y wladd Genedlaethol yn y MaLsion House prydnawn dydd Sadwrn, pryd y cadeirid gan yr Arglwydd Faer, cafodd y Llyngesydd Mayne, A.S., lewygfa, a bu raid ei gynorthwyo o'r ystafell. Fel yr oedd efe yn myned i lawr y grisiau, syrthiodd dra- chefn a tharawodd ei ben; daeth yn anym- wybodol, a bu farw ddau o'r gloch prydnawn Sabbath. Dywed y meddygon mai ergyd o'r parly s mud a gafodd, ac nid oedd ganddynt obaith o bono o'r dechreu. Cynrychiolai fwrdeisdrefi Penfro yn Nhy y Cyffredin er 1886.
ANNHEYRNGARWCH HAEREDIG YN…
ANNHEYRNGARWCH HAEREDIG YN NGWLEDD YR ARGLWYDD FAER. Y mae newyddiadur Ceidwadol, yn ei ad- roddiad o Wledd Genedlaethol y Mansion House, yu dweyd: Yr oedd plaid Young Wales, y prif bersonau yn yr hon oedd Mr Lloyd George aMr S. T. Evans, yn eistedd gyda'u gilydd. Pan gynygiwyd llwneJestun y Frenhines, cadwodd Mr S. T. Evans ei sedd yn dra ymffrostgar, a pharhaodd i eistedd pan oedd yr Anthem Genedlaethol yn cael ei chanu. Achwynodd boneddwr oedd yn bre- senol, ond ni cbymerodd un sylw, a daeth yr ymryson yn lied ùchel. Ataliwyd un bon- eddwr yn unig yn yr adeg, daflu gwydr- iad o win i wyneb yr aelod. Dywedodd Mr Venables Kyrke, Ucbel Sirydd Sir Fflint, yn ddigofus wrth Mr Evans, ei fod yn warad- wydd i Gymru, ac y dylesid ei droi allan o'r ystafell. Parodd y dygwyddiad lawer o gyffro.'
GWLEDD GYMREIG YN LLUNDAIN.
GWLEDD GYMREIG YN LLUNDAIN. CYNULLIAD LLUOSOG YN Y MANSION HOUSE. Cynaliwyd y Wledd Genedlaethol Gym- reig nos Sadwrn, yn y Mansion House,o dan lywyddiaeth yr Arglwydd Faer. Yr oedd oddeutu 400 o foneddigion yn bresenol. Ar ol i'r llwrcdestynau teyrngarol arferol gael eu hanrhydeddu, cynygiodd Arglwydd Pen. rhyn Glerigwyr pob Enwad,' ac atebodd Esgob Tyddewi, Esgob Casnewydd, a'r I Parch Dr Roberts. Cynygiodd Syr Hussey Vivian, A.S., Y Fyddio, a'r Llyngts, a'r byddir.oedd wrth gefn,' ac ar ol I'r Llynges- ydd Mayne, A.S., General Rowlands, V.U., a Colonel Cornwallis West. A.S., respondo, cynygiodd y Barnwr Williams ddau dy y Senedd.' Atebodd Due Beaufort dros Dy yr Arglwyddi, a Mr Dillwyr, A.S., dros Dy y Cyffredin. Yna cynygiodd yr Arglwydd Faer I wncdestun y noson, 'Cymru.' Wrth wneud hyny, dywedodd nad ydoedd wedi disgyn i ran Cymro er's llawer o flyoydd- oedd, os nad er's canrifoedd, teddianu y safle i'r hwn yr oedd dinaswyr Llundain wedi ei ethol ef; a phan etholwyd ef, y dybiaeth gyntaf a fflachiodd drwy ei feddwl ydoedd sut y gallai efe yn oreu ddangos ei barch a'i edmygedd at y Dywysogaeth (uchel gymer- adwyaeth). Ond nid ydceid erioed wedi rhagfeddwl y byddai iddo gael ei gefnogi gan y fath gorff trwyadl gynrychioliadol o Gymry oedd wedi ymdyru o'i amgylch ar y diwrnod hwnw. Yr eedd Cymru wedi rhoddi brasgamrau chwyrn yn ystod y blynyddau dlweddaf, yn neillduol yn nghyfeiriadaddysg, &■ byddai yn anmhosibl iddo ef orbrisio dad- blygiad y symudiad addysgol, oblegid yr J °eddynt yn meddu y foment hon dair Prif- ysgol flodeuog, y rhai a anfonent nifer mawr o efrydwyr i Rydychaia a Chaergrawnt. Ar y fath achlysur a hwnw yr oedd yn anmhos- ibl anghofio pasiad y mesur ardderchog hwnw o addysg