Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Y TAFARNWR A'R MEDDWYN.
Y TAFARNWR A'R MEDDWYN. Y DYDD o'r blaen darllenasom adrodd- iad o gyfarfod blynyddol Cymdeithas Gwerthwyr Diodydd Meddwol, a gyn- aliwyd yn Llandudno. Ac yn araeth y llywydd, ar ei ymadawiad o'r gadair, nyni a gawsom yr ymadrodd hyn A drunken man was a curse and a nuisance to everybody, and no one was more interested than the publican in getting rid of him." Os yw yr adroddiad yn gywir-ac y mae yn debyg ei fod-dyna ddadganiad tafarnwr am y meddwyn: ei fod yn felldith ac yn gasbeth i bawb, ac nad oes neb yn fwy ei fudd o gael gwared o hono na'r tafarnwr! Yn mhell- ach yn mlaen ceir y dywedwyd, yn yr un cyfarfod, gan gyfreithiwr o Gaernar- fon, na byddai cymeryd ymaith drwy- dded unrhyw dafarnwr heb achos digonol amgen nag yspeiliad o'r nod- Wedd waethaf, Yn awr, atolwg, pwy sydd yn gwneyd y meddwyn Rhaid, ateb mai y tafarnwr, y gwr sydd yn gwerthu y ddiod feddwol. Nid oes bosibl gwadu hyny. Ac onid yw yn achos digonol i gymeryd oddiarno y gallu sydd ganddo i wneyd dyn yn ^lldith a chasbeth i bawb ? Nid peth bychan yw gwneyd dyn yn beth mor ofnadwy a bod yn felldith a nuisance.' •^id dy Ie, nid dyna nodwedd briodol dyn mewn cymdeithas. Ac y mae y tafarnwr wrth roddi y gostrel i'w gymy- dog ac yn ei feddwi yn gwneyd y camwri gwaethaf a'r dyn hwnw ei hun, a chyda hyny yn gwneyd y camwri mwyaf a chymdeithas wrth ei ollwng-wrth ollwng miloedd oddynion a merched i fod Yll felldith i bawb. Rhaid fod gweision cyflog y tafarnwyr yn siarad heb "logjc" gystal ag heb gydwybod. Ond ^ruan o'r dyn meddw Y mae y gwr a 1 gwnaeth yn feddwyn yn addef nad Oes gan neb fuddiant mwy nag ef o gael Scared ohono—heb roddi compensa- tlon" iddo, yn ddiau. Wedi i'r tafarnwr ^neyd y dyn sobr y feddwyn, ei nod yw "getting rid of him"—i'r, Workhouse," i'r asylum, neu i'r carchar ar crogbren, neu i fedd anamserol ni ^v.aeth i ba le, ond cael getting rid of Ond y mae ffordd fwy rhagorol. Nid §vvneyd y dyn y feddwyn, ac yna bod fwy "interested" na neb arall "in *>etting rid of him," ond ei gadw rhag ^ed yn feddwyn. Ac y mae ffordd ttffaeledig i hyny. Nid rhoddi diod ^odwol iddo, a chymaint o honi fel ag i y Fasnach yn llwyddianus—cadw >a.rn ar gyfer llai na deucant o drigolion cuyfrif pawb, mewn pentref. Na, nid y 0fdd hono. Yn yr un papur ag y glvelsorn hanes cyfarfod y tafarnwyr I ^e^°m mewn colofnau cyfochrog ad- j, Quiad o gyfarfod blynyddolCymdeithas tfirwestol Sir Ddinbych a'r Cylch, a MHaliwyoi yn Llanelwy 0 dan lywy- laeth Mr. J. Herbert Roberts, A.S. rncan y Gymdeithas hon yw cadw «(<n yn sobr, a chynorthwyo y tafarnwr n getting rid o'r