Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
gar&iWttiHjfctjf.
gar&iWttiHjfctjf. Dyoddefaint Crist dros y Ddynoliaeth. Dyoddef y brad a'r gwadu-yr Iesu Grasusol wnaeth drengn, Mown poenau dwys er mwyn prynu Bywyd hil anwar ddaear ddu. Pennal. GWILYH DYFI.
Cysur y Cristion yn ngwyneb…
Cysur y Cristion yn ngwyneb Gorthrym- derau y Byd. Yn ngwlad yr hedd mi gaf wledda-bythol Ar aberth Calfaria; Bvw bob pryd mewn hyfryd ha 'N hyfawl gyda'r Jehofa. Pennal. GWILYM Dvpi.
Priodas y Parch Isaiah Jones.
Priodas y Parch Isaiah Jones. Mun Ion yn galon i gyd-a fynodd Yn fwyniant mewn blinfyd; Bellach uwch sen bydd bob enyd, Gyda'i fun wen mae'n ban y byd. Einioes lan yn gan i gyd-a hir oes Fyddo rhan eu bywyd;— Gwened nef arnynt hefyd Hyd eu bedd mewn hedd o hyd. Pennal. GWILTM DiFI.
Can.
Can. Dy adael raid anwylyd, 'Rwy'n myn'd i'r bedd yn awr- Yr gwely oer a phriddlyd, I bydrn'n llwch y 11 awr; 'Rwy'n teimlo dwylaw angau Yn oeraidd dan fy mron, Ffarwelio raid i minau Am byth y noson hon. Amddifad wyf o riaint I wylo dagrau cu Cyfoedion a'm anghofiant Pan elwy' i'r beddrod du; Ni erys cof am danaf, Nac am fy enw si; Ond gofyn wnaf anwylaf Am ddeigryn genyt ti. Mynycha'r prydferth lwybrau Trwy'r llwyni at y llan; Ac yno'n mhlith y beddau Cei wel'd fy ngorphwys fan; 0 cofia wrth it' rodio Yr un a'th garodd gynt; Paid byth a myned heibio 'N ddideimlad ar dy hynt. Ar foreu Sul y Blodau Cei weled llawer un, Yn gosod per rosy n an Ar fedd en eyfaill cun 0 cofia dithau'th gariad Sydd yno'n welw'i wedd, A ohofia fy nymuniad— Rho ddeigryn ar fy medd. Hartsheath. JNO. HUGHES.
Dyhuddiant,
Dyhuddiant, Dr serchog goffa am yr hen frawd ffyddlon Edward Michael, Fen-y-Gob, Bagillt. Dyma eto filwr ffyddlon Wedi oyraedd pen ei daith; Wedi concro ei elynion, Wedi gwneuthur oes o waith, Wedi rhoddi'r cledd o'r neilldu, Wedi darfod a phob loes Heddyw'n canu'n orfoleddus Am rinweddau gwaed y Groes. Mawr ryfeddl, yn dragwyddol Cariad Iesu Grist ein pen Yn ymddiosg o'i ogoniant, y t, Yna'n marw ar pren, Er cael modd i olchi'r aflan; Ac i'w wneyd yn berffaith wyn y Canu wna'n ddiaor heb dewi Byth am Waed Calfaria fryn. Colled fawr oedd colli Edward- Un mor ffyddlon dros y gwir; Colled drom i eglwvs Soar— Colled deimlir yma'n hir; Ei gyngorion a'i rinweddau A'i weddiau is y rhod, Fydd mewn coffa gan ugeiniau Am flynyddoedd eto i dd'od. Ei gyfeillion a'i berth'nasau Peidiwch wylo megis rhai, Heb un gobaith-daw i fyny 'N iach o'i welly oer o glai. Wedi gw sgo anfarwoldeb Yn gyffelyb iddo Ef Ac yn addas i breswylio Gyda saint yn nef y nef. Bagillt. MORGRUGYN CALLESTR.
Utfogbbion Cranurr.
