Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Ariandy Gogledd a Deheudir…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ariandy Gogledd a Deheudir Cymru. Dydd Mawrth, lonawr y 24ain, cynaliwyd Cyfarfod Blynyddol (y nawfed a thriugain) Cyfranddalwyr yr Ariandy hwn yn y Law Association Rooms, Cook Street, Lerpwl. Llywyddwyd gan Thomas Brocklebank, Ysw., Y.H., Cadeirydd yr Ariandy; ac yr oedd nifer luosog o'r cyfran- ddalwyr yn bresenol. Wrth gynyg fod Adroddiad yn cael ei fabwysiadu, dy- wedodd y Cadeirydd:— Foneddigion, yr ydym wedi cyfarfod eto ar ein gwyl flynyddol i roddi i chwi gyfrif o weithrediadau yr Ariandy am y flwyddyn 1904, ac i ofyn i chwi dderbyn y cyfrifon a'r fantolen sydd eisoes wedi eu dosbarthu yn mysg y cyfran- ddalwyr, a'r rhai mi gredaf yr ydych wedi eu hastudio, ac efallai rai obonoch eu beirniadu. Nid oes dim yn newydd yn y ffigyrau; a chyda'r eithriad o un cyfnod byr yn y gwanwyn-pryd yr aeth pris cotwm i fynu gymaint-ni ddigwyddodd dim yn ystod y flwyddyn ddiweddar i achosi unrhyw bryder eithriadol i'ch cyfarwyddwyr, ac hyd yn nod yr adeg hono ni chawsom unrhyw golledion. Ar yr un pryd y mae yna ychydig o faterion o ddyddordeb at y rhai, gyda'ch caniatad, y carwn alw eich sylw. A chymeryd Hog y" Bank of England" am arian yn fenthyg ar filiau ar gyfartaledd am flwyddyn yr oedd yn 3p 6s yn 1904, tra yr oedd yn 3P 15s am y flwyddyn gynt. Arosodd y llog hwn yn hollol sefydlog o fis Ebrill. 1904, hyd ddiwedd y flwyddyn; felly ni bu ond ychydig os dim o godi a gostwng ymddan- gosiadol yn marchnad yr arian. Ond fel mater o ffaith cymerodd cyfnewidiadau mawr le yn y Hog, gan symud i fynu ac i lawr rhwng ip 16s 3c a 3P 12S be y cant; yn ystod misoedd yr haf, o fis Mai hyd fis Medi, nid oedd ond tua dwy bunt y cant. Felly yr oedd yr elw a wnaethom ar filiau gryn lawer yn is yn 1904 nag yn 1903. Yn 1904 yr oedd yn ip 2S 9C y cant, tra y flwyddyn gynt yr oedd yn ip 4s 5c; ac y mae y gwahaniaeth hwn yn cyfrif i raddau am y ffaith fod ein hesillion yn llai eleni nag yr oeddynt y llynedd, yr hon, fel y cofiwch, oedd yn flwyddyn enillfawr iawn i'r Ariandy (clywch, clywch). Rheswm arall am y lleihad hwn fel yr ymddengys i mi yw y ffaith fod ein cwsmeriaid wedi dyfod lai ar ein gofyn am fenthyg arian, er ein bod wedi ceisio eu cyfarfod mor resymol fyth agygallem. Ond er gwaethaf yr amgylchiadau anffafriol hyn, Ilwyddasom i enill digon i dalu yr un cyfran-dal (dividend) a'r flwyddyn gynt, a buasem wedi rhanu yr emilion yr un modd oddigerth am y ffaith fod eich cyfarwyddwyr yn teimlo mai gwell ar les buddimau uchaf yr Ariandy yw ychwanegu fwyfwy at yr adnoddau sydd genym wrth gefn; ac y mae hyn, fel y gwelwch oddiwrth y fantolen, wedi cael ei wneud drwy ychwanegu 5,ooop at y Gronfa (' Reserve Fund),' a thrwy gymeryd 4,doop