Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

§»§ Y Diweddar Barchedig Wm.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

§»§ Y Diweddar Barchedig Wm. Jones, Liscard. Y tro oyataf i mi dd'od i adnabyddiaeth a'r di- weddar Barch. Wm. Jones ydoedd yn mis Gorffenat 1856, pan yr oedd yn arolygwr yn Liverpool o'r flwy- ddyn 1855 hyd 1858, a'r Parch J Hughes yn gyd- lafurwr ag ef. Trigai yn Vine Street, lie y bu llawer o'n hen weinidogion yn byw. Yno bu Aubrey, Rd Pritchard ag eraill. Yr oedd Mr Jones bob amser yn gwneud yn fawr o'r bobl ieuainc, yr oedd ei wen a'i eiriau caredig yn ennill eu serch a'u hymlyniad wrtho. Y pryd hwnnw arferwn fynychu ben gapel Benn's Garden, pan yn fachgen yr oeddwn yn aelod o'r cor, a bum yn mynychu y capel yna am y 5 mlynedd diweddaf y buwyd yn addoli ynddo. Bydd- wn yn cerdded 11 milltir bob bore Sabboth 0 Edge Hill, i gyfarfod mewn class am 9-30. Yn ami iawn byddwn yn gweled Mr Jones ar y ffordd yn cerdded yn arafaidd gan ddarllen ei bregetb. Arferai gyr- raedd y capel ryw hanner awr yn rhy fuan, a threuliai yr amser yny'vestry.' Weithiau adnabyddai fi ar yr rbeol, a dywedai, "da machgen i, mae'n dda gen- nyf eich gweled yn myned mor rheolaidd i'ch 'class Nid oes dim yn fwy derbyniol a chalonogol gan fech- gyn a phobl ieuainc na gair cymmeradwyol or fatb. Y pryd hwnnw yr oedd tua 34 mlynedd oed, yn an- terth ei nerth, a'i wallt trwehus mor ddu a'r fran Arferai bregetbu gydag arddeliad neulltuol ar adegau a'r hyn fyddai yn fy moddhau yn fawr fel bacbgen, oedd ei eglurebau. Byddent mor naturiol, a glyna rhai ohonynt yn fy nghof hyd heddyw. Cryb^yllai rywbeth am fywydau enwogion y dydd. Soniau yn ami am Dr. Livingstone, edmygai ef yn fawr, ac yr oedd cryn siarad am Livingstone a Moffat y dyddiau hynny. Yn Nhynhadledd 1857 gynhaliwyd yn Liverpool, bu Mr Jones mewn argyfwng lied bwysig. Y Parch F A West, arolygwr cylchdaith Seisnig Brunswick, Liverpool, oedd y Llywydd y flwyddyn hono dyn bychan, cyflym, gyda iiais mawr a garw. Yr oeddwn yn bresennol yn nghyfarfod cyhoeddus arholiad y Gweinidogion ar brawf. Safent yn mben pellaf y capel yn gwynebu y Uwyfan, ac yn mhlith yr ymgeiswyr yr oedd y Parch Owen Evans, brodor 0 Langefni, yr hwn aeth i'r weinidogaeth yn 1853 ac a fu farw yn Ltanrwst yn 1861. Y Parch. Wm. Jones oedd yn cynnyg Mr Evans fel ymgeisydd teilwng am ordeiniad. Pan ofynwyd ewestiwn i'r ymgeisydd, nis gellid clywed ei atebiad, meddai lais gwan, a baesneg sal. Digwyddwn sefyll ar ganol y llawr yn ymyl y Parch W Jones. Hawdd ydoedd gweled ar ei wyneb gwelw ei fod yn teimlo i'r byw dros y llanc, a pnan ymgyngborodd y Llywydd ag ef gyda golwg arno, ymddengys ei fod wedi arfer ei ddylanwad o'i blaid, oblegid pasiodd y dyn ieuanc yr arhohad. Yr oedd Mr Evans yn ddyn ieuanc deallgar a dymunol yr olwg, ond yn Sais sal ar y pryd. Daeth Mr Jones i Liverpool drachefn yn y flwy- ddyn 1878 fel Arolygwr Cylchdaith Mynydd Seion. Paethum i gyffyrddiad agos iawn ag ef y cyfnod yma, a bsdyddiodd fy nau blentyn ieuangaf. Daeth yma y pryd bynny dan amgylchiadau eithriadol. Yr oedd dau frawd wedi eu henwi i anfon gwahoddiad