Utfogbbion Cranurr. Cyfrifir nad yw nifer yr Indiaid yn Unol Dalaethau yr America ddim llai na 261,912. Ar y 14eg cyfisol llosgwyd y tolldy yn Valparaiso i'r llawr. Telegram o New Zealand a ddywed fod y proph- wyd Te Whiti wedi ei dra'ddodi i sefyll ei brawf oblegid defnyddio iaith ymosodol. Mae dros gant o'i ganlynwyr hefyd yn y ddalfa. Dywedir fod Ayoub Khan yn parhau i' aros yn Ghasen, yn nhiriogaeth Persia. Telegram o Teheran a ddywed ei fod ef wedi gofyn am ganiatad i fyned i Meshed. Mae yr awdurdodau yn New Zealand wedi diarfogi y brodorion ar yr arfordir gorllewinol, sef dilynwyr Te Whiti, ac mae y gwirfoddolwyr trefedigaethol yn dychwelyd i'w cartrefi. Bryslythyr o Tunis a. ddywed fod y milwyr Ffreng- Stidd yn parhau i ymlid y gwrthryfelwyr Arabaidd yn nghyfeiriad y deheu, ac fod heddwch wedi ei adfer yn y rhan ogleddol o'r ymerodraeth. Dydd lau di- weddaf, eymerwyd amryw o'r Arabiaid trwy heolydd prif ddinas Tunis wedi eu cadwyno gerfydd eu gyddfau, en traed,a'u dwylaw,ar y cyhuddiad o geisio dinystrio dyfrffos Zaghouan. Brodorion yn Cyfodi yn Erbyn y Boeriaid. Gohebydd o Durban a ysgrifena i'r Standard i ddweyd fod bryslythyr wedi ei dderbyn yn Pretoria i'r perwyl fod Mopocb, y prif benaeth yn rhanbarth Lydenburg, wedi cyfodi arfau yn erbyn y Boeriaid. Gan eu bod yn ofni er's peth amser y'byddai iddo wneyd hyny, mae debyg y gellir edrych ar yr hanes fel ffaith. Ar yr adeg y trosglwyddwyd y tir yn ol i'r Boeriaid, dywedodd Mopoch, yn hytrach na myned o dan awdurdod a rheolaeth y Boeriaid, y byddai iddo ef a'r brodorion ymladd hyd farw, ac anfonodd air i'r perwyl hwnw trwy y swyddog Prydeinig a drigai gydag ef at Syr Evelyn Wood. Dywedir fod y trigolion gwynion sydd yn y gymydogaeth yn ffoi o'r lie yn yr annhrefn mwyaf. Mae gryn anesmwythdra yn bodoli hefyd yn nghymydogaeth Wakkerstroom, lie mae y Kaffiriaid yn ymbarotoi ar gyfer codi helynt. Mae teimlad cryf yn bodoli yn Durban y bydd i'r brodorion drwy yr holl Transvaal ymddwyn yn y modd yr hysbysasant yr awdurdodau y byddai iddynt wneyd os gwnai Lloegr droi ei chefn arnynt, sef ymladd hyd farw, yn hytrach na dychwelyd i'w sefyllfa o gaethiwed a dirwasgiad. Os bydd i'r brodorion gyfodi trwy yr holl Dransvaal, mae yn amheus a all y Boeriaid gadw eu tir. Mae 2,000 o filwyr Prydeinig i orsafu yn Newcastle. Telegram diwedarach o Durban a ddywed nad oes cadarnhad swyddogol wedi ei dderbyn fod y brodor- ion wedi codi arfau yn erbyn y Boeriaid; ond dywedir fod y moddion gwefrebol gyda Pretoria wedi eu dyrysu.
