Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
Y BARNWR WILLS A'R DDIOD.
Y BARNWR WILLS A'R DDIOD. A ydys i edrych ar feddwdod fel unrhyw J tsgusawd dros gyfiawniad troseddau? Dyma yBcwestiwn a godwyd gan y Barnwr Wills yn ei anerchiad i'r uchel reithwyr yn Ull'awdlys Liverpool dd-Vdd Mercher. Ateb nacaol pendant a .oddodd y gwr dysgedig iddo. Yn ei fara ef, diffyg pwyaig yn nghyfreithiau ein gwlad ar droseddau yw f fod dyn trwy feddwi hyd nes y daw y do. i lirium tremens arno yn cael dianc rhag can- ) lyniadau v ttoseddau a gyflawnir ganddo. 'Fod efieithiau gormodedd sydd yn ffrwyth gweitbred y dyn ei bun yu cael ei ystyried yn esgusawd dros ei drosedd "ydd,' ebai efe, *yn ddiffyg mawr yn y gyfraith ag y go- beithiaf fi gael byw i'w weled wedi ei symud ymaith.' Da ydyw gwaith y Barnwr Wills yn galw sylw at hyn, canys y mae y wedd YIna ar y pwnc yn cael ei hesgeuluso yn rhy tynych o 1"wer yn yr ymdriniaeth k Ohwest- iwn y Ddiod.
CAMGYMERIAD OFNADWY. j
CAMGYMERIAD OFNADWY. Gwnaed camgymeriad ofnadwy yn Lind- &. s^y, Louisiana, America, ddydd Iau, gan haid J"'° bobl wyDion greulawn, anystywallt. Dalias- K ant negro, yr hwn y tybiasant hwy oedd yn I enog o wneud ymosodiad ar ddynes wen, ac yn y fan aethant aty gwaith otilynchio. Ond ol cyflawoi eu hysgelerder, daethant i Wybod mai dyn arall cedd yn euog o'r tros- edd, a'n bod hwythaa wedi dienyddio dyn diniwed, a hwnw heb fod yn Dawn yn ei | iiynwyrau.
YSPAEN.
YSPAEN. Prysurdeb penaf Llywodraeth Yepaen yn y dyddiau hyn, debygem, yw ad-drefnu cyllid- oedd y wTad. Ychydig obaith sydd y gall hi Wnend hyn, modd bynag, a:n fod y sefyllfa cynddrwg. Heblaw hyny, y mae yr anfodd- ogrwydd sydd yn meddianu pob dosbarth o'r oobiogaeth yn argoeli emseroedd enbyd i Ygpaen yn y dyfodol agos. Am hyny, nid galln talu ei dyledion, ond ilwyr ddymchwel- lad ei ffurflywodraeth ydyw y peth tebycaf o'i S^ddiweddyd o lawer.
YMOSODIAD AR HEDDGEIDWAD YN…
YMOSODIAD AR HEDDGEIDWAD YN i RHYL. I Mewn llys arbenig yn Rbyl ddydd Merch- cybuddwyd John Jones; brawd Isaac Jones yr hwn a ddedfrydwyd i 6 wytbnos ddydd Llun am ymosodiad ar yr heddgeidwad, o ^neud ymosodiad ar yr Heddgaidwad Gomer "Ones, tra yn cyflawni ei ddyiedswydd. Dy- Wedai yr Heddgeidwad iddo weled y diflyn- ydd yn feddw ac afreolus yn un o'r heolydd cyhoeddas. Cymerodd ef i'r ddalfa, wed'yn Cyjuerodd John Jones ei gyllellallaB, a cieis- drvwanu yr Heddgeidwad^ tarawodd y pilell o'i law gyd** ei staff. Cymerodd ym- Iaddfa galed le, a torwyd dillad newyddion Yr Reddgeidwad. Ystyriai y taine yr aehos I yn un difrifol iawn, ac anfonwyd ef i garcb- "r am 5 wytbnos.
ABSENOLDEB M EDDWL.
ABSENOLDEB M EDDWL. n Yr oedd proffeswr mathematics yn King's College, yn Aberdeen, dro yn ol, ag oedd yn lodedig am absenoldeb meddwl. Un diwr- ttlOd, pan elai allan o'r coleg, wrth droi y gongl yn erbyn buwch a safai ar ei Iwybr. Yn K ^yryswch y foment, tybiodd ei fod wedi I myned yn erbyn boneddiges, tynodd ei hat a t dywedodd 'Yr wyf yn begian eich pardwn, madamYchydig wedi hyny, aeth yn erbyn boneddiges yn yr un stryd. Dygodd byny ei anffawd blaenorol i'w gof mor gryf fel y gwaeddodd, 'Ai ti, y bwystfil, sydd yna eto?' r
YR HYN A GLYWAIS YN Y TREN.