dyn meddw trwy eyd dirwestwr o hono. Aï chvnllun P^rswadio y Senedd a'r Ustustiaid i "Hid yr achos o'r "curse and nuisance. fUd iawer gwaith y dywedwyd mewn ton augoliaethus nas gellir gwneyd d n y m°kr trwy Weithred Seneddol. Ond cul ae Weithred a ddaeth i rym ddydd n eleni yr un funud a phe byddai am n^er Hed dda yn sobr, beth y ag> am dair blynedd. Modd bynag, ae genym ni gryn gred mewn Act Seneddol gyfiawn a da. Yr ydym yn credu mewn cadw yr ellyn o gyraedd y plentyn, yr ydym yn credu mewn cym- eryd y llawddrull llwythog o law y bachgen sydd yn chwareu ag ef. Gwna y Ddeddf newydd beth yn y ffordd hon ac yr ydym yn hyderus fod "mwy i ganlyn" -yn y man. Ond mal y dywedodd Mr. Herbert Roberts yn Llanelwy. Tra yr ydym yn Ilawen o weled arwyddion o gynydd yn y diwygiad parth trwyddedu, rhaid cofio na wna deddfwriaeth mewn unrhyw gylch o fywyd na rhan o'r gwaith angenrheidiol tuag at welihad y bobl. Cynyrch a mynegiant o'r farn gyhoeddus fydd yn ffynu mewn gwlad ar gwestiwn o dan yatyriaeth deddfwriaeth, ac y mae perygl bob amser i basio deddf newydd beri lIawenydda difaterwch yn mhlith y rhai aymladdasant yn ddewr am flynydda u am i'w syniadau gael eu cortIori mewn Deddf Seneddol. Na feddylied neb fod pasio yr Act newydd yn rhoddi hawl i lacio am foment yn yr ymdrech yn mhlaid achos Dirwest. Y pwnc mawr ydyw creu opiniwn cy- hoeddus iach a chryf ar y cwestiwn o yfed diod alcohol. Rhan o'r gwaith hwnw yw defnyddio pob mantais gyfreithlon i symud yr hudoliaethau a'r temtas'ynau i greu a phorthi blys a fydd yn rhwystr i ffurfio barn gywir, neu o leiaf i roddi grym iddi, ar y mater. Y mae gan y Cyfarfod Dirwest, y Sul Dirwest, y Band of Hope a'ruHol- wyddorydd Dirwestol" fyth eu lie a'u gwaith. Y mae eisiau adgofio y bobl, o'r hyn sydd wedi ei brofi, nad oes dim maeth mewn alcohol, fod alcohol yn wenwyn y y mae pob mesur o hono yn peri mesur o niwaid i'r cyfansoddiad. Y mae eisiau dangos mai yr unig beth posibl a ellir ei gyfrif dros gymeryd diod feddwol ydyw hoffder o honi. Ac yna daw y cwestiwn difrifol—cwestiwn a raid apelio at reswm a chydwybod dyn—a ydyw yn iawn boddhau blys pan y mae y ddiod a wna hyny yn gwneyd y fath alanasdra o'n cylch ? A ydyw yn iawn i ni ymarfer a'r hyn sydd mor beryglus i ni ein hunain ? A all mas- nach sydd yn achos o'r fath drueni ag a gynytchir gan ddiod alcohol fod yn fasnach barchus-na, a all hi fod mewn gwirionedd yn fasnach gyfreithlon ? A yw yn bosibl i fasnach sydd yn gwneyd meddwyn i fod yn "curse ac nuisance" i bawb-a ydyw yn bosibl iddi fod yn gyfreithlon ? Er mwyn getting rid "» or meddwyn rhaid getting rid o'r fasnaeh-o'r tafarnwr.
BUDDUGOLIAETH !
