Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ESBONIAD Y MAES LLAFUR, 1902-1904. YR EFENGYL YN OL MARC GAN Y PARCH. D. O. JONES, i228|tud. Pris 2s. mewn Ilian hardd is. 6c. i Ysgo on Sabbothol pan yr erehir dwsin ac uchod. "Mae athrylith yr Esboniwr yn amlwg ar bob tudalen "—Parch. Hugh Jones, D D yn yr "Eur- grawn. "Ceir ynddo, mewn arddull .hrHol Gymreig, ffrwytb. aeddfetaf ymchwiliadau yr awdwyr goreu."— Parch. G. Ellis, M.A., yn y "Faner Mae yn naturiol, vn eglur, yn drefnus, yn llawn goleuni: yn ddyogel iawn ei farn ac wedi ei vsgrifenu mewn Cymraeg pur. prydferth a graenus "—Parch. i R. Lloyd Jones yn y GWYLIEDYDD. Mae manyldeb a chywirdeb ei sylwadauljar'eiriau personau, dygwyddiadau yn cyfateb i gryfder achy- foeth ei drafodaeth ar brif wirioneddau yr efengyl." Parch. W. M Jones yn y "Goleuad." "Y mae nid yn unig yn Esboniad, ond y mae yn- ddo gymwysiadau bvrion, sydyn, byw, cyraeddgar, nid yn ffurfiol, ond yn naturiol a grymus. Na fydded ty Wesleyad hebddo; ac i'r llanc ar lances sydd mewn lie neu lety, b ddai y gyfrol hon yn drysor."—Parch. W. H. Evans yny GWYLIKDYDD Yn Awpyn Barod! PRIS 2s. 6c. k DEDDF DYRCHAFID A Cyfrol o Bregethau gan y PARCH. T. JONES-HUMPHREYS. Dywed Dr. Llugwy Owen, M.A. Gellir sicrhau fod y Gyfrol hon yn graddio yn ucJiel, fry yn mhell o dir yr ail-adroddwyr a bod yr Awdwr galluog yn gwir deilyngu ei wobr mewn derbyniad cynes, cyffredinol, a diolch- ,\ar i'r pregethau gwerthfawr hyn." Yr elw arferol i Lyfrwerthwyr a oDsbarth- wyr. Anfoner archebion i'r AWDWR, GWYNFRYN, CONWY. SYLWER.—Pris un rhifyn yn rhydd drwy y Post bob wythnos am chwarter ydyw Is. 8c.; am haner blwyddyn 3s. 4c.; ac am flwyddyn 6s. 8c. Ni anfonir un rhifyn felly heb daliad yn mlaen llaw. Anfonir ped r yn ddidrait; gyda'r Post am geiniog yr un. Anfoner yr urchebion. a phob peth yn nghylch y busnes, wedi ei gyfeirio: CYHOEDDWYR Y GWYLIEDYDD," RHYL. Gwneler y P.O.O., Cheques, &c., yn daladwy i Mri. Amos Bros., Rhyl. Bydded nysbys i bawb nad ydym yn gyfrifol am syniadau ein Gohebwyr.] Byddwn yn dra diolchgar am adioddiadau byrion, cryno, yn ddioed wedi y dygwyddo Y, hyn yr adroddir am dano, wedi eu hys- grifenu yn eglur ar un tu yn unig i sheets bychain. Nis gallwn gyhoeddi unrhyw ohebiaeth oni bydd y gohebydd yn ymddiried i ni ei enw priodol a'i gyfeiriad, na dychwelyd yn ol unrhyw ohebiaeth na byddwn yn ei chyhoeddi. Gellir anfon gohebiaethau, o dan ddwy wns, -thvr gyda hwynt, gyda stamp dimai. Cyfeiried ein gohebwyr fel hyn: GOL. y Gwyl- iedydd, RHYL; ac na rodded neb na stamp uac order, na dim perthynol i', busnes, yn y IJythyrau at y GOL.-Anfoner y pethau byn AT EIN GOHEBWYR. 'Y Ddau Gyfarfod.'—Nid oedd bosibl ei gael i mewn i'r rhifyn hwn. Diolch am dano. Ni bydd efe fymryn gwaeth wedi wythnos o gadw. Amicus.—Rhy ddiweddar i'r rhifyn hwn. Gwynfab.—Ni chawsom amser i ddarllen eich llythyr. E.O.J.—Dylasech anfon eich penillion i Cad- Yan. Daeth amrai acl-roddiadau i law ddydd Llun.