iddynt, a'r pleidleisiau yn gyfartal i'r ddau. Dan yr am- gylchiadau cynygiodd y diweddar Mr George Davies ag eiliodd Mr Thomas, Hemans Street, fod y cyfarfod yn gwahodd y Parch W Jones, ac felly y penderfyn- wyd. Arferai ddweyd mai i lanw bwlch y daeth i'n plith y piyd hwnnw, a llanwodd ef yn effeithiol iawn. Gweithiodd yn ardderchog gyda'r capel newydd yn Princes Road yr hwn agorwyd yn 1880, pan oedd ef ar y tir. Nid oedd ei hafal am adeiladu capelau, a thalu hen ddyledion. Yr oedd yn foneddwr 0 ran ymddangosiad a thymer, yn dyner ac addfwyn wrth y tlawd a'r trallodus. Ar y Haw arall, yr oedd yn onest a didderbynwyneb, a phan byddai amgylchiadau yn galw, dywedai bethau llym a miniog. Yr oedd yn weinidog cyflawn ryfeddol pregethau bob amser yn dda, ac ymwelai yn gyson a'i bobl. Hoffai adrodd barddoniaeth ar ei bregethau a byddai yn byw llawer yn y Salmau. Un o'i hoff emynau oedd rhif 122 yn y Llyfr Emynau. Byddai yn myn'd a'r diweddar Mr Samuel Jones gydag ef i ymweled a thlodion a chleifion y ddinas yn amI. Yr oedd Mr Samuel Jones yn hael a thyner ei galon bob amser. Unwaith pan yn ymddiddan a Chymraes yn y Workbonse, gotycwyd iddi oedd arni eisiau rywbeth, "Na," meddai, yr wyt yn cael digon 0 fwyd a pbob cysur, a gwell na'r cwbl, mae Iesu Grist yma gyda mi, ac mae hynny yn ddigon." Ar hynny torrodd Mr Samuel Jones allan i wylo, ac am fisoedd ar 01 hynny arferai ddweyd yr hanes yn y class Y mae crefydd Mab Dnw yn werth ei chael pan mae hi yn galluogi hen wraig yn y Workhouse i deimlo mor hapus." Fel olynydd i'r Parch J H Evans y daeth yma yn 1872, a dilynwyd yntau gan y Parch 0 Williams. Aeth Mr Jones i'r weinidogaeth yn y flwyddyn 1843, pan yn 21 mlwydd oed Arholwyd a chymer adwywyd ef am ordeiniad gan y Parch Edward Anwyl yn Nhreffynnon yn y flwyddyn 1847. Cynal- iwyd y gwasanaeth ar y Bowling Green, 0 flaen y King's Head Hotel, ar yr 21ain oFehefln- Dechreu- wyd am 6 o'r gioch a diweddwyd tua 9-30 yn ngwyll y nos. Yr un adeg arbolwyd y Parch Samuel Davies a Dr Wm Davies. Ordeiniwyd et yn nghapel Pitt Street, Liverpool, yr un flwyddyn. Traddodwyd y charge gan y cyn-Lywydd- y Parch W Atherton, yr hwn ddywedau y rhaid iddo roddi iddynt ddidwyll laeth y gair, a hwnnw yn boeth." Dywed Pedrog yn y Cymro a'r Lleifiad yn y GWYLIEDYDD ddar- fod iddo ymneillduo o'r weinidogaetb yn 1882, yr hyn sydd anghywir. Yr oedd yn Liverpool 0 1878 1 1881, bu am 3 blynedd yn Dinbych ar ol bynny-o 1881 i 1884, Yr oedd yn awyddus i adael Dinbych yn 1883 ar derfyn ei 40 mlynedd yn y weinidogaeth, ond per- swadiwyd ef i aros blwyddyn arall, felly bu am 41 mlynedd yn y weinidogaeth. Gallwn dybio ei fod yn ei duen bob amser yn y Seiat. Byddwn yn mwyn- hau ei wasanaeth yno bob amser yn fawr iawn. Dyma ef wedi myn'd i'r Eglwys orfoleddus er's wyth- nosau weithian. Teimlwyf hiraeth ar ei ol ef ag amrai o'm hen gyfeillion sydd wedi myn'd adref yn ddiweddar. Erfyniwyf am nerth i deithio'r llwybr sydd yn arwain i'r bywyd, modd y caf eu gweied eto yn y Wynfa lan. R. G. WILLIAMS. Meirion Villa, Birkenhead- ifcik

Nodiadau Llenyddol.

PROFFESWR JOHN RHYS A'R DIWYGIAD…

--Y Diwygiad.