Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
'KHATACH O LAWER! Cyffredinol ar holl Nwyddau DRAPERY, MILLINERY, &c. YN SHOP NEWYDD er mwyn lleihau y STOC, a pharotoi ar gyfer tymhor yr HAF. Dyma gyfle neillduol i gael eiddo da am ychydig arian. Hefyd GROCERIES o bob math, ac °'r sort oreu am BRISIAU IS NAG ERIOED. Peidiwch colli y cyfleusdra hwn. Gostyngiad eyffredinol ar bobpetb. R. G. WILLIAMS, "THE NEW SHOP," DOLGELLAU. Hanes Iesu Grist. RHA N I-GYDA MAP GAN Y PARCH. D. SILYN EVANS SILOA, ABERDARE. PRIS DWY GEINIOG I'w gael gan y Cyhoeddwr- W Hughes, Dolgellaa. DYMUNA JOHN OWEN, English Terr- ace, Dolgellau, hysbysu trigolion tref Dolgellau a'r wlad oddiamgyfch, ei fod wedi dechreu ar y swydd o Ysgubo a Glanhati pob math o SIMNEIAU am y Prisiau mwyaf Rhesymol. Ymofyner a JOHN OWEN, ENGLISH TERRACE, DOLGELLAU ILAWLYFR YR ATHRAW GAN Y DIWEDDAR BARCH. J. R. WILLIAMS, HIRWAUN. MAE W. Hughes, Dolgellau, wedi prynu Gweddill Stoc ail argraffiad y llyfr uchod. Eu pris yw is yr un; a chynwysa y llyfr benodau ar y Testynau caulynol:— Yr Ysgol Sabbathol a'r Oes; Codi Athraw- on; Y (jfalluoedd Meddyliol a'u Dadblygiad; Y Cof a Deddf Cymdeithasiad Meddylddrych- au; Egwyddorion Addysgiaeth; Gwahanol Foddau o Gyflwyno Addysg; Astudio y Dos- barth; Yr Athraw yn Trefnu y Wers; Yr Athraw yn Astudio y Wers; Yr Athraw gyda Dosbarth o Blant; Yr Athraw yn Arwain Dosbarth o Ieuenctyd; Yr Athraw fel Holwr Cwestiynau; Yr Athraw yn Egluro a Chym- hwyso y Gwirionedd; Llyfran i'w JDarllen. Bellach, gwerthir 6 copi am 5s, a 12 copy am 9s, a thelir eu cludiad ond anfon arian gyda'r order, a byddwn yn ddiolchgar i Arolygwyr ac Athrawon, am ddwyn y llyfr uchod i sylw Cyfarfodydd Athrawon yn yr Ysgolion Sabbathol. Dywed y Parch D. Silyn Evans, Aberdar, am dano:- Credwn, yn mhellach, fod y Llawlyfr yn meddu ar genadaeth arbenig ac angenrheidiol, am ei fod yn cyffwrdd a maes yn nghyflwr a rhagolygon yr Ysgol Sul mewn modd ac i raddau uwch a phellach na'r un llyfr arall yn y Gymraeg. Cambrian House, DOLGELLAU. Bydd Sale Fawr Cambrian House, Dolgellau, yn dyfod i derlyniad y Sadwrn nesaf, y 7fed o FAWRTH, a gwahoddir y cyhoedd eto o hyn tan y SADWRN, i brofi o'r Bargeinion gwreiddiol sydd i'w cael yma; a diolchaf yn gynes i'r canoedd a ddaethant i brynu yma yn ystod y SALE, am eu cefnog- aeth wresog, a dymunaf am yr unrhyw yn y dyfcdol eto, pryd y bydd genyf 3Sf 28 a> helaeth o bob math o DDILLADAU PAROD, &c., a GROCERIES, &c., am y Prisiau Mwyaf Rhesymol. IØT Dymunaf alw sylw, fod genyf Lwyth Llong o GEIROH a PYTATWS o'r Iwerddon, a phob math o Glovers a Ryeglass at y Tymhor Dyfodol, am Brisiau isel iawn. HENRY MILES. AIL-ARGRAFFIAD 0 RHAN I. 0 CANETJON Y BOBL GAN E. YLLTYR WILLIAMS\ Dolgellau. Cynwysa y Rhan hon 13 o Ganeuon poblogaidd ar wahanol Destynau. Pris 3c. 0 y Gellir eu cael gan Y" awdwr, neu o Swyddfa y DYDD Dolgellau. Dyddiadur yr flnnibynwyn am 1896 Ychydig o rai Is. 6c. ar law. I'w cael o Swyddfa y DYDD, Dolgellau.