XODIADAU GOLYGYDDOL
XODIADAU GOLYGYDDOL Y swm a dderbyniwyd yr wythnos ddiwedd'af i Drysorfa yr Ugeinfed Ganrif oedd 1,510p. Is. 9c. Cyfanswm a dderbyniwyd yn 944,039p. 17s. 3c. Swm y casgliad a dderbyniwyd yn nghyfarfod mawr yr Aquarium, nos Lun cyn y diweddaf, oedd 161p. 7s. 9c. heblaw y 18p. 18s. 10c. a dderbyniwyd am y rhagleni. Bwriada y Parch. Fred. W. Macdonald hwyl- io i Awstralia ddechreu mis Ebrill. Y mae Mr. Macdonald yn myned ynoi fel cynnrychiol- ydd y Feibl-Gymdeithas. Hyderwn y gwel Goruchwyliwr y Llyfrfa ei ffordd yn glir i ddwyn allan ail argraffiad1 o 'Joshua,' gan y Parch. John Humphreys. Y mae dysgwyliad am hyriy gan gannoedd i fyny ac i lawr y ddwy Dalaeth. Thomas Cooper: y Crydd, y Pregethwr, y Siartydd, yr Amheuwr, a'r Dadleuydd ar Brawf- ion Cristionogol' oedd testyn anerchiad rhag- orol gan y Parch. Thomas Hughes (B) o flaen Cymdeithas Lenyddol Mynydd Seion, nos Sad- vrn diweddaf. Dymunwn alw sylw ein darllenwyr fod Gol- ygydd y ''Methodist Weekly' yn hyspysu ei fod yn bwriadu cael cystadleuaeth erthygyddol gwobrwyedig, er mantais Wesley aid ie,uainc. Testyn Rhesymau dros fod yn perthyn i'r EglwysVethoclistaidd Wesleyaidd.' Ceir man- ylion y gystadleuaeth yn rhifyn Chwefror 12. Dyma siawns rhagorol i'n darllenwyr. Y mae'n adnabyddus bellacn o fwriad yr hy- barch Ddr. J. H. Rigg i ym-ddiswyddo fel Principal of the Westminster Training College." Mynegir mai ei olynydd tebygol fydcl y Parch. F. W. Macdonald. Er y flwyddyn 1891 y mae Air. Macdonald wedi dal y swydcl o ysgrifen- ydd cyffredinol y Genadaeth Diramior, ac yn flaenorol i hyny bu am ddeng mlynedd1 yn athraw cluwinydclol Coleg Handsworth. Rhifyn da iawn ydyw yr un presenol o gylch- grawn chwarterol cylchdeithiau Porthmadog a Blaenau Ffestiniog. Y mae yn cynwys ysgrif L o eidclo ei olygydd, y Parch. J. R. Ellisi, sydd yn haeddu darlleniad helaeth, a sylw arbenig ar Ein Haddoliadau Cyhoeddus.' (iorch.wyl gymeradwy a gyflawna yr is-olygydd, y Parch. Rhys Jones, drwy gyflenwi y darllenwyr a • Nodiadau Cyfundebol.' Ysgrif far fuddiol ar Ddirwest' gan R. Williams. I- inae'r adrodd- iada.u am gyfarfodydd y cylchdeithiau yn sicr o fod yn ddyddorol. Pwy sydd heb wybod am Aberdaron ? Ar- I ferid a meddwl ei fod yn mhen draw y byd Cymreig. Ond y mae'r Wesleyaid. wedi d'od o hyd i le pellach, ac wedi adeiladu capel yno, sef ITwchymynydd, a hyny drwy offerynoliaeth y Parch. R. Garrett Roberts. Yn ddiweddar y mae arolygwir gofalus a llwyddianus cylch- daith Pv/llheli, y Parch. Lewis Owen, wedi derbyn can punt yn rhodd odd.iwrth Mrs. Pickering, Pwllheli, nith i'r diwedd'ar Barch. Griflith. Jones. Bendith ar ei phen am rodd mor haelionus., Y dydd o'r blaen daeth: i'n dwylaw gopi o gylchgrawn chwarterol cylchdaith Coedpoeth mewn amlen newydd. Ar y wyneb-ddalen ceir darlun o Hugh Price Hughes, ac oddifewn ysgrif fer