Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

CYFARFODYDD CYHOEDDUS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFARFODYDD CYHOEDDUS. PREGETHU.-—Y Sabboth, Mai 13: FERNDALE (Capel Wesley), y Parchn. John Lloyd, a D. Creigfryn Jones FORTH, y Parchn. John Row- lands, a Thomas Rowlands YNYSHIR, y Parch. D. Roberts; TYLORSTOWN, y Parch. P. Jones. Nos Lun, am saith o'r gloch, Capel Wesley, Ferndale, y Parchn. D.'Williams,a Jacob Pritch- ard. Nos Fawrth, am saith o'r gloch, cynaliwyd y Cyfarfod Dirwestol. Nos Fercher, am saith, pregethwyd gan y Parchn. E. Berwyn Roberts, ac R. Roberts. Dydd Iau, Mai 17, am naw, Seiat Gyffredinol, o dan lywyddiaeth y Cadeir- ydd am 10 30 dechreuwyd gan y Parch. LI. A. Jones, a phregethwyd gan y Parch. T. Manuel; am ddau, dechreuwyd gan y Parch. W. T. Ellis, a phregethwyd gan y Parchn. E. Isaac, a T. J. Pritchard; ac am chwech dechreuwyd gan y Parch. D. Morgan, a phregethwyd gan y Parchn. J. Humphreys, a T. Jones. Fel sylwad cyffredinol, gellir dvweyd fod yr holl gyfarfodydd dirgelaidd a chyhoeddus oddi dan eneiniad Dwyfol. Teimlwyd fod yr Ar- Arglwydd yn agos atom. Daeth tyrfa fawr iawn i'r Cyfarfod ar ddydd mawr yr wyl o gylchdeith- iau Treorci, Caerdydd, Pontypridd, Merthyr, ac Aberdar. Ein hyder ydyw y bydd i'r tan a enynwyd yn ein Cyfarfod Talaethol ledaenu dros yr holl Dalaeth. Cynaliwyd Pwyllgor y Llyfrfa nawn Iau, pn yr hwn y pasiwyd fod i Oruchwylydd y Llyfrfa, y Parch. J. Hughes (Glanystwyth), fod yn aelod o Bwyllgor y Llyfrfa.

CYFARFOD DIRWESTOL.

Y SEIAT FAWR.

CYFARFOD TALAETHOL GOGLEDD…

DYDD MERCHER,