Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

I Y FAINC A'R BARIL.

\.. M NODION O'R GORNEL.

CYNADLEDD YSGOL SrL TALAETH…

\ ^000 EIN CAXMLWYDDIANT.

'"u -\ I MARWOLAETH MRS. EVANS,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

u MARWOLAETH MRS. EVANS, GWEDDW Y DIWEDDAR BARCH. EVAN EVANS. Derbyniasom genadwri o Abermaw ddydd Sadwrn yn dwyn y newyddl trist fod, Mrs. Evans, gweddiw y diweddar Barch. Evan Evans (' Bugail' poblogaidtd y Gwyliedydd am lawer o flynyddoedd), wedi marw, ddydd Mawrth, y lOfed cyf., ac wedi ei chladdu (angladd preifat) ddydd Gwener. Cymerwyd Mrs. Evans adref, fel ei phriod o'i blaen, yn dra ddisymwyth, wedi bod yn weddw am tua phum mlynedd a haner. Hi a gadwodd ei safle bwysig fel gwraig gweinidog yr efengyl yn anrhvdeddus, gan deilyngu a chael parch yn anrhydeddus, gan deilyngu a chael parch gwirioneddol yn y cylclxdeithiau y bu ei di- weddar briod yn llafurio ynddynt. Yr oedd Mrs. Evans wedi ei mhagu ar aelwyd grefydd- ol: mewn ty oedd y cartref croesawgar i bre- gethwyr yr efengyl. Bu ei thad, y diweddar Mr. John Jones, Tan'rallt, Eglw-y-f Bach, yn un o oruchwylwyr cylchdaith Llanrwst aril la- wer blwyddyn: yn un c-'r ffyddlcM-naid yn y Cyfarfodydd Talaethol pan yr oedd nifer y ffyddloniaid hyny yn lied fyehan. Nid rhyfedd fod gan Mrs. Evans gydymdeimlad byw, er yn clawel, gyda'r achos, ac iddi fod yn wraig dda j weinidog, ac yn fam dda i'w blant. AVedi tua 33 ml. o fywyd priodasol dedwydd, cymer- wyd ei phriod oddiarni gyda sydynrwydd, a chyn pen nemawr o fisoedd wedi hyny cymer- wyd oddiarni ferch anwyl a galluog i byrth y bedd profedigaethau trymion iawn, ond hi a'u dygodd gydag ymostyngiad tawel un a'i holl ftynonau yn yr Arglwydd. CydymdeimlwnJ yn gywir gyda'r teulu yn y trallod newydd hwn.