arno gan J.P.R. Addurmr y rhifyn gyda darlun a braslun o. Mr. Robert Williams, New Broughton, un o ragprolion y gylchdaith fel bfaenor a phregethwr. Y mae'r ysgrifau ar Lenyddiaeth,' gan J.P.R., a'r eiddo Ch.J. ar Canys y mae ein lampaui yn diffoddi' yn dda iawn. Rhifyn cynwysfawr. Dygwyddiad pwysicaf yr wythnos ddiweddaf os nad er's blynyddoedd lawer yn y hyd M-etho- distaidd Wesleyaidd oedd cynalia,d, y cyfarfod mawreddog yn y Royal Aquarium, yn yr hwn y cyfarfyddocld tua saith mil o bobl. Amser dechreu v cyfarfod oedd saith o'r gloch, ond yr oedd y gynulleidfa yn d"od yn nghyd. y tu allan i'r neuadd tua phedwar o'r gloch. Yx oedd y cymeriad teuluol yn bur armlvvg1 yn y cyfarfod. Am dros awr o amser cyn i Mr. Perks fyned1 ar' y llwyfan gwelid gweinidogion a lIeygwyr o bob parth o T.und'ain ac o'r deyrn- as yn cyfnewid cyfarchiadau caredig a'u gil- ydd. Yr oedd yn bresenol gannoedd o'r prif weinidogion a lleygwyr y Cyfundeb. Canwyd saith o'r emynau mwyaf poblogaidd gyda brwd- frydedd annghy.ffredin yn ystod yr hwyr. Yr oedd enw pedwar ar ddeg o siaradwyr air y rhaglen, ond yr oedd y Gwir Anrhydeddusi Syr Henry Fowler, a Mr. Howell Davies, Bristol, yn absenol, tra y darfu i Mr. W. A. McArthur, yr hwn oedd wedi cael ei osod tua'r diwedd, ymesgusodi drwy ddyweyd dan chwerthin Y byddai idcle ef gadw ei anerchiad: hyd yr adegr yr agorid yr adeilad newydd. Yr oedd anerch- iad y Cadeirydd, Mr. Perks, yr araeth oreu » draddododd ericed. Y mae'n werth ei darllen eilwaith drosodd. Gwnaeth Llywycld, y Gyn- adledd sylwadau coffaol o'r diweddar fluglz Price Hughes. Yn ctytyn siaradodd Syr John McDougal, Cadeirydd Cyngor Sirol Llundain. Yn mysg yr anerchiadau diweddaf a wnaed. oedd yr eiddo Dr. Guiness Rogers, y Parch. Charles H. Kelly, y Parch. F. W. Macdonald, ac hefyd y Parch. Dinsdale T. Young. Yr oedd yn agos i ddeg o'r gloch pan yr oedd ystrycloedd Westminster yn llawn o'r tyrfaoedd. Er nad ydym yn sectol na chul, eto byddwn. bob amser yn falch o glywed neu. weled llwydd- iant yr Eglwys Wesleyaidd. Y'mddangosoddi ysgrif Y11 y 'Daily News' gan Mr. Howard/ Evans yn gosod allan ystad'egau yr Eglwysi Rhyddion y wlad yn darparu eisteddleoedd at gyfer 8,076,519 o bersonau, ac Eglwys I.oegr a,1 gyfer 7,051,559. Allan o'r ffugwr yna dar- para yr Eglwys Wesleyaidd leoedd i 2,160,559, mwy nag un rhan o'bedair o'r oil. Nifer y cyrnunwyr yn yr Eglwysi Rhyddion ydyV 1,982,801. (ian yr Eglwys Wesleyaidd: y mae mwyaf o gymunwyr, y nifer yn 573,876; a. daw yr Annibynwyr yn ail gyda 414,218. Yn, nglyn a'r Ysgol Sabbothol hefyd fe ddeil yr Eglwysi Rhyddion eu tir. Nifer yr athrawon; ydyw 388,500, a'r ysgolorion, 3,321,539, o'u cydinaru a 203,313 o athrawon a 2,854,656 01 ysgolorion perthynol i'r Eglwys Loegr. Yr Eglwys Wesleyaidd sydd ar y blaen eto yn mhlith yr Eglwysi Rhyddion, gan y rhifa ei hathrawon