Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Yr Eurgrawn am Ebrill: 43.-

BARRY DOCK.

NODION 0 GAERGYBI.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION 0 GAERGYBI. YMADAWIAD.-Mae Eglwys Gwynfa wedi cael colled trwy ymadawiad y brawd ieuanc flydillon, R. Elias WiMiamf, Masonic Hall, yr hwn bydd wedi myned i ffirm Mr O. Owen, JLlynlleifiad. Bu y brawd ieuanc yn hynod o weitbgar a llafurus i addysgu y plant yn y Maes Llafur. Hyderwn y bydd yr un mor selog a gweithgar yn ei gylcn newydd. Mae yn gymeriad rhagorol, ac wedi cael magwraeth grefyddol ofalus. Dymunem iddo bob llwyddiant ao y mae yn sicr genym y caiff dderbyniad teilwng yu mha Eglwys Wesleyaidd bynag y bydd iddo gartrefu. "JOHN WESLEY A'I BULPUD.Dyna ydoedd testyn y ddarlith o eiddo Monwyson a draddodwyd ganddo nos Fawrth ddiweddaf yn ysgoldy Hyfrydle. Credwa mai priodol ydyw i ni hysbysu darllenwyr y Gwyliedydd paham y darlitbiodd Monwyson ar y testyn uchod a byny yn ysgoldy y Methodistiaid Calfinaidd. Yehydig fisoedd yn ol penderfynodd yr Eglwys lethodiatiidd yn Penrhos y Feilw adeiladu capel newydd yn lie yr hen gapel. Yr oedd y diweddar Thomas Morris wedi gadael swm at draul yr adeiladu. Fel yr oedd yn hysbys i'r holl weini- dogion fu ar y gylchdaith, a'r dref yn gyffredinol, nai pulpud yr anfarwol John Wesley ydoedd pulpud yr hen gapel. Dygwyd ef o Bristol mewn llong gan y diweddar Captain Lloyd, Swift Square, yr hwn a'i cafodd neu ei prynodi ac a'i rhoddodd yn ngbapel Penrhos Feilw. Bu Wesley a Whitfield yn pregethu ynddo yn Bristol. Dywedir y gellir sicrhau fod y pulpud hwn yn 150 ml. oed. Bu y Wesleyaid Cymreig a Seisonig yn ceisio ei bwrcasu. Pender- fynodd cyfeillioa y He roddi y pulpud i Monwyson, os byddai ef mor garedig a rhoddi iddynt ddarlith, ac awgrymwyd y testyn iddo. Yr oedd yr ysgoldy yn orlawn, a Monwyson yn hynod o ddydd- orol a humorous. Darlith ragorol iawn. Diau y gwelir Mr Evans yn myned gyda'r pulpnd drwy Gymru a Lloegr ae y bydd ei ddarlith yn un o'r rhai mwyaf poblogaidd.- W.S.O.

Y Winllan am Ebrill. Pris…

Y Fwyell am Ebrill.

WESLEYAETH GYMREIGYN NGHAERFYRDDIN.

GAIR 0 LLANDUDNO.

BRYN SION, TAJfARNAU BACH.

TREM O'R TWR.

Advertising