BUDDUGOLIAETH PA air gwell ? Bedair blynedd ar ddeg yn ol gwnaeth un o Gyngorwyr Sirol Llundain gais i wrthod rhoddi trwydded i adeilad fawr a elwid Royal Aquarium." Nid oedd y boneddwr hwnw yn cyfrif fod yr hyn a ddygid yn mlaen yn yr Aquarium mor lan ac y dylasai fod, ac o ganlyniad ei fod yn niweidiol i foes a rhinwedd, yn arbenig o beryglus yn nghanol peryglon mawrion y Brifddinas. Ond methodd y Cyngorwr yn ei gais. Aeth pedair blynedd ar ddeg heibio. Nos Lun, yr 2il ddydd o'r mis hwn-- cadwer y dydd mewn cof! — cynaliwyd cyfarfod mawr yn y Royal Aquarium hwnw—cyfarfod trwy yr hwn yr oedd yr Eglwys Wesleyaidd yn cymeryd meddiant gwreiddiol o hono. Nid yw y Royal Aquarium ei hun yn werth ei thynu i lawr, Y mae hyny yn an elfen bwysig iawn o achosion yn y byd drwg presenol, y mae yn drugaredd o'r mwyaf fod y Uinell o eiddo Tennyson (onide ?) yn wirionedd "The old order changeth, yielding place to new." Yn ol pob peth deallwn yr oedd newid yr hen order, ei ddiddymu, yn fen- dith, o'r mwyaf. Wel, yr oedd y cyfarfod nos Lun yn newid, yn difodi yr hen drefn. Hwn, cyfarfod o dan reolaeth y Wesleyaid, A£: J cyfarfod na bu ei fath erio "d yn yr adeilad enfawr hono o'r blaen, i farfod yn gyn- nrychiolaeth y Cyfundeb oil, a'i gangenau, gyda chynnrychiolaeth a chydymdeimlad yr Eglwysi Rhyddion—hwn yw y cyfarfod j olaf i gael ei gynal yn yr hen Royal Aquar- ium. Newidiwyd yr order cyn ei dynu i lawr. Ond y mae yr hen drefn yn ildio i'r newydd Yr oedd y llinell a ddifynydd- asom i'I dim mewn priodoldeb i fod yn arwyddair ar ben yr hyspysiadau am y cyfarfod. Dywedasom nad yw y Royal Aquarium— yr adeilad — yn werth dim i bwrpas y Cyfundeb. Ond y mae y tir ar yr hwn y saif yn werthfawr iawn. Ar y tir manteisiol hwn, ar y safle canolog hwn, codir i fyny adeilad pwrpasol i wasan- aethu ein Heglwys yn gyffredinol. Ac yn y fan yma, goddefer i ni nodi fod yn llawenydd i ni gofio ein bod ninau fel Wesleyaid Cymreig yn cyflwyno rhodd o Drysorfa Ein Canmlwyddiant at y newid- iad Bendigedig, at y Fuddugoliaeth ardderchog a ddathlwyd nos Lun. Dywed. odd un yn y Swyddfa hon pan yr oeddynt ar ddechreu ysgrifenu y sylwadau hyn. Nyni a'i piai yn awr." Nis gallesid yn gywir a phriodol uni buasai i ni wneyd rhywbeth tuag at ddwyn yn draul. Yr oedd y Cyfarfod yn ardderchog yn deilwng o'r fuddugoliaeth. Yr oedd y gynulleidfa yn aruthrol fawr. Dywed yr adroddwr i'r "Daily News" iddo gael hamdden, tra yr oedd y gynulleidfa yn croesawu Mr. Perks ar ei ddyfodiad i mewn, i sylwi ar ean- grwydd mawr yn lie. Yr oedd y llawr (fb ai efe) wedi ei lenwi modd, yr ydym yn credu, na wnaed erioed o'r blaen, ac am hyny fod ei fainioli wedi dianc heb gael sylw. Pa nifer o bersonau oedd yn bresenol nid hawdd a gyddai dyfalu, ond yn sicr yr oedd y cyfarfod yn un o gyfarfodydd mawr Llundain." Ac nid yn lluosogtwydd y gynulleidfa, a neillduolrwydd yr amgylch. iad, yr oedd holl fawredd y Cyfarfod. Yr oedd y siarad ynddo yn uwchraddol. Yr oedd yr achlysur yn ysprydiaethu y siarad- wyr, a'r rhai hyny yn