un ran o dair o'r cyrfredinol, a'i hysgolorion gryn dipyn mwy nag un rhan, () bedair o'r cyfanrif. Pe yr umci yr holl gangen- au Methodistaidd yn y deyrnas, byddai cyrnun- wyr yr ICglwys Fethodistaidd yn ffurfio. hane.r* cyfanrif yr Eghyysi. Rhyddion, a'r plant yn yr Ysgolion Sabbothol fwy na haner cyfanrif y plant yn YsgoljonSabbothcl Eglwysi Rhydd- ion y wlad. Llawenychwn yn fawr am v fath. Iwyddiant, and cad wed y nefoedd ni rhag credo, mai trwy lu a thrwy nerth y gorchfygtir y drwg, a dyged ni fel eglwys i ymofyn yn fwy am. ei Yspryd Ef. Y LLYFRBRYF WESLEYAIDD.
MR CHAMBERLAIN A FINAU. 9
MR CHAMBERLAIN A FINAU. 9 Felly yr ydych yn gadael Johannesburg ? Ydwyf, v fory. Cawsoch dder.byniad a chroesaw cynes a chalonog. Cafodd pawb a fynai gyfleusdra i'ch gweled a'ch clywed, a llawe.r y cyfleusdra i, siarad a chwi. Buoch mewn mwy nag un gardcj-gynulliacl, a chafodd amrai o'r gwyr a allant wisgo cwat hir, ddu, a het sidan, Dichel. hamdden i ymddyddan rhyw gymaint gyda chwi" dros gwpanaid o de. Bu rhyw nifer o wyr amlvcaf y dref yn cjniawa gyda chwi bob nos wrth fwrdd ArgJwydd Milner, a bu siarad ar yr achlysuron hyn hefyd rhyngddynt hwy a. chwithau, pawb yn eu g:wisgoedd hwyrol. Buoch mewn gwledd fawr hefyd ar nos Sadwrn- Yr oedd v tocynau i'r wledd yn bum punt yr un, ar y cyntaf; a chlywais y gwerthwyd am- rai am fwy nag ugain punt. Buoch i lawr mewn dau o'r mwn-gloddiau aur, a bvdd hyny yn ddigon i ddyn craff fel chwi i ddysgu llawef iawn, os nad pobpeth, am y gweithfeydd hyri, a'r peirianau dyrus, a'r moddicn diweddarai a ddefnycldir ynddynt i droi y mwn eurog yIlf aur pur. Nid oes well na pherffeithiach peif- ianau, hyd yn nod yn Birmingham. Buoch all y Farchnad Arian, a gwnaethoch araeth ddon- iol 3^0, gan beri i'r dynion difrifol sydd yn cyfarfod yno bob dydd i enill a cholli symaa o arian, chwerthin yn braf, yr luddeW y3 ogystal a'r Sais, a'i gefnder yr Almaeniad. Bll rhyw siarad dirgel hefyd rhyngoch ag aelodatf y Siamber y Mwngloddiau—yr oil o honyot wedi eu penodi gan wyr cyfoethog; un o'f Siamberi Masnach—ho-no sydd a'i Haw dehett yn llaw chwith Siamber y Mwngloddiau Y Cyngor Trefol, pob aelod o'T hwn a Orsodwyd ynoi gan Arglwydd Milner a Chyngrair De- heudir Affrica, yr hwn a ddywedoddi wrthycfo cyn y rhyfel un anwiredd am bob aelocl-sWm! difrifol o gelwyddau: y diweddar Mr. Rhodes oedd tad y gweision hyn. Nid ydych wedi enwi y cwbl. Beth am Gym- deithas Mwn-gloddwyr y Transvaal, Cymideith* as y c Prospectors and Claimholders,' a'r GYIn- deithas newydd hono, y 'Transvaal Politick Association'? Dywedais cyn, ymadael o Loegt< Men of every class, interest, and opinio11, were to be heard and consulted freely every- where.' Do, Mr. Chamberlain. Paham felly y gwr- thodasoch gyfarfod y ddirprwyaeth a benodwyd gan S,000 o bobl i osod eu cwyn a'ch blael11
NODIADAU GOLYGYDDOL.
