Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

, CYFRIFLEN TALAETH GOGLEDD…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFRIFLEN TALAETH GOGLEDD CYMRU Nis gellir edrych ar ystadegau eglwysig ynddynt eu hunain yn arddangosiad, i ddibynu arno, o gyflwr ysprydol yreglwysi, nac yn fynegiad o'r gwaith a wneir, o ran llafur a llwyddiant, mewn blwyddyn o amser er hyny y mae iddynt eu lie, a'u gwasanaeth, a'u gwerth. Mewn trefn iddynt fod o wasanaeth a gwerth, rhaid eu bod, wrth gwrs, yn gywir. Ac y mae ein trefn yn ei gwneyd yn orchwyl hynod o syml a hawdd i sicrhau cyfrifon cywir. Golyga hyny, wrth gwrs eto, fod y drefn yn cael cadw an, ac yn cael ei chadw gan bawb. Nid oes gwahanol foddau i fod ar y r mater yma. Y mae ffugwr un yn golygu un-ar brawf, neu aelod newydd, neu beth bynag a gyfrifir. Ac ni ddylid rhoddi un ilawr, lie nad oes un; na gadael heb ei roddi i lawr, lie y mae un. Mal y nodasom y mae ein trefn o gasglu y cyfrifon, a'u, rhoddiad gerbron pob Cyfarfod Chwarterol yn mhob cylchdaith yn gwneyd y gwaith 0 wneyd i fyny y cyfrif am y flwyddyn yn mhob cylchdaith i lenwi Cyfriflen Flynydd- 01 y Dalaeth yn beth hawdd. Gwyddys mai Cyfrifon Chwarter Mawrth-y chwar- ter diweddaraf o flaen y Cyfarfod Talaethol ■—a ddygir gerbron y Cyfarfod hwnw, a'r Gynadledd, ac a roddir yn Nghofnodau y Gynadledd, i fod yno, mewn rhan, i fesur cyfrifoldeb y Talaethau a'r Cylchdeithiau i gymeryd eu cyfran o'r baich o amgylch- iadau tymorol sydd o angenrheidrwydd yn dal perthynas a dygiad y gwaith mawr yn mlaen ac yno y byddant hefyd at wasan- aeth ystadegydd ac hanesydd yramser a ddaw. Aeth ein rhagarweiniad }n feithach nag y meddyliasom iddo fod, er hyny, credwn, nad yw efe yn anmherthynasol nac yn ddibwrpas. Y mae Cyfriflen y Dalaeth Ogleddol yn awr yn argraffedig oln blaen, ac enw Ysgrifenydd y Dalaeth wrthi yn ei hawdurdodi. Ni chaed yn adroddiaj ein Gohebydd o'r Cyfarfod Talaethol ond jcydrif yr aelodau, a'r rhai ar brawf, yn y T^alaeth yn nghyd a'u cydmariaeth a'r Hynedd, yn ol yr hyn y gwelid fod y cynydd ar y flwyddyn yn rhif Cyflawn Aelodau y Dalaeth, yn drigain ac yn rhif yr Aelodau y Rhestrau y Bobl Ieuainc yn gant a phymtheg a deugain. Ond y mae yn y Gyfriflen lawer o bethau Traill sydd yn cymell ein dyddordeb a'n sylw. Y mae yn y Dalaeth bymtheg ar hugain o gylchdeithiau. yn cynwys Cenad- aeth Lancashire, a Dinas Mawddwy. Y 5^ae ar y Cylchdeithiau hyn (heb gyfrif yr Uwchrifiaid) unarddeg a thrigain o wein- ldogion. Ar y Gyfriflen hony mae colofn y Pregethwyr Cynorthwyol yn wag. Nis gwyddom paham ond cafwyd gan Ysgrif- J?ydd y Pwyllgor mai rhif Pregethwyr ynorthwyol Cyflawn y Dalaeth yw dau ganta haner, gydag ugam ar brawf, Rhifa C. y Blaenoiraid lleyg chwe chant a phump, j ac y mae trigain a dau o weinidogion hefyd y^cyflawni Gwait-h Blaenoriaid. Rhifa yj ■Rhestrau chwe chant a thrigain ac wyth ac felly ymddengys fod dau Restr o dan ^1 un Blaenor yn rhywle. Byddwn ni °o amser yn credu y