Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

I Y FAINC A'R BARIL.

\.. M NODION O'R GORNEL.

CYNADLEDD YSGOL SrL TALAETH…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNADLEDD YSGOL SrL TALAETH GOGLEDD CYMRU. Cynelir yr uchcd yn el penderfyniad y Cy- farfod Talaethol yn Ngholwyn Bay, ddydd Mercher, Mawrth 25. Pregethir y nos o'r blaen a chynelir Cynadledd. am 11, boreu Mercher a 2 yn y prydnawn a chyfarfodl cyhoeddus yn yr hwyr. Aelodau y Gynadledd ydynt: (a) yr holl weinidogion (b) cynnrychiolydd ar gyfer pob gweinidog i gael ei ethol gan y Cyfarfod Chwar. terol neu Bwyllgor Undeb Ysgolion y gylch- daith (c) un cynnrychiolydd o bob Ysgol Sul yn y Dalaeth (CTellir anfon dau os bydd y nifer ar lyfrau yr Ysgol dros gant). Y mae amryw gylchdeithiau heb anfon en- z,Y wau y cynnrychiolwyr etoi. A gaf fi erfyn ar arolygwyr y cylchdeithiau hyny i anfon rhestr gyflawn o'r enwau ar unwaith. Yr ydym yn ceisio gwneyd trefniadau i ddarparu ymborth i'r cynnrychiolwyr yn Rhad, ac y mae yn bwy- sig iawn cael gwybod pa nifer a ellir ddysgwyl i fod yn bresenol. Gofaled pob Ysgol Sul ethol brawd neu chwaer i fyned i Golwyn Bay, ac anfoner yr enw yn ddiymdroi i Arolvgwr y gylchdaith. Bu y Cynadleddau a gafwvcl. yn Ninbych, Wyddgrug, a Rhyl o faiitais, fawr i'r 'achos a hyaerwn yn fawr y bydd un Colwyn Bay yn deilwng i'w rhestru; gyda, hwynt-ie, yn goron arnynt oil. Yr ydym mewn argy;-wng ofnaclwy bwysig y dyddiau hyn. Gadewch i ni erfyn am axweiniad ac arddeliad yr Yspryd i wneyd- y Gynadledd hon yn ddeehreuad cyfnod newydd yn hanes em Hysgolion yn y Dalaeth. Bydd rhagleni y cyfarfodydd allan yn fuan. Nac annghofier anfon rhestr gyflawn o enwau y eynnrychiolwyr o- bob cylchdaith ar unwaith. Mae'n debyg niai dyma, y cyfleusdra olaf a gaiff ein Hysgolion Sul i gyfarfod fel un, Dal- aeth, ac annhydedd gwerth ymw-adu er gallu ei sylweddoli fydd bod yn aelodi 0. Gynadledd Colwyn Bay. W. CAENOG JONES. Panteg, Tregarth.

\ ^000 EIN CAXMLWYDDIANT.

'"u -\ I MARWOLAETH MRS. EVANS,…