-
Nid ydym yn gyfrifol am syniadau ein Gohebwyr. EISTEDDFOD CHWARELWYR CWM- ORTHIN. FONEDDIGION,—Y mae testynau yr eisteddfod hon, pa un sydd i gael ei chynal yn mis Ebrill nesaf, allan ar hyd y gymydogaeth yma er's peth amser; a diau fod ami un wedi dechreu parotoi at yr ymornest. Mae y testynau, a'r gwobrau, a'r beirniaid, at eu gilydd, y fath ag sydd yn cyfarfod a theimlad yr ardal yn gyffredinol. Ond y mae eithriad i bob rheol. I'm tyb i, y mae yma un eithriad anhapus iawn yn y rhestr hon o destynau. Yr wyf yn golygu Rhif 14, sef y cwes. tiynau ar Gyfiawnhad. Yr wyf yn ystyried, yn y lie cyntaf, mai annoethineb, a dweyd y lleiaf, oedd dewis testyn o'r fath i gystadleuaeth gyffredinol, fel yr un dan sylw. Pe buasai yn perthynu i un o'r Ysgolion Sabbothol yn yr ardal, ni buasai gan neb aches i ddweyd dim. Cnd mewn cystadleuaeth an-enwadol, fel y mae, neu y dylai fod, Eisteddfod y Chwarel, mae y mater yn wahanol. Dyma dri-ar- hugain o gwestiynau ger bron; ac y mae un o hony nt fel hyn :—" 10, Pa fodd y fvofir fod ufudd-dod Mab Duw yn gynwysedig yn y cyfiawnder trwy ba un y cyf- iawnheir credinwyr, ac mai drwy GYFRIFIAD y daw y cyfiawnder hwnw yn eiddom ni 1" FA welir ar un. waith fod y cwestiwn yn cymeryd yn ganiataol fod y cyfiawnder, trwy ba un y cyfiawnheir credinwyr, yn cynwys ufudd-dod Mab Duw. Ond a ydyw cymeryd hyny yn ganiataol yn deg ? A ydyw hyny yn deg mewn cystadleuaeth a ddylai fod yn an- enwadol ? A ydyw cymeryd yn ganiataol yr hyn a wneir gyda golwg ar gyfrifiad, yn deg mewn achos fel hyn ? Fy marn i ydyw ei fod yn hollol annheg. Os oedd cwestiwn o'r fath i fod, dylasai gael ei roddi mewn ffurf heb gymeryd yr un o'r golygiadau mewn dadl yn ganiataol. Ond yr anffawd gyntaf oedd dewis y pwnc-pwnc ag yr oedd yn anmhosibl, bron, i Dduwinydd Calfinaidd, neu Arminaidd, beidio rhoddi mesur o ddelw eu duwinyddiaeth briodol eu hunain arno. Ffurfiwyd y cwestiynau hyn gan Dduwinydd Calfinaidd; ac felly, er fod yn amlwg iddo ymdrechu bod yn gymedrol, er hyny y mae gyda'r cwestiwn uchod, o leiaf, yn cau yr atebydd Arminaidd o'r gystadleuaeth ac yr wyf o hyd yn dal allan fod hyny yn waeth na chamgymeriad-ei fod yn gam. wedd yn erbyn un o enwadeu crefyddol y gymydog- aeth. Maddeuwch i mi am ofyn cymaint o'ch gofod at fater lleol; ond credaf fod ch lVarae teg a'r enwad a a gynrychiolir genych yn galw am i sylw gael ei wneyd o'r peth.-Yr eiddoch, &c., RHYS LLWYD.
AT MARLLWYD.
AT MARLLWYD. SYR,-A welwch chwi yn dda anfon eich penillion i'r Gwyliedydd (trwy ddwylaw Clwydfardd) pa rai a ddarllenasoch noswaith y cwrdd te yn Sion, capel y Wesleyaid, Penygraig. Mae llawer heblaw fy hunan yn erfyn am gael eu gweled wedi eu cyhoeddi. Ydwyf, CYMRO BACH.
PRESTATYN A "BAZAAR" RHYL.