NODIADAU GOLYGYDDOL. CLYWSOM a gwelsom fwy nag unwaith a dwywaith, yn ystod ein dydd, fod Wesleyaeth yn. darfod yn gyrlym. Yn ol y proffwydoliaeth- au dvlasai fod wedi tynu ei thraed i'r gwely a marw er's hir amser, er niwyn- cael' ei chla- ddu allan o'r golwg. Buasai hyny yn foddhacll mawr i rywrai. A i'ua.sai. y byd yn well heb. ddi sydd fater arall. Sylwodd y Parch. C. H. Kelly yn nghyfarfod mawr yr 'Aquarium,' nos Lun cyn y diweddaraf, at broffwydoliaeth o'r lath a ymddangosasai yn un o bapurau arwein- iol Llundain bum mlynedd yn ol. Yn anffodus y mae ein Cyfundeb ambell flwyddyn yn gor- fod adroddilleihadyn rhif yr aelodau eglwysig. Bu raid gwneyd hyny deirgwaith yn ystod yr ugain mlynedd diweddaraf- Ileihad yn 1886 a 779; yn 1887 o 86; ac yn 1896 o 2,362. Ac yn y blynyddoedd hyny, wrth gwrs, yr oedd- ym yn gwywo cyn gyflymed a chicaion Jonah. Eithr nid oedd y proffwydi yn ysprydoledig, heblaw gan eu drwg-ewyllysi eu hunain. Er y lleihad o 3,227 cydrhwng y tair blynedd: a nodwyd bu }r cynydd o 393,754 yn 1882, i 463,225 yn 1902. Ac heblaw hyny yr oedd y cyfarfod yn cymeryd meddiant o Aquarium Westminster yn amlygiad i'r byd, mal y syl- wodd Mr. Kelly, nad yw Wesleyaeth eto wedi dyfod i'r cyflwr y mae galwad am ei chladdu. Nid Eglwys yn marw yw un a allasai godi mil- iwn ginis, ebai. Mr. Kelly, ac onid yw hyny yn gywir ? oooooo GWNAETH iSIr. Kelly sylw pert arall, ac, mor briodol a chywir ag o bert, yr un noson. 'Nid ydym,' ebai efe, (yn dwyn politics i'n crefydd, ond yr ydym yn dwyn crefydd1 i bolitics.' Y mae eisiau hyny, a bydd eisiau hyny. Y7 mae cynydd enfawr cyfoeth, y cydgynulliad: y I pobloedd i'r trefi mawr, perthynas' cyfalaf a llafur, y difrawder yn nghylch crefydd yn mhlith y bobl yn gyfiredinol-yr holl gwestiyn- au hyn,' 'ebai Mr. Kelly, 'yn irhai y mae yn rhaid eu gwynebu.' Nid trwy eu dwyn i'n crefydd nid crefydd mo honynt. Ond y mae eisiau dynion crefyddol i'w trafod mewn ys- pryd crefyddol; ac y mae egwvddtorion cre- fyddol i gael eu cymwyso. a'u gweithio- allan yn y materion hyn. Y mae angen arbenig am I hyn yn y dyddiau presenol. Rhydd y gwahan- ol gyngorau a byrddau gwladol gyfleusderau neillduol o fanteisiol i ddynion da wneyd gwaith, a chario dylanwad er mantais i gym- deithas. Ond y mae dynion y byd, y rhai, mal y dywed y Salmydd, y mae eu rha.n yn y bywyd hwn, bob amser a'u llygaid yn agored, a'u lwynau wedi eu gwregysu, yn barod i ymdaith am sedd o awdurdod a dylanwad, a chynifer o bobl dda yn ddifeddwl yn cymeryd eu gwneyd yn ffyliaid ganddynt, ac yn rhoddi pleidlais iddynt. A ydyw pobl dda bob ams:er yn ystyr- ied fod yn llawn mor bwysig cadw ami un o gyngor, neu fwrdd, ag ydyw cael rhai amlwg: i mewn ? Gwell mewn llawer achos yw fod dyn go gyffredin ei alluoedd i mewn ar gyngor, os yn ddyn cydwybodol, pe ond yn unig i gadw un arall allan. Yr ydym yn gobeithio v dygir swm mawr o grefydd i bolitics yn yr wythnosau nesaf yma. oooooio Y MAE mewn rhan o Lundain a elwir Shoreditch eglwys o'r enw ot. Michael. Y mae yr eglwys hono o dan arglwvddiaeth fu- geiliol Esgob Llundain. Ond yr oedd y Ficer yn babyd-d: nis gellir dyweyd dim arall am dano. Yr oedd efe mor bell yn y cyfeiriad hwnw nes i'r Esgob fyned i drafferth gydag ef. Modd bynag, ymadawodd y Ficer yr wythnos ddiweddaraf, a dywedir ei fod ar y ffordd i fyned i'w le ei hun—i'r Eglwys Babaidd. Eithr nid aeth efe yno heb wneyd gwaith yn Eglwys St. Michael i'w gymeradwyo iddi. Efe a wnaeth ync- awyr a barotodd ran fawr o'r gynulleidfa i fyned i Eglwys Babyddol sydd ger Haw y Sul diweddaf, a chyda cryn fesur o ddichell aeth yr athrawon gyda nifer fawr o blant yr Ysgol yno. Nis gwyddom a oes ysgol ddyddiol yn perthyn i Eglwys St. Michael ai peidio, ac os oes nis gwyddom a oedd yr ath- rawon hyn yn athrawon ynddi ai peidio. Modd I bynag, y mae yr hanes yn awgrymu beth a ellir ei wneyd o dan y Ddeddf Addysg. oooooo BYDD yn dda genym bob amser dclarllen yr hyn a ddywedir gan Mr. James Bryce. Ceir sain Rhyddfrydiaeth iach yn ei areithiau bob amser. Felly nos Lun, tra yr anerchai ei ethol- wyr yn Aberdeen. Y mae ei. welediadi yn glir, a i ddadganiadau yn onest, bob amser yn haeddu sylw. Dywedai mai da y gwnelai y Llywodraeth brysuro allan o'r mess' yr aeth iddo yn Venezuela, a gadael i'r mater fyned i heddychlys Hague. Cyfeiriai Mr. Bryce y perygl y mae heddweh Ewrop ynddo o achos y Twrc y dyddiau hyn. Caiff Llywodraeth Bulgaria waith mawr i. gadw ei deiliaid: rhag croesi drosodd i Macedonia i helpu. eUI cycl- grefyddwyr yn ngwyneb y gormes a dderbyn- iant oddiar law y TWIc. Y mae Rwssia ac Awstria wedi tynu cynlluniau o1 ddiwygiadau, ond ni, fyn y gwr hwnw eu derby n ond o orfod. Yr ydym yn cydweled a Mr. Bryce pan y dy- wed, Pa beth bynag yw buddianau Prydain yn yr achos nad ydynt yn gynwysedig yn mharhad' camreolaeth y Twrc. —Bydd yn dda gan ein darllenwyr wybod y dysgwylir y Parch. Edward Humphreys a Mrs. Humphreys adref cyn diwedcl yr wythnos hon. y,r ydym yn gobeithio yn awyddus y bydd i'r newidiad adref eto fod er mantais. --Da iawn genym ddeall fod y Parch. J. C. Stuart, Arolygwr cylchdaith Seisnig Rhyl, hcfyd yn graddol wella. Bu orfod i Mr. Stuart Fdael ei waith a chartref. I —Agorir y Senedd ddydd Mawrth, yr 17eg cyfisol, gyda rhwysg. Y mae y Brenin. wedi gwella yn dda ar ol ei anwyd trwm diweddar, a gcbeithio na ddaw dim i'w luddias i gadw ei < gyhoeddiad. t