Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

CYFARFODYDD CYHOEDDUS.

CYFARFOD DIRWESTOL.

Y SEIAT FAWR.

CYFARFOD TALAETHOL GOGLEDD…

DYDD MERCHER,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

yn y Gynadledd agoshaol. Gwasgwyd y mater o ddodrefnu ty i'r ail weinidogax bob cylchdaith sydd wedi ymrwymo i wneuthur hyny. Dymun- 01 iawn fyddai i bob cylchdaith sydd heb gyf- lawni ei phledge i gymeryd y mater hwn i ystyr- iaeth ddwys. Dechreuwyd eisteddiad haner awr wedi dau trwy weddi gan Mr. T. Lewis, Ystrad. Daeth cais eglwys Tredelarch, cylchdaith Caerdydd, am gael ei huno a chylchdaith Roath Road, Caerdydd. Seisonaeg a bregethir yno yn gwbl ar hyn o bryd. Bu dadlu brwd dros ac yn erbyn yn y mater, ond ni chaniatawyd i'r eglwys hono ei dymuniad. Ni chaniatawyd i gylchdaith Caerdydd roddi i fyny yr ail weinidog fel y ceisiwyd ganddynt wneyd. Yn y cyfwng yma yr etholwyd ein Cadeirydd yn unfrydol i'n cyn- nrychioli yn Mhwyllgor y Sefydliadau. Penod- wyd ein Hysgrifenydd, ac eraill, i'r Gynadledd Gymysg. Cynelir ein Synod Dalaethol nesaf yn Mhontardulais, cylchdaith Abertawe, Mai, 1900. A chynelir ein Cyfarfod Cyllidol yn Medi nesaf yn Ngharno, cylchdaith Llanidloes. Rhoddwyd ystyriaeth fanwl i gynllun y Miliwn Ginis." Y mae'r'arian yn cael eu hanfon i fyny o'r gwa- hanol gylchdeithiau. Llawenydd i ni oedd deaU fod y cylchdeithiau yn dra hyderus y deuant i fyny a'u haddewidion. Cyflwynwyd cyfrifon yr Ysgol Sul ger bron y Cyfarfod gan yr Ysgrifen- ydd, sef y Parch. John Roberts, mewn modd deheuig cyfrifon y Genadaeth Gartrefol gan y y Parch. T. Jones; cyfrifon Dirwest gan y Parch. G. O. Roberts (Mornn) cyfrifon y Maes Liafur gan y Parch. R. Emrys Jones a chyfrif- on y Capelau gan y Parchn. P. Jones a John Jones, mewn modd deheuig iawn. Cawsom y pleser o groesawu y Parch. R. H. Jones, un o'n gweinidogion yn yr Eglwys Esgob- yddol Americanaidd, i'n plith yn nechreu ein heisteddiadau. Yn eglwys Allen Grove, Wis- consin, y mae Mr. Jones yn gweinidogawhu \n bresenol. Brodor o Abercegir, cyichdaith Machynlleth ydyw efe Gadawodd Mr. Jones y wlad hon am America oddeutu deuddeng mlyn- edd yn ol, a bu yn hynod lwyddianus yn ei yrfa weinidogaethol. Ymddengys ei fod wedi mwyn- hau ei hun yn fawr yn ein Synod. Bydded no- dded Duw drosto yn ei daith fwriadedig trwy r Cvfandir, ac yn ol i fynews ei deulu yn yr Americ bell. I ddychwelyd at benderfyniadau pwyllgor y dydd hwn, y mae genym i ddyweyd fod pleidlais o gydymdeimlad a Thywysog Cymru yn yr ym- gais a fu ar gymeryd ymaith ei fywyd wedi ,,y pasio yn yreisteddiad hwn hefyd cydymdeim- lad a theulu yr enwog Principal Edwards yn eu galar ar ol y dyn mawr hwnw. At hyny, pas- iwyd fod y Parch. P. Jones yn anfon llythyrau o gydymdeimlad a theulu y diweddar hen dad duwiolfrydig, Mr. David Jones, Pontrhydygroes, yn eu galar; yn nghyda theulu y diweddar ffyddlon Mr. T. H. Jones, Aberystwyth. Hefyd pasiwyd i anfon llythyrau o gydymdeimlad a'r brodyr a fethasant fod yn bresenol yn y Synod oherwydd afiechyd, sef Mri. Delta Davies, Ty Ddewi; Isaac Lloyd, Borth; T. Thomas, Mynydd Bach a Llewelyn Thomas, Caerdydd. Diolchwyd yn gynes i'n Cadeirydd a'i gydlafur- wyr, yn nghyda holl gyfeillion caredig Ferndale o bob enwa d am ein croesawu i'r lie, a gweini mor helaeth i'n cysur tra yn y Synod. Taled yr Arglwydd iddynt yn ddau-ddyblyg.