YR HYN A GLYWAIS YN Y TREN. Nid oes yr un wythnos yn myned heibio nad wyf yn clywed rhywbeth am Dolgellau nad yw yn hollol yn haeddu canmoliaeth am dano, ac yr ydwyf yn ami yn gofyn i fy hun, A ddichon ddim da dd'od o'r dref byd-enwog hon? Ond diolch yr wythnos hon maipethau daionus ac iach yr wyf yn ei glywed am dani yn mhob man. Clywais fod y ddwy forwyn I soniaia am danynt yr wythnos ddiweddaf wedi diwygio yn enfawr, ac nid ydynt mwyach yn mynychu pen y drws fel ei Grand Stand. Clywais nad oedd gymaint ag un o fasnachwyr y dref yn geofigenllyd; dywedwyd hyn wrthyf gan wr oedd wedi bod yn ei holi ar y pwnc, pob un yn berson- ol. Yn mhellach, clywais fod diwygiad pwysig i gymeryd lie yn y mater o lafur ar y Sabbath; Oli nad yw pethau mewn bod neu am fod megys ac y clywais, byddaf yn eich hadgofio am danynt eto cyn pen hir, ac feallai yn dipyn mwy personol nag yr ydwyf eisioes wedi gwneud. Clywais sibrwd yr wythnos hon fod symudiad ar droed er cael Cymdeithas Ddadleuol (Debating Society) at y gauaf nesaf. Yn ddiddadl, croesaw a gaiff y symudwyr ar y symudiad yn y dref; gwa- hoddwn rai ag sydd yn dymuno llwyddiant y symudiad, yr henafwyr, canol oed, a'r ieuainc, anfon eu henwa-n i swyddfa y I I DYDD cyn gynted ag y gallent, er mwyn cael i Cymdeithas ddyddorol a llwyddianus. I
IMARWOLAETH 01 YN HELP I IEGLWYS.
I MARWOLAETH 01 YN HELP I EGLWYS. Yn ol un gohebydd, y mae mewn rhan- I barth gwledig o dalaeth Pensylfania, yn America, eglwys fpchaa sydd wedi dyfod i feddiant o swm CJ'[' o arian trwy farwol- aeth ci. Flynyddi ^dd yn ol (dyna'r hanes), yr ocdd y plwyf yn un mawr a thra ffynianus; ond ysywaeth, fe'i goddiweddwyd gan amser- oedd drwg; a thua phum' mlynedd yn ol, yr oedd pethau wedi myned taor dlodaidd yno fel y bu raid can yr eglwys i fyny, a pheidio cynal dim gwasanaeth ynddi. Bu farw hen ferch oludog, teulu yr hon oedd wedi arfer mynychu yr eglwys hono am fwy na chan' I mlynedd, a chymeryd yn ganiataol y byddai ei hoil arian hi yn myned yn gym- munrodd i'r eglwys, ac feity y ceid ei hail agor. Ond pan ddarllenwyd ei hewyilys, deallwyd fod ei holl arian yn myned i'w hoff gi, ac mai ar ei farwolaeth ef yr oedd yr addoldy i gael ffyrling o honynt. O'r diwedd, dyma Meistr Cynyn 'wedi myn'd.' Bellach, ceir agor yr eglwys, galw gweinidog, talu cyflog iddo, ac ni bydd eisieu gwneud casgliadau; mae'n debyg. Felly!
ABERMAW.
ABERMAW. Nos Fercher, cynaliwyd Cyngherdd yn y Neuadd Gyhoeddus o dan nawdd Cymdeithas y St. John's Abulance. Yr oedd y cynulliad yn lluosog, a'r cyngherdd yn un da iawn.
AGOR PAVILION FAIRBOURNE.
AGOR PAVILION FAIRBOURNE. Dydd Gwener diweddaf agorwyd Pavilion mawr sydd wedi ei adeiladu yn y lie ucaod gan Mr Me. Dougall. Am 4 o'r gloch rhoddwyd te i weithwyr Mr Me. Dougall a phlant yr ardal; ar ol y td anrhegwyd Mr C. H. S. Cotsworth, ar ei Slain mlwydd oed. Yn yr hwyr cynaliwyd cyngherdd o dan lywyddiaeth Mr McDougall.
... PENYD WASANAETH
PENYD WASANAETH I FASNACHWYR 0 LIVERPOOL. Yn mrawdlys Llynlleifiad, ddydd- Iau, pan eisteddai y Barnwr Wills ar y fainc, Charles a William Duranty, dau frawd, y naill yn 50ain a'r llall yn 52ain mlwydd oed, a bled- iasant eu bod yn euog o gyd-fradu, trwy ffug- honiadau, ac mewn modd twyllodrus, i gael gan nn Emilir Levita, ac un arall, i dderbyn diogeliadau (securities) gwerthfawr yn y ffurf o bills 6] exchange, am symiau yn cyrhaedd rhyngddynt y cyfanswm o dair mil a naw cant o bunau (3,900p). Gan gymeryd i ystyriaeth fod y careharorion yn aelodau o hen gwmni masnachol parchus yn y ddinas, nid ydym yn synu o gwbl fod dyddordeb an- arferol yn cael ei gymeryd yn y cynghaws difrifol hwn. Modd bynag, dedfrydwyd Charles Duranty, y pechadur penaf, i bum* mlynedd, a William Duranty i bedair blynedd o benyd-wasanaech.
PWLLHELI.
PWLLHELI. Y dyddiau hyn cynelir Bazaar yn y lie uchod at drysorfa yr YsgoI Ganolraddol, fwriedir ei hadeiladu yno. Y mae tir wedi ei brynu am £ 330. Amcangyfrifir y gost o'i hadeiladu rhwng £3,000 a £ 8,500; ac ar ol y talu am y tir, nid oedd cyn y Bazaar ond £ 100 mewn llaw.
CATfi MEWN BAG LLYTHYRiU.
CATfi MEWN BAG LLYTHYRiU. Ychydig ddyddiau yn ol, ymlusgodd catb y postfeistr yn Covington, talaeth Ohio, Am- erica, i mewn i sach ledr y llythyran, yr hon a seliwyd i fynu, ac a antonwyd ymaith heb fod neb yn meddwl am dani yn y fath Ie. Pan gyrhaeddodd y sach i ben ei siwrnai dranoeth ac yr agorwyd hi, wele. caed hithau ynddi yn y nghanol y llythyrau, gyda phum, o gathod bychain.
CYMRY PATAGONIA.
CYMRY PATAGONIA. Dydd Mawrtb, yn Nhy'r Cyffredin, gofyn- odd Mr Brynmor Jones a oedd dau o'r deil- iaid Prydeinig—William Evans, Cadeirydd, a David R Evans, ysgrifenydd Cynghor yr Ymsefydlwyr Cymreig yn Nyffryn y Chupat, Patagonia-wedi eu cymeryd i fyny yn Ion- awr diweddaf gan swyddogion y Llywodraeth Argentaidd, ar y cyhuddiad o deyrnfradwr- iaeth; ac a oedd y Llywodraeth yn bwriada gwneud rhywbeth i amddiffyn deiliaid Pryd- einig oddiwrth y cyfryw swyddogion. Atebwyd na wyddai Llywodraeth ei Mawr- ) hydi a ydyw y personan dywededig yn ddeil- iaid Prydeinig ai peidio, Cyfarwyddwyd Gweinidog ei Mawrhydi yn Buenos Ayres i wneud adroddiad llawn ar amodau presenol y Wladfa, ac i sicrhau i ymsefydlwyr Prydeinig y driniaeth fwyaf ffafriol, i ba un yr oeddynt yn meddu hawl drwy gytundeb. Nid ydyw yr adroddiad bwnw, modd bynag, wedi ei dderbyn eto.
Family Notices
ip x x & b a 0. Awst laf, yn swyddfa'r cofrestrydd, yn mhresenoldeb Mr Tom Parry, cofrestrydd, Mr Harry Whithead, a Miss Gwen Griffiths, y ddau o 1 Park Road, Abermaw. Mar frttiaqfftait. Gorphenaf Slain, yn Llangefni, Mr John Jones, grocer, gynt o Ddolgellau, a chladdwyd ef yno ddydd Mercher. Gorphenaf 27ain, yn 29 mlwydd oed, Mary, priod Mr Penry Evan Owen, Rhydymain, ger iJoigeilau. Gorphenaf 17eg, yn 53 mlwydd oed, Mr Robert Griffiths, Park Isa, Dyffryn Ardudwy. Gorphenaf 29ain yn ddau fis oed,Benjamin, plentyn bychan Mr a Mrs Benjamin Edwards, Sarn Road, Dolgellau.
YMDDISWYDDIAD PRIFGWNSTABl^…
Ksllau, wedi ymddiswyddo o herwydd gwael- ,add iecbyd. Mewn cyrarfod o Gyd-Bwyllgor yr Heddlu a gynaliwyd ddydd Mawrth, pen- derfynwyd i dderbyn yr ymddiswyddiad, ac 1 roddi y blwydd-dal ucbaf allesid iddo, sef :190. Pedderfynwyd befvd i hysbysebu am oIynydd iddo.