Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Trysorfa Addysg Ymgaiswyr…
Trysorfa Addysg Ymgaiswyr am y Weimdogaeth. Foneddigion,—Teimlwn yn dra diolch- gar i chwi am gyfleusdra unwaith yn rhagor i alw sylw at y Drysorfa uchod. Er pan y gwnawd yr apel ddiweddaf, daeth amrai symau teilwng iawn, ac yn eu plith y swm o 1 op. a gyflwynwyd gan Bwyllgor Cymanfa Ganu Undebol Wesleyaid Gogledd Cymru. Bwriedir argraffu rhestr o'r tanysgrifau oddeutu canol mis Rhagfyr. Nid oes angen dadleu teilyngdod y symudiad hwn. Y mae genym eisoes bedwar o'r hen efryd- wyr wedi graddio, sef y Parchn. D. iTecwyn Evans, B.A., Richard Jones, B.A., Mri. Newton Davies, B.A., a W. Morris Jones, B.A. Y mae y ddau olaf a enwyd yn myned trwy gwrs o barotoad er ceisio enill y gradd o B.D., tra y mae genym ddau yn y Coleg yn Mangor ydynt yn ymgeiswyr am eu B.A. Ychydig ydyw nifer y cylch- deithiau nad ydynt eisoes wedi cyfranu. Gresyn fyddai i un gylehdaith fad alian o'r rhestr. Y mae gwir angen am gymorth ar hyn o bryd.- Yr eiddoch yn gywir, R. DAVIES, Caer, S. R. BARTLEY, Llandudno, Trysorwyr. ANEURIN LL. HUGHES, Cefn Mawr, R. GARRETT ROBERTS, Abermaw, Ysgrifenyddion. • o§o
CENADRWRI Y PARCH. C. SILVESTER…
CENADRWRI Y PARCH. C. SILVESTER HORNE, M.A., AT R YD D EG LW Y S W Y R IEUAINC. Yn y Free Church Chronicle' am. y m:s hwn ceir ysgrif fer gan- y gweinidog galluog uchod, yn cynwys cenadwri, neu apeliad, at bobl ieuainc yr Eglwysi Rhyddion. Credwn .fod yn. werth ei rhodidi yn y Gymraeg i dder- bynwyr ieuainc-,a rhai hyniach hefyd, o ran ■hyny—y GwvLiEDYDD Os gall gair b'r eiddof fi, ebai efe, roddi, argraff ar Ryd'dl-Eglwyswyr ileufainc o bwysig- rwydd yr angen cenedlaethol a eilw arnorn i ymgyngreirio er mwyn achub ein gwlad, yr wyf gyda r boddhad mwyaf yn ei ysgrifenu. Gel- wir arnom nid gan blaid, ond gan Grist. Eel Rhydd-Eglwyswyr, yr ydym yn etifeddto esbon. iad! ysprydiol ar Griisitionogol, ac un a ddyru. yr aceniiad gyda chysondeb ar gymeriad moesol yr unigolyn a'r genedl. Fel Rhydd-Eglwyswyr, y mae yr ugeinfed ganrif yn perthyn yn arbenig1 i ui, a'n cenad- wri yw tystiola-ethu yn mihlaid efengyl yr Eg- lwysi Rhyddion gyd;a gwroldeb a brw'dfrydedd. Yr ydym yn credu mewn moesoli a dynoli gwleidydd:iaeith, fel y credwn mewn symleidddo ffydd ac addoliad. Y mae genym genadwri i'w thraddodi i'r EgLwys ac i'r WTadwriaeth: fel eu gilydd. By- ddai i ni fod yn ddystaw yn awr, pan y deifir y wlad, ac ei marweiddir, gan ffurfioldeb .a sepeimoniaeth, yn ol ein barn ni, yn fradwr- iaieth yn erbyn Crist a'r Cymundelb ysprydol a sefydlodd Efe. Byddai bod yn ddystaw yn awr, pan y mae egnion Eglwysaidd, mal