wyr galluog eisoes. Cadeirydd y Cyfarfod, yn briodol iawn, oedd Mr. R. W. Perks, A.S. Ac yr oedd yn naturiol fod tine buddugoliaeth yn ei araeth, ac araeth pawb a siaradasant ar ei ol. Nodai Mr. Perks mai priodol oedd fod ein Heglwys, sydd yn cynnrychioli y cyfundeb Protestanaidd Iluosocaf yn y gwledydd lie y Siaredir Seisonaeg yn pen- derfynu gosod i lawr ar y safle ardderchog hono Eglwysdy a Neuadd Ganolog i fyddai yn ganolfan gwaith crefyddol, addys- gol, a dyngarol y Trefnyddion Wesleyaidd, mal y gybeithiai am oesoedd i ddyfod. Efe a nododd nad oedd yn mholisi ein Heglwys i fod yn fud, mwy na'i sefydlydd, parth y ewestiynau eymdeithasol mawrion a berth- ynant i fywyd y bobl. Yr oedd Wesley yn bleidiwr selog i rai o'r prif ddiwygiadau cymdeithasol yn ei oes. Y mae ein Heglwys, meddai, yn wirfoddol, yn Brotest- anaidd, yn myned yn mlaen, yn efengyl- aidd, ac yn sefyll o blaid hawl dyn i farnu drosto ei hun, ac o blaid yr athrawiaeth fawr mai y gwir ddiwygiad sydd i'w gyraedd yw yr un yn mywyd y dyn ei hun. Siaradodd Llywydd y Gynadledd y deilwng o hono ei hun. Cyfeiriasom yn nechreu yr ysgrif hon at gais un o Gyngorwyr Sirol Llundain yn gwneyd cais bedair blynedd ar ddeg yn ol i atal y clrwydded i'r Aquarium. Ac y mae yn rhaid i ni nodi yn y fan hon mai y gwr hwnw yn awr ydyw Cadeirydd Cyngor Sirol Llundain ac fod Cadeirydd y Cyngor hwnw, Syr John McDougall, wedi ei wahodd i fod yn bresenol yn y cyfarfod, ac i gymeryd rhan ynddo. Yr oedd efe yn gallu llawenychu yn y fuddugoliaeth. Bu ei gais i ddifuddio yr Aquarium bedair blynedd ar ddeg yn ol, er iddo fethu, yn achlysur gwellad i fesur mewn lleoedd o'r fath. Ond yn newidiad yr hen drefn, i roddi lie i un newydd yn y modd y gwneir yn yr achos hwn y mae y gwir wellhad. Y mae YL dda genyf," ebai Syr John, fod y ty hwn i gael ei dynu i lawr, ac fod rhywbeth gwell ei i gael godi yn ei Ie."
, CYFLWR YSPRYDOL EIN HEGLWYSI.
CYFLWR YSPRYDOL EIN HEGLWYSI. CANIATAKR i ni alw sylw arbenig ein darllen- wyr at yr adroddiad rhagorol o gyfarfod Cyng- I or Wesleyaidd Mon ac Arfon a geir mewn rhan arall o'r rhifyn hwn. Ceir ynddo syl- wedd papur o eiddo y Parch. W. Caenog Jones, a byddai yn dda genym pe y darllenid ef bob gair gan bob un o'n derbynwyr, a hyny gyda manylwch a gofal. Y mae papur o'r fath yn cyfiawnhau bodolaeth y Cyngor ddengwaith ar hugain drosodd. Ear nad ydym ni yn byw yn nghylch y Cyngor, yr ydym yn dymuno ymuno ag ef yn y diolch o galon i Mr. Jones am iddo gyfansoddi y papur a'i ddarllen ac yr ydym yn diolch, hefyd yn wresog iawn i W.R.R. ami grynodeb mor gyfiawn o hono. Peth hawdd yw cael cydsyniad cyffredinol fod testyn y papur yn bwysig-yn bwysig bob am- ser, ac yn neillduol felly yn y dyddiau presen- ol. Cof genym i un ofyn, bymtheg mlynedd yn ol, I ba beth y mae yr Eglwysi dda ? Yr atebiad yw, I gyflawni eu rhan tuag at wneydi dynicn yn gymwys i gael rhan a etifeddiaeth y Saint yn y goleuni. Magu pobl i'r nefoedd I ydyw gwaith, ydyw amcan mawr cyntaf yr Eg- lwysi. Gwyddom fod pethau eraill