PRESTATYN A "BAZAAR" RHYL. FONEDDIGION,—Er nad wyf yn arfer ysgrifenu i bapyr newydd, y mae rhyw ysfa ynwyf i ysgrifenu ychydig linellau ar y mater hwn. Yr ydym ni yn Prestatyn wedi cymeryd yn garedig iawn ar bobl Rhyl am eu gwaith yn cymeryd trugaredd arnora. Ni buasai genym obaith am gapel n«wydd yn yr oes yma pe na buasai am y caredigrwydi hwn. Gall y dywed rhywrai y dylasem helpu ein hunain rely mae pobl ereill wedi ac yn gwneyd. Wel, yr ydwyf yn addef y dylai pawb wneyd eu goreu, ac y dylem ninau wneyd ein goreu; ond pan gymerir i ystyr- iaeth yr holl amgylchiadau bydd mwy o barodrwydd yn mhawb i dosturio wrthym nag i'n ceryddu. Dywed y bobl sydd yn gwybod fod yn anmhosibl altro yi hen gapel i ddim pwrpas am ei fod mor anffafriol ac anghyfleus, ac nad oedd dim a wnai y tro ond cael capel newydd, ac y costiai hwnw tua deuddeg cant o bunau y fan leiaf. Yr oedd son am ddeuddeg cant o bunau yn tori ein calon. Yr ydym wedi struglo yn arw i gael dyled yr hen gapel i ffordd, ac yn gorfod bod wrthi o hyd i wneyd hyny. Mae tua deugain punt o'r hen ddyled yn aros ac aros y buasai hi o hyd pe na buasai am y Loan Fund fendigedig sydd yn perthyn i'r Dalaeth. W Mae y gwaith yn yr ardal yn brin, ao y mae y cyflog yn fychan. Pan yn cael gwaith, nid yw y miners yma, a gwragedd miners ydym oil bron, yn cael mwy na. rhyw ddeg swtlt yn yr wythnos, ao y mae hyny yn ychydig iawn i gadw teulu. Yn wir, yr ydym yn set o rai tlawd iawn, ac yr oedd meddwl am 1200p yn tori ein calon. Ar y llaw arall, yr oedd y capel mor gandryll, yn oer a digysur, nes cadw y bobl draw, a nihau oedd dipyn yn selog bron, bron a thori ein calon. Mi fu'm i yn crio llawer wrth weled y gynulleidfa mor fechan y gauafau diweddaraf, ac yn ceisio gweddio am i'r Arglwydd agor "drws gobaith yn nyffryn Achor" i ni. Do, mi gollais lawer awr o gysgu wrth feddwl am achos Daw yn cael cam oblegyd sefyllfa druenus yr hen gapel. Ond dyma wawr wedi tori. Fel ergyd o wn dyma y gair allan fod chwiorydd selog a gweithgar Rhyl wedi cymeryd ein haohos mewn llaw trwy ymgym. eryd a chodi Bazaar. Wel, diolch i'r Llywydd mawr' a bendith iddynt hwythau. Yr wyf wedi colli dagrau o lawenydd er pan glywais. Yn sicr i chwi, mae y Gwr bia y gwaith wedi bod yn ymyryd, O'r Ar- glwydd y daeth hyn, a rhyfedd ydyw yn ein golwg ni." Bellach, y mae genym galon i wneyd ein goreu a gwnawn hyny hefyd. Ymdrechwn gynilo cymaint a fedrwn er gallu cyfranu yr oil sydd yn ein galln,- llai o siwgwr yn y tea, ymenyn teneuach eto ar y bara, ail glytio yr hen ddillad, a phobpeth arall. Mi weithiwn ein goreu,-gwnio, gwau, a phobpeth sydd yn ein gallu; ac mi awn at Dduw i ofyn bendith ar y cwbl. Anwyl chwiorydd yn mhob man, rhoddwch help Haw. Byddwch garedig wrth chwiorydd Rhyl yn eu ceisiadau ar ein rhan. Da chwi, helpwoh hwy. Gall pawb roddi tipyn— bydd y mymryn lleiaf yn help. Maddeuwch fy byfdra fy sel sydd yn fy ngyru. Mae arnom eisieu capel yn wir; a rhaid i ni gael help gan lawer er ei gael. Aeth fy llythyr yn feithach na'm bwriad. Madd- euwch i mi.—Yr eiddoch, &c., Nodd-dy Tach. 18,1881. ELEN WYN.