eu cynnrychiolir yn y wlad hon gan Baibyddiaeitb ac Anglicaniaeth, wedi llwyddo i ail-sefydlui treth Eglwys, a'i chodi trwy atafaelu' dbdrefn Rhydd-Eglwyswyr, yn ddi-anrhydedd ur ein gorphenol, ac yn halogiad ar ein hegwyddor- ion. Byddai bod yn ddystaw yn awr, pan y mae y Llywodraeth, gan dhwaniegu trosedd at drosedd,, wedi rhoddi cadarnhad enfawr i allui y Fasnach feddwol, yn ysgoad anniheilwng o'n cyfrifoldeb. Rhaid i ni siarad a giwfeithio; rhaid i ni gydymuno a chydweithredui; rhaien i ni gamru afilan o wendid annghysylltiol i 'nerth undeb. Nid oes wylhod pa mor bell y'n dygir gan y gwr,t'hweithiad diweddar, oni bydd i eignion, cyfiawnder gael eu gialw yn, nhyd. Y mae yr alwad heddyw ar yr ieuainc. Bu cynydd .syimiudiad Cyngor yr Eglwysi Rhyddion tu hwnt i bob peth a obeithid. Ond y miae perygl bob amser i beirian,t mawr gael ei weithio ynl benaf gan ddynion a merched canol oed. Ond y mae yr angenirbeidrwydd mwyaf i gadw y symudiad yn ieuiane. Y mae ganddo i fynegtu ffydd a golbaitb yr ieuainc. Y mae ganddo i fod yn offeryn i sylweddoli, eu gweledigaetb.au. Eg'lwys w-edi ei phuro aa Gwladwriaeth fwy dynol a, nToe.sol yw ein dellfryd. Bydded i ni ymiuno er mwyn sicrhau byny. Bydded1 i ni1 yrngydnabyddu gyda hanes y gorphenol, a meithrin ffydd a iphende-rfyniad ar gyfer y dyddiau a ddeuattt. Gall mai ewylljysi Duw yw fod cymeriad y ganrif newydd hon yn dibynu yn arbenig arnoch chwi a minau. )o{
Mrs. Lux shanghai.
Mrs. Lux shanghai. xr. Un boreu, hyspyswyd Catrin Jones fod dynes a booai mai ei henw oedd Mari Jones, ai bod yn ferch i Ifan a Catrin Jones, wedi ei hanfon i garchar am bythefnos, am dwyll-ymhoniad: wedi cael llety ac arian gyda stori gelwyddog. Cafwyd allan yn y Uys mai ei gwir enw oejd Charlotte Watkin, ond fod ganddi lawer "alias." Yr oedd iddi banes mewn llawer lie, yn ol yr heddgeidwad, ond nid i'w chredyd. Modd bynag, rbodd wyd terfyn ar yr hyn y glynai rhai yn gyndyn wrtho, sef mai Mali bach oedd dynes y veil wen." Ac yr oedd hyn yn gryn ryddhad i Ifan Jones. Wedi cryn lawer o ddyddiau galwodd Mr Barnabas gydag ifan Jones. Yr oedd hyny dranoeth wedi iddo ef a Mrs Barnabas ddych- welyd gartref: wedi claddu tad Mrs Barnabas. Wedi iddynt adrodd eu helyntion i w gilydd, a chydymdeimlo a'u gilydd. dadganai y gweini- dog ei Jawenydd 0 weled Ifan Jones yn y gornel ac wedi diolch i Dad y trugareddau, tynodd lythyr allan o'i logell gan ddywedyd fod y llythyr wedi ei roddi trwy y ddor er's dyddiau, a'i fod yn cynwys galwad ar Ifan Jones, neu ei wraig, i fyned gydag ef (Mr Bar- nabas) a thyst arall, i'r Bane, cyn dau o'r gloch y dydd Mawrth cyntaf a allont. Yr oedd