dylai fod genym fwy naenoriaid. Eithr nid awn at y mater fwnw yn bresenol, yn mhellach na nodi PH °hwe chant yn rhif pell o fod yn Qibwys o frodyr y mae ganddynt waith awr'ac arnynt gyfrifoldeb pur ddifrifol Vn y £ ^estr, yn y Cyfarfod Blaenoriaid, ac D, y Cyfarfod Chwarter—yn enwedig yn y estr. "Brodyr" a ddywedasom ac y v genym ofn mai dyna sydd yn iawn. ydym ni fel Cymruyn hynod o annyben Grp chwiorydd yn Flaenoriaid. ?yny oble§yd credwn i ni adnabod iaid T°rydd a wnaethent well blaenor- ced/ lawer iawn na'r brodyr disymud Riff1 y SWydd yn y lleoedd hyny. o'r hi y Cyfiavvn Aelodau. fel y nodwyd Saith yd?w pymtheg mil, un cant, a deg aq un (15,171), gydag un fil wyth gant, a thri deg ac wyth (1838) ar brawf. Uwelir felly fod dwy fil ar bymtheg yn cael eu hystyried i fod o dan ofal union- gyrchiol y chwechant blaenor. Y mae dwy ffordd o dderbyn aelodau i gyfrifon cylchdaith: fel "Aelodau Newyddion ac aelodau wedi symud iddi gyda chymer- adwyaeth o gylchdaith arall. Yr oedd rhif y rhai blaenaf llynedd yn fil a saith deg; a'r rhai eralll yn saith cant namyn wyth, Y mae y moddau y cyll cylchdaith ei haelodau yn bedwar trwy iddynt symud allan o honi ac yr oedd y symudiadau hyn llynedd yn fil namyn un. Gwelir felly fod tri chant o golled yn y fan yna. Ffordd arall o gael colled yw fod aelodau yn ymfudo. Collwyd o'r Dalaeth yn y ffordd hon y llynedd bed war ugain. Yr ydys yn colli aelodau hefyd, wrth gwrs, trwy farwolaethau; ac yr oedd y nifer llynedd yn dri chant namyn pump. A'r modd olaf yr ydym yn cael colledion yw fod rhai yn peidio a bod yn Aelodau am wahanol achosion ac yr oedd nifer y rhai hyn llynedd dros dri chant. Y mae y colledion a geir trwy y modd cyntaf a'r olaf a nodwyd bob amser yn destyn gofid ac ya yr adeg y mae y ffeithiau mewn ffugyrau amlwg ger bron yn cymell ym- holiad ac ystyriaeth, ond a ydynt yn cymell gufal digonol i'w gochel sydd fater arall, ac yn un hynod o ddifrifol i feddwl am dano. Y mae rhif Rhestrau y Bobl Ieuainc yn y Dalaeth yn gant a phum deg ac wyth. Syn genym weled fod yn y Dalaeth dair cylchdaith heb gyfrif o gwbl o'r Rhestrau pwysig hyn. Ond yn y cylchdeithiau eraill y mae y nifer at eu gilydd yn bur I galonogo]; ac y mae yr holl aelodau ynddynt, o'u cyfrif gyda'u gilydd, yn tynu yn agos at bum mil (4979). Gwelir felly, wedi cyfrif y rhai hyn gyda'r Cyflawn Aelodau a'r Rhai ar Brawf ein bod yn y Dalaeth hon yn uniongyrchiol gyfrifol i Ben yr Eglwys am yn agos i ddwy filar hugain o'r boblogaeth, heb son am y rhat sydd- yn yr ysgol Sul ac yn y Bands of Hope, a'r gwrandawyr, sydd heb fod yn y Rhestrau a enwyd. Y mae y syniad yn cymell difrifwch ac egni, gyda dibyniad ar I arweiniad a rhymorth yr Ysbryd Glan i fod yn ffyddlon i'r ymddiriedaeth- Y mae yn y cyfrifon a roddasom, heb fyned i fanylion y cylchdeithiau, lawer o bethau I'n darllenwyr Wesleyaidd i feddwl yn eu cylch.

— « GWIRIONEDD A GONESTRWYDD.…

.. Y GYM KNFA.

. ! ^ J&t Y GYMANFA WESLEYAIDD…

Family Notices