------------...-----------ENWI…
ENWI CJCHELSIRYDDION. Dydd Sadwrn diweddaf, yn Llys y Frenhines, yn Westminster, enwyd y personau canlynol i lanw y swydd uchod:— Mon.-Mr Hugh Edwards, Rose Mount, Caergybi; Syr Chandos Stanhope Hoskyns Reade, Gareglwyd, Bar., a Mr John Harold Platt, Bodior. Caernarfon —Mr Joseph Evans, Glyn; Mr John Owen, Tycoch; a Syr Richard Lewis Mostyn Williams Bulkeley, Bar. Fflint.—Syr William Grenville Williams, Bodel- wyddan, Bar.; Mr Thomas Wynne Eyton, Coedllai a Mr Robert Frost, Mount Kinnerton. Dinbych.-Mr John Taber, Claremont, Rhuthyn; Mr John Fairfax Jesse, Caerfron, Llanbedr, Rhuth- yn a Mr William Douglas Wynne Griffith, Garn, Dinhych. Mynwy.—Mr Thomas Phillips Price, Triley Court, Abergafenni; Mr William George Cartwright, Cas- newydd; a Mr Richard Powell Rees, Firs, Aber- gafenni. Brycheiniog.—Mr James Lewis, Plas Draw, Mor- ganwg; Mr Thomas Wood, Pare Gwernyfed; a Mr William Thompson Crawshay, Castell Cyfarthfa, Morganwg. Aberteifi.—Mr Charles Lloyd, Waenrifor Mr Thos Henry Ricketts Winwood, Tyglyn Aeron; a Mr Alban Gwynne, Monachty, Aberaeron. Caerfyrddin.—Syr Emile Elgernon Arthur Keppel Cowell Stepney, y Glen, Llanelli, Bar.; Mr Thomas Morris, Coomb, Llanstephan a Mr Llewelyn Lloyd Roberts, Glangwili, Llanpumsaint. Morganwg.—Isfilwriad Charles Richard Franklen, Clemenstone; Syr Joseph Layton Elmey Spearman, Llanelay, Pontfaen; a Mr Charles Evan Thomas, Castell Gnoll, Nedd. Penfro.—Mr Charles Edward Gregg Phillips, Castell Picton; a Mr Morgan James Sanrin, Orielton a Mr James Taylor, Ynys Caldy. Meirionydd.—Mr David William Kirkby, Maes-y- neuadd, Talsarnau; Charles Reynolds Williams, Dolmelynllyn, Dolgellau; a Mr William Robert Morice Wynne, Peniarth, Towyn.
DYLEDION Y TEYRNASOEDD.,
DYLEDION Y TEYRNASOEDD. Yn yr Herald of Peace, ceir y tabl cryno a ganlyn, yn dangos swm a chyfartaledd dyledion prif deyrn. asoedd y byd: a'r beichiau trymion yn mron yn ddieithriad i'w priodoli i ryfeloedd :— Y Ddyled Cyf. ar gyfer Wladol. pob deiliad. p P s. c. Hesse (Dueiaeth) 228,916 0 5 4 Sweden 4,114,880 1 0 0 Norway. 1.854,157 1 1 10 Chili, Deheu. America 2,930,405 1 15 0 Prwssia (1866) 42,123,064 1 15 1 Twrci 69,142,270 1 19 8 Oldenburgh 621,585 2 1 2 Hesse (Etholaeth) 1,845,892. 2 9 6 Brazil 30,763,289. 3 1 3 Hanover 6,420,955 3 3 6 Rwssia 274,574,770 3 14 1 Wttrtemburg 7,033,911 3 19 6 Saxony 9,912,049 4 4 10 Belgium 25,070,021. 5 0 7 Brunswiol. 1,707,707 5 15 5 Bavatia, 29,669,2(57 ••• 6 3 5 Baden 9,256,728 6 9 6 Awstria. 268,965,064 7 5 3 Denmarc 14,862,165 8 IS 9 Italy 211,503,298 9 8 3 Portugal 42,930,472 9 17 4 Yspaea 163,927,471 ••• 10 4 6 Groeg 14,000,000 12 15 3 Ffrainc ••• 566,680,057 14 8 9 Hamburgh. 4,222,867 m 16 16 5 Unol Dalaethau 579,880,391 18 18 9 Holland. 81,790,799 21 17 10 Prydain Fawr 797,031,650 26 10 0
Y CLEFYD ELELYN YN BARBADOES.