allan o gwestiwn i Ifan Jones fyned yno Er ei fod yn well 0 lawer nag y bu, yr oedd efe wedi enill ei geiniog oiaf. Barnai y meddyg y gall- asai fyw hyd yn nod am rai blynyddau-ond dim ond hyny. Awgrymodd Mr Barnabas y gallasai tystysgrif oddiwrth y meddyg fod yn ddefnyddiol, ac mewn eyd-ddeall ag Ifan a Chatrin Jones "efe a benderfynodd fyned i siarad ar y mater gyda'r Doctor, ac i wneyd trefniadau ar gyfer dydd Mawrth. Yr oedd hi ar y pryd yn ganol dydd Sadwrn. Pan eg- lurodd y gweinidog i'r meddyg y modd yr oedd pethau yn bod, dywedodd y doctor nas gwelai fod angen am dystysgrifen. Oad," ebai efe, ''os meddyliwch y gwnaf y tro yn dyst, mi a'ch' cvfarfyddaf yn y Bane am un o'r gloch nawn Mawrth." Derbyniodd Mr Barnabas y cyny- giad yn ddiolchgar. Dydd Mawrth a ddaeth, a chydgyfarfyddodd Mr Barnabas a'r Doctor a Chatrin Jones. Methai Ifan Jones a dirnad pa gyfrif a allai tod am yr alwad, a phrin y gallasai atal pryder i'w feddianu. Ond yr oedd Cati in yn hyderus. Yr oedd gan Ragluniaeth a fynai a'r achos. Modd bynag, wedi iddynt gyraedd y Banc, gwahoddodd I y rbeolwr hwynt i'w ystafell breifat, a pharodd iddynt eistedd i lawr. Yr oedd y Banewr yn debyg i ustus hen ffasiwn, a golwg ysweinaidd iawn arno. Coler heb fod yn llai na choler Mr Gladstone, a chadach heb fod nemawr llai na chadach Syr Robert Peel. Yr oedd hwnw, yn 01 y darluniau, yn rbyteddoII o lydan. Felly yr oedd cadach Mr Windbound y Bancwr. Gwnaethai 0 ran ymddaugosiad Arglwydd Gangellydd mor awdurdodol a r un a fu yn eistedd ar y sach wlad erioed-oran ¡ ymddangosiad Gwr deddfol, ffurfiol, digon prin ei amynedd, a thonyddiaeth ei lais braidd yn ddyeithr i bereidd-der. Teimlai Catrin I Jones yn yswil yn ei bresenoldeb, ac yn enw- edig pan y dywedodd wrthi ei fod yn myned i'w holi, ac fod yn rhaid iddi ei ateb fel pe buasai hi ar ei llw. Beth yw eich enw, gofynai Mr Windbound. Catrin Jones, syr. A ydyw eich gwr yn fyw-dylaswn ofyn, pa un ai llances heb briodi, neu a fu i chwi briodi ? Do, mi a briodais, ac y mae fy ngwr yn fyw, syr. Beth yw enw eich gwr ? Ifan Jones, syr. Aeth y Raocwr rhagddo i nodi dysgrifiadau I o Ifan Jones, yn ol llythyr a ddaiiai yn ei law, gan ofyn, Ai chwi yw gwraig y dyn yna 1 Ie, syr, ebai Catrin Jones, 'yfi ydyw ei wiaig o. Sut na buasai eich gwr yn dyfod yma hedd- yw 1 Y mae 0 yn wael ei iechyd er's bir amser, Yna troes y Bancwr at Mr Barnabas a'r Doctor, a gofynodd iddynt bob yn tin, A adwaenech chwi y wraig hon 0 Adwaenwn, syr, ebai y gweimdog. Adwaenwn, syr, ebai y Doctor. Chwi a'i clyvvsoch, Doctor, yn ateb fy ngof- yniadau, a ydych cbwi, hyd eithaf eich gwybod- aetb, yn barod i dystio