o'r enillion tuag at dalu am adeiladau yr Ariandy. Yn ychwanegol at hyn yr ydym wedi rhoddi 2,ooop i chwyddo ein trysorfa tuag at gyfarfod blwydd-dal ein swyddogion hen a methedig; ac yr ydym hefyd wedi talu treth yr incwm ar ein henillion. Gwn nad yw cyfran- ddalwyr yn hoffi derbyn llai o logau am eu harian, ond rhaid ei fod yn foddhad mawr iddynt -boddhad liawer mwy na .gwerth swllt y gyfran, er fod hyny i gyd gyda'i giiydd yn ychwanegiad pur sylweddol at gryfder yr Ariandy-i wybod mai prif nod y cyfarwyddwyr yw dal i fynu ac ychwanegu beunydd at gadernid ein Sefydliad—(cymeradwyaeth)—yr hwn amcan a gymeradwywyd dro ar ol tro yn yr ystafell Jhou. Nis gellir gwneud hyn ond, yn gyntaf, drwy arfer doethineb mawr wrth arolygnhollweithrediadau yr Ariandy, ac yn ail, drwy ychwanegu at ytrysorfeydd sydd genym wrth gefn. Mae y swm y mae ein cwsmeriaid wedi ei roddi yn ein dwylaw ar log yn dal yn hynod sefydlog, ar derfyn y flwyddyn yr oedd yn I0,509,000p, neu o fewn 8,ooop i'r hyn oedd flwyddyn yn flaenorol. Gan ein bod y llynedd wedi gwneud darpariaeth helaeth allan o'n heniliion ar gyfer y gostyngiad oedd wedi cymeryd lie yn rhai o'n buddsoddiou (investments),' y mae yn hyfrydwch genyf gael dweyd eu bod yn awr ) n uwch yn y farchnad nag ydynt ar ein llyfrau. Ac er nad yw y buddsoddion sydd genym ni (buddsoddion yr ymylau aur fel y gelwir hwynt) wedi codi cymaint yn j farchnad a chyfranau rheilffyrdd Prydeinig a chwmniau eraill Hai diogel, eto y maent wedi myned gryn lawer i fynu, a'r gred gyffredinol yw mae i fynu yr ant yn y dyfodol. Ar yr un pryd dylid cadw mewn cof fod dyledion y Llywodraeth Brydeinig ar hyn o bryd yn cyrhaedd y swm o 83,0D0,000p, a phe y penderfynid cynyg y swm hwn ar hyn o bryd yn y ffurf ° Consols,' nid oes wybod pa effaith gai hyny ar fuddsoddion o'r dosbarth uchaf. Nid yw ein colledion am y flwyddyn hon eto yn y Brif Swyddfa yn werth son am danynt; ac y mae rhestr ein colledion yn y Canghenau yn un fechan odiaeth ag ystyried mor luosog yw ein cwsmeriaid, ac mor fawr yw swm yr arian sydd yn myned drwy ein dwylaw; ac yn wyneb hyn yr ydym yn llongyfarch ein swyddogion (cymeradwyaeth). Yr ydym, yn ystod y flwyddyn, wedi agor Cangen yn Nghaerfyrddin, a tbrwy hyny ymwthio yn mhellach i'r Deheudir, a chyfreithloni yr enw Ariandy Gogledd a Deheudir Cymru: hefyd agorwyd Is-gangen yn Connah's Quay, yn Mehefin diweddaf; ac wythnos yn ol agorasom Gangen yn Waterloo, ar gwr y ddinas hon, lie prynasom adeilad rai misoedd yn ol, ac yr ydym erbyn hyn wedi ei gyfaddasu i'n hamcanion ein hunain, Yr ydym yn adeiladu swyddfa dda mewn man amlwg yn Nghaerfyrddin, a hyderwn y bydd ein hadeilad newydd yn Ludlow yn barod tua chanol yr haf. Mae yn rhy fuan son .Y y am ein rhagolygon yn y manau hyn oblegyd y mae agor canghenau mewn ardaloedd newyddion ° angenrheidrwydd yn golygu dringo rhiwiau anhawsderau os na ddigwydd fod yno gwsmeriaid da yn barod, ond y mae genym bob lie i gredu y daw yr anturiaethau hyn ag yd i'r felin yn y man, {clywch, clywch). Mae y canghenau newyddion agorasom yn ddiweddar wedi gwneud ein swyddfeydd yn dros gant ,mewn nifer. Credaf fod ein swyddfa newydd yn ngwaelod Bold Street, ar y tir ddaeth ini pan brynasom Ariandy Leyland, yn addurn i'r ddinas, ac y mae ystafelloedd uchaf yr adeilad wedi eu gosod yn dda am flynyddoedd. Y mae y swyddogion yn parhau i ddangos llafur diflmo yn ng- wasanaeth yr Ariandy, ond y mae yn ofidus genyf ddweyd fod angau wedi bod yn brysur yn eu rhengoedd, ac yr ydym yn gofidio meddwl fod wyth wedi eu symud drwy farwolaeth yn ystod y flwyddyn; yn ychwanegol at hyn y mae tri wedi cael eu gosod ar restr y flwydd-dal; ond nid ydym yn cael unrhyw anhawsder i lenwi y bylchau, yr hyn sydd yn brawf digonol fod y gwasanaeth yn para yn ei boblogrwydd. Gan fy mod yn awr wedi dweyd pobpeth allwn feddwl am dano oedd yn debyg o'ch dyddori yn nglyn a'r Ariandy a'i weith- zediadau-ac yr oedd y pethau a ddywedais, ar y cyfan, yn bethau boddhaus—y mae yna ddau neu dri o faterion allanol sydd o gryn bwys i ni, a charwn alw eich sylw atynt. Mae cystadleuaeth yn para i ddangos ei hunan, a hyny mewn gwabanol ffurfiau, ac y mae gwybod pa fodd i'w gyfarfod .mor anhawdd ag erioed. Soniais yn y cyfarfod y llynedd am annhegwch y gystadleuaeth ar ran bwrdeisdrefi, ac nid wyf wedi newid fy mam ar y mater; yn wir y mae y goleuni diweddaraf ar y pwnc wedi cadarnhau fy ngolygiadau. Ond y mae yna fater arall ag y carwn gael eich sylw ato, sef cystadleuaeth egniol Ariandai Cynilo y Llythyrdy neu y Llywodraeth- (clywch, clywch)-a'r cyflwr o fethdaliad, mewn ystyr, y maent ynddo, a'r perygl dichonadwy i farch- nad arianol y wlad oddiwrth hyny (clywch, clywch). A yw yn wybyddus i chwi fod yr adnoddau oedd gan y Llywodr- aeth yn niwedd 1903 ar gyfer eu rhwymedigaeth mewn cysylltiad a'r Ariandai Cynilo hyn yn fyr o 11,033,ooop i gyfarfod y gofynion ? Pe byddai i ryw Ariandy arall gael ,ei hunan yn y safle annymunol yna byddai raid iddo ddirwyn ei amgylchiadau i fyny; ond yr oil ddywed Canghellydd y Trysorlys yw, "0 na, y mae holl adnoddau yr Ymherodraeth tu cefn i mi, ac felly mae pobpeth yn dda." Ond, fonedd- igion, y mae y diffyg yn bodoli serch hyny, ac ar gynydd parhaus, a bydd raid ei wneud i fynu yn hwyr neu hwyrach, a hyny fe ddichon allan o logell y trethdalwr druan. Y mae un mater arall ag y mae tri neu bedwar o Ariandai ein gwlad wedi ei gymeryd i fynu, a'r hwn hefyd a ,ddygwyd i'n sylw ninau yn nyddiau ei gychwyniad, sef y cwestiwn 0 agor adran gynilo berthynol i'r Ariandy i dderbyn symiau bychain o swllt ac uchod ar log 0 2tP y cant. Methem ni a gweled ein