Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

r Nodiadau o'r De.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

r Nodiadau o'r De. Erbyn hyn mae Evan Roberts wedi ei adfer yn ol i'w gynnefinol iechyd, ac wedi dechreu ar ei genhad- aeth Ynghwm Ogwy, ac mae yn llwyddiannus yn y fan hono eto, fel mannau eraill. £ •••■* Mae llawer o'r cymmoedd yng nghacolbarth Morganwg yn cymmeryd eu benwau oddiwrth noi- weddion, yr afonydd, megis. Ogwy, Garwy, Llyfnwy, Ewennwy. "The salmon waters, the rough waters, the smooth waters, the frothy waters." Dyffrynoedd digon sal^ a diolwg yw y rhai hyn yn bresennol, canys mae y pyllau glo, wedi andwyo prydferthweh yn arwynebedd. Buont un amser yn mblith dyffrynoedd harddaf Cymru. Meddylier am gwm y Rhondda. Cwm tomog, hagr, a digon moel, brwnt a drewllyd ydyw yn awr, ond dywedai un teithiwr iddo ddyfod i fyny trwy y tjwm. dechreu y ganrif o'r blaen, pan oedd Ilechweddau y mynyddoedd wedieu gorchuddio gan fforestydd, a dolydd ffrwythlawn ar Ian yr afon ar afon fel y grisial, a gellid gwel'd y pysgod yn chwareu ynddi hi; dywedai taw dim ond on Switzer- land y gwelodd gwm mor hardded ag ef. eo If Teimlaf yn ami wrth feddwl am yr alanas mae y gweithfeydd glo a haiarn, a rheilffyrdd yn ei wneud sr wyneb y tir, y carwn eu halltudio o fodolaeth. Dywed Ruskin yn un o'i lyfrau, y carai i lawer o reilffydd Prydain Fawr gael eu diddymu, a phob un o honynt o Gymru. E t < < Mae natur ar y cyfan yn lan ac yn hardd, nBe yna brydferthwch byd yn oed yn ei bagrwch hi, ac mae creigiau ysgythrog sydd fel esgyrn yn gwthio eu hunain allan trwy eu gwisg yn taro dyn a mwy o syndod, a rhyfeddod, nag yw gwastadedd ffrwythlawn a dyffrynoedd toreithiog. It Ar yr un pryd yr ydym yn credu heddyw nad yw natur er cystal ydyw ddim yn berffaith, mwy na'r cyfansoddiad dynol; arferid ciedu bod hwn yn berffaitb, ond mae ymhell o fod felly. Nid yw natur yn berffaith fel ag yr ydym ni yn ei hadnabod. Meddylier am y ffosydd, a'r corsydd. Y gwres ar oerni eithafol, y sychder ar gwlybaniaeth eithafol sydd ynddi, yr hyn sydd mor awdwyol i iechyd a dinystriol i fywyd. Nid yw hwn y byd goreu, na'r byd gwaethaf sydd yn bod, fel y myn dau ddosbartn o ysgrifenwyr ddweyd. R t, ■ » Credwn bod Duw wedi creu y byd yn y rhagweled- iad y buasai dyn yn pechu i wneud amgylchfyd -anmherffaith i gyfarfcd a bod anmherffaith, fel mae holl weinyddiadau natur yn ei damweiniau, a'r doluriau ar cyffelyb, yn gwasanaethu fel cosp ar ddyn am droseddau, ac fel dysgyblaeth iddo yn llawer cystal. Yr wyf yn gwybod bod yr uchod yn agored i ambeuaeth, ac mae yna resymmau yn erbyn y ddameaniaeth hon, ond mae yna beth i'w ddweyd o'i pblaid hefyd. Mae yn Rhagdybiaeth naturiol iawn,. ac yn ddigon rhesymol. Ond beth bynag am anmherffeithrwydd natur mae hi ar y cyfan y lan iawn, ac yn brydferth dros ben. Mae yn ymddangos fel pe bai dyn mewn gwrthryfel tarhaus a natur. Dyn yw yr uoig greadur sydd, yn lie addurno natur a'i phrydferthu gyda'u bresenoldeb .yn ei gwneud yn hagr a salw. Maey llwynog ar wiwer yn gwneud eu cartref yn y coed, ac yn ychwanegu at brydferthweh y lie trwy hynny, ond cyn gynted ag yr aiff dyn yn agos at y coed i fyw, mae yr adar, a chreaduriaid eraill yn diane am eu heinioes. Mae I yn rhaid bod yna rbywbeth o'i le yn ein gwareiddiad ni, cyn cymmerai hynny le. w I: m ■ ■ • I Dyma ogoniant y Groegiaid gynt, bron na allwn ddweyd eu bod yr gwella a pherffeithio natur. Yr oeddynt yn byw yn nes i natur na nyni; mae ein gwareiddiad ni mor arwynebol. Dywedai Lord Rosebery ychydig amser yn ol, nad oedd yn sicr, pe bai rhai o'n cyndadau yr dod yn ol, ac yn talu ym- weliad a'n trefydd mawrion, a gwel'd ein gwareiddiad, na fuasent yn melldithio ein dull presennol o fyw, ac am fyn'd yn ol at eu dull cyntefig a naturiol hwy o fyw. I: Ac mae yn sicr yn daw dyn y dyfodol i ddeall natur yn well na ni, ac i fyw mwy yn 01 natur. Daw i wisgo fel mae natur yn ei hyfforddi, a bwyta yn ol fel mae hi yn awgrymmu iddo, ac adeiladu ei dai, heb ddifa y coedwigoedd, fel y gall fyw ar delerau da a chreaduriaid y maes.*Eisiau cael dynion yn ol i'c tir sydd, a chael llai o honnynt i weithio yn y pyllau glo, ac yn ffatrioedd ein gwlad, ac yn y gweithfeydd bairan- ■ ■■■■■ Darllenais ychydig amser yn ol nofel gan W H Hudson, a elwir Green Mansions." Nid wyf wedi deall yn iawn amean y llyfr, ond gwelais y gallai yr awdwr fod yn dysgu y poslbhwvdd i ddyn eto fyw ar delerau da gyda natur, byw yn fwy cyntefig, byw yr ol natur. ■ B ■ ■ ■ Chwi welwch fy mod wrth ddechreu ysgrifenu y nodiadau hyn heddyw, wedi bwriadu myn'd i gyfeir- iad arall, ond dyma y eyfeiriad yr arweinwyd fi. Gan obeithio, Mr Golygydd y maddeuwch'i mi am fyn'd a gormod o'ch gofod. SCRUTATOR.

Advertising

Nodion Ymyl y Ffordd.

Advertising