D PL GEL L AIL
D PL GEL L AIL CYHOEDDIADAU SABBATHOL. 2abernacl (A.)—Parch J. Walters, Brithdir Seisonig (4.)—Parch J. Llewelyn Salem (M.O)-Parch D. Hoskins, M.A. Bethel (M.C.)—Parch E. V, Humphreys. Seisonig (M. C.) Capel Pendref- Y sgoI am 2, cwrdd gweddi 6 Ebenezer (TF.)—Parch W. Owen, Abermaw. Jaadh (B.)—Parch R. R. Jones, Bala.
.ARMENIA.
ARMENIA. Da genym ddeall fod trigolion Dolgellau ar waban i sect a phi aid, wedi penderfynu gwneud eu rhan tuag at leddfu y truein- iaid sydd yn awr yn dyoddef mor ar- swydus yn Armenia, ac y mae Iluaws o foneddigesau wedi myned trwy y dref heddyw i gasglu o dy i dy, at wneud ychydig tuag leddfu y dyoddefiadau sydd yn y lie. Dygodd Mi S. Smith achos poenus Armenia gerbron y Senedd neithiwr. Nos yfory (Gwener), traddodir Darlith ar yr uchod yn ngbapel y Wesleyaid, gan y Parch S. P. Jones, gweinidog; gwahoddwn bawb i fod yn bresenol.
IAP HEFIN.
AP HEFIN. Diau y bydd yn hyfrydwch gan ddinas- yddiou Wesleyaid, Dolgellau, ddeall fod un o'i bechgyn yn prysur ddringo i safle Lenyddol a Swyddogol, yn mysg y Wesleyaid Deheudir Cymru. Yr ydym yn cyfeirio at Mr Heniy Llojd, gynt o Pantyronen, Dolgellau, a nai i'r cyfaill dyddan Mr Lewis Lloyd, Upper field Street, yn y dref hon. Mae ein cyfaill ieuanc Ap Hefin er's rhai blynyddau ynun o lenorion parchusaf Merthyr Tydfil a'r amgylchoedd. Ac yn Nghylchwyl Len- yddol agoshaol Merthyr, y mab un o'i gynyrcbion barddonol gorchestol yn mysg testy nau pwysicaf y cystadleufeth, Eiddunwn iddo hir oes, a dyfodol cynydd- ol ddysglaer.-GoH.
DYDD GWYL DEWI.
DYDD GWYL DEWI. Mawr fu y gwledda a'r mwynhau fu mewn Eisteddfodau a chyngherddau mewn llawer ardal yn Nghymru nos Sadwrn a dydd Llun, er datblu yr wyl uchod, ac ni bu Dolgellaa yn ol yn hyny. Yr oedd y Clybiau Oleifion, dri o honynt dydd Llun, yn cerdded yr heol- ydd, yn myned i'r Eglwys, yn ciniawa, ac yn cynal Eisteddfodau yn yr hwyr, a phawb yn eu hwyliau goreu. Da genym ddeall fod y I clybiau hyn-Clwb y Plas, Clwb yr Angel, a'r Odfellows, mewn sefyllfa mor lewyrchus, yr aelodau a'r cyllid yn cynydda. Da y gwna pobl ieuainc eu cefnogi, a bod yn aelodau o honynt, fel y byddont yn darparn erbyn dydd yr ystorm.
LLWYBR PENYBANC.
LLWYBR PENYBANC. Y mae y Cynghor Dinesigyn bwriadu agor y llwybr uchod heddyw eto, y maent wedi ei agor unwaith o'r blaeo.
YSGOLION NOS.
YSGOLION NOS. Y mae ysgolion y nos yn Nolgellau yn cael eu cefnogi yn dda, a da y gwna ein pobl ieuainc i wneyd pob ymdrech i gymeryd y fantais o'r rhai hyn er gwneyd y diffyg i fyny a gollwyd^yn moreu oes.
CYNGHERDD YN Y TLOTY.
CYNGHERDD YN Y TLOTY. Nos Fercher darfu nifer o bobi ieuainc y dref roddi Cyngherdd yn y Ty. Darfu i Mr Robert E. Evans yn garedig ofalu am ddefnyddiau y cyfarfod, a llwyddodd yn rhag- orol, a phan y dywedwn fod Mr Evans yn cymeryd rhan bwysig ynddo, gellir yn hawdd goelio iddynt gael gwledd. Y caredigion eraill a gymerasant ran heb- I law a enwyd, oeddynt Cor y Bedyddwyr, dan arweiniad R. E. Evans, Miss Ellin Lloyd, Miss Mary Davies, y chwiorydd Sarah Jane a Jenny Jones (dwy gampus am adrodd), Maggie Jones English Terrace, a Mary Dilys Williams, Shop Newydd. Diolchwyd yn frwdfrydig i'r cyfeillion am