Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

YR YSGOL SUL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR YSGOL SUL. Darllenwyd ystadegaeth yr Ysgolion Sabboth- ol yn y Dalaeth gan y Parch. W. Caenog Jones. Dangosent fod genym 264 o Ysgolion Sul yn y Dalaeth 3,182 o athrawon a swyddogion yn gweithio ynddynt, gyda chanolrif yn bresenol bob Sabboth o 3,088. Gwneir y 21,904 ysgolor- ion sydd ar y llyfrau i fyny fel y canlyn — 3,872 o dan saith oed; 6,287 rhwng saith a phymtheg; a 11,745 uwchlaw pymtheg oed. Yr oedd 14, 701 o'r ysgolorion yn bresenol ar gyfartaledd bob Sabboth yn ystod y flwyddyn. Y mae cyfanrif yr ysgolorion ydynt yn aelodau eglwysig-cyflawn, ar brawf, neu yn rhestrau y plant-yn 16,611. Y mae un ysgol wedi ei rhoddi i fyny yn ystod y flwyddyn. Dangosa nifer yr ysgolorion ar y llyfrau gynydd sylwedd- ol, ond drwg genym weled lleihad yn nghanolrif y rhai oedd yn bresenol bob Sabboth. Y mae y gwaith a wneir yn ein hysgolion gyda'r Holwyddorion a'r Maes Llafur yn galon- og iawn. Gwelwn oddiwrth feirniadaeth y gwahanol ddosbarthiadau fod papurau rhagorol eto eleni wedi d'od i mewn i'r arholiad ond nid ydynt ond amlygiad anmherffaith iawn o'r gwaith dystaw a thrwyadl a wneir trwy offeryn- oliaeth y Maes Llafur yn ein hysgolion. Efallai ein bod yn teimlo, fel y gwna enwadau eraill, fod gwneyd yr Ysgol Sul yn fwy effeithiol trwy gynyrchu mwy o lafur cyson a chyfundrefnol ynddi yn ei gwneyd hefyd yn Ilai poblogaidd gyda rhyw ddosbarth oblegyd hyny. Un o'r Manod," cylchdaith Blaenau Ffestin- iog, aeth a'r brif wobr yn Dos. IV. eleni, ac Arthur Hamilton Hughes, mab y Parch. Henry Hughes, Towyn, ydyw "champion" Dos. III.— dan 20 oed. Yr oedd y papurau mor rhagorol yn Dos. II.-dan 16 oed-fel y bu raid rhanu y wobr cydrhwng pedwar oeddynt wedi cyraedd perffeithrwydd hollol yn arholiad; ac y mae tri o'r rhai hyny yn trigo yn Ninbych, sef Mary Hevin Hughes, Leonard Hughes, a Jane Davies —"well done Dinbych A'r llall ydyw Dinah Richards, Llanrhaiadr. Yn yr adran Dduwin- vddol enillwyd y llawryf gan Mr. E. D. Jones, Medical Hall, Llangollen. Yr agosaf ato oedd Mr. Evan Jones Lewis, Towyn; a Mr. Morris J. Morris, Abermaw, yn "highly commended." Bu rhaid gadael rhai pethau pwysig yn nglyn a'r Ysgolion Sabbothol heb eu hystyried (o ddi- ffyg amser i'r Pwyllgor gyfarfod) hyd y Cyfarfod Cyllidol. Yn eu plith y mae cais Talaeth De- heudir Cymru am gael dim ond un arholiad cydrhwng y ddwy Dalaeth, ac awgrym cylchdaith Dolgellau parthed newid rhai o'r rheolau yn nglyn a'r arholiad a lluosogi y gwobrwyon, &c. BEIRNIADAETH Y PARCH. OWEN EVANS AR YR ADRAN DDUWINYUDOL—" ATHRAWIAETH Y DRINDOD."—Wyth o bapurau ddaeth i law, ac o'r wyth hyn y mae pump wedi eu hanfon o gylchdaith Towyn, yr hyn sydd o fawr glod iddi. Y mae safle y papurau fel y canlyn —Allan o 220 o farciau posibl sicrhaodd Silvius (Llan- gollen), 169; Athanius (Towyn), 162; Jethro (Towyn), 155; Student (Towyn), 134; Amicus (Towyn), 124; Glanymor (Dolgellau), 120; Pry- derus (Towyn), 118; Glanwyson (Ferndale), 99. Y goreu felly ydyw Silvius, sef Mr. E. D. Jones, Chemist, Llangollen. Y mae yn bapur rhagorol, ac yn arddangos ymchwiliad manwl a meistrol- aeth dda ar agweddau dyrys yr athrawiaeth hon. Yn bur agos ato, fel y gwelir, y mae Athanius, o gylchdaith Towyn, a Jethro. Y mae y rhai hyn yn bapurau da iawn. Yn wir, pan ystyriwn fod nifer o'r cwestiynau yn dra anhawdd, nid oes un o honynt yn bapurau gwael. Y mae y rhan fwyaf o'r cystadleuwy wedi syrthio yn fyr yn y cwestiynau canlynol:—3, 12, 15, a 16. Nid ydyw eiddo Silvius wedi cymeryd pwynt Gof. 15 i fyny, ac y mae ei atebiad i 16 yn an- nghyflawn. Meddylier am ofyniad 12. Tvbir yn y gofyniad nad oes modd synio yn briodol am Dduw fel un byw," ac fel Duw cariad," ond am Ei fod yn Dri-yn-Un. Eglurhad o hyn oedd eisiau. Drachefn, Got. 15, onid ydyw y syniad Undodaidd am Dduw yn tybio mai Duw unig, digymdeithas, ydyw, tra y mae Athraw- iaeth y Drindod yn dysgu ei fod er tragwyddol- Deb, yn feddianol ar gymdeithas, a'i fod yn gariad yn ystyr uwchaf y gair ? Carasem hefyd 1 r cystadleuwyr fod wedi deall yn well berthyn- as yr_ Athrawiaeth a bywyd ysprydol yr eglwys. Yri sicr, nid Athrawiaeth i'w derbyn yn unig ydyw, ond y mae ynddi nerthoedd er daioni. Gresyn na buasai nifer luosocach o gystadleu- wyr, ond y rhai a geisiasant a wnaethant yn dda, a rhai yn rhagorol.

YR ADRODDIAD DIRWESTOL,

Y PREGETHWYR CYNORTHWYOL.

CYFARFOD CANMLWDDIANT LERPVVL.I

Family Notices

[No title]

CYFARFOD TALAETHOL GOGLEDD…