Y CLEFYD ELELYN YN BARBADOES. Y dydd o'r blaen derbyniais y llythyr canlynol oddi- wrth y Parch Griffith H. Jones, ac er mantais i'n miloedd darllenwyr cyhoeddwn ef yn y Owyliedydd R..LL. JONES. Yvesieyan Mission House, Piaisance, Demerara, Hydref 24, 1881. Fr ANWYL MR JONES,—Gwelaf yn'y Qv>yliedydd am Medi 21, i law ddoe, gyfeiriad at y gelyn dinystriol i fywyd dynol-y clefyd melyn, yn Barbadoes, India Orllewmol. Drwg genyf eich hysbysu nad yw y dennaw a. deugain ond rhan, a hono yn rhan fechan o'r cyfan- rif mawr yn ystod mis Awst, a symudwyd gan y clwyf marwol. Clywais fod nifer y marwolaethau y mis a nodwyd yn 358, ao mae genyf achos cryf i gredu fod eyfanrif Medi yn llawer mwy. Fel Wesleyaid cawsom galled ddirfawr trwy symudiad y brawd ieuanc addawol4 y Parch W. F. Cocks, yr hwn, yn ngbyda phlentyn bychan pryd- ferth iddo, a syrthiodd yn aberth i'r cyfryw glwyf, ar ol pedwar diwrnod o salwch. Barbadoes sydd wedi dyoddef fwyaf, ond mae Trinidad, Grenada, a Demerara wedi cael collodion dirfawn Yr ydym mewn braw ac anesmvrythdra mawr, o herwydd y bylchau ami sydd yn cael eu gwneuthur mewn llawer o deuluoedd. Yn y sir hon, mae ugeiniau o bobl ieuainc wedi marw o'r clefyd marwol er mis Mehefin, ao ofnwn nad yw y diwedd eto. r Danfonodd un long 9 o'r crew i'r Hospital y dydd o'r blaen, a bn 5 o'r 9 farw. Dynion ieuaino wedi bod yma ond tair wythnos a symudwyd i ffordd; ac yn yr un modd, rhai wedi 8 neu 9 mlynedd o arosiad. Pan gymerwn i ystyriaeth boblogaeth y trefedig- aethau bychain hyn, mae rhif y marwolaetheu y dyddiau hyn yn arnthrol fawr. Edrych bywyd yn rhywbeth gwerthfawr iawn, ac ar yr un pryd yn rhywbeth gwahanol iawn i mi er pan y daeth y clefyd melyn i'r gymydogaeth. Mor ansior yw bywyd bob amser. Ond yn enwedig felly gyda ni yma! Teimlwn yn hynod ddiolchgar pe gallech roddi gair neu ddau yn y Owyliedydd, er cyflwyno ein cais am ran ehelaeth yn ngweddiau pobl dda Cymru ar hyn o bryd. Credaf fod gan genadon Wesleyaidd hawl yn bresenol yn nhydymdeimlad y frawdoliaeth. —Gyda.chofion caredig, eich cywir, GRIFFITH H. JONES.
RHYDD-FEDDYLIAU.
RHYDD-FEDDYLIAU. RHIF L. Foneddigion,-Tra wedi'm cloi mewn cystudd blin yn fy ystafell, yn ddiweddar, gwrandewais lawer ar diciadau pendil y cloc. Yr oedd fel pe mynai siared 4 mi; a minau a droais i siared ag yntau mewn ffordd o gan iddo, a dyma hi i chwi-
CAN I'R PENDIL.
