Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Mr. John Burns- -

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Mr. John Burns- PWY ydyw Mr John Burns ? John Burns ydyw yr Aelod Senedd dros Battersea, gwr wedi arfer gweithio a'i ddwylaw fel peirianydd. Fel Rhyddfrydwr y mae Mr Burns yn y Senedd, ond y mae ei fryd ar ddyrchafu y gvveithiwr, a gwella Llundain. Rhyw bump neu chwech a deugain yw ei oedran. Dyn syml, plaen, gonest, hir-ben, ac un yn cymeryd trafferth i ddeall y pethau y mae efe yn eu cylch yw John Burns gwr a ddyrchafwyd gan gymeriad a medr, ac nid bach mo'i ddylanwad. Gaiff John Burns glust y gweithiwr, ac ni anwybyddir ef gan y pendefig. Ond paham y sonir yma am un o Aelodau Senedd Llundain ? Yr atebiad ydyw ei fod yr wythnos ddiweddaraf yn traddodi darlith yn Free Trade Hall, Man- chester ac yr oedd pob rhan o'r neuadd enfawr hono yn orlawn, yn cynwys cyfar taledd mawr o weithwyr. Bu agos i ni alw y mis hwn yn Fis Dirwest. Dylai fod pob mis felly. Ond yn y mis hwn y mae y u Sul Dirwest," ac y gwneid ymdrechion lleol o blaid Dirwest, Gwneir ymdrechion lleol neillduol, ac y mae cyfarfod mawr Colwyn Bay, ac mewn mannau eraill, yn nerth ac ysprydiaeth i gario yr ymdrechion Ileol yn mlaen. Ac fel cynorthwy pellach i hyny, yr ydym yn galw sylw at ddarlith Mr John Burns yn Manceinion. Ei destyn oedd Llafur a Diod." Gwy- ddai trwy brofiad, yn gystal a sylw, am lafur ac y mae ei gydymdeimlad a'r Llaf- urwr yn ddwfn ac angerddol. Eithr ni weniaetha efe i'r gweithiwr, mwy na neb arall. Os wrth y gweithiwr y bydd gan- ddo i lefaru, efe a ddywed ei feddwl wrtho yn ddidderbynwyneb, ac y mae yn ymgyd- i cl nabyddu a'r ffeithiau, ac yn mynu deall y sefyllfa cyn dechreu siarad. Nid meddwl ar antur y mae efe, na siarad gweniaeth, fel y nodwyd. Nid y ffordd i fyned yn mlaen yw dyweyd wrth y dyn diog ei fod yn rhyfeddol o ddiwyd a llafurus, nac wrth y dyn meddw ei fod yn nodedig am ei reolaeth drosto ei hun. Nid dyna drefn John Burns. Y mae efe yn adnabod y llafurwr, a gwir ddymuniad ei galon yw dyrchafiad gwirioneddoI y dosparth gweith- iol. Am y ddiod feddwol nis gwyr efe ddim trwy brofiad. Y mae efe yn llwyr- ymwrthodwr ar hyd ei fywyd. Ond y mae yn byw a'i lygaid yn agored. Y mae fy ngyfranogiad imewn. llawer o sy- rmidiadau mwyaf llafur, ebai efe, yn. fy ngalluogi i fod yn dysit 'o'r modd y mae y ddiod yn afradu egni cymdeithas, a galla gwleidyddol y bdb1. Cydsyniad cyffre- dinol proftad fy mywyd yn mysg dosparth- iadau gweithiol y wlad hon, a gwledydd eraill, tra yn amcanu at yr un nod a hwyn:, yn rhoddi lleferydd i'w delfrydau, yn cy. meryd y blaen gyda'u hachos, yn arwa'in eu symudiadau, a gwylio' aimddiffynfeydd eu goibaitli—fy mhrofiad yw fod diod i nifer ry hwsog o honynit yn andwyol, meddwdod yn felldith iddynt, yfed i ormiodedd eu bai mwya.f, ac yn mhob arwedd o'u cyfhvr personol, cymdeithasol, a pholiticaidd dyna yr a.cho:s gwaet'toaf, yn gystal 'a'r prif achos o lawer o'r anhawsderau sydd yn eu cylch- ynu a'i ■■beichio fel gweithiwr, gwr, tad, a dinesyddv Yr sicr y mae y geiriau cryfion hyn, a ddefnyddiodd John Burns i fynegu ei brofiad yn mysg y gweithwyr, yn hawlio In sylw difrifolaf pawb. Yr oedd ei drafodaeth ar yr arian a werir am ddiodydd meddwol yn ymddangos i fod yn hynod o gywir a theg, ond yr oedd y casgliad yn arswydus. Am ddosparth o weithwyr efe ddywedai eu bod yn ddigon sobr i weithio am oriau hirion, ac yn ddigon meddw i ymfoddloni heb eu cyfran briodol o seibiant, pleser, a thrysor, am fod eu harfer o ymyfed yn eu gosod fel gweithwyr at drugaredd hunanol- deb, gorthrwm, neu gribddeiliaeth y meistr. Dangosai Mr Burns hefyd fod y ddiod yn un o'r prif r.wystrau i lwyddiant yn ein cydymgais a gwledydd eraill mewn ym.. gymeriadau masnachol. A dywedai, Cawsoch addewid yn ddiweddar am o ddwy geiniog a ffyrling i ddwy a dimai yr wythnos, os gosodwch doll ar eich bara. Paham na adewch y ddiod heibio, a thrwy hyny arbed pump neu chwe swllt yr wyth- nos—y swm a werir ar gyfartaledd gan y gweithwyr sydd yn yfed. Ac heblaw difrod y ddiod, y Fasnach mewn diod yw y waelaf o bob un. Yn ol cyfrif y Llywod- raeth yn 1891, yn y gweithiau glo yr oedd SSp. o bob loop, o werth yn cael eu talu I mewn cyflogaa 29p. gydag amaethydd- iaeth dros 29p. yn y gweithiau cottwm ac ychydig dros 7p. yn y darllawdy 0 bob safbwynt nid oes ond colled oddiwrth y Fasnach feddkwol: colled i'r teulu, y gym- deithas, i fasnach, i bawb ond y rhai a I grafangant "geiniogau ffyliaid." Ymdrinodd Mr Burns yn fedrus gyda moddau i feddyginaethu y drwg lleihau nifer y tafarndai yr "electric cars vn y trefydd mawr i gludo y gweithwyr oddiwrth eu gwaith adref yn rhad, rhag eu bod yn troi i'r tafarnau ar y ffordd. Condemniai y clybiau, gyda'r syniad o gysylltu y fasnach gyda'r awdurdodau trefol. Ond y prif foddion gwellad ydyw gwaith y person unigol yn llwyrymwrthod. Dyna a gafodd y lie cyntaf gan Mr Burns. A dyna waith mawr y Cymdeithasau Dirwest a'r Bands of Hope meithrin yr ymdeimlad fod gwir hunan-barch yn codi oddiar wir hunan- lywodraeth, ac fod hunan-lywodraeth yn hollol ansicr ac annyogel os caiff alcohol le yn y natur. Dywedir yn y Beibl am y ddiod feddwol y bydd iddi frathu fel sarff, a phigo fel neidr. Ltysger y plant i'w chasau fel y casant y sarff, ac i'w hofni, ac i arswydo rhagddi, fel yr ofnant neidr, ac y dychrynant rhagddi. Nid vdym.yn bur sicr na feiwyd llawn digon ar weinidog enwog y City Temple, Llundain. Dichon iddo wneyd cyhuddiad rhy ysgubol, er nad oedd efe, wrth gwrs, yn cyhuddo yr holl weithwyr, ac ond o bosibl y nifer fwyaf. Nid dyogel na chyf- iawn cyhuddo dosparth cyfan am fai hyd yn nod lawer o hono. Nid iawn a fuasai cyhuddo holl chwarelwyr Llanberis am fod "tren feddw" yn gadael Caernarfon ar nos Sadwrn setlo." Ac eto yr oedd cryn lawer yn haeddu y condemniad. Felly nid teg cyhuddo y dosparth gweithiol yn gyfan, pe buasai hyd yn nod yr haner yn haeddu. Ond rhaid dyweyd fod y gwyn yn wir am lawer iawn, ac y mae Mr. John Burns yn haeddu diolch gwlad am siarad yn blaen, a mynegi yn helaeth y peth fel y mae. Efe a wnaeth wasanaeth anmhrisiadwy i achos sobrwydd. Caiff ef siarad heb i gymaint o ragfarn sefyll ar ffordd ei effaith. Nid yw Cymru heb weithwyr meddwon, ac heb rai yn diota. Ond wrth ddyweyd y gwir poenus yna, nid ydym yn annghofio y gweithwyr Cymreig sydd yn grefyddwyr dysglair, y llu mawr sydd yn sobr, a diwyd, a chynil, yn anrhydedd i'w gwlad ac addurn i'w cenedl. Ond y mae genym eisiau enill y gweddill i roddi y ddiod heibio, ac arbed eu harian. Ac wedi'r cwbl-y MAE BYD ARALL.

Nid Ffyliaid.

INodion o'-r Gornel.

Advertising