ffordd i fabwysiadu y cynllum, ac y mae yn hynod o amheus genyf a fydd i'r Ariandai sydd wedi gwneud hyny dderbyn digon o elw oddiwrtho i dalu am y gost a'r drafferth ddirfawr sydd yn nglyn a'r fath gynllun. Bydd i ni er hyny gadw ein llygaid yn barhaus ar y symudiad newydd hwn. Gan fy mod yn awr wedi llwyr ddihysbyddu yr oil oedd genyf i'w ddweyd wrthycb, terfynaf drwy gynyg yn ffurfiol fod yr adroddiad a'r fantolen, fel y maent wedi cael eu dosparthu yn mysg y cyfranddalwyr. yn cael eu mabwysiadu." Eiliwyd gan Mr Joseph Beausire, a chariwyd yn unfryd- ol. Cynygiodd Mr G C Dobell, fod Mr Th mas Bro ;klebank a Mr John Naylor yn cael eu hail-ethol fel cyfarwyddwyr yr Ariandy. Eiliwyd hyn gan Mr Bellringer, a chariwyd yn unfrydol. Syr Thomas Hughes yn nesaf a gynygiodd fod diolchgar- wch y cyfranddalwyr yn cael ei gyflwyno i gyfarwyddwyr yr Ariandy am eu gwasanaeth gwerthfawr yn ystod y flwyddyn a bod 4,50op yn cael eu rhoddi iddynt fel cydnabyddiath. Mr J F Caroe, wrth eilio, a ddywedodd fod sylwadau y Cadeirydd wedi profi. iddynt mor hynod o ofalusyr oedd gweitbrediadau yr Ariandy yn cael eu gwylio (clywch clywch). Cariwyd y cynygiad yn unfrydol. Cynygiodd Mr John Morris fod Mri. Harmood Banner a'i Fab yn cael eu hail benodi yn archwilwyr am y tal o 400 gini. Eiliwyd y cynygiad hwn gan Mr R E R Brocklebank, a chariwvd ef yn unfrydol. Cynygiodd Mr R C Beazley fod diolchgarwch y cyftanddalwyr yn cael ei gyflwyno i'r rheolwyr a swyddogion eraill yr Ariandy am eu gwasanaeth yn ystod y flwyddyn. Mr W R Pearce, wrth eilio, a ddywedodd nad oedd ef, yn ystod y saith mlynedd ar hugain yr oedd wedi bod yn gyfranddaliwr, wedi clywed cymaint ag un gair gwael am yr un o'r swyddogion. Y Cadeirydd a ddywedodd y dymunai gael ychwanegu ei dystiolaeth yntau i lafur y swyddogion, ac yn arbenig i Mr Rowland Hughes am y modd rhagorol yr oedd wedi ei gyn- orthwyo ef yn rheolaeth yr Ariandy (cymeradwyaeth). Cariwyd y cynygiad gydag unfrydedd. Mr Rowland Hughes, y rheolwr cyffredinol, wrth gyd- nabod, a ddywedodd ei fod yn teimlo yn hynod ddiolchgar iddynt am y pethau cai-edig oeddynt wedi eu dyweyd, a gallai eu sicrhau y byddai iddo ef a'r holl swyddogion wneud eu goreu i barhau i deilyngu eu hymddiriedaeth yn y dyfodol. Ar gynygiad Mr Edward Rae, yn cael ei eilio gan Mr James Venmore, pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i'r Cadeirydd am lywyddu. Y Cadeirydd, wrth gydnabod y bleidlais, a ddiolchodd hefyd i'r cyfarfod am ei ail-ethol yn gyfarwyddwr. Cyfeir- iodd at absenoldeb a Il. I. W o gyfra lddalwyr arfir int fynychu y cyfarfo lydd, yn eu plith yr Henadur Edward Paull, yr hwn oedd wedi ei luddias gan ychydig o afhehyd. Ar ol i Mr Naylor ddiolch iddynt am ei ail-ethol yntau yn gyfarwyddwr, terfynodd y cyfarfod. §o§

Nodiadau o'r De.

Advertising