CAN I'R PENDIL. Bendil bychan, aros, gorphwys, Gad i'm siarad gair a thi; Pam y byddi mor aflonydd, Aros, saf, a gwrando fi; Oni wyddost fod pob gweithiwr Weithiau'n gorphwys, anwyl ffryn'd, Felly, gorphwys dithau hefyd; Yntau dd'wedai myn'd, myn'd, myn'd." Llawer blwyddyn buost yma, Yn ein hanedd gyda ni; Rhifaist heibio ami flwyddyn, Gyda 'i holl ddygwyddion hi. Rhifaist ddyddiau dedwydd, dedwydd, Eraill chwerwon iawn, fy ffrynd, A dy iaith yn wastad fyddai, Wrth eu cyfrif, myn'd, myn'd, myn'd." Erbyn heddyw, llawer blwyddyn, A gyfrifaist o fy oes Ond eu treulio mor ddiddefnydd, Bar i'm meddwl lawer loes; Ti ei 'n mlaen a'th gyfrif eto, Nes myn'd trwy fy oes, fy ffrynd, Ac wrth gyfrif pob awr imi, Dyma ddwedi, mynd, myn'd, myn'd." Rhifaist er pan wyf yn cofio, 'Lawer iawn i'r,beddrod du, 0 bob oedran a chymeriad- Llawer ckr a chyfaill cu; Myn'd wna lluoedd eto'n chwaneg, Tra cyfrifi di, fy ffrynd, Myned hefyd 'rwyf fy hunan, D'wedi dithau, myn'd, myn'd, myn'd." Bendil bychan, wyt gydymaith Digon difyr pan fy hun Wedi 'm cloi yn fy ystafell, Yn y pair, mewn cystudd blin; O mae d' oriau weithiau 'n boenus, Bron a thori 'm calon, ffrynd, Ond mae gobaith yr ånt heibio, Pan ddywedi, myn'd, myn'd, myn'd." Cefais ddyddiau iaohwdwriaeth, A bendithion fil a mwy— Oriau llawn o bob daioni, Trwy haeddianau dwyfol glwy'; Prysur, brysur ddianc ymaith, Byth o'm cyraedd, maent, fy ffrynd Ac wrth wrando arnat tithau, Dyna ddwedi, myn'd, myn'd, myn'd." Ie, cyflym hed fy amser, Buan, buan, daw i ben, Hedeg wnaf i fyd tragwyddol I drigfanau 'r wynfa wen. A chaf roi tragwyddol ffarwel I bob gwae, fy anwyl ffrynd; Ni bydd yno d' eisiau dithau Byth i ddwedyd, myn'd, myn'd, myn'd." GWR Y SHOP ISAF.
LLOFFION O'R " DIXYCH,"
LLOFFION O'R DIXYCH," Caed rhew, eira, ac oerni 10 o raddau islaw zero yn Nhiriogaeth Washington, yn ystod y mis di- weddaf Dywed adroddiad amaethyddol y llywodraeth, nad ydyw y enwd tatws eleni ond 68 y cant o'r hyn a arferai fod. Rhewodd llawer o'r ffrwythau ar y coed ar orora-j. y Tawelfor, ddechreu y mis diweddaf. Yr oedd y colledion yn enfawr. Anfonwyd i'r farchnad 250,000 o llychau o raisins oddiar un winllan yn Solano County, California, y mis diweddaf, am y rhai y derbyniwyd 500,000 o ddoleri. Cwblheir y gamlas drwy fasddjjfr Mussel, yr hyn a wna yr afon Tennessee yn fdfawyol o Paducah i Knoxville, pellder o 500 o filldiroedd. Cwynir fod diffyg gwlaw mewn rhai parthau o Dal- aeth New York yr Hydref presenol, ac ofnir y bydd prinder dwfr y gaaaf dyfociol, os na cheir gwlawcyn y rhew. Er fod y gauaf diweddaf yn un anarferol o oer drwy y Talaethau Deheuol, cyhoeddir fod Florida yn alluog i anfon 50.000.000 o oranges i'r farchnad yr haf hwn, am y rhai y derbynia dros 1,000,000 o ddoleri. Cyhoed.dwyd yn Cleveland, Ohio, fod yr heddgeid- waid wedi csel gorchymy11 i saethu pwy by nag a welir yn crwydro yn ystod y nos oddi amgy lch bead y diweddar Arlywydd Garfield. Pan briododd Tywysog Coronog Awstria, rhoddodd ei dad 22 o wahanol ysgoloriaethau, yn cynwys 300 florins aur yr an, i wahanol uchel ysgolion ac yn enw ei fab, rhoddodd 100,000 florins i d;Jll am addysg merched deg o'r swyddogion gwladol. Ar yr un amgylchiad, rhoddodd bardwn i 331 o bersonau oeddynt mewn penydfa am wahanol droseddau. Llwyddodd un o athronwyr Ffraino i dynu digon o wres o'r haul i ferwi dwfr, a chodi digon o agor i redeg peiriant nerthol Addawa dynu digon o a an o'r haul, drwy gyfrwng gwydrau, at wasanaeth pob teulu yn Paris!
[No title]
Yr archebion am "HANES WILLIAM A'l OES," yn dyfod i law o bob cyfeiriad.