ei bod yn dyweyd y gwir ? Ydwyf, heb ddim amheuaeth, Mr Wind- .1 bound. A chwithau, Barchedig syr ? Ydwyf, yn hollol ddibetrus Wedi hyny, agorodd y Bancwr safe.' a cbymerodd lythyr allan, ac wedi ei agor, efe a ddywedodd, Dyma lythyr oddiwrth Mr Watercress 0 Lundain, ac ynddo cheque am ddau cant o bunau, gyda cbyfarwyddyd i'w cadw yma yn ffafr eich gwr a chwithau, neu pa un bynag o honoch a fydd byw ar ol y llall; a'm bod i dalu dim mwy na chwe phunt y mis i chwi, oddi- gerth mewn amgylchiadau neillduol- Yna efe a roes y llythyr i'r Doctor i'w ddar- lien allan, a bu raid 1 Catrin Jones dystio fel pe buasai ar ei llw ei bod yn deall. Wedi hyny efe a dynodd bapur alian, ac a'i rhoddodd i Mr Ba&nabsis i'w ddarllen allan Cynwysai ddadganiad ffurfiol yn cynwys sylwedd yr at- ebion, gyda cbydnabyddiaeth o'r ddeucant, ac addewid 0 beidio talu dim mwy na chwe pbunt i Ifan Jones, neu ei wraig, ar y dydd olaf 0 bob mis Rhoes Catrin Jones ei henw ar y papur a'r Doctor a Mr Barnabas eu henwau fel tystion Rhoed Llyfr Banc i Catrin Jones, gyda 200p. ynddo yn ei ffafr, gyda cbyteinad at y document oedd newydd gael ei semio. a'r cyfeinad hwuw wedi ei arwyddo gan Mrs Jones a'r ddau dys Ymadawodd y tri ar unwaith oddiwrth y Bancwr: Catrin Jones wedi dal y prawf, a'r ddau dyst wedi mwynhau y digrifwch, yn ddystaw, yn fawr iawn. Gwelodd Mr Barnabas drwy y Bancwr yn fuan iawn, ac yr oedd y meddyg yn ei ad- nabod cyn hyny oni buasai ei fod yn bres- enol y mae yn dra thebyg ^y buasai arholiad Mrs Jones gwrs yn galetach. Wedi myned i'r heol aeth pawb i'w ffordd. Elai Catrin Jones tuag adref yn werth deucant o bunau mwy na phsn yr oedd hi yn gadael: ac yr oedd hi yn ddeiliad mwy o feddyliau a theimladau gan y gallasai byth eu mynegi pe buasai alwad am hyny. Ac yr oedd meddyliau Ifan Jones yn y gornel gartref, yn ami ac amrywiol, a braidd na welai ymylau duon i'r mater, ac ar ambell funud teimlai braidd yn ofid-us iddo gydsynio i Catrin fyned i'r dref. Amser annifyr a gaf- odd efe yn ei habsenoldeb. Or diwedd hi o gyraeddodd gartref. a chyf- archodd Ifan hi. gydag iddi agor y drws. Wet, Catrin bach! Y mae yn dda genyf eich bod wedi cyraedd. Yr oeddwn yn dech- reu annesmwytbo. Sut y fu-beth oedd yn bod, 'y ngeneth i? Ceisiodd Catrin ei ateb, ond hi a ffaelodd yn lan, deg, loew. Hi a fethodd a rheoli ei theim- lad, eisteddodd i lawr dan wylo, a bu am amrai funudau cyn llwyddo, er pob ymdrech, i allu dyweyd. Y mae pob peth yn dda, Ifan bach Ond gwyddai Ifan fod Catrin yn bur alluog i weled pob peth yn dda," ac nid yn sicr nad gweled am ei bod yn credu y byddai pob peth yn y diwedd yr oedd bi. Paham yr