Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Erioed ni phallodd drugarhau Fe ddichon heddyw lwyr iachau. Yn dilyn ceir, 111 gredwn, ei fyfyrdodau olaf ar gan, gyda'r dyddiadau wrth bob un o honyut :— Mae'r drefn a gaed er arbed dyn Yn cynwys goreu Duw Ei hun Rhoes Ef Etifedd mawr pob peth Er gweithio cynllun yn ddifeth. Hyd. 11, '04 0, Arglwydd, erglyw lef y gwan Wrth droed D'orseddfainc—dyma'r fan Mae'n tywallt calon ddrylliog, drist, Gan bledio haeddiant lesu Grist. Hyd. 14, '04. Wrth Orsedd Gras ni fetha'r un — Darparwyd hi'n gyfleustra i ddyn Gael trefnu 'i fater heb nacad, A derbyn pardwn rhydd agrhad. Hyd. 15, '04 0, felus flas maddeuant llawn O'n boll gamweddau hagr iawn Mae gwenau lion ein Ceidwad cu Yn nefoedd ar ein daear ni. Hyd. 15, '04. Mae Ilywodraethau mawr y byd Yn gorphwys arno Ef o hyd 0 riniog isaf bwthyn gwlad Hyd orsedd uchaf nefol wlad. Hyd. 18, '04. Teyrnasa'n gyfiawn yn mhob lie, Gan wasgar dylanwadau'r nef, Ar bawb a phobpeth trwy'r holl fyd, A'u huno'n nghwmni cariad clyd. Hyd. 18, '04. Nis gallaf wneyd y penill fysgrifenedig olaf allan, ond dechreua gyda'r ddwy linell- "Fe ddaw dyddiau braf i'n broydd Wedi arloesi'r aiii'al dir. Ai tybed fod yr hen bererin duwiol yn rhagweled toriad gwawr y Diwygiad ? Hawdd credu hyny, oblegid yr oedd yn ddigwestiwn yn nghyfrinach yr Hollalluog. Fe ddealla'r darllenydd ein bod yn cyhoeddi y penillion uchod, nid fel engreifftiau o farddoniaeth, ond fel profion o'r hyn a roddai trwy feddwl un oedd ar fnniau y byd ysprydol-ar ol treulio dros bedwar ugain mlynedd yn myd y cystudd mawr. Crist a threfn y cadw oedd baieh ei wein- idogaeth am dros driugain mlynedd, ac am Grist a threfn y cadw y canai, pan yn methu pregethu, wrth rydio yr afon a newid dau fyd. Fechgyn ieuainc yn y weinidogaeth, edrychwch ar y weledigaeth, ac yn nerth Duw penderfynwch fod yn feibion teilwng i'r tadau. Nos Sul diweddaf traddododd y Parch Thomas Hughes bregeth angladdol i'r hen dad hawddgar, yn Mynydd Seion, a chwareuwyd y "Dead March" ar yr organ gan Mr Cad. Owen. Yr oedd pwlpud y mynydd yn ei alarwisg er's marwolaeth y Parch O. Lloyd Davies. Yn wir, braidd nadydym yn meddwl y dyled ei alw yn "bwlpud du," gan ei fod y blyn- yddau diweddaf wedi treulio mwy o amser mewn galarwisg nag fel arall. Y mynych, rymus wyr y bu praidd y LMynydd yn galaru ar eu hoi, a phob un wedi bod yn eu gwasanaethu fel bugeiliaid. Nos Sul nesaf bydd y Parch Thos Hughes yn traddodi pregeth angladdol yn Serpentine Road, Egremont.

-909-'-'-Newyddion Cyffredinol.

§o§— Nodion Ymyl y Ffordd.

—§o§ ARJHO'LIAD G¡\V1E,lKI:IY.O\GION…

— RAFFLES.

Y LLYFRBRYF WESLEYAIDD A'R…

CYDNABYDDIAETH.