Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

< YR WYTHNOS DDIWEDDAF.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

< YR WYTHNOS DDIWEDDAF. WYTHNOS oedd y ddiweddaf ag iddi hanes. Cofir am ei dygwyddiadau yn hir. Y dygwyddiad mawr a barodd gyffroad trwy. yr holl fyd oedd rhyddhad Mafeking. Yr oedd pobl gall a da y wlad hon yn diolch mewn ystyriaeth bwyllog a dwfn am fod gwaredigaeth wedi cymeryd lie, a'r flfyliaid yn gorym- deithio, gwisgo masquerades, yn llefain ac yn meddwi; ac, ysywaeth, rhif y ffyliaid sydd luosocaf. Gresyn fod Bachus yn cael cymaint o ebyrth diolch. Modd bynag, yr ydym yn mawr lawen- hau am fod y trueiniaid gwarchauedig, ar ol eu hir gaethiwed, wedi cael rhydd- had ac yn angerddol awyddus am weled arwyddion o ddynesiad terfyniad y rhyfel ac y mae hanes yr wythnos ddiweddaf yn ymddangos i fod yn myned i'r cyfeiriad hwnw. Dygwyddiad bodd- haol oedd dadorchuddiad cerflun Glad- stone yn neuadd y Senedd-dy. Gwyn fyd na byddai i hyny greu ysprydiaeth gyffelyb i'r hyn oedd ynddo ef yn yr rhai a honant fod yn ddylynwyr iddo Ac y mae yn dda genym nodi fod y Llyw- odraeth a'r Trefedigaethau Awstralaidd wedi dyfod i gyd-ddeall fel y mae yn debyg y bydd y Mesur i wneyd Unol Dalaethau o honynt yn cael ei ail-ddar- llen yn ddiwrthwynebiad. Ond ar wahan i bob peth arall yr oedd yr wythnos ddiweddaf, i ni fel yr Eglwys Wesleyaidd, a'r Eglwys Wesleyaidd Gymreig, yn un pur neillduol. Cynelid Cyfarfod Blynyddol bron bob Talaeth yn y Deyrnas, ac yn eu plith y Talaethau Cymreig. Ac yr oedd y Cyfarfodydd hyn yn ein canfed flwydd yn rhwym o'u gwneyd yn neillduol o ddyddorol i bob Cymro Wesleyaidd o Fon i Fynwy, a thu allan i hyny. Ac yn naturiol a chyfreithlon yr oedd y dyddordeb hwn yn fwyarbenig yn Nghyfarfod y Gogledd, yr hwn a gynelid yn Ninbych-mor agos i'r tir y cymerodd y golygfeydd dechreuol Ie. ac yn wir ar ran o hono. Yr oedd yn ddrwg iawn genym weled fod yr argraffydd wedi methu rhoddi adroddiad rhagorol Robertus o Gyfarfod y De i mewn. Ymddengys y cwbl yr wythnos nesaf. Ac yr ydym yn sicr y maddeua ein darllenwyr caredig yn y De, a phobman arall, i ni am roddi cymaint oedd yn bosibl o hanes Cyfarfod Dinbych yn yr amgylchiadau tra neillduol a nodwyd. Yr oedd cyfarfodydd cyhoedd- us nos Fawrth a nos Fercher mor neill- duol, ac mor neillduol o dda, heb son am y Seiat Fawr, fel yr ydym yn credu yn sicr y bydd ein darllenwyr yn falch o'u cael y cyfle cyntaf. Anffawd oedd fod cymaint wedi ei roddi ar y rhaglen. Nid ydym yn beio neb, ond drwg genym nad oedd amser i'r Parch. D. O. Jones siarad ar Berthynas Crefydd ac Addol- iad nos Fawrth. Ac yn sicr ddigon yr oedd pawb ar eu colled am nad oedd amser i'r Cadeirydd siarad ar Dymor yr Ad-drefnu a'r Eangu yn ein hanes, nos Fercher. Yr oedd yr ychydig sylwadau a wnaed ganddo ar derfyn y cyfarfod yn dangos ei fod mewn good form," ond nid oedd amser, a chollasom y iraint. Yr oedd y Seiat Fawr yn mhlith y rhai goreu. Y mae yn dda genym alw sylw at yr hyn a ddywedodd y Parch. Thomas Hughes yn y dechreu. Rhoddodd Mr. Hughes sylfaen ragorol i lawr-un gref a Hydan. Haedda ei sylwadau gwerth- fawr eu darllen lawer gwaith. Adeilad- wyd ar y sylfaen hon yn rhagorol gan y siaradwyr dylynol, a choronwyd y cwbl yn ardderchog gan Mr William Roberts. I Nid oes ofod i ymhelaethu ar y pregethu.1 Ond yr oedd un peth yn sicr-yr oedd yr J Arglwydd yn arddel ei weision. i

A GYNALIWYD YN NINBYCH, MAI…

'# Y GYNADLEDD DDUWINYDDOL.