wylai ? Petb anngbyffredin cedd iddi fethu a llywod- raethu ei hun, Cwestiynau fel yna a ymgod- ant yn ei feddwl, a thorodd yntau allan i wylo. O'r diwedd meddianodd Catrin Jones ei hun yn ddigonol i estyn llyfr y Banc i'w gwr, gan ddodi blaen ei bys ar y man oedd i'w gredyd. Ond nid oedd Ifan yn deali, ar y cyntaf, beth oedd y llyfr yn ei arwyddo. Yn y man daeth Catrin yn alluog i egluro. Ac wrth ben cwp- anaid 0 de hi aeth dros yr holl hanes. Eithr nis gallasai Ifan Jones weled trwy y dirgelwch, na dadrys y broblem. Ond yr oedd gan Catrin esboniad. Nis gwyddai yn y byd mawr pwy oedd Mr Watercress, beblaw ei fod yn dwrne yn Llundain Ond beth a barodd i dwrne 0 Lundain anfon iddynt ddau gant 0 bunau? Nis gallasai Catrin mwy nag Ifan ddyfalu. Er hyny: yr oedd ganddi hi esboniad celwru blawd ac ysten olew y wraig yn Serapta. Ifan, ebai Catrin yn y man, a'i dwylaw yn mhleth, ni ddywedais wrthych o'r biaen-Did oes ond pum punt a deuddsg swllt 0 weddill yn y Banc cvnilo! Ond ni ddarfu y blawd na r olew! Y mae Arglwydd Dduw Elias fyth yn llywodraethu. Yn nghwrs vr ymddyddan, wedi hyny, dy- wedodd Ifan Jones fod yn gof ganddo glywed ei fam yn son fod modryb iddi wedi priodi twrne yn y Mwythig, ond ni wyddai ddim mwy na hyny. Ond tybed ai rhywun 0 deulu hono a anfonodd y ddeucant ?
Advertising
-a I Q, 0 MAE RHAID MYNED AT Y GWAED I Y GWAED YW'R BYWYD Y GWAED YW'R NERTH! Y GWAED YW POBPETH f Y mae pawb—a chwi yn eu mhysg-yn agore. nifer fawr o glefydau. Paham felly ? Oher- wydd fod Anmhurdeb yr Awyr, Anmhurdeb y Dwfr, Anmhurdeb Bwydydd, ac Anmhurdeb pethau amgylliadol yn creu Anmhurdeb yn y- Gwaed. A phan y bydd y Gwaed yn cael ei lygru a'i wenwyno, y mae yn gwneyd yn bosibl o i'r SCURVY. TARDDIANTAU Y CROEN< RASH. PENDDYNOD. CORNWYDON. ECZEMA. LLYGRIADAU. GWYNEGON. COESAU CLWYFEDIG. CANCER. CLWY'R BRENIN. A llu o Glefydau eraill y Corff a'r 'Menydd f ruthro ar wahanol ranau y Cyfansoddiad. Fe ellir attal a rhagflaenu y rhan fwyaf olr Clefydau ag sydd yn blino yr hil ddynol drwy gadw y Gwaed yn Bur. Y mae miloedd yn barod i dystio a phrofi fod Hughes's Blood Pills Yn Puro y Gwaed ac yn ei Gadw yn Bur. Os byddwch yn dioddef oddiwrth DOLUR PEN. DIFFYG TRAUL. POEN CEFN. BILIOUSNESS. GWYNT. AFU DDRWG. CORFF-RWYMEDD. NERVES GWAN, ANHWYLDERAU Y CYLLA A'R ARENAU, Coliwch fod gwreiddyn y drwg yn y GWAED, a bod yn rhaid myned at y Gwaed cyn y gellir cael iachad gwirioneddol. MAE >. ;7ET- Hughes's Blood Pills 0 Yn cael effaith uniongyrchol ar y Gwaed, ac at yr holl Gvfansoddiad. RHODDWCH BRAWF ARNYNT. Mynwch weled Llun y Galon ar Bob Box .11, -L am dpmm Heb Hwn Twyll Ydyw. Ar werth gan bob