ganolraddo], yr hwn, a gadael o'r neilldu deimlad plaid, yn wladgarol a bas- iwyd er budd i Gymru (cymeradwyaeth). Yr oedd yn fesur ag yr oeddynt oil yn ei groes- awu gyda boddhad, ac yr oedd ef yn llawen o weled ei fodrwedi ei basio heb rugliad plaid neu rwystf (clywch.clywch). Nid oedd Cymru i gael edrych arni fel sefyllfa ddaear- yddol yn unig, ond fel pobl oludog mewn addewid, a chyda dyfodol teilwng o hiliog- aeth sydd wedi cadw ei nodweddion drwy rigolau canrifoedd, ac sydd yn barod 3to i sefyll fel cenedl yn mhlith cenedlioedd., Yr oedd eu gwlad brydferth yn cael ei charu a'i pharchu gan bob! na welsant hi erioed, a gwneir cyfefriadau ati fel gwlad lwyddianus. Gobeithiai ef y byddai i'r cyfarfod hwnw ddilyn mewn rhoddi cadarnhad i'w hundeb cenedlaethol. Ni fu symudiad mawr ya yr Ymherodraeth eto na cbyfranwyd ato gan bobl Cymru, y rhai yn y dyfodol a ddymun- ant wneud yr oil yn eu gallu i ychwanegu at ei mawredd a'i chynydd trwyadl. Gobeith- iai ef weled ei gydwladwyr wedi eu rhwymo yn dynach dynach wrth eu gilydd, ac wrth gynyg llwncdestun gwladgarol 4 Cymrn,' yr oedd yn eu gwahodd i fwynhau croesaw diffuant, cynhes, a chalonog (cymeradwy- aeth). Ar ol yfed y llwncdestun gyda brwdfryd- edd, darfu yr Arcbddiacon Howell respondo yn Siesoneg, a Mr T. E. Ellis, A S., yn Gymraeg, a sylwodd yr claf fod Cymru yn benderfynolo fyntumio y parch oedd ei henw bob amser wedi ei ddwyn. Ond byddai brwd rydedd eu gwladgarwch yn gyf- iawn, yn gymesur, a pharhaol, a byddai eu bywydau mor drefnus fel ag i hawlio iddynt gymeryd eu rban ddyladwy yn ymdaith dyn- oliaech yn mlaen (cymeradwyaeth).
\ RHUTHRVVYNT A DYLIF.
RHUTHRVVYNT A DYLIF. Y mae y Mauritius, meddianau Prydain yn môr yr India, wedi cael ei wneud ynalan- as gan hj rddwynt Disgynodd yr hinfynegydd 27 o raddau, a chyrhaetidodd y gwynt y cyf- lymder o 120 o filldiroedd yn yr <awr. Ni laddwyd llai na 1,200 a bersonau, aiweid- iwyd llawer mwy, a gwnaed miloedd yn ddi- gartref. Uinystriwyd y drydedd ran o Port Louis, un o brif drefi yr ynys; dinystriwyd 24 o eglwysi a chapel?. Y mae haaer y cnyd- au siwgr wedi eu dyfetha; a'r llestri oedd yn y porthladd wedi naill ai eu niweidfo neu eu gyru i'r t! aeth. Agorodd yr Arglwydd Faer drysorfa yn y Mansion House ar gyfer y dyoddefwyr. Yn America drachefn parodd pymthefnos o wlawogydd lifogydd erchyll yn nyffrynoedd Mississippi a Mis- souri. Si chollwyd erioed yn y rhanbarth hwnw y fath nifer o fywydau, ac ni chanfu- wyd eymaiut o eiddo yn cael ei ddyfetha drwy drychineb cyffelyb, Yr oedd y dirloo,- aeth a ddiluwiwyd yn cynwys 1,500 o fill- diroedd ysgwar, a bydd yn anmhosibl i am- aethwyr godi cnydau y flwyddyn hon. Ym- lidiodd y dwfr oddoutu 8,000 o bersonau o'u cartrefi; a thaflwyd 15,000 allan o waith yn St. Louis yn unig drwy i'r dwfr wneud ei ffordd i'r gweithfeydd. Amcangyfrifir y golled yn ddwy filiwn o bunau. Yn mhlith y dygwyddiaiau serchgynhyrfus dy- wedir fod mam gyda baban yn ei breichiau wedi sefyll am oriau wrth ffenestr llofft yn crofu yn ofer am help. Golchwyd dau ddyn ymaith, a boddasant wrth geisio ei hachub.