yn cael eu rhoddi yn ychwaneg pan y ceisir teyrnas Dduw yn gyntaf. Gwyddom am wawdwen y rhai a edliwiant i ni ein harall-fydolrwydd. Ond ni'n dawr. Yr ydym yn credu yn Iesu Grist ac yn y Testament Newydd, ac yn teimlo yn sicr mai 1 mewn byd arall, y byd y mae yn rhaid marw i fyned iddo, y mae amcan uwchaf a therfynol yr Eglwysi i gael ei gyraedd. Cyn y gall yr Eglwysi fagu saint y mae yn trhaid i'w cyflwr j ysprydol fod yn iach a phur. A chwestiwn priodol bob amser, yn enwedig i'r arweinwyr, ydyw, Beth yw cyflwr ysprydol yr Eglwysi ? Y mae papur Mr. Caenog Jones yn gwasgu y 1 cwestiwn adref gyda phob difrifoldeb; ac yn ( y modd mwyaf gonest yn chwilio am atebiad iddo. Nid atebiad brysiog, arwynebol, a fyn efe. Efe a rydd gredyd lie ei teilyngir. Eithr nid yw y pethau ffafriol i guddio pethau ni- weidicl i wir fywyd crefyddcl nac i wneyd esgusawd drostynt. Nia oedd y rhagpriaethau a berthynent i eglwysi Asia gynt yn esguscdi dal arhrawiaeth y Nicolaiaid, a gadael i Jezebel ddysgu a thwyllo. Y mae Mr. Jones yn dvsgu yn ol yr egwyddor hon yn cydnabod y rhag- oriaethau yn rhwydd a bodclhaol. Eithr nid yw efe yn ddall i'r peryglon, nac heb weled y pethau sydd yn erbyn' yr Eglwysi. Mal y dywed efe ei hun, 'Ein dyledswydd yw edTych ar ffeithiau yn eu gv^yneb yn deg a gonest.' Cyfiawna Mr. Jones y ddyledswydd hon yn rhagorol, ac yn yr yspryd priodol. Ncdir ganddo yr arwyddion anffafriol, a'r diffygion. Efe a dreiddia at achosion y dirywiadau, er mwyn cael cyfleusdra i ymholi beth a ellir ei wneyd i godi ton ysprydol yr Eglwysi. Nid ydym am ail adrodd Mr. Jones yn y fan yma. Ond nis gallwn amgen na chymell ein. darllen- wyr i dalu sylw arbenig i gynwysiad. ei bapur. Talasai yn dda am i'r blaenoriaid ei ddarllen drosodd, J a throsodd drachefn. Y mae bywyd yr Eglwys yn ei chyfangorff yr hyn ei gwneir ef gan fywyd yr aelodau unigol. Ac y mae gan y blaenor i wylio pa fodd y mae eneidiau pobl ei ofal yn cynyddu-a ydynt yn cynyddu, neu ai pallu y maent, ac ymadael a'u cariad cyntaf. Pa nife,r o'n blaenoriaid sydd yn gofyn i'r penau teuluioedd pa mor ami y cadwant ddyledsw}',dd yn y teulu—a fyddant yn cadw un o gwbl ? Pa nifer o'n blaenoriaid: sydd yn gofyn i'r aelod paham na ddaethai at Fwrdd yr Arglwydd y nos Sul o'r blaen, neu paham nad oedd yn yr odfa boreu Sul, neu pa effaith a gafodd y gair a bregethwyd iddo y Sul o r blaen ar ei feddwi ? Ac y mae y syiw a wna Mr. Jones o'r plant a'r bobl ieuainc a dyfant i fynv yn ein heglwysi yn apelio yn rymu? iawn at lawer o'n blaenoriaid. Nid ydym yn condemnio nac yn beio. Ein hamcan yw cym- ell papur Mr. Jones mal y gwneler cymaint o hono ag a fyddo yn bosibl i wella cyflwr ys- prydol ein heglwysi. Ac ni fynem fyned heibio i'r hyn a ddywedodd Mr. Edward Ro- berts, Llandwrog, yn enwedig yr hanes am oyfari'od gweddio diolchgarwch. am y cynauaf yno yn cael ei gynal gan chwiorydd ieuainc— y cynauaf diweddaraf oil. Gadew-ch i ni ddy- weyd peth arall: Gwnelai yr adtroddiad hwn ddefnydd i gynal seiat gyffredinol dra rhagorol.