Chemist a Stores am Is. lic., 2s. Sc., 4s. 6c., neu danfoner eu gwerth mewn P.O. neu stamps at JACOB HUGHES, M.P.S., L.D.S., Manufacturing Chemist, Pcnarth, Car- diff. RHODDASOCH CHWI BRAWF AR KIM Comer's Balm? ELI YW HWN AT BOB CLWYF. Mae Gomer's Balm' yn iachau braidd yn wyrthiol holl Glefydau allanol y Corg, megys Clwyfau, Rash, Scurvy, Eczema, Llosgiadau, Piles, Pen. au Crachlyd, Llygriadau Plant a Benywod, Dwylaw Toriadol, Malaethau, Tarwden, Crafu, Cymalau Poenus. At W GOESAU DRWG. 'Does dim o'i fath. Rhoddwch brawf arno. Gofynwch am 'GOMER'S BAliM,' a mynwcH weled enw 'Jacob Hughes' ar bob box, heb hyn twyll ydyw. Ar werth gan 1:db tacturing Chemist, Penarth, Cardiff. stamps neu P.O. at JACOB HUGHES, MA&B*
Gwers Ymerawdwr Germani i'r…
1 Pabyddol. gan fyned cyn belled a pheidio j gofalu am yr anfoddlonrwydd a ffynai yn I rnhlith y rhai o'r un gred a fi. Yr oeddwn I yn awyddus am greu sefyllfa ag y gallai y rhai o'r naill gredo a'r Hall gydweithio mewn cydgordiad a gwladgarwch, ac y byddai y naill blaid yn parchu y Hall. Nid wyf yn dyfod i'r casgliad fod fy holl ym- drech, ac hyd yn nod fy aberthau, yn oter, fod yr Eglwys Babaidd heb ddymuno heddwch, ond yn ymegnio at ein darostwng. Pe y gwelwn fod fy nghynygion at hedd- ychiant rhwng crefyddau gwahanol yn cael eu rhwystro gan anoddefgarwch a hunan- nvydd o ochr Pabyddiaeth, byddai yn hawdd iawn i'r gwynt d iechreu chwythu o gyfeiriad arall. Givyddoch mor gref y daeth y blaid efengylaidd yn ddiweddar, ac nac anngho- fiwch fod eich Ymerawdwr yn efengylaidd hefyd. Yn y fan yma y bu i'r Ymerawdwr dewi am ychydig ac ebai yr Esgob, gan ym- grymu, Ond ar ol hyny mi a elwais ys- gymundod yn ol, eich Mawrhydi." Yr oedd hyny yn dda i chwi, ebai yr Ymerawdwr. pe amgen ni dderbyniaswn chwi heddyw. Peidiwch a cheisio cyfiawn- bau nac esgusodi eich gweithred. Ni chaniata hi y naill na'r llall. Arosed un ffaith yn eich cof. Yr ydych yn Esgob Germanaidd, yn ngwlad Germani, lie y mae Ymerawdwr Germani yn rheolwr ar- noch. Gwasanaethweh Dduw goreu y galloch, ond wrth wneyd hyny nac an- nghofiwch fod genych hefyd i wasanaethu eich gwlad a'ch Brenin ac er fod y Brenin hwnw yn rheoli gyda Haw dyner. hi a all ar unrhyw adeg droi yn un haiarn. Yr wyf yn gobeithio ein bod yn deall y naill y Hail, ac am hyny Good bye. I'r perwyl yna y llefarodd yr Y merawdwr, yn ol gohebydd o Berlin. Yr oedd y wers yn llem iawn Ac os gorfodir ni i feddwl am "Queen Bess" wrth ei darllen, rhaid addef na chafodd yr Esgob ddim mwy nag a haeddai ei anwiredd. Dyna engraifft o anoddefgarwch y Babaeth. Da fod rhywun i roddi bach yn ei ffrwyn, a ffrwyn yn ei gweflau. jo" v