Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Nodiadau Golygvddol. -.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nodiadau Golygvddol. PA beth a ddywed Crist wrthym am ei wneuthur, a pha beth yr ydym yn ei wneuthur, oedd testyn Mr T. C. Horsfall, M.A., Y.H., yn Central Hall, Manchester, y nawn Sul o'r blaen un o'r gyfres dar- lithiau mewn atebiad i'r cwestiwn, Pa beth yw Cristionogaeth ? Awgryma testyn Mr Horsfall, fel ambell un yn y gyfres o'i flaen, fod Cristionogaeth nid yn unig yn gyfun- drefn o ddysgeidiaeth parth y g-wirionedd- au uwchaf a phwysicaf, ac felly yn fater deall a chred ac nid yn unig yn fywyd o'r natur uwchaf i bywyd ysprydol yn yr enaid wedi cael ei ddechreuad trwy ad-en- edigaeth, ac yn cynyrchu ei ffrwythau nat- uriol mewn sanctaidd ymarweddiad, ond fod ganddi hefyd ei gwaith gwaith yn ol gorchymyn a chyfarwyddyd Crist Ei Hun. Dywedodd *Iesu Grist unwaith wrth ei ddysgyblion, Os gwyddoch y pethau hyn, gwyn eich byd os gwnewch hwynt." Y mae gwneyd yn rhan bwysigo Grist- ionogaeth, er mai trwy ffydd yr ydym yn gadwedig. Y mae gweithredoedd yn ol gorchymyn a chyfarwyddyd Crist i fod yn gynyrch ffydd fyw ynddo Ef. Teimlasom awydd i roddi trem ar y ddarlith, er nad gorchwyl hawdd a fuasai hyny yn ngrym cymellion i ddifynu, ac o ddechreu difynu -yn mha le i aros Y mae hi i gyd mor ragorol o dda, Dywed y cysodyud wrth- ym am atal ein llaw, fod y gofod wedi ei lenwi. Byddai yn dda genym wybod i, Gymry ieuainc sydd yn darllen Seisonaegr yn darllen y Darlithiau hyn-ceiniog y un. Ceiniogwerth ardderchog. Y MAE Mr.Herbert Roberts pan ynsiarad, yn dyweyd bob amser bethau teilwng o sylw. Felly y bu yn Ninbych, ddydd Iau. Am yr etholiad nesaf efe a ddywedodd fod i I Gymru ddyddordeb byw yn y fuddugol- iaeth Ryddfrydol ddyfodol." Ac efe a aeth i egluro hyny ac a nododd fod eisiau dattroi darpariadau niweidiol yr Act Drwyddedu ac wedi hyny, cynal i fyny bolisi Mr Lloyd George gvda chwestiwn Act Addysg. Nid oedd Mr Roberts am guddio oddiwrtho ei hun, na'r wlad, y gall hyny olygu cryn lawer o aberth, ond credai y byddai Cymru i fyny a'r gofyniad. Yr oedd y gymerad- wyaeth uchel hirfaith i'r sylwadau hyny yn dysgu fod arweinwyr Rhyddfrydol gorllewin Sir Ddinbych yn iach a chalonog i wyn- ebu'r prawf. Dywedai Mr Herbert Lewis, yn yr un cyfarfod. y byddai yn dda gan y Cyngorau Sir ddyfod i heddwch yn ei hachos, pe y gellid, ac nid arnynt hwy v mae y bai am na buasai y mater wedi ei setlo er's hir amser. Wrth gwrs, rhaid iddo fod yn "heddwch gydag anrhydedd." Y MAE Mr. Lloyd George yn mhlith y gwleidyddwyr prysuraf yn y deyrnas v dyddiau hyn. Y galwadau am ei wasanaeth yn am], ac i leoedd pwysig ac wrth gwrs y mae yn llawenydd gan y Cymry ei fod felly, oblegyd y mae efe yn ei anrhydeddu ei hun, a'i genedl, ac ar yr un pryd yn rhoddi gwasanaeth werthfawr i'r achos Rhyddfrydol-yr hwn mewn gwirionedd yw achos y bobl, a'r Deyrnas. Da iawn genym ei fod wedi ei foddloni yn mhender- fyniad Pwyllgor Addysg Sir Feirionydd. AETH etholiad Gorllewin Mynwy heibio, ac y mae hen sedd Syr William Harcourt yn ddyogel i'r Rhyddfrydwyr— neu blaid Llafur. os mynir. Cafodd Mr. T. Richards ei ddewis gan blaid Llafur, ond yr I oedd y Rhyddfrydwyr yn cyduno i'w anfon i'r Senedd. Yr oedd Syr J. Cockburn yn ei erbyn, a llythyr maith oddiwrth Mr Chamberlain o blaid Syr John. Honai Syr John fod yn Radical, ond ei fod a'i holl egni amddiflyn doll. Yr oedd Mr Richards yn Rhyddfrydwrlcadarn, ac yn selog dros Fasnach Rvdd hefyd, a rhoes etholwyr Gorllewin Mynwy iddo 7,9Q5 o bieidleisiau —mwy nag a gafodd ei wrthwynebydd o 4,635. Y mae Mr Chamberlain yn methu a deall peth fel hyn CAFODD llenyddiaeth Gymreig gollei fawr yn symudiad Mr Isaac Foulkes. Yr oedd efe yn Gymro aiddgar. a gwasanaeth- odd ei genedl mewn modd y cofir am dano gyda pharch. Gwelsom fod Dr. Perowne. cyn-Esgob Worcester, wedi marw, ac efe wedi cyraedd 81 ml. oed. m

Y Wasg.

Gwers Ymerawdwr Germani i'r…

Advertising