Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Prydain a Rwssia.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Prydain a Rwssia. Ysgrifenem ein Nodiad wythnos i heddyw parth ymosodiad rhai o longau rhyfel Rwssia ar ein cychod pysgota yn Mor y Gogledd, y nos Wener blaenorol, nid yn anobeithiol, ond yn dra phryderus. Yr oedd yr ymosodiad i bob ymddangosiad yn eithatol o annynol, heb tod dim y gwyddid am dano i roddi cysgod o esgusodiad drosto. A thra y mae yn y wlad hon gynnifer o wyr gwaedlyd, y rhai y mae yn dda gan- ddynt ryfel, yn gwylio yn ddyfal ar hyd y blynyddau am esgus a chyfleusdra i beri gwrthdarawiad yn erbyn Rwssia, crynem rhag ofn fod yr achlysur o'r diwedd wedi dyfod Rwssia wedi saethu atom heb esgus, ac a hi mewn ymdrech ofnadwy gyda Japan, wedi ymosod arnom tra yr oedd rhyfel arall er's misoedd meithion yn dyhysbyddu ei hadnoddau-pa gyfleusdra gwell i ddial arni, i dori ei braich, a'i darostwng Gwyddem fod yr yspryd yna ar led, a dychrynem rhag ei ofn. Ond y mae Jingo, ar hyn o bryd, trwy drugaredd, yn anmhoblogaidd yn y wlad hon. Gwnaeth rhai o'r papurau bob peth allent i gyffroi a gwallgofi yspryd dial yn y wlad, bob dydd hyd yr oedd y peth yn bosibl. Ac yn y fan yma nis gallwn amgen na dadgan gofid am fod y Daily Mail yn cael ei dderbyn gan unrhyw Gymro, heb son am Gymry Rhyddfrydig. Heblaw ei fod wedi cyhoeddi llawer o gelwyddau cyffrous o dro i dro, y mae ei yspryd yn wenwynllyd i bob teimlad iawn. A dechreu yr wythnos ddiweddaraf, pe cymerid ei dystiolaeth ef, yr oedd rhyfel rhyngqm a Rwssia yn anocheladwy. Gwir fod cyn- nrychiolwyr Rwssia yn Llundain, fel y nodasom wythnos i heddyw, wedi dadgan gofid oblegyd y dygwyddiad, ac fod Ymer- awdwr Rwssia wedi anfon cenadwri i'r un perwyl at Edward Frenin. Ond beth er hyny, onid oedd Rwssia yn oedi ateb y genadwri a anfonasid nos Lun o'r Swyddfa Rhyfel yn Llundain, ac nid oedd dim i'w wneyd ond ei lladd a'i llarpio. Ac i chwanegu at y perygl, yr oedd llyngesydd Rwssia a berthynai i'r llongau a wnaethant yr ymosodiad wedi anfon at ei Lywodraeth genadwri yn cynwys cais i gyfiawnhau neu o leiaf i roddi esgusawd digonol dros yr ymosodiad, a chyhoeddwyd ef yn y wlad hon, ac y mae yn rhaid addef ei fod yn ymddangos yn hynod o annelwig. Yr oedd y sefyllfa yn naturiol yn cymell pryder, nid am fod achos rhyfel yn y mater, ond am y gallesid ei wneyd yn achos rhyfel, ac fod rhai yn ymegnio i'w wneyd felly. Nid pobl Rwssia, na Llywodraeth Rwssia, a wnaethant y camwri. ond ychydig o'i llyngeswyr ac nis gallasai dim fod yn fwy rhesymol nag fod y Llywodraeth a'r bobl, tra yn dadgan gofid am y dygwyddiad, ac yn addaw talu iawn hyd y gellid i'r dyoddefwyr, yn awyddus i amddiffyn eu swyddogion os oes modd; ac nid oedd wybod a oedd modd ai peidio heb gael tystiolaeth y dynion, ac ymchwiliad. Ac yr oedd mor briodol i Brydain ganiatau yr olaf a derbyn y blaenaf. Nid bob dydd y byddwn yn canmol Mr Balfour. Yn wir, nid yn fynych y gallwn yn onest wneyd hyny. Eithr yr ydym heddyw yn rhoddi iddo ganmoliaeth uchel o wir ewyllys ein calon. Ddydd Gwener yr oedd cynnrychiolwyr y Toriaid o bob rhan o'r Deyrnas yn cydgynadleddu yn Southampton. Y mae i'r undeb hwh enw mawr ac uchelsain-ond gadawn iddo. Yr oedd y cyfarfod yn hen drefniant, a chyfar- fod mawr i'w gynal yn yr hwyr. Yn y cyfarfod hwyrol Mr Balfour oedd y prif y Siaradwr. Ac yr oedd ganddo destyn, ac araeth deilwng o hono. Aethai i South- ampton, wedi bod yn nghyfarfod y Cabinet y dydd hwnw, a dywedodd, Yr wyf yn mieddwl y gaiilaf ddyweyd yn awr heb godii gobeu'liion tebyg o gael eu siomi, cyn bfeilad ag yt wyf yn abl i rag- weled, ni bydd i'r prudd-dd<y!gwyddiad gre- synol a gofi-diuis a fu nos JVener arwa.in i 'un o'r ymdreicihfeydid cydgenedliaethol hyny a adawant bob amser fare aihrist ar eu hoi. Wedi hyny cafwyd ganddo seiliau y gobaith. Gwneir ymchwiliad i'r achos gan ddirprwy rhyng-genedlaethol—Bydd i'r ddwyblaid dderbyn dyfarniad yr Ymchwil- wyr wedi iddynt ystyried yr holl gwesti- ynau cysylltiol a'r achos—Ac mewn trefn i wneyd yr ymchwiliad gorchymynodd Lly- wodraeth Rwssia i ran o'r Llynges sydd yn y cwestiwn i aros heb fyned ar ei mordaith fwriadedig i'r Dwyrain pell. Gyda hyny, y mae Llywodraeth Rwssia wedi rhoddi allan orchymynion a fyddant yn dyogelu rhag dygwyddiadau cyffelyb rhag llaw. A bydd i'r personau a geir vn euog gael eu cospi yn ol eu haeddiant. Y mae hyn oil yn ychwanegol at yr hyn a nodwyd eisoes dadganiad o ofid am y dygwyddiad, ac addewid o ad-daliad i'r dyoddefwyr. Ac ebai Mr Balfour: Dangiosodd Llywodraeith Rwssi&^ddymuniadi goleuedig- am i wirionedd a chyfiawnder yn y mater hwn Iwyddo. Y mae yn dda ryfeddol genym i Mr Bal- I four lefaru y geiriau hyn. Y mae ynddynt' lawer i ddiffodd y drwg-deimlad a gyn- nyrchwyd yn y wlad gan y camgyhuddiad- au yn erbyn Rwssia ei bod yn ddi deimlad, a'r holl bethau hyny. Llwyddwyd i led- aenu celwyddau am y Boers i gyffroi drwg- deimlad tuag atynt, a chymell dialedd arnynt. Gwnaeth yr un papurau ymdrech yn bresenol i wneyd yn gyffelyb. Yn ffodus iawn yr oedd Mr Chamberlain allan o'r Cabinet, ac allan o'r wlad yn yr helynt hwn. ac felly ni chaedlle i'r 11 wy hir a'r swper. Modd bynag, nis gallasai dim fod yn well na'r credyd uchod a roddodd Mr Balfour i Lywodraeth Rwssia yn nghyfarfod mawr cenedlaethol y blaid. Er hyny nid yw ei blaid ei hun yn gyfan yn ei gymer- adwyo. Dywed y Standard y derbynid ei fynegiadau yn Southampton gan fwyaf- rif mawr y Seison gydag ymdeimlad o ddwfn siomedigaeth." Ond nid ydym yn coelio y Standard." Y mae genym well meddwl o'r mwyafrif mawr y Seison na hyny. Credwn fod y mwyafrif mawr y Seison fel y Cymry yn teilyngu y credyd o fod yn llawenychu am y caed ffordd hedd- ychol i Brydain gael ei chyfiawn hawliau heb dynu Rwssia i'r llwch, ac o deimlo yn ddiolchgar i Ffrainc am ei gwasanaeth, ac amy ddaipariaeth a wnaed o'r blaen yn nghynllun heddwch Hague. Nid ydym yn petruso dyweyd mai dyma deimlad cyff- redinol y Rhyddfrydwyr. 101

Yr Araeth Genadol.

Y Wasg.