Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

OYNGHOR D NESIG DOLGELLAU*

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

OYNGHOR D NESIG DOLGELLAU* Cynaliwyd cyfarfo i rheolaidd o'r Cynghor uchod nos Fawrob diweddaf yn y Nenuadd Sirol, o dan lywyddiaeth Mr Richard Richards (Is-gaderydd y Cynghor). Yr oedd hefyd yn bresenol, Mri John Edwards, Richard Edwards, John E Jones, D H Jones, W T Lloyd, David Meredith, a Wil- liam Hughes, yn nghyd ag R Barnett (clerc), E R Jones (casglydd). Y fiert Ddwfr-Cwynid nad oedd y gert ddwfr mewn cyflwr boddhaus iawn, ac y dyleaid ei hadgyweirio. Cwynid hefyd ei bod yn drom j.) n'!1 i'w thynu i ben y dref. Dywedo;;o. Mr David Meredith y byddai yn well iddynt fyn'd i mewn am gert newydd. Credai Mr John Edwards mai gwell oedd iddynt geisio gwneud gyda'r un bresenol am ryw flwyddyn. Y clerc a ddywedodd fod yr Abermaw wedi cael cert newydd o'r cynllun diweddaraf am bris hynod reBymol. Rhoddodd Mr Meredith rybudd y byddai iddo yn y cyfarfod nesaf gynyg en bod yn pwrcasn cert newydd Y Stone Orusker- V n unol a rhybudd a roddodd mewn cyfarfod arbenig a gynaliwyd yr wythnos ddiweddaf, cynygiodd Mr Wil- liam Thomas Lloyd fod penderfyniud y cyfar- fod hwnw, mewn perthyna8 i brynu y Stone- crusher gynygid gan Mr D E Davies, Aber- maw, am 18p, yn cael ei ddiddymu, am nad Gedd y cyfarfod hwnw yn rheolaidd. Nid oedd ganddyttt hawl i alw cyfarfod arbenig i drin cwesti wn oedd yn sefyll ar yr aqenda. Cymerodd peth dadl ie ar y mater yma, a dywedodd y clerc mai efe oedd wedi galw y cvfarfocf arbenig, ac yr oedd yn berfiaith reolaidd, ac yn unol a pheoderfyniad y cyfar- fod arbenig, yr oedd wedi anfon at Mr David E Davies. Dywedodd Mr W T Lloyd yn mhellach nad oedd penderfyniadau blaenorol y Cyng- hor mewn perthynas i'r mater wedi cael eu cario allan. Yr oedd y Cynghor wedi pasio fed i ddyn profiadol fyned i weled y crusher, a chyflwyno adroddiad i'r Cynghor ar sefyllfa y peiriant. Nid oeddhyny wedi ei wneod; yr oedd y pwyllgor wedi myned i weled y peir- iant heb ddyn profiadol gyda hwy. Dylai y y Cynghor gael gwybod beth oeddynt yn ei brynn, Dywedodd Mr David Meredith nad oedd Mr R G Lloyd am dd'od gyda'r pwyllgor. Mr D H Jones—Beth oedd ganddo yn erbyn; mae'n ymddangGS fel pe bae rhywbeth tu oi rw wrthwynebiad. Mr William Hughes—'Doedd ganddo ddim yn erbyn, ond ei bod yn anghyfleua, Mr Ridhard Edwards-Ni aiff Mr Robert Lloyd i weled y peiriant. Mr D H Jones—Rwy'n cynyg ein bod yn gofyn i Mr William James i fyned i weled y peiriant, os nad ydyw Mr Robert Lloyd am fyned. Mr W T Lloyd-Dylasai y pwyllgor fyn'd ar adeg gyfleus i Mr Lloyd. Tynodd Mr D H Jones ei gynygiad ya ol, a chefnogodd gynygiad Mr W T Lloyd, i ddi- ddymu peuderfyniad y oyfarfod arbenig. Ni phleidleisiodd ond y cynygydd a'r csf- nogydd dros ddiddymu punderfyniad y cyfar- fod arbbnig. Mr W T Lloyd—Mae y rhai oedd yn erbyn rho'i JEzo at y te a'r sports yn rhuthro i gael cyfarfod arbenig i benderfynu gwario Yi8 o arian y trethdalwyr am beth nad ydyw da i ddim. .Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr David E Davies yn dweyd ei bod yn anghyfleus iddo ef dd'ud a'r crusher i'r dret, a gofynai i'r Cy hor ei chymeryd drosodd ar y ffordd ger M .e s I mawr Pasiwyd fod iddi gael ei throsglwyddo i'r Cynghor yn y dref. j Llythyr-Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr I Guthrie Jones, dros Fwrdd y Gwarcheidwaid S yn galw gylw y Cynghor at gyflwr ty Robert j Lloyd Morris, yn Crooked Lane. Yr oedd mewn cyflwr truenus iawn. Mr John Edwards a ddvwedodd nad oedd yn credu fod y ty mewn cyflwr anghymwys i fyw ynddo. Dywedodd Mr E R Jones nad oedd y ty wedi osod iddo i fyw ynddo, ond yn unig i gadw ei ddodrefn. ¡ Pasiwyd i ddanfon at berchenog y ty yn nghylch y mater. Darllenwyd llythyr oddiwrth Dr Meyr- ick Williams yn dweyd ei fod yu canfod fod y Cynghor yu trespasu ar ran o'i dir ef yn Caemarian, ac yn gofyn iddynt symud y clawdd maenfc wedi ddechreu adeiladu. Darllenwyd llythyr hefyd oddiwrth Mr Sheriff Roberts, Caer, yn gofyn am gael gweled plan o'r shed fwriadant wneud yn Cae Marian, ac hefyd yn gofyn iddynt beidio cario ychwaneg o ludw i ganol y cae, ond ei roddi gydag ochr yr afon. Penderfynwyd fod y ddau lythyr yma i'w rnoddi i bwyllgor arbenig i'w hystyr- ied. Dewiswyd yn bwyligor-y Cadeir- ydd, Is gadeirydd, Richard Edwards, William Hughes, a W R Williams. Derbyniwyd tender Mr Owen Owens 0 23p 10s, am gario Hudw am yr haner i blwyddyn dyfodol. [

EISTEDDFOD Y GWEITHWYR.

SIPIDO YNRHYDD.

DARGANFYDDIAD ERCHYLL.

Advertising