Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

<6-■:■ HAWLIAU GWLEIDYDDOL…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

<6- ■: HAWLIAU GWLEIDYDDOL A CHREFYDDOL YR ANNG- HYDFFURFWYR. TRWY oddefiad yn unig y mae yr An- nghydffurfwyr yn y deyrnas hon yn cael byw a bod. Nid ydym yn bur sicr fod ein darllenwyr i gyd yn cofio hyny-yn wir, yn gwybod mai dyna y ffaith. Bu adegnad oedd iddynt gymaint ag oddefiad. Yr oedd yn rhaid i bob un o ddeiliaid y deyrnas addoli yn yr Eglwys Sefydledig neu, o leiaf, nid oedd iddynt ryddid i addoli mewn un man arall. Yr ail flwyddyn wedi pasio Deddf yr U nffurf-, iaeth gwnaed Deddf arall, yr hon a'i gwnelai yn annghyfreithlon i arfer math yn y byd o wasanaeth grefyddol, ond yn unig yn ol trefn Eglwys Loegr, mewn unrhyw fan lie byddai mwy na phump dros un-ar-bymtheg oed, heblaw y teulu, os mewn anedd-dy, yn bresenol. Y gospedigaeth am y trosedd cyntaf oedd tri mis o garchar, neu dalu pum punt o ddirwy. Y neb a geid yn euog eilwaith, byddai raid iddo dalu deg punt, neu fod yn y carchar am chwe mis. Yr oedd y trydydd trosedd yn dwyn cospedigaeth o ganpunt o ddirwy, neu saith mlynedd o alltudiaeth. Ac os dychwelai yr alltud yn ol yr oedd efe o dan ddedfryd marw- olaeth. Pa faint a ddyoddefwyd am y chwarter canrif canlynol, gan y rhai a deimlent nad cyfiawn ger bron Duw oedd iddynt wrando ar ddynion yn hytrach nag ar Dduw, dydd y farn yn unig a'i dengys. Y mae meddwl am yr hyn sydd; ar gael ar dudalenau hanesiaeth yn ein harswydo. Yr oedd y ddeddf hon, a'r holl ddeddfau eraill oedd yn difreinio yr Annghydffurfwyr, yn ganlyniad naturiol Eglwys Sefydledig trwy gyfraith gan y Wladwriaeth. Yr oedd y trawsder cynt- af yn galw am y lleill. Ond yr oedd cydwybod yn gryfach na chyfraith an- nghyfiawn, ac egwyddor yn drech na dychrynfeydd cospedigaeth. Yn 1689 pasiwyd Deddf Goddefiad. Y mae y syniad yn wrthun i'r eithaf. Senedd Gwlad yn honi bod yn Gristionogol yn pasio Deddf i'w deiliaid gael eu goddef i addoli Duw yn ol cymellion eu cydwy- bod Ond yr oedd hyn, eto, yr unig ffordd resymegol i beidio cospi Annghydffurfwyr tra y cedwid yr Eglwys Sefydledig. Ac yn ddiau edrychid ar y "Goddefiad fel caffaeliad anmhrisiadwy. Y Ddeddf hon sydd yn ei gwneyd yn bosibl i ni addoli Duw yn ein capelau. Yr ydym yn cael hyny o oddefiad. Yn nghwrs amser mae y Goddefiad hwn wedi ei eangu fel ag y gall Annghydffurfiwr fod yn Arglwydd Faer Lerpwl; y gall Annghydffurfwyr fwynhau breintiau addysg yn Rhydych- ain a Chaergrawnt priodi yn eu haddol- dai eu hunain a chael eu gweinidog eu hunain i gladdu eu meirw yn mynwent eu plwyf. Y mae Deddf y Goddefiad yn sail i'r Annghydffurfiwr, erbyn hyn, fwyn- hau llawer o'r breintiau—o'r hawliau a berthynant yn briodol iddo fel rhydd- ddinesydd yn ngwlad ei enedigaeth. Eithr wedi'r cwbl, o dan oddefiad yr ydym. Ac, os bydd i ni ddygymod a'r syniad hwn, y mae y gwely eto yn rhy fyr, a'r cwrlid yn rhy gul. Ac y mae y rhai sydd yn cofio o hyd mai o dan oddefiad yr ydym yn gwylio yn barhaus am gyfleusdra i gyfyngu arnom. Yn ngwyneb y sefyllfa hon ar bethau yr ydym yn llawenhau am sefydliad Cyngor Politicaidd yr Annghydffurf- wyr." Nodasom yr wythnos ddiweddaf fod cyfarfod mawr yn cael ei gynal yn Llundain i'w sefydlu, ac i amlygu ei gyf- eiriad, y diwrnod yr oeddym yn myned i'r wasg. Erbyn hyn y mae y sefydliad yn ffaith, yr egwyddorion wedi eu dad- guddio, a'r rhagolygon yn addawol. Yn y boreu, y dydd a nodwyd, cyfarfu nifer luosog o gynnrychiolwyr. Mr. R. W. Perks, A.S., oedd yn llywyddu a'r Parch. J. Hirst Hollowell oedd yr ysgrif- enydd. Penderfynwyd ar Gyfansoddiad y Cyngor. Yr amcan ydyw dyogelu hawliau gwladol a chrefyddol yr An- nghydffurfwyr. Gwneir y Pwyllgor Gweithiol i fyny o gynnrychiolwyr yr Annghydffurfwyr, yn nghyda nifer o Aelodau Seneddol yn cynwys Mr. R. W. Perks (yn Llywydd), Mr. Lloyd-George (yn Is-lywydd), Mr. H. Broadhurst, Syr J. Brunner, ac eraill. Yn mhlith aelodau y Pwyllgor Gweithiol y mae y Parch C. H. Kelly, Goruchwylydd y Llyfrfa Wesleyaidd yn Llundain. Y Parch J. Hirst Hollowell yw yr Ysgrifenydd. Wedi myned trwy y goruchwylion angen. rheidiol gyda ffurfiad yr organaeth, a'i gosod mewn trefn i weithio, pasiwyd Penderfyniad yn dal allan y dylai pob ysgol elfenol gy-1 hoeddus fod-o dan reolaeth gyhoeddus, yn cynwys penodiad neu symudiad athrawon. Eiliwyd y cynygiad gydag araeth ragorol gan Mr Lloyd George. Pasiwyd penderfyniadau eraill yn dal perthynas ag addysg o uwch gradd, &c. Yr oedd y bleidiais yn mhob achos yn hollol unfrydol. Yn y prydnawn drachefn, a Mr Perks yn y gadair, cynyg- iodd Mr S. Smith, A.S., Benderfyniad a ddadganai arswyd oherwydd cynydd y cy- feiliornadau a'r defodau Pabaidd yn Eglwys y Wladwriaeth, ac ymrwymiad yr Eglwysi Rhyddion i Brotestaniaeth yn nghyda j chydnabyddiad nad oedd y Senedd n,* i Fainc Esgobol yn ewyllysgar nac abl i gym. wyso unrhyw feddyginiaeth foddhaol i'r! drygau hyn, ac am hyny yn galw ar yr holl: Brotestaniaid sydd o ddifrif i ymuno i ddwyn < oddiamgylch gydraddoldeb crefyddol trwy ddadsefydliad. Caed araeth gref gan Mr Smith o blaid y cynygiad a chefnogwyd ef gan Dr Horton ac wedi i amrai siarad rhoddwyd pleidlais unfrydol dros y cynyg- iad. Yn yr hwyr cynaliwyd cyfarfod cy- hoeddus (o dan lywyddiaeth Mr Perks, eto) yn St. James' Hall. Dywed un oedd yn bresenol fod y gynulleidfa luosog 11 yn cael ei gwneyd i fyny o bobl a sylwedd a sefyd- logrwydd yn perthyn iddynt, y rhai yr oedd eu cefnogaeth a'u brwdfrydedd yn werth ei sicrhau." Ac yr oedd y siarad yn rhagorol. Yr ydym yn llawenhau fod y symudiad pwysig hwn wedi ei wneyd.Nid oes dadl nad ydym fel Annghydffurfwyr wedi colli llawer, ac heb enill llawer o'n hiawnderau, am na buasem yn deall ein gilydd, ac o ddiffyg deall heb gydweithredu. Yn awr, y mae gwyr cryfion y gwahanol Eglwysi Rhyddion wedi ymuno i sefyll dros ein hawliau cyffredinol ac y mae yr undeb yn arwyddo nerth sydd eisoes yn peri cyffroad yn mhlith yrhai awyddus i gadw ein hawliau oddiwrthym. Dywed y "Meth- odist Times fod y Globe wedi dychrynu, a'i bod yn cymell ei darllenwyr i beidio is- brisio egnion Ymneillduaeth fel y maent wedi eu cydgasglu yn "Nghyngor yr Eg- lwysi Rhyddion," ac yn y Cyngor Politic aidd newydd hwn. Nid annyddorol yw sylwi beth a ddywed y "Church Times" hefyd am dano Amcana at uno yr holl Sectau Ymneillduol mewn rhwymyn Politic- aidd i'r pwrpas o reo!i addysg y wlad, ysbeilio yr Eglwys, ac, mewn gair, i ddwyn y wlad o dan ormes y 'Gydwybod Annghydffurfiol. Ond ceisia y papur hwn ymgysuro trwy wneyd yr hyn y mae ei gyd-Dori-Eglwysig 1 yn cymell i beidio ei wneyd, sef isel-brisio yr egnion sydd wedi eu cyfuno. Ond dyweded y gwrthwynebwyr y peth a fynont y mae dadganiad Mr. Perks, ar ddechreu y cyfarfod cyntaf, yn deilwng o sylw. Ameuai ef a oedd unrhyw symudiad, crefyddol neu gym- deithasol, wedi ei gychwyn yn ystod y ganrif hon a gafodd ei fendigo gan nifer mor luosog o wyr enwog, ac yn cynnrychioli dosbarth- iadau mor bwysig. Ac fe oddefir i'r Gwyl. iedydd, fel Wesleyad ac fel Cymro, ddadgan llawenydd am fod Mr. Perks a Mr. Lloyd- George yn cydgyfranogi o'r anrhydedd o gychwyn y symudiad.

CYFARFOD TALAETHOL Y GOGLEDD